Cam 11 yr AA

Unfed Cam ar Ddeg yr AA

Wynford Ellis Owen o’r Ystafell Fyw yng Nghaerdydd yn manylu

Pŵer gweddi a myfyrdod

‘Ceisio gwella, drwy weddi a myfyrdod, ein cysylltiad ymwybodol gyda Duw, fel yr ydym yn ei ddeall Ef, gan weddïo yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer a’r gallu i’w weithredu.’

Dyma’r cam sy’n sicrhau ein bod yn parhau i dyfu’n ysbrydol drwy ollwng ein gafael ar bethau materol, ego-ganolig, sy’n ein cadw’n gaeth o hyd i bethau’r byd. Ni ellir mynd ar y daith lawn i adferiad a rhyddid llwyr heb ddatblygu ffydd mewn Pŵer mwy na ni’n hunain. Ystyriwch hyn: a all swm mawr o arian yn y banc, neu bensiwn mawr, neu gyflog anferth, ein gwarchod rhag yr ofn o fethu gwybod beth sydd gan yfory ar ein cyfer? Na, ni all holl aur Periw wneud hynny. Dyna’n aml sy’n rhwystro pobl rhag tyfu’n ysbrydol, sef yr ofn o fethu ymddiried yn gyfan gwbl yn y Pŵer hwn, neu yn Nuw fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi. Hynny yw, bod yn rhaid i ni gael rhyw ‘sicrwydd’ ariannol/materol ‘jest rhag ofn’ y bydd Duw yn troi cefn arnom neu’n gwrthod neu’n methu gwrando ar ein gweddïau neu’n dyheadau.

Mae nifer ohonom yn fodlon credu mewn rhywbeth na fedrwn brofi’i fodolaeth yn wyddonol. Ond faint ohonom sy’n fodlon rhoi’r ffydd honno ar brawf ac ymddiried yn gyfan gwbl yn ein Duw, neu’r Pŵer mwy na ni ein hunain?

Dyma yw hanfod Cam 11: ein hannog a’n hyfforddi drwy weddi a myfyrdod, i ddatblygu’r fath ffydd fel y gallwn ‘ollwng yn gyfan gwbl’ yr awydd i reoli pawb a phopeth (gan gynnwys ni’n hunain) – ac ymddiried yn Nuw i wneud hynny a gofalu am ein holl anghenion.

Eisoes mae digon o brawf gennym o fodolaeth y Duw neu’r Pŵer hwn yn ein bywydau – mae ei ras wedi bod yn ein hamgylchynu ers ymhell cyn i ni ddechrau gweithio’r Camau. Yn wir, y gras hwnnw wnaeth i ni sylweddoli fod angen help arnom yn y lle cyntaf. Ac ers hynny, os ydym yn gallu bod yn onest â ni’n hunain, mae pethau wedi newid yn ddramatig yn ein bywydau. Nid ydym yn yfed, neu’n cymryd cyffuriau neu’n ymhél ag ymddygiad niweidiol; rydym wedi’n rhyddhau oddi wrth euogrwydd a chywilydd; mae lleihad yn yr obsesiwn gyda ni’n hunain; yn gynyddol, down i werthfawrogi’n llawnach yr hyn sy’n digwydd ar y foment o’n cwmpas. Dechreuwn weld ein gorffennol, yn arbennig ein dibyniaeth, fel ffynhonnell o brofiadau cyfoethog i’w rhannu â’r rhai hynny yr ydym yn ceisio’u helpu, yn hytrach nag fel cyfnod tywyll rydym eisiau ei anghofio. Yn wyrthiol, dechreuwn weld y bendithion yn ein bywydau yn hytrach na’r melltithion.

Gyda’r holl dystiolaeth hon o bŵer Duw eisoes yn ein bywydau, mae’n haws gollwng gafael ar yr holl bethau eraill mae cymdeithas yn mynnu dweud wrthym na fedrwn ni fyw hebddynt – yr ‘atodiadau’ (attachments) bondigrybwyll, sy’n mynnu diffinio’r hyn ydym: arian, pŵer, swydd, addysg, mawrfri (prestige), lleisiau rhieni (Mae llawer o bobl yn methu dod i fyw eu bywydau eu hunain gan fod lleisiau eu rhieni beirniadol yn eu pennau yn mynnu dweud wrthynt beth i’w wneud a sut i fyw.), a chydwybod lygredig, hefyd – yr un sy’n ennyn euogrwydd a chywilydd. Nid y gydwybod gywir yw hon, ond un lygredig sydd wedi’i gosod arnom gan ein rhieni, y system addysg, a disgwyliadau a rheolau cymdeithas. Gan amlaf, cael ein cyflyru gan euogrwydd neu gywilydd ydyn ni i ymddwyn mewn ffordd arbennig, yn hytrach na dewis ymddwyn o’n gwirfodd.

Os na fyddwn yn ofalus, bydd yr atodiadau hyn yn sicrhau y byddwn yn cysgu-cerdded ein ffordd i’r bedd heb fyth gael cyfle i fyw’n ‘authentic’, yn ‘true to nature’, a bod yn ni’n hunain. Rhaid i ni gofio fod cymdeithas eisiau creu poblogaeth sy’n fodlon ymddwyn fel robotiaid ac ufuddhau’n ddigwestiwn i orchmynion y dosbarthiadau llywodraethol. Mewn gwirionedd, y bobl ‘gyffredin’ yw’r mwyaf gwallgof ohonom i gyd – gan nad ydynt, gan amlaf, yn gallu amgyffred yn llawn eu gwir gyflwr! Fel yr alcoholig, mynnant nad oes dim byd yn bod arnyn nhw, a bod disgwyl i bawb fyw yn unol â’u byd-olygon hwy.

Drwy ollwng gafael ar yr atodiadau hyn a hawlio ein pŵer yn ôl – hynny yw, trwy ein ffydd – mae’r dewis gennym wedyn yng Ngham 11 i droi mewn gweddi at Dduw neu Bŵer mwy na ni’n hunain, a gofyn yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer, a’r gallu a’r doethineb i weithredu’r ewyllys honno yn ein bywydau a’n byw bob dydd. Golyga’r byw newydd hwn wedyn nad ydym yn gofyn am ddim arall, yn disgwyl dim arall, ac yn derbyn popeth arall a ddaw.

Mae rhywun yn gallu deall i raddau ymateb y sefydliad ar y pryd i ddysgeidiaeth Iesu. Chwyldroi cymdeithas oedd ei fwriad ac, o ddarllen dim ond yr uchod, mae rhywun yn synhwyro’r bygythiad affwysol sydd ymhlyg ynddynt i’r status quo: ‘Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i’r tlodion’ (Mathew 19, adn. 21). Ydych chi’n gweld be dwi’n feddwl? Mae’n mynnu gwerthoedd cwbl wahanol a byd-olwg sy’n anathema i lawer sy’n gaeth i werthoedd materol ac ego-ganolig ein bod cyfoes.

Yn ôl yr awdur a’r athro eciwmenaidd Richard Rohr, yn ei lyfr The Divine Dance (2016), dim ond y rhai sy’n troedio llwybr rhyfeddod neu ddioddefaint sy’n gallu mynd y ffordd hon. Dyna pam rwy’n mynnu taw dioddefaint, o bosib, yw’r grym mwyaf creadigol sy’n bod ym myd natur. Dyna’n sicr yr unig beth sy’n cael llawer ohonom i newid ein ffyrdd.

Cyfle yw Cam 11, felly, i ni ddarganfod, neu ddwysáu, ein taith ysbrydol ein hunain. Ac mae’r camau rydym yn eu cymryd i wneud hynny yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y diwylliant rydym wedi’i fagu ynddo, ein profiad o ysbrydolrwydd, a’r hyn sy’n gweddu orau i’n natur bersonol.

Mae ein hysbrydolrwydd wedi bod yn datblygu byth ers i ni ddechrau adfer. Rydyn ni’n newid yn barhaus, ac felly hefyd ein hysbrydolrwydd. Mae tiroedd newydd, pobl newydd, a sefyllfaoedd newydd yn cael effaith arnom, ac mae’n rhaid i’n hysbrydolrwydd ymateb iddynt.

Mae archwilio a dwysáu ein hysbrydolrwydd yng Ngham 11 yn brofiad dadlennol a gogoneddus. Cawn ein cyflwyno i syniadau newydd. Oherwydd ein bod wedi datblygu a thyfu’n ysbrydol drwy weithio’r camau blaenorol, darganfyddwn fod ein mewnwelediad a’n gallu i amgyffred gwybodaeth newydd amdanom ni ein hunain a’n byd wedi tyfu hefyd. Mae’r drws ar agor i ni arbrofi’n ysbrydol, a down i ddarganfod gwirioneddau personol dwys drwy ein hymdrechion i ddeall mwy o’n bywydau, a hynny yn y manylion mwyaf di-nod, weithiau.

Pan ddown i’n hadnabod ein hunain o ganlyniad i’r camau hyn, y da a’r gwachul, a’u derbyn, down yn anochel i adnabod Duw’r Tad. Y nod wedyn yw cadw cysylltiad ymwybodol parhaus gyda’r Duw hwn (o’n deall ein hunain ohono), a dwysáu’r berthynas, fel bod ein bywydau, pob eiliad effro wedyn, yn bartneriaeth gydag O neu Hi – hynny yw, mewn geiriau eraill, yn weddi barhaus. Yn hytrach na chanu ‘unawd’ fel petai, o hyn ymlaen, ein bwriad yw canu ‘deuawd’ gyda Duw; cydnabod ein hangen a chofleidio’r berthynas ym mhopeth a wnawn. Popeth. Pan fyddaf yn gwneud paned o de i rywun, hyd yn oed, mae rhywbeth arbennig am y baned de honno, oherwydd nid fi a’i paratôdd, ond fi a Duw.

Gollwng gafael, gadael fynd, felly, yw adferiad. Cael gwared ar bob dibyniaeth ar bethau materol ac ego-ganolig a ‘rhoi fy hun yn gwbl iddo’. ‘Surrender absolutely’ yw term y Sais amdano – ‘ildio’n gyfan gwbl.’

Erbyn hyn rwyf wedi dod i sylweddoli pa mor ddiymadferth ydw i mewn perthynas â’r byd a’i bethau a phobl. Fy hun, does gen i bŵer dros ddim oll na neb, ond gyda Duw, mae gen i’r Pŵer ‘i symud mynyddoedd’, chwedl y Gair –cyn belled â bod pob ‘symud’ a phob ‘mynydd’ er gogoniant i Dduw ac yn gydnaws â’i ewyllys Ef neu Hi ar fy nghyfer. Dim ond cyrraedd a chynnal sobrwydd oedd fy nod ar ddechrau’r daith, ac mae medru cyflawni hynny – sef gwneud rhywbeth na fedrwn ei wneud drosof fi hun cyn hynny – yn wyrth ynddo’i hun, ac yn sicr yn rhan o ewyllys Duw ar fy nghyfer. Ond ar ben hynny, erbyn hyn, mae gen i’r gallu i fyw gydag urddas, i garu fy hun ac eraill, i chwerthin, ac i ddarganfod llawenydd a phrydferthwch yn fy amgylchfyd.

Yn y foment yma mae Duw yn gweithredu, wrth gwrs. Dyna bwysigrwydd ‘myfyrdod’ yn y cam hwn – ein dysgu i fyw yn y foment ac nid â’n sylw ar yfory (a’i ofnau a’i bryderon) nac unrhyw ddoe (a’i euogrwydd a’i gywilydd). “With one eye on yesterday and one eye on tomorrow,” meddai’r hen ddywediad, “I was cockeyed today!” A’r atyniad mwyaf dros ddysgu byw yn y foment yw bod gennym ni wedyn, o ganu’r ‘ddeuawd’, y gallu, y nerth, y doethineb a’r dyfalbarhad i ddelio ag unrhyw beth y bydd bywyd yn ei daflu atom yn ystod y diwrnod hwnnw. Wrth fyw yn y foment, gwyddom y gallwn oroesi digwyddiadau’r diwrnod yn fuddugoliaethus. Dyw hyn ddim yn ein hamddiffyn rhag trasiedïau, sialensau a siomedigaethau byw bob dydd, wrth gwrs, ond mae’n golygu y gallwn ddod drwyddynt oll – fel trwy Ddyffryn Baca – i fyw pob ‘heddiw’ fel diwrnod sy’n werth ei fyw.

Ac mae’r cyfan yn deillio o wyleidd-dra. Y sylweddoliad creiddiol ‘na fedr un pŵer meidrol ein rhyddhau ni o’n halcoholiaeth (neu beth bynnag ydy’r ddibyniaeth)’. Os ydw i’n gobeithio goroesi fy nibyniaethau a byw, yna mae’n rhaid i mi ganfod Pŵer mwy na fi fy hun – Pŵer a all wneud drosof yr hyn sy’n ymddangos yn amhosib. Ond mae’n Bŵer – fel ‘ein bara beunyddiol’ – sy’n dod i ni gyda phob heddiw o’r newydd, un dydd ar y tro; ac mae’n Bŵer y mae’n rhaid i ni, drwy weithio Cam 11, ei faethu er mwyn ei gynnal a’i ddwysáu.

Mae effeithiau’r cam hwn yn amlygu eu hunain ym mhob agwedd o’n bywydau. Dechreuwn deimlo’n fodlon gyda’n bywydau. Nid ydym bellach yn teimlo’r angen i reoli pethau. Rydym yn canolbwyntio ar bethau uwch yn hytrach na ni’n hunain. Rydym yn llai edifar am bethau. Ni welwn ein dibyniaeth mewn goleuni mor negyddol wrth i ni ddefnyddio’n profiadau i wasanaethu pwrpas uwch – cyfleu gobaith i’r rhai hynny sy’n dal i ddioddef.

Yng Ngham 12 y mis nesaf, fe archwiliwn wahanol ffyrdd o wneud hynny, a gweld sut mae ymarfer egwyddorion adferiad yn hanfodol i’r fath ymdrech.