Eglwys sy’n dod i’r wyneb

“Eglwys sy’n dod i’r wyneb” – diwygiad o fath newydd

‘Emerging Church’ – sylwadau Richard Rohr

 Yng nghanol y digalondid am gyflwr y capeli a’r eglwysi yng Nghymru daw ambell si am bobl yn sôn yma a thraw, fan hyn a fan’co, am yr hiraeth am fath newydd o eglwys. Nid hiraeth am ‘ddiwygiad arall’, tebyg i’r hen rai yng ngwlad y diwygiadau, ond ffrwyth math newydd o ddiwygiad sy’n dod wrth i bobl arbrofi a dod ynghyd i rannu profiad. Yn America hawliwyd bod yr aden dde ‘Efengylaidd’ (am hyfdra – meddiannu’r gair hwnnw!) wedi lladd Cristnogaeth. Ond, i’r gwrthwyneb, mae llawer o Gristnogion eraill yn defnyddio’r gair ‘emerging’ i ddisgrifio ffenomenon flêr, wasgarog, ddi-drefn ond sylweddol sy’n galluogi pobl i berthyn, i addoli, ac i ddilyn Iesu mewn ffordd sy’n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio’u crebwyll, ac yn eu rhyddhau i addoli mewn ffordd sy’n ystyrlon a hardd.

Nid hawdd cael un gair yn Gymraeg i gyfleu hyn, ond beth mae’n ei olygu yw bod grwpiau newydd o ddilynwyr Iesu yn dod ynghyd mewn gwahanol ffyrdd, yn chwilio mewn gwahanol fodd gyda’i gilydd am ffordd o fyw sy’n ffrwythlon a ffyddlon i Grist. Eglwys sy’n graddol ddod i’r wyneb, yn dod i’r golwg, yn torri trwodd, yn ymffurfio a datblygu …

Mae enw Richard Rohr yn reit adnabyddus fel un sy’n pontio sawl traddodiad Cristnogol ac mae ei gyfrolau wedi bod yn llwyddiannus iawn.* Mae’n offeiriad yn Eglwys Rufain, yn perthyn i urdd Sant Francis, ac wedi sefydlu canolfan myfyrio a gweithredu ym Mecsico. Mae’n cyfrannu’n gyson i’r cylchgrawn Sojourners. Yn null mentrus, hyderus yr Americaniaid mae wedi cyhoeddi llyfrau lluosog ar ysbrydolrwydd, ar weddi a gweithgarwch sy’n cyfathrebu’n effeithiol â phobl sy wedi cael llond bol ar gyfunfdrefnu llethol yr eglwysi sy’n brwydro i gadw i fynd heb newid.

Yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu am yr eglwysi cyfoes sy’n torri trwodd ac yn mentro i’r dyfodol gan gredu bod yr Ysbryd Glân yn eu hysgogi. Gan fod cyfathrebu byd-eang wedi dod yn bosibl mae’n sylwi ar ‘ysbrydolrwydd byd-eang’ sy’n ymwthio i’r golwg mewn mannau tra gwahanol i’w gilydd. Dyma, mae’n awgrymu, fath o Ddiwygiad (Reformation). Mae pobl yn gwrando gyda’i gilydd ac mae hyn yn digwydd fel petai ar waethaf y prif enwadau.

Dyma’r nodweddion y mae ef wedi sylwi arnynt:

  1. Sylweddoli o’r newydd fod Iesu’n dysgu dull di-drais, syml, tangnefeddus o fyw sy’n caru’r cread. Mae mwy o bobl yn cydnabod beirniadaeth ddeifiol Iesu ar gyfundrefnau grym a chyfoeth. Nid cyfundrefn i hel pobl allan o’r byd i’r nefoedd yw’r ffydd.
  2. Tuedd yr Eglwys yn y gorffennol oedd canolbwyntio ar athrawiaeth a rheolau moesol yn hytrach na chanolbwyntiio ar iacháu a thrawsnewid pobl mewn cymdeithas, ‘megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd’.
  3. Mae ’na awydd i adennill traddodiad hŷn o fyfyrio cyfriniol. Mae’n cysylltu hyn â gwaith Thomas Merton yn y 50au.
  4. Mae beirniadaeth feiblaidd yn digwydd ar draws y traddodiadau a gwaith hanesyddol ac anthropolegol yn ein dysgu sut i ddeall Iesu yng nghefndir diwylliannol ei gyfnod. Mae hyn yn ein harwain ymhell y tu hwnt i’r crebachu rhyddfrydol a’r geidwadaeth ffwndamentalaidd sydd mor gyffredin. Mae’r bwlch hwnnw’n un ffug a diffrwyth.
  5. Does dim angen i’n hanes ein llethu. Mae gan yr enwadau i gyd eu treftadaeth eu hunain a chawsom i gyd ryw fendith a melltith o’r dreftadaeth honno. Yn raddol, mae pobl yn ennill yr hyder i sôn a chydnabod y naill a’r llall a gwahaniaethu rhwng y damweiniol ddiwylliannol a’r gwir hanfodion.
  6. Bu’r mudiad carismataidd yn ffordd i lawer o bobl gael profiad teimladwy o Gristnogaeth ac agorodd y drws i Gristnogaeth oedd yn ysbrydol a chyfriniol yn ogystal â bod yn gyfundrefn ffydd.
  7. Mae ysbrydolrwydd sy’n aeddfedu a diwinyddiaeth ddi-drais yn gwneud chwilio am drydedd ffordd yn bosibl. Mae strwythurau newydd yn cynhyrchu cymunedau, grwpiau atgyfnerthu a chynnal, grwpiau astudio a myfyrio, mynachaeth newydd, tai gweithwyr Catholig, ac eraill sy’n cael eu harwain gan bobl leyg. Dydi’r rhain ddim yn wrthwynebus i’r hen strwythurau, ond mae tuedd i’r rheini fod yn ochelgar.
  8. Mae yna werthfawrogiad cynyddol o wahanol ddoniau a gweinidogaethau (1 Corinthiaid 9) ac o barodrwydd i wasanaethu ‘oddi isod’ yn hytrach nag ‘oddi uchod’. Yn bwysicaf oll, maen nhw’n sylweddoli nad beirniadu’r hen systemau yw’r pwynt ond gwneud rhywbeth gwell a gwahanol. Mae’r pwyslais yn y strwythurau newydd ar ymwreiddio mewn cariad. Pan fyddwn wedi ymroi i dyfu ein hunain, fe fydd llai o le i ddweud y drefn am bobl eraill.

*Dyma restr o rai o’i lyfrau:

Preparing for Christmas: Daily Meditations for Advent

The Naked Now

The Divine Dance

Embracing an Alternative

Everything Belongs

Immortal Diamond



(Crynodeb gan Enid Morgan)


Oes rhywun sydd wedi cael profiad o egino gobaith o’r fath yng Nghymru? Os oes, dwedwch! Beth am chwilio am yr arwyddion …?