
Agora rhif 18 mis Tachwedd 2017
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Golygyddol Enid Morgan
Geiriau’r Gatalones Enid Morgan
Cam 11 yr AA Wynford Ellis Owen
Diwrnod bant! Margaret Le Grice
Ein tir sanctaidd Andrew Sully
Eiconau Y Golygydd
Dyheu a breuddwydio Addasiad o syniadau Brian Mclaren
- Dyheu a breuddwydioRhagor- Dyheu, gobeithio, breuddwydio – ysgrythur i’r Adfent - Addasiad o syniadau gan Brian Mclaren yn We Make the Road by Walking ar gyfer gwersi a phregethu yn yr Adfent - Daniel 7:9–28; Eseia 40:9–11; Luc 1:67–79 - Mae byw yn golygu chwennych, gobeithio a breuddwydio, ac mae’r Beibl yn llyfr am chwennych, am obeithio a breuddwydio. - Mae’r stori sydd yn y Beibl yn dechrau gyda dyhead Duw am fyd da a hardd a ninnau’n rhan ohono. Yn fuan bydd rhai’n dyheu am bŵer i ladd, i gaethiwo neu orthrymu eraill. Mae pobl sy’n cael eu gorthrymu yn gobeithio am ryddid, ... 
- Gwasanaeth Cwnsela newydd – ‘Cynnal’Rhagor- BETH YW ‘CYNNAL’? - Gwasanaeth cwnsela newydd yr eglwysi yng Nghymru ar gyfer clerigwyr o bob enwad a’u teuluoedd yw Cynnal. Mae’n cynnig gwasanaeth dwyieithog yn rhad ac am ddim a hynny ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd ac yn delio â phroblemau o bob math. - Fe’i cefnogir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undebau’r Bedyddwyr a’r Annibynwyr, Yr Eglwys yng Nghymru, yr Ystafell Fyw a Cais. - Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 2030 2101 neu 0779 646 4045 - e-bost: LivingRoom-Cardiff@cais.org.uk; gwefan: www.cynnal.wales 
- Geiriau’r GatalonesRhagor- Geiriau’r Gatalones - Bydd amryw ohonoch wedi clywed am y Chwaer Teresa Forcades, y lleian o Gatalonia sydd wedi syfrdanu pobl wrth fod yn ffeminydd, yn genedlaetholwraig a diwinydd diflewyn-ar-dafod. Yn y cyfieithiad Saesneg o’i llyfr Faith and Freedom mae hi’n dyfynnu beth ddwedodd hi yn 2010 pan ofynnwyd iddi beth oedd ei chredo. - Rwy’n credu, uwchlaw pobpeth, mewn maddeuant. Rwy’n credu bod mesur ein gallu i faddau yn datguddio’r gwirionedd noeth am fesur ein gallu i garu. Caf fy synnu’n aml wrth gwrdd â’r gallu hwn mewn pobl nad ydw i’n eu hedmygu’n arbennig, ac yn gweld ei absenoldeb mewn ... 
- Ein Tir SanctaiddRhagor- EIN TIR SANCTAIDD - Andrew Sully - Eleni, mae hi’n bum can mlynedd ers i Martin Luther ym 1517 hoelio’i 95 her ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg. Blwyddyn briodol felly i gyhoeddi arolwg o’r profiad Cristnogol Cymraeg a Chymreig drwy lygaid dau fugail doeth a phrofiadol a fagwyd ac a feithrinwyd yn y traddodiad Diwygiedig Cymreig. (Our Holy Ground, John I. Morgans a Peter C Noble; Gwasg y Lolfa, 2016)  - Cyfunir yr arolwg hanesyddol â disgrifiad o bererindod gyfoes o gwmpas ... 
- Cam 11 yr AARhagor- Unfed Cam ar Ddeg yr AA - Wynford Ellis Owen o’r Ystafell Fyw yng Nghaerdydd yn manylu - Pŵer gweddi a myfyrdod - ‘Ceisio gwella, drwy weddi a myfyrdod, ein cysylltiad ymwybodol gyda Duw, fel yr ydym yn ei ddeall Ef, gan weddïo yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer a’r gallu i’w weithredu.’ - Dyma’r cam sy’n sicrhau ein bod yn parhau i dyfu’n ysbrydol drwy ollwng ein gafael ar bethau materol, ego-ganolig, sy’n ein cadw’n gaeth o hyd i bethau’r byd. Ni ellir mynd ar y daith lawn i adferiad a rhyddid llwyr heb ddatblygu ffydd mewn Pŵer mwy na ni’n ... 
- GolygyddolRhagor- Golygyddol - Mae Sul y Cofio yn agosáu eto. Bydd y pabi coch yn dechrau ymddangos ar ddillad y darllenwyr newyddion a bydd pobl y pabi gwyn hwythau yn rhoi tystiolaeth o’u rhinweddau ac yn rhoi prawf o’u heddychiaeth. (Gall swnio’n bur ymosodol weithiau. A sut mae dadlau achos heb swnio felly?) Beth yw’n hamcan wrth ddewis gwisgo pabi coch neu babi gwyn? - Yn y ddadl hon rydw i wedi bod yn euog. Nid o hoffi byddin/llynges/llu awyr, ond o fod wedi bod dan ddyletswydd i arwain gwasanaethau ar ddydd y cofio, a derbyn baneri a’u gosod y tu cefn i’r allor. Mynnais na chenid ... 
