500 mlwyddiant ecwmeniaeth

500 mlwyddiant ecwmeniaeth –achos dathlu eto?

Gethin Rhys

Ar 31 Hydref 2017 fe gofiwyd 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd. Ar y cyfan, mae’r peth yn cael ei gofio fel rhwyg yn yr eglwys – rhwyg angenrheidiol yn nhyb rhai, ac achos gofid a gwae i eraill. Yn ei ddarlith wych ‘Catholigrwydd Protestaniaeth’ y prynhawn hwnnw yng Nghaerdydd, fe’n hatgoffwyd gan yr Athro Densil Morgan fod ymdrechion at gymodi a phontio wedi dechrau bron ar unwaith ar ôl i Martin Luther hoelio’i 95 o sylwadau ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg (neu, yn llai rhamantaidd, eu postio at yr esgob!). Yn Ebrill 1518 fe gafwyd y drafodaeth ‘ecwmenaidd’ gyntaf yn hanes yr eglwys yn y Gorllewin pan gyfarfu Johannes Eck a Martin Luther yn Heidelberg. Felly, mewn gwirionedd, Ebrill 2018 fydd 500 mlwyddiant ecwmeniaeth yn yr ystyr fodern.

Martin Luther, gan Lucas Cranach yr Hynaf
[Parth Cyhoeddus], via Wikimedia Commons

Y bore cyn darlith Densil, fe gynhaliwyd dathliad cenedlaethol Cymru yn Eglwys Gadeiriol yr Eglwys Gatholig yng Nghaerdydd. Dyna oedd y lleoliad a ddewiswyd gan yr eglwysi Lutheraidd Almaeneg eu hiaith yng Nghymru. Yn cerdded i mewn ar y dechrau fe ddaeth yr Archesgob Catholig, George Stack; Archesgob newydd yr Eglwys yng Nghymru, John Davies; Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Rheinallt Thomas; Ysgrifennydd y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru, Elfed Godding; a bugail yr eglwysi Lutheraidd Almaeneg yng Nghymru, Albrecht Büurma.

Y gwir yw fod pob un o’r pump traddodiad yna yn ddyledus i’r Diwygiad Protestannaidd. Ni fyddai’r pedwar olaf yn bodoli oni bai amdano. Ac, ys dywedodd George Stack ei hun, roedd angen Martin Luther ar yr Eglwys Gatholig iddi hithau ddiwygio yn y blynyddoedd a’r canrifoedd dilynol. Roedd y canu yn orfoleddus a’r cymdeithasu yn gynnes. Arwyddair Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) pan gafodd ei sefydlu ym 1990 oedd ‘Nid dieithriaid mwyach, ond pererinion ynghyd’. A dyna oedd yr ymdeimlad – roedd yr arweinyddion hyn yn adnabod ei gilydd, a hyd yn oed y sawl oedd yn camu i Gadeirlan Gatholig am y tro cyntaf yn teimlo’n gartrefol.

Nid oedd fawr neb yng Nghymru yn ymwybodol ar y pryd o beth ddigwyddodd yn Wittenberg, nag am y drafodaeth yr Ebrill dilynol yn Heidelberg. Fe arhosodd Cymru yn Gatholig am hanner canrif wedi dechrau’r Diwygiad. Nid oedd gwasanaethau Saesneg Eglwys Loegr yn fwy dealladwy i’r Cymry na gwasanaethau Lladin yr Hen Grefydd. Ond ym 1567 fe gyfieithwyd y Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gan William Salesbury, a gorchmynnodd y Frenhines Elizabeth eu defnyddio ledled Cymru. Fe ddaeth blas ar y Brotestaniaeth oedd eisoes yn cyniwair trwy Ewrop i Gymru. Ochr yn ochr â hyn, fe barhaodd Catholigiaeth mewn mannau diarffordd yng nghefn gwlad. Yn Sir Frycheiniog o 1662 ymlaen roedd Cwm Senni yn gwm rhyfedd iawn, yn llawn Annibynwyr (gan iddynt godi tŷ cwrdd yno y pellter angenrheidiol o eglwys y plwyf) a Chatholigion (gan fod y lle mor anghysbell, nid oedd yr awdurdodau yn eu poeni). Yn anochel, fe fu cyd-briodi rhwng y teuluoedd ond fe barhaodd y ddwy grefydd hyn ochr yn ochr yn y cwm Cymraeg yma am ganrifoedd.

Yn hynny o beth, roedd Cwm Senni yn rhagflas o’r gyfeillach Gristnogol yn yr Eglwys Gadeiriol yn 2017. Wrth gwrs, mae pethau eraill wedi newid. Nid Cymraeg yw prif iaith Cwm Senni na Chymru bellach. Mae amrywiaeth rhyfeddol yr enwadau a’r mathau o Gristnogaeth yn ddryswch i bawb sydd y tu allan iddynt, a llawer sydd tu fewn. A bydd llawer o Gymry yn gwbl anymwybodol o arwyddocâd y 500 mlwyddiant hwn.

Hawdd, felly, casglu mai amherthnasol hefyd yw ecwmeniaeth – cymodi rhwng eglwysi sydd oll yn cyrraedd diwedd eu hoes beth bynnag! Ac ar lawr gwlad, fe all deimlo nad yw ecwmeniaeth prin wedi dechrau, hyd yn oed ar ôl 500 mlynedd. Cri Dafydd Iwan yn ei lythyr at Golwg (2 Tachwedd 2017) oedd i Gristnogion ddod at ei gilydd ym mhob pentref a thref i ffurfio un eglwys unedig. Byddai hynny yn cryfhau’r dystiolaeth Gristnogol, meddai, ac yn rhyddhau tir ar gyfer codi tai i’r rhai sydd mewn angen. Efallai nad yw Dafydd yn ymwybodol o ymdrechion Housing Justice Cymru eisoes yn y cyfeiriad hwn, a’u cynllun Faith in Affordable Housing, sy’n gweithio gydag enwadau Cymru i wneud hynny yn union. Cafwyd cryn lwyddiant eisoes gyda thai newydd ar gael yn Abercanaid, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, a mwy ar y gweill.

Wedi dweud hynny, rhaid cydnabod fod Dafydd yn iawn i weld capelyddiaeth o hyd yn rhemp mewn sawl man, a chynulleidfaoedd bychain yn straffaglu byw dafliad carreg oddi wrth ei gilydd. Methiant ecwmeniaeth?

Ond mae yna ochr arall i’r geiniog. Holwch chi mewn unrhyw gynulleidfa mewn unrhyw addoldy yng Nghymru beth yw cefndir yr addolwyr yno, ac fe glywch chi fyrdd o straeon. Fe fydd ambell un wedi ei fagu yn y capel ac wedi bod yno ar hyd ei oes. Bydd sawl un wedi dod yno wedi i gapel neu eglwys o enwad arall gau. Bydd rhai wedi symud i fyw i’r ardal, ac er eu bod o gefndir gwahanol fe ddaethant i ymaelodi â’r eglwys leol. Fe fydd ambell un sydd wedi dod i ffydd yn hwyrach yn ei oes a heb fawr ddim ymwybyddiaeth o enwadau o gwbl. Yn hynny o beth, fe groesir y ‘rhwystrau’ rhwng y gwahanol enwadau yn fynych ac yn rhwydd. Fe ddaw pobl i’r oedfa nid am ei bod hi’n oedfa Fethodistaidd neu Anglicanaidd neu Bresbyteraidd, ond am ei bod hi’n oedfa Gristnogol. Fe lwyddodd ecwmeniaeth tu hwnt i bob disgwyl!

Mae Dafydd yn gywir i ddweud: “gallwn gadw’r enwadau am y tro, a chydnabod eu bod i gyd wedi gwneud eu cyfraniad gwiw, ond bellach does dim synnwyr i’r mân wahaniaethau rhyngom i’n rhwystro rhag gwneud defnydd callach o’n hadnoddau prin”. Ac at hynny y mae Cytûn yn bodoli ar lefel genedlaethol, wrth gwrs. Eilbeth yw ein gwaith ni i barodrwydd Cristnogion pob cylch i gydaddoli a chydweithio.

A beth am y rhwystrau rhwng Protestaniaeth a Chatholigaeth? Roedd Densil Morgan yn dangos yn eglur fod y bwlch rhyngddynt yn llai ar y cychwyn nag y tybiai pawb – ac roedd cyfarfod Heidelberg yn 1518 wedi cadarnhau hynny. Diwygio’r eglwys yn hytrach na’i rhwygo oedd y bwriad; ei bersonoliaeth danllyd ac ymateb amddiffynnol y sefydliad barodd i bethau droi’n gas – hanes fyddai’n cael ei ailadrodd yma yng Nghymru pan gychwynnodd Howell Harris y diwygiad Methodistaidd ddwy ganrif wedyn.

Mae’n wir nad yw cydaddoli llawn rhwng Catholigion a Phrotestaniaid yn bosibl hyd heddiw, o leiaf o ran yr Offeren neu’r Cymun. Ond mae cydweithio llawen a rhwydd mewn llawer cylch; mae yna gyd-ddealltwriaeth a chydaddoli heb gymuno yn gyffredin. I Anghydffurfwyr, nad yw cymuno rheolaidd mor ganolog yn eu haddoli ag y mae i Gatholigion, nid oes unrhyw ddiffyg yn y cydaddoli hwn. Ac mae pobl yn symud rhwng eglwysi Catholig a Phrotestannaidd, yn fwy neu’n llai ffurfiol, yn rheolaidd.

Mae yna elfen arall yn y dathlu a’r cofio hwn sy’n ein cyfeirio hefyd at ddyfodol ecwmeniaeth. Roedd y dathlu ar 31 Hydref yn dairieithog – Cymraeg, Saesneg ac Almaeneg – fel oedd yn gweddu i’r hanes yr oeddem yn ei ddathlu. Mae Cristnogaeth Cymru bellach yn amlieithog. Nid dirywio yw hanes yr Eglwys Gatholig yng Nghymru dros y deng mlynedd ddiwethaf, ond derbyn chwistrelliad o fywyd newydd gan ddyfodiad Pwyliaid, Romaniaid, Croatiaid, ac eraill o ddwyrain Ewrop i’n plith.

Fe ddaeth Protestaniaid yn eu miloedd hefyd. Yn gynharach eleni, fe drefnodd y Gynghrair Efengylaidd arddangosfa ddifyr yn y Senedd am yr holl ieithoedd a ddefnyddir i addoli yng Nghymru heddiw – Tsieinëeg, ieithoedd Affrica ac India, holl ieithoedd dwyrain Ewrop, ac yn y blaen. Fe fu i Gatholigion a Phrotestaniaid fel ei gilydd elwa o hyn. Er i Eglwys Fethodistaidd y Drindod, Heol Casnewydd, Caerdydd, gau fel cynulleidfa Fethodistaidd ychydig flynyddoedd yn ôl, mae bellach tair eglwys yn cwrdd yno. Mae llu o rai eraill ledled de Caerdydd. Mae cynulleidfaoedd o Korea yn cyfarfod mewn sawl man yng Nghymru, a gweinidog o Korea sydd bellach yn gweinidogaethu yn eglwys Hanover, Llanofer, cartref Robert Jermain Thomas, y cenhadwr cyntaf i fynd yno.

Bellach, maes llafur ecwmeniaeth yw nid yn gymaint cymodi rhwng eglwysi Gorllewin Ewrop – er nad yw’r gwaith hwnnw wedi’i orffen yn llwyr – ond cynorthwyo Cristnogion y Gorllewin i ehangu eu gorwelion lawer pellach. Mae ecwmeniaeth iaith rhwng Cymry Cymraeg a Saesneg eu hiaith hefyd yn dasg o hyd – ond bellach mae dwsinau o ieithoedd eraill i’w hystyried hefyd.

Felly, fe fydd 500 mlwyddiant ecwmeniaeth hefyd yn achos dathlu. Mewn sawl ffordd fe lwyddodd y tu hwnt i bob disgwyl. Ond mae Duw ar waith yn creu heriau newydd ac mae llawer mwy eto i’w wneud.