Golygyddol

 

(h) Iestyn Hughes

Golygyddol

Mae Sul y Cofio yn agosáu eto. Bydd y pabi coch yn dechrau ymddangos ar ddillad y darllenwyr newyddion a bydd pobl y pabi gwyn hwythau yn rhoi tystiolaeth o’u rhinweddau ac yn rhoi prawf o’u heddychiaeth. (Gall swnio’n bur ymosodol weithiau. A sut mae dadlau achos heb swnio felly?) Beth yw’n hamcan wrth ddewis gwisgo pabi coch neu babi gwyn?

Yn y ddadl hon rydw i wedi bod yn euog. Nid o hoffi byddin/llynges/llu awyr, ond o fod wedi bod dan ddyletswydd i arwain gwasanaethau ar ddydd y cofio, a derbyn baneri a’u gosod y tu cefn i’r allor. Mynnais na chenid na ‘God Save the Queen’ na ‘Hen Wlad fy Nhadau’ nes i’r gwasanaeth ddod i ben, gan fod y naill yn ormesol a’r llall yn waedlyd. Dydw i ddim yn credu bod neb wedi sylwi!

Bu cyfnod, ddeugain mlynedd yn ôl, pan oedd gwasanaeth cofio yn ddiflastod i mi. Roeddwn yn cysylltu Sul y Cofio gyda’r Lleng Brydeinig, gyda chwrw a phobl oedd yn cadw draw o’r capel. (Dyna i chi awyrgylch y 1940au a’r 1950au) Y drafferth yw, wrth fynd yn hŷn, eich bod chi’n dod i adnabod pobl yn well. Dowch i weld bod unigolion yn y mudiadau hyn yn gofalu am weddwon a phlant, ac yn gwerthfawrogi gwasanaeth a gorymdaith am fod y rheini yn arwydd o gofio a gwerthfawrogi, yn rhoi gwerth a rhyw fath o urddas ar eu profiadau. Byddai ambell gyn-aelod o’r fyddin hefyd yn cadw draw â dicter naturiol yn eu calonnau. Mae gennym ni hawl i gofio yn ein ffyrdd tra amrywiol ein hunain.

 

Lladdwyd dau hen ewythr i mi ym mrwydr y Somme. Dydw i ddim yn eu cofio, ond rwy’n cofio’r effaith gafodd eu colli ar eu rhieni, eu chwiorydd a’u plant. Wrth i luoedd o bobl wisgo pabi coch, symbol eithriadol o bwerus, i gofio am eu perthnasau hwy, does gen i ddim awydd cynnal dadl am y symbol. Rwy’n barod i gofio ac uniaethu fy nhamed cofio i â’u cofio hwy. Cofio gyda thristwch, ac arswyd a rhyw fesur o edifeirwch. A maddau rhyw elfennau o’r hanes. Mae symbolau’n newid eu hystyr.

Ac rwy’n cofio na fyddai’r capel, pan oeddwn yn blentyn, yn cofio nac yn nodi’r achlysur o gwbl. Yr adeg honno doedden nhw ddim yn defnyddio pabi gwyn, er mai heddychwr oedd y gweinidog. Efallai mai hynny oedd yn briodol ac anochel yn y cyfnod hwnnw.

Mae yna les wedi dod o nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sef bod teuluoedd wedi adennill eu cofion a’u papurau, ac mae’n siŵr gen i y byddai’r pabi gwyn yn cyfleu eu teimladau’n well na’r pabi coch. Oes ots? Ydi’r cwbl yn ddim ond fi’n gwamalu (eto) rhwng dau feddwl? Eleni rwy’n mynd i geisio cofio heb hawlio dim amdana i fi fy hun. Cofio heb ddadlau nac ymhonni.

Pwnc arall sy wedi mynd yn syrffedus yw Arlywydd yr Unol Daleithiau. Oes angen i mi brofi faint rwy’n ei gasáu a phopeth mae’n ei gynrychioli? Dim ond pentyrru casineb a dicter ar ben casineb brwd y cyfryngau fyddai hynny. Mae ’na restr hir o bethau sydd wedi fy nghythruddo; mae’r ffordd ffuantus y mae’n rhoi ei fysedd at ei gilydd wrth bwysleisio rhyw osodiad neu’i gilydd yn codi syrffed sy’n brawf fy mod mor llawn atgasedd â phawb arall. Oes, mae cystadleuaeth yn mynd ymlaen. Dyna fi wedi trio profi mod i ar yr ochr iawn!

Ond mae ’na ochr beryglus i hyn i gyd, ac nid y lleiaf o’r peryglon yw’r ffaith fod yr Arlywydd yn ffynnu ar wrthwynebiad. Dyw e ddim yn credu mewn ymddiheuro na chyfaddef y camsyniad mwyaf amlwg. Felly, mae ymosodiadau personol arno yn gwbl ddi-fudd, yn wir yn cael yr effaith wrthwyneb o borthi hunangyfiawnder a phrocio hunan-bwys.

Mae’n faen tramgwydd cyson. Ond y mae’r ymateb iddo hefyd yn dweud llawer iawn amdanom ni’n hunain. Rydyn ni fel petaem yn cael blas ar groesi cleddyfau ag ef. Chwiliwn am beth mae’r adyn wedi ei ddweud y tro hyn, gan obeithio’i fod wedi rhoi ei droed ynddi’n derfynol. Rydyn ni mewn perygl o fwytho’n dicter.

Beth felly i’w wneud ond gwrando’n ofalus ar Americaniaid rydyn ni’n eu parchu. Penderfynu rhoi’r gorau i waldio’r Arlywydd, a mynd ati i ddadlau yn erbyn polisïau. Ac yma ym Mhrydain y polisi i ddadlau amdano wrth gwrs ydi Brexit, y celwyddau a’i gwnaeth yn bolisi ac yn ewyllys y bobl.

Po fwyaf y mae rhywbeth yn ein tramgwyddo, y mwyaf y dychwelwn ato i’w grafu. A gwres sy’n cynyddu, nid golau. Mae’r hyn sy’n ein cythruddo wedi mynd yn fagl, magl ein ffug ddaioni ni ein hunain. Pa fwyaf y protestiwn gyda’n gilydd, mwyaf i gyd y mwynhawn y profiad.

Oes modd siarad am faterion cyhoeddus heb fynd yn bersonol? Mae’n fater o bwys fod Cristnogion yn gwneud rhyw ymdrech i wneud hynny. Dyma ddyletswydd y mae’r efengyl yn ei gosod arnom ni. Peidiwn â bwydo’r casineb sgandalaidd – er lles y drafodaeth gyhoeddus ac er ein lles ein hunain hefyd. Gall y ddisgyblaeth ein hamddiffyn rhag llithro i hunan-dyb a hunangyfiawnder. Nid ni piau edmygu ein hunain. Wrth eu ffrwythau …

Enid Morgan