Archifau Categori: Agora 18

Dyheu a breuddwydio

Dyheu, gobeithio, breuddwydio – ysgrythur i’r Adfent

Addasiad o syniadau gan Brian Mclaren yn We Make the Road by Walking ar gyfer gwersi a phregethu yn yr Adfent

Daniel 7:9–28; Eseia 40:9–11; Luc 1:67–79

Mae byw yn golygu chwennych, gobeithio a breuddwydio, ac mae’r Beibl yn llyfr am chwennych, am obeithio a breuddwydio.

Mae’r stori sydd yn y Beibl yn dechrau gyda dyhead Duw am fyd da a hardd a ninnau’n rhan ohono. Yn fuan bydd rhai’n dyheu am bŵer i ladd, i gaethiwo neu orthrymu eraill. Mae pobl sy’n cael eu gorthrymu yn gobeithio am ryddid, rhai sy’n crwydro yn yr anialwch yn dyheu am wlad yr addewid lle y gallan nhw setlo i lawr. Mae pobl sydd wedi cael setlo yn dyheu am amser yr addewid pan na fyddan nhw’n cael eu rhwygo gan anghytuno a chweryla, nac yn cael eu rheoli gan grachach pwdr na chenhedloedd cryfach gerllaw.

Mae dyheu, gobeithio a breuddwydio yn arwain at weithredu; nid dim ond dymuno a wneir. Gallwn ddymuno yn lle gweithredu, rhyw obeithio y bydd popeth yn ol-reit yn y man. Dim ymddisgyblu i weithio, ymdrechu, aberthu na chynllunio. A heb y pethau hynny, does dim byd yn newid. Ond mewn ffordd gwbl wahanol mae ein dymuno a’n gobeithio yn peri i ni weithredu. Mae plant sy’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl tyfu lan yn gweithio i’r amcan hwnnw – boed hynny’n bod yn gerddorion neu’n ddoctoriaid. Maen nhw’n trefnu eu diddordebau yn ôl eu gobeithion.

Yn y Beibl y proffwydi sy’n casglu ynghyd obeithion, dyheadau a breuddwydion eu cymdeithas. Maen nhw’n herio’u pobl i fod yn gyson, a phan welan nhw bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy’n groes i’w gwir ddyheadau maen nhw’n dweud hynny (Eseia 11:1–2, 6, 9 a 42:1–3). Pa syndod fod Iesu’n dyfynnu cymaint o lyfr Eseia. Ond mae proffwydi fel Eseciel a Malachi yn ychwanegu eu lliwiau arbennig hwy at y gobeithion hyn i gyd.

Ni fu i’r breuddwydion hyn drengi yn y blynyddoedd rhwng y proffwydi ac amser Iesu, ac mae’r breuddwydion hyn yn cael eu crynhoi yn y cymeriadau yn y stori am eni Iesu mewn pobl fel Elisabeth a Sechareia, Mair a Joseff, Anna a Simeon. Mae byw antur bywyd gydag Iesu yn arwain at ddyhead, breuddwyd a gobaith i’r dyfodol. Mae’n fater o droi’r gobaith yn weithredu, a dal ati beth bynnag fo’r siomedigaethau a’r disgwyl. Gadewch i ni felly gychwyn yr Adfent drwy gynnau cannwyll i gofio am y proffwydi a gyhoeddodd eu gobeithion, eu dyheadau, a’u breuddwydion.

 

Awgrymiadau i grisialu ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd

  1. Pa un syniad sy’n eich taro, eich diddori, eich procio, eich herio a’ch calonogi?
  2. Wnaethoch chi erioed golli gobaith neu ddal i obeithio?
  3. Beth yw’ch ymateb chi i ddelweddau Eseia a sut fyddech chi’n trosi’r delweddau o’r hen Ddwyrain Canol yn ddelweddau o’r byd heddiw?
  4. Gyda’r plant: beth ydych chi’n gobeithio bod neu ei wneud pan fyddwch chi wedi tyfu lan? Pam?
  5. Gweithredu: yr wythnos hon, chwiliwch am ddigalondid neu siniciaeth ynoch chi’ch hunan. Rhowch her i chi’ch hun i fod yn sinicaidd am eich siniciaeth a herio’ch hunan i fod yn broffwydol obeithiol.
  6. Myfyrio: cyneuwch gannwyll a dewis un ddelwedd o waith y proffwydi y soniwyd amdanynt. Yn syml, daliwch y ddelwedd yn eich calon, ym mhresenoldeb Duw mewn distawrwydd.
  7. Os yw hynny’n ysgogi gweddi syml ynoch – ysgrifennwch hi, neu dwedwch hi.

 

 

Ein Tir Sanctaidd

EIN TIR SANCTAIDD

Andrew Sully

Eleni, mae hi’n bum can mlynedd ers i Martin Luther ym 1517 hoelio’i 95 her ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg. Blwyddyn briodol felly i gyhoeddi arolwg o’r profiad Cristnogol Cymraeg a Chymreig drwy lygaid dau fugail doeth a phrofiadol a fagwyd ac a feithrinwyd yn y traddodiad Diwygiedig Cymreig. (Our Holy Ground, John I. Morgans a Peter C Noble; Gwasg y Lolfa, 2016)

Cyfunir yr arolwg hanesyddol â disgrifiad o bererindod gyfoes o gwmpas safleoedd a mannau o ddiddordeb yng Nghymru, pererindod a ddigwyddodd dros gyfnod o rai blynyddoedd. Ar y dechrau a’r diwedd ceir lluniau o gerfluniau o Fair ym Mhenrhys a’r Un Dienw yn Six Bells, Ceidwad y Cymoedd. Ceir atgynhyrchiadau hardd o ffotograffau a gymerwyd gan Peter sy’n gofnod gweladwy o’r amrywiaeth rhyfeddol o fannau sanctaidd a mannau cysylltiedig â phersonoliaethau sydd wedi cyfrannu at y tapestri o brofiadau a lleisiau a luniodd hanes Cristnogaeth yn y rhan fechan ond gwerthfawr hon o deyrnas Dduw.

Mae eu hymroddiad i’r Efengyl, i genhadu ac i’r mudiad eciwmenaidd, yn ogystal â fersiwn mwy blaengar a chynhwysol o Gristnogaeth, yn eglur. Fe’i gwreiddiwyd yn anghydffurfiaeth wleidyddol a rhyddfrydol y bedwaredd garif ar bymtheg ac mewn sosialaeth ddewr a radical a wnaeth y cymoedd yn fagwrfa fyrlymus i anghydffurfiaeth ganrif yn ôl.

I Morgans a Noble, mae’n eglur fod rhywbeth wedi mynd o chwith yn y ganrif sy newydd fynd heibio a bod yr eglwysi fel sefydliadau, gan gynnwys anghydffurfiaeth, yn ymddangos fel pe baent ar goll ac yn ddi-weledigaeth. Mae’r weledigaeth a ysbrydolodd y ddau eciwmenydd a’r ddau genhadwr profiadol hyn i ymlafnio dros undeb organig rhwng yr eglwysi ’nôl yn y chwedegau er mwyn croesawu Teyrnas Dduw i raddau wedi gwywo ar y winwydden. Cymerwyd ei lle gan ymlyniad llwythol mwy amddiffynnol, mwy ceidwadol, mwy Ukipaidd ar ran y prif enwadau. Gwelwyd hyn yn ymdrech olaf Enfys (y pum eglwys gyfamodol yng Nghymru) i sefydlu cyfeiriad newydd yn eu cyfarfod yn Aberystwyth yn 2012. Dyma gyfaddefiad yr awduron:

 A challenge facing Welsh Christianity is whether its leadership and the dwindling and ageing memberships of the mainline churches will grasp the vision and provide the determination and stamina to create a new form of united Christian community. Only then will the vision break out of its imprisonment within denominationalism and become a practical programme which could help transform the Christian presence throughout Wales. (t.187)

 Ydi popeth wedi ei golli felly? Neu a oes yna unrhyw arwyddion fod blagur newydd yn torri trwodd ar y Tir Sanctaidd? Mae ’na rai, yn fy marn i, ond mae fel petai’r awduron wedi bod yn edrych yn y mannau anghywir amdanyn nhw. O ganlyniad, ni sylwyd ar yr arwyddion newydd, gobeithiol yn y cyfnod arbennig hwn o’n profiad Cristnogol – efallai am fod y llyfr yn canolbwyntio ar sefydliadau. Pam, tybed, na roddwyd sylw i’r farddoniaeth a’r celfyddydau gweladwy a ffactorau diwylliannol eraill sy’n ffurfio ymwybyddiaeth Gristnogol y Gymru gyfoes?

Nid oedd darlun R. S. Thomas o Anghydffurfiaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn ei ddrama radio The Minister (1952) yn un deniadol:

Protestantism – the adroit castrator
of art; the bitter negation
of song and dance and the heart’s innocent joy
– you have botched our flesh and left us only the soul’s
terrible innocence in a warm world.

 

I RS, lluniwyd enaid Cymru cyn belled yn ôl â’r bumed a’r chweched ganrif OC pan fu i’r seintiau ‘Celtaidd’ honedig sefydlu cymunedau o ddysg ledled Cymru a ddatblygodd yn ganolfannau pwysig i weddi, dysg a lletygarwch. Trwy’r canrifoedd cynnar hyn y pethau oedd yn hawlio sylw oedd y farddoniaeth fywiol, gadarnhaol a defosiwn â’r greadigaeth yn ganolog iddo. Mae rhai ysgolheigion diweddar ar ysbrydolrwydd a’r ddiwinyddiaeth Gymraeg, Donald Allchin yn bennaf oll, wedi ceisio dadlau, ar waethaf y dylanwadau mwy Calfinaidd ers y Diwygiad, na fu i’r traddodiad mawl Catholig ddiflannu’n llwyr, er iddo fynd ‘dan ddaear’ am gyfnod ac ailymddangos yn yr ugeinfed ganrif ym marddoniaeth Saunders Lewis, Gwenallt, Waldo Williams ac Euros Bowen.

Mae awduron Our Holy Ground yn sicr yn derbyn mai helpu pobl i ailgysylltu â chariad dwyfol yw’r ffordd i’r eglwys ‘ddysgu’r Efengyl’ i genhedlaeth heddiw, ond dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n gallu gweld sut a ble y gallai eu traddodiad ymneilltuol gynnig arwyddion i’r dyfodol:

The world has been confused and angered by the way Christians have not loved one another, and the world has walked its own way. (t.184)

Serch hynny, mae’r alwad i garu yn parhau’n fater o angen dwys iddyn nhw:

You are to love. You must love. Duw cariad yw. God is love. Our journey had ended, or had it only just begun? (t.201)

Tybed? Hwyrach fod yr allwedd i’r dyfodol mewn peidio â phoeni cymaint am y gorffennol er mwyn cynnig Cristnogaeth ôl-Brexit, Gatholig, Geltaidd i Gymru heddiw. Dyna’r math o weledigaeth a anogwyd gan Rowan Williams yn ei waith cyfoethog, yn ddiwinyddol ac yn ysbrydol. Yn rhyfedd iawn, does dim un cyfeiriad ato yn y gyfrol hon. Ni cheir cyfeiriad chwaith at y cyn-Archesgob Barry Morgan na’r diweddar Gethin Abraham-Williams, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn – dau a geisiodd gysylltu’n greadigol ac yn gadarnhaol â’r rhai sy’n sychedu’n ysbrydol ac yn chwilio am ffordd ymlaen heddiw.

Bydded cariad yn ddigon.

Ficer Llangollen yw’r Parchedig Andrew Sully

Gwasanaeth Cwnsela newydd – ‘Cynnal’

BETH YW ‘CYNNAL’?

Gwasanaeth cwnsela newydd yr eglwysi yng Nghymru ar gyfer clerigwyr o bob enwad a’u teuluoedd yw Cynnal. Mae’n cynnig gwasanaeth dwyieithog yn rhad ac am ddim a hynny ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd ac yn delio â phroblemau o bob math.

Fe’i cefnogir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undebau’r Bedyddwyr a’r Annibynwyr, Yr Eglwys yng Nghymru, yr Ystafell Fyw a Cais.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 2030 2101 neu 0779 646 4045

e-bost: LivingRoom-Cardiff@cais.org.uk; gwefan: www.cynnal.wales

Cam 11 yr AA

Unfed Cam ar Ddeg yr AA

Wynford Ellis Owen o’r Ystafell Fyw yng Nghaerdydd yn manylu

Pŵer gweddi a myfyrdod

‘Ceisio gwella, drwy weddi a myfyrdod, ein cysylltiad ymwybodol gyda Duw, fel yr ydym yn ei ddeall Ef, gan weddïo yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer a’r gallu i’w weithredu.’

Dyma’r cam sy’n sicrhau ein bod yn parhau i dyfu’n ysbrydol drwy ollwng ein gafael ar bethau materol, ego-ganolig, sy’n ein cadw’n gaeth o hyd i bethau’r byd. Ni ellir mynd ar y daith lawn i adferiad a rhyddid llwyr heb ddatblygu ffydd mewn Pŵer mwy na ni’n hunain. Ystyriwch hyn: a all swm mawr o arian yn y banc, neu bensiwn mawr, neu gyflog anferth, ein gwarchod rhag yr ofn o fethu gwybod beth sydd gan yfory ar ein cyfer? Na, ni all holl aur Periw wneud hynny. Dyna’n aml sy’n rhwystro pobl rhag tyfu’n ysbrydol, sef yr ofn o fethu ymddiried yn gyfan gwbl yn y Pŵer hwn, neu yn Nuw fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi. Hynny yw, bod yn rhaid i ni gael rhyw ‘sicrwydd’ ariannol/materol ‘jest rhag ofn’ y bydd Duw yn troi cefn arnom neu’n gwrthod neu’n methu gwrando ar ein gweddïau neu’n dyheadau.

Mae nifer ohonom yn fodlon credu mewn rhywbeth na fedrwn brofi’i fodolaeth yn wyddonol. Ond faint ohonom sy’n fodlon rhoi’r ffydd honno ar brawf ac ymddiried yn gyfan gwbl yn ein Duw, neu’r Pŵer mwy na ni ein hunain?

Dyma yw hanfod Cam 11: ein hannog a’n hyfforddi drwy weddi a myfyrdod, i ddatblygu’r fath ffydd fel y gallwn ‘ollwng yn gyfan gwbl’ yr awydd i reoli pawb a phopeth (gan gynnwys ni’n hunain) – ac ymddiried yn Nuw i wneud hynny a gofalu am ein holl anghenion.

Eisoes mae digon o brawf gennym o fodolaeth y Duw neu’r Pŵer hwn yn ein bywydau – mae ei ras wedi bod yn ein hamgylchynu ers ymhell cyn i ni ddechrau gweithio’r Camau. Yn wir, y gras hwnnw wnaeth i ni sylweddoli fod angen help arnom yn y lle cyntaf. Ac ers hynny, os ydym yn gallu bod yn onest â ni’n hunain, mae pethau wedi newid yn ddramatig yn ein bywydau. Nid ydym yn yfed, neu’n cymryd cyffuriau neu’n ymhél ag ymddygiad niweidiol; rydym wedi’n rhyddhau oddi wrth euogrwydd a chywilydd; mae lleihad yn yr obsesiwn gyda ni’n hunain; yn gynyddol, down i werthfawrogi’n llawnach yr hyn sy’n digwydd ar y foment o’n cwmpas. Dechreuwn weld ein gorffennol, yn arbennig ein dibyniaeth, fel ffynhonnell o brofiadau cyfoethog i’w rhannu â’r rhai hynny yr ydym yn ceisio’u helpu, yn hytrach nag fel cyfnod tywyll rydym eisiau ei anghofio. Yn wyrthiol, dechreuwn weld y bendithion yn ein bywydau yn hytrach na’r melltithion.

Gyda’r holl dystiolaeth hon o bŵer Duw eisoes yn ein bywydau, mae’n haws gollwng gafael ar yr holl bethau eraill mae cymdeithas yn mynnu dweud wrthym na fedrwn ni fyw hebddynt – yr ‘atodiadau’ (attachments) bondigrybwyll, sy’n mynnu diffinio’r hyn ydym: arian, pŵer, swydd, addysg, mawrfri (prestige), lleisiau rhieni (Mae llawer o bobl yn methu dod i fyw eu bywydau eu hunain gan fod lleisiau eu rhieni beirniadol yn eu pennau yn mynnu dweud wrthynt beth i’w wneud a sut i fyw.), a chydwybod lygredig, hefyd – yr un sy’n ennyn euogrwydd a chywilydd. Nid y gydwybod gywir yw hon, ond un lygredig sydd wedi’i gosod arnom gan ein rhieni, y system addysg, a disgwyliadau a rheolau cymdeithas. Gan amlaf, cael ein cyflyru gan euogrwydd neu gywilydd ydyn ni i ymddwyn mewn ffordd arbennig, yn hytrach na dewis ymddwyn o’n gwirfodd.

Os na fyddwn yn ofalus, bydd yr atodiadau hyn yn sicrhau y byddwn yn cysgu-cerdded ein ffordd i’r bedd heb fyth gael cyfle i fyw’n ‘authentic’, yn ‘true to nature’, a bod yn ni’n hunain. Rhaid i ni gofio fod cymdeithas eisiau creu poblogaeth sy’n fodlon ymddwyn fel robotiaid ac ufuddhau’n ddigwestiwn i orchmynion y dosbarthiadau llywodraethol. Mewn gwirionedd, y bobl ‘gyffredin’ yw’r mwyaf gwallgof ohonom i gyd – gan nad ydynt, gan amlaf, yn gallu amgyffred yn llawn eu gwir gyflwr! Fel yr alcoholig, mynnant nad oes dim byd yn bod arnyn nhw, a bod disgwyl i bawb fyw yn unol â’u byd-olygon hwy.

Drwy ollwng gafael ar yr atodiadau hyn a hawlio ein pŵer yn ôl – hynny yw, trwy ein ffydd – mae’r dewis gennym wedyn yng Ngham 11 i droi mewn gweddi at Dduw neu Bŵer mwy na ni’n hunain, a gofyn yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer, a’r gallu a’r doethineb i weithredu’r ewyllys honno yn ein bywydau a’n byw bob dydd. Golyga’r byw newydd hwn wedyn nad ydym yn gofyn am ddim arall, yn disgwyl dim arall, ac yn derbyn popeth arall a ddaw.

Mae rhywun yn gallu deall i raddau ymateb y sefydliad ar y pryd i ddysgeidiaeth Iesu. Chwyldroi cymdeithas oedd ei fwriad ac, o ddarllen dim ond yr uchod, mae rhywun yn synhwyro’r bygythiad affwysol sydd ymhlyg ynddynt i’r status quo: ‘Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i’r tlodion’ (Mathew 19, adn. 21). Ydych chi’n gweld be dwi’n feddwl? Mae’n mynnu gwerthoedd cwbl wahanol a byd-olwg sy’n anathema i lawer sy’n gaeth i werthoedd materol ac ego-ganolig ein bod cyfoes.

Yn ôl yr awdur a’r athro eciwmenaidd Richard Rohr, yn ei lyfr The Divine Dance (2016), dim ond y rhai sy’n troedio llwybr rhyfeddod neu ddioddefaint sy’n gallu mynd y ffordd hon. Dyna pam rwy’n mynnu taw dioddefaint, o bosib, yw’r grym mwyaf creadigol sy’n bod ym myd natur. Dyna’n sicr yr unig beth sy’n cael llawer ohonom i newid ein ffyrdd.

Cyfle yw Cam 11, felly, i ni ddarganfod, neu ddwysáu, ein taith ysbrydol ein hunain. Ac mae’r camau rydym yn eu cymryd i wneud hynny yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y diwylliant rydym wedi’i fagu ynddo, ein profiad o ysbrydolrwydd, a’r hyn sy’n gweddu orau i’n natur bersonol.

Mae ein hysbrydolrwydd wedi bod yn datblygu byth ers i ni ddechrau adfer. Rydyn ni’n newid yn barhaus, ac felly hefyd ein hysbrydolrwydd. Mae tiroedd newydd, pobl newydd, a sefyllfaoedd newydd yn cael effaith arnom, ac mae’n rhaid i’n hysbrydolrwydd ymateb iddynt.

Mae archwilio a dwysáu ein hysbrydolrwydd yng Ngham 11 yn brofiad dadlennol a gogoneddus. Cawn ein cyflwyno i syniadau newydd. Oherwydd ein bod wedi datblygu a thyfu’n ysbrydol drwy weithio’r camau blaenorol, darganfyddwn fod ein mewnwelediad a’n gallu i amgyffred gwybodaeth newydd amdanom ni ein hunain a’n byd wedi tyfu hefyd. Mae’r drws ar agor i ni arbrofi’n ysbrydol, a down i ddarganfod gwirioneddau personol dwys drwy ein hymdrechion i ddeall mwy o’n bywydau, a hynny yn y manylion mwyaf di-nod, weithiau.

Pan ddown i’n hadnabod ein hunain o ganlyniad i’r camau hyn, y da a’r gwachul, a’u derbyn, down yn anochel i adnabod Duw’r Tad. Y nod wedyn yw cadw cysylltiad ymwybodol parhaus gyda’r Duw hwn (o’n deall ein hunain ohono), a dwysáu’r berthynas, fel bod ein bywydau, pob eiliad effro wedyn, yn bartneriaeth gydag O neu Hi – hynny yw, mewn geiriau eraill, yn weddi barhaus. Yn hytrach na chanu ‘unawd’ fel petai, o hyn ymlaen, ein bwriad yw canu ‘deuawd’ gyda Duw; cydnabod ein hangen a chofleidio’r berthynas ym mhopeth a wnawn. Popeth. Pan fyddaf yn gwneud paned o de i rywun, hyd yn oed, mae rhywbeth arbennig am y baned de honno, oherwydd nid fi a’i paratôdd, ond fi a Duw.

Gollwng gafael, gadael fynd, felly, yw adferiad. Cael gwared ar bob dibyniaeth ar bethau materol ac ego-ganolig a ‘rhoi fy hun yn gwbl iddo’. ‘Surrender absolutely’ yw term y Sais amdano – ‘ildio’n gyfan gwbl.’

Erbyn hyn rwyf wedi dod i sylweddoli pa mor ddiymadferth ydw i mewn perthynas â’r byd a’i bethau a phobl. Fy hun, does gen i bŵer dros ddim oll na neb, ond gyda Duw, mae gen i’r Pŵer ‘i symud mynyddoedd’, chwedl y Gair –cyn belled â bod pob ‘symud’ a phob ‘mynydd’ er gogoniant i Dduw ac yn gydnaws â’i ewyllys Ef neu Hi ar fy nghyfer. Dim ond cyrraedd a chynnal sobrwydd oedd fy nod ar ddechrau’r daith, ac mae medru cyflawni hynny – sef gwneud rhywbeth na fedrwn ei wneud drosof fi hun cyn hynny – yn wyrth ynddo’i hun, ac yn sicr yn rhan o ewyllys Duw ar fy nghyfer. Ond ar ben hynny, erbyn hyn, mae gen i’r gallu i fyw gydag urddas, i garu fy hun ac eraill, i chwerthin, ac i ddarganfod llawenydd a phrydferthwch yn fy amgylchfyd.

Yn y foment yma mae Duw yn gweithredu, wrth gwrs. Dyna bwysigrwydd ‘myfyrdod’ yn y cam hwn – ein dysgu i fyw yn y foment ac nid â’n sylw ar yfory (a’i ofnau a’i bryderon) nac unrhyw ddoe (a’i euogrwydd a’i gywilydd). “With one eye on yesterday and one eye on tomorrow,” meddai’r hen ddywediad, “I was cockeyed today!” A’r atyniad mwyaf dros ddysgu byw yn y foment yw bod gennym ni wedyn, o ganu’r ‘ddeuawd’, y gallu, y nerth, y doethineb a’r dyfalbarhad i ddelio ag unrhyw beth y bydd bywyd yn ei daflu atom yn ystod y diwrnod hwnnw. Wrth fyw yn y foment, gwyddom y gallwn oroesi digwyddiadau’r diwrnod yn fuddugoliaethus. Dyw hyn ddim yn ein hamddiffyn rhag trasiedïau, sialensau a siomedigaethau byw bob dydd, wrth gwrs, ond mae’n golygu y gallwn ddod drwyddynt oll – fel trwy Ddyffryn Baca – i fyw pob ‘heddiw’ fel diwrnod sy’n werth ei fyw.

Ac mae’r cyfan yn deillio o wyleidd-dra. Y sylweddoliad creiddiol ‘na fedr un pŵer meidrol ein rhyddhau ni o’n halcoholiaeth (neu beth bynnag ydy’r ddibyniaeth)’. Os ydw i’n gobeithio goroesi fy nibyniaethau a byw, yna mae’n rhaid i mi ganfod Pŵer mwy na fi fy hun – Pŵer a all wneud drosof yr hyn sy’n ymddangos yn amhosib. Ond mae’n Bŵer – fel ‘ein bara beunyddiol’ – sy’n dod i ni gyda phob heddiw o’r newydd, un dydd ar y tro; ac mae’n Bŵer y mae’n rhaid i ni, drwy weithio Cam 11, ei faethu er mwyn ei gynnal a’i ddwysáu.

Mae effeithiau’r cam hwn yn amlygu eu hunain ym mhob agwedd o’n bywydau. Dechreuwn deimlo’n fodlon gyda’n bywydau. Nid ydym bellach yn teimlo’r angen i reoli pethau. Rydym yn canolbwyntio ar bethau uwch yn hytrach na ni’n hunain. Rydym yn llai edifar am bethau. Ni welwn ein dibyniaeth mewn goleuni mor negyddol wrth i ni ddefnyddio’n profiadau i wasanaethu pwrpas uwch – cyfleu gobaith i’r rhai hynny sy’n dal i ddioddef.

Yng Ngham 12 y mis nesaf, fe archwiliwn wahanol ffyrdd o wneud hynny, a gweld sut mae ymarfer egwyddorion adferiad yn hanfodol i’r fath ymdrech.

 

 

Geiriau’r Gatalones

Geiriau’r Gatalones

Bydd amryw ohonoch wedi clywed am y Chwaer Teresa Forcades, y lleian o Gatalonia sydd wedi syfrdanu pobl wrth fod yn ffeminydd, yn genedlaetholwraig a diwinydd diflewyn-ar-dafod. Yn y cyfieithiad Saesneg o’i llyfr Faith and Freedom mae hi’n dyfynnu beth ddwedodd hi yn 2010 pan ofynnwyd iddi beth oedd ei chredo.

Faith and Freedom, Teresa Forcades

Rwy’n credu, uwchlaw pobpeth, mewn maddeuant. Rwy’n credu bod mesur ein gallu i faddau yn datguddio’r gwirionedd noeth am fesur ein gallu i garu. Caf fy synnu’n aml wrth gwrdd â’r gallu hwn mewn pobl nad ydw i’n eu hedmygu’n arbennig, ac yn gweld ei absenoldeb mewn pobl eraill rwy’n eu caru’n annwyl. Mwy nag unwaith rwy wedi cwrdd â chryn anhawster i faddau ac wedi cael profiad o’r wyrth o dderbyn maddeuant. Mae’n debyg i gael eich haileni. Cael eich geni o gariad. Dywed yr efengyl wrthym fod y bechadures wedi dangos cariad mawr am fod cymaint wedi ei faddau iddi. (Luc 7:47) Mae’n ein rhybuddio hefyd y gall person y maddeuwyd llawer iddo drin pobl eraill yn grintach a didrugaredd (Mathew 18:23–35).

A dyma ail ran fy nghredo. Rwy’n credu mewn rhyddid; rwy’n credu mewn torri’r gadwyn achos ac effaith am fod hynny’n peri agor y byd i farddoniaeth; mae hefyd yn agor y posibilrwydd o anghyfiawnder damweiniol. Credaf mai maddau yw’r weithred fwyaf o ryddid. Mae’n golygu y gellir maddau popeth, ond na ellir gorfodi neb i faddau. Allwch chi ddim gorfodi maddeuant a fedrwch chi ddim rhag-weld beth fydd ei ganlyniad. Gall y wraig sy’n maddau i’w gŵr am ei cham-drin benderfynu hyd yn oed wrth faddau na allan nhw fyw gyda’i gilydd eto. Duw yn unig all farnu beth yw dilysrwydd a maint gweithred o faddau. Mae maddau yn weithred tra rhesymol am ei fod yn cydnabod bod rhywbeth amgen na pheiriant yn rheoli’r byd. Mae maddau yn weithred sy’n ein galluogi i greu, fel Duw – gweithred sy’n caniatáu i ni ddechrau o’r newydd eto, saith gwaith saith deg (Mathew 18:22)

Enid Morgan

Golygyddol

 

(h) Iestyn Hughes

Golygyddol

Mae Sul y Cofio yn agosáu eto. Bydd y pabi coch yn dechrau ymddangos ar ddillad y darllenwyr newyddion a bydd pobl y pabi gwyn hwythau yn rhoi tystiolaeth o’u rhinweddau ac yn rhoi prawf o’u heddychiaeth. (Gall swnio’n bur ymosodol weithiau. A sut mae dadlau achos heb swnio felly?) Beth yw’n hamcan wrth ddewis gwisgo pabi coch neu babi gwyn?

Yn y ddadl hon rydw i wedi bod yn euog. Nid o hoffi byddin/llynges/llu awyr, ond o fod wedi bod dan ddyletswydd i arwain gwasanaethau ar ddydd y cofio, a derbyn baneri a’u gosod y tu cefn i’r allor. Mynnais na chenid na ‘God Save the Queen’ na ‘Hen Wlad fy Nhadau’ nes i’r gwasanaeth ddod i ben, gan fod y naill yn ormesol a’r llall yn waedlyd. Dydw i ddim yn credu bod neb wedi sylwi!

Bu cyfnod, ddeugain mlynedd yn ôl, pan oedd gwasanaeth cofio yn ddiflastod i mi. Roeddwn yn cysylltu Sul y Cofio gyda’r Lleng Brydeinig, gyda chwrw a phobl oedd yn cadw draw o’r capel. (Dyna i chi awyrgylch y 1940au a’r 1950au) Y drafferth yw, wrth fynd yn hŷn, eich bod chi’n dod i adnabod pobl yn well. Dowch i weld bod unigolion yn y mudiadau hyn yn gofalu am weddwon a phlant, ac yn gwerthfawrogi gwasanaeth a gorymdaith am fod y rheini yn arwydd o gofio a gwerthfawrogi, yn rhoi gwerth a rhyw fath o urddas ar eu profiadau. Byddai ambell gyn-aelod o’r fyddin hefyd yn cadw draw â dicter naturiol yn eu calonnau. Mae gennym ni hawl i gofio yn ein ffyrdd tra amrywiol ein hunain.

 

Lladdwyd dau hen ewythr i mi ym mrwydr y Somme. Dydw i ddim yn eu cofio, ond rwy’n cofio’r effaith gafodd eu colli ar eu rhieni, eu chwiorydd a’u plant. Wrth i luoedd o bobl wisgo pabi coch, symbol eithriadol o bwerus, i gofio am eu perthnasau hwy, does gen i ddim awydd cynnal dadl am y symbol. Rwy’n barod i gofio ac uniaethu fy nhamed cofio i â’u cofio hwy. Cofio gyda thristwch, ac arswyd a rhyw fesur o edifeirwch. A maddau rhyw elfennau o’r hanes. Mae symbolau’n newid eu hystyr.

Ac rwy’n cofio na fyddai’r capel, pan oeddwn yn blentyn, yn cofio nac yn nodi’r achlysur o gwbl. Yr adeg honno doedden nhw ddim yn defnyddio pabi gwyn, er mai heddychwr oedd y gweinidog. Efallai mai hynny oedd yn briodol ac anochel yn y cyfnod hwnnw.

Mae yna les wedi dod o nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sef bod teuluoedd wedi adennill eu cofion a’u papurau, ac mae’n siŵr gen i y byddai’r pabi gwyn yn cyfleu eu teimladau’n well na’r pabi coch. Oes ots? Ydi’r cwbl yn ddim ond fi’n gwamalu (eto) rhwng dau feddwl? Eleni rwy’n mynd i geisio cofio heb hawlio dim amdana i fi fy hun. Cofio heb ddadlau nac ymhonni.

Pwnc arall sy wedi mynd yn syrffedus yw Arlywydd yr Unol Daleithiau. Oes angen i mi brofi faint rwy’n ei gasáu a phopeth mae’n ei gynrychioli? Dim ond pentyrru casineb a dicter ar ben casineb brwd y cyfryngau fyddai hynny. Mae ’na restr hir o bethau sydd wedi fy nghythruddo; mae’r ffordd ffuantus y mae’n rhoi ei fysedd at ei gilydd wrth bwysleisio rhyw osodiad neu’i gilydd yn codi syrffed sy’n brawf fy mod mor llawn atgasedd â phawb arall. Oes, mae cystadleuaeth yn mynd ymlaen. Dyna fi wedi trio profi mod i ar yr ochr iawn!

Ond mae ’na ochr beryglus i hyn i gyd, ac nid y lleiaf o’r peryglon yw’r ffaith fod yr Arlywydd yn ffynnu ar wrthwynebiad. Dyw e ddim yn credu mewn ymddiheuro na chyfaddef y camsyniad mwyaf amlwg. Felly, mae ymosodiadau personol arno yn gwbl ddi-fudd, yn wir yn cael yr effaith wrthwyneb o borthi hunangyfiawnder a phrocio hunan-bwys.

Mae’n faen tramgwydd cyson. Ond y mae’r ymateb iddo hefyd yn dweud llawer iawn amdanom ni’n hunain. Rydyn ni fel petaem yn cael blas ar groesi cleddyfau ag ef. Chwiliwn am beth mae’r adyn wedi ei ddweud y tro hyn, gan obeithio’i fod wedi rhoi ei droed ynddi’n derfynol. Rydyn ni mewn perygl o fwytho’n dicter.

Beth felly i’w wneud ond gwrando’n ofalus ar Americaniaid rydyn ni’n eu parchu. Penderfynu rhoi’r gorau i waldio’r Arlywydd, a mynd ati i ddadlau yn erbyn polisïau. Ac yma ym Mhrydain y polisi i ddadlau amdano wrth gwrs ydi Brexit, y celwyddau a’i gwnaeth yn bolisi ac yn ewyllys y bobl.

Po fwyaf y mae rhywbeth yn ein tramgwyddo, y mwyaf y dychwelwn ato i’w grafu. A gwres sy’n cynyddu, nid golau. Mae’r hyn sy’n ein cythruddo wedi mynd yn fagl, magl ein ffug ddaioni ni ein hunain. Pa fwyaf y protestiwn gyda’n gilydd, mwyaf i gyd y mwynhawn y profiad.

Oes modd siarad am faterion cyhoeddus heb fynd yn bersonol? Mae’n fater o bwys fod Cristnogion yn gwneud rhyw ymdrech i wneud hynny. Dyma ddyletswydd y mae’r efengyl yn ei gosod arnom ni. Peidiwn â bwydo’r casineb sgandalaidd – er lles y drafodaeth gyhoeddus ac er ein lles ein hunain hefyd. Gall y ddisgyblaeth ein hamddiffyn rhag llithro i hunan-dyb a hunangyfiawnder. Nid ni piau edmygu ein hunain. Wrth eu ffrwythau …

Enid Morgan