E-fwletin 5 Tachwedd, 2017

Yn ddiweddar bum mewn noson i gyflwyno’r gyfrol “Our Holy Ground” gan John Morgans a Peter Noble. Is-deitl y gyfrol yw “The Welsh Christian Experience”, sy’n ddisgrifiad teg o’r cynnwys, oherwydd yr hyn sydd yma yw cyflwyniad o’n hanes Cristnogol ni fel Cymry ar gefnlen hanesyddol y cenedlaethau dros ddwy fil o flynyddoedd.

Bydd John Morgans yn gyfarwydd i rai trwy ei waith gyda’i wraig Norah yng Nghanolfan Gristnogol Penrhys yn y Rhondda. Trwy’r ganolfan hon y daeth John Morgans a Peter Noble i gysylltiad â’i gilydd, y ddau wedi gwasanaethu fel gweinidogion gyda’r URC ac wedi cydweithio ym Mhenrhys. Ond i bwrpas y llyfr hwn John sydd wedi ysgrifennu’r testun a Peter wedi tynnu’r lluniau – 150 ohonynt mewn lliw/du a gwyn, yn gapeli ac eglwysi, yn gerfluniau a cherrig nadd, Clawdd Offa a wal Cofio Tryweryn.

Mae’r llyfr yn olrhain ffurfio cenedl y Cymry i’r cyfnod rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid o’r ynysoedd hyn ar orchymyn Macsen Wledig yn y flwyddyn 383, a glaniad Gwilym Goncwerwr yma yn 1066. Dyna’r pryd yn ôl John Morgans y daeth Cymru fel endid tiriogaethol a diwylliannol i fod, ac roedd hynny yn rhannol o ganlyniad i fywyd a gwaith y mudiad Cristnogol.

O ddyddiau’r Saint a’u cymunedau a datblygiad y ‘llan’ a’r ‘clas’, ymlaen trwy’r cyfnod Catholig a’r Diwygiad Protestannaidd (y dathlwyd 500 mlwyddiant ei ddechreuad yr wythnos ddiwethaf); ymlaen wedyn i gyfnod sefydlu’r enwadau anghydffurfiol a’r diwygiadau hyd 1904-05, cawn ein harwain i rannu cyffro’r ffydd o genhedlaeth i genhedlaeth. Gwneir hynny mewn iaith syml ac eglur a hynod ddarllenadwy.

Cawn olwg ar y dadrithiad crefyddol rhwng y ddau Ryfel Byd, ac ymlaen wedyn at chwalfa fawr y patrwm crefyddol yn ail hanner yr 20fed. ganrif, ac i gyfnod ôl-Gristnogol yr Unfed-Ganrif-ar-Hugain.

Myn yr awduron bod y gyfrol hon ar gyfer pawb sy’n byw yng Nghymru ag sydd â diddordeb yn stori neilltuol y gwahanol genhedloedd sy’n byw ar yr ynysoedd hyn. Iddynt hwy mae parhad y traddodiad Cristnogol Cymreig yn mynd i ddibynnu ar barodrwydd y tri phrif raniad  o fewn y traddodiad hwnnw, sef Catholigiaeth, Alicaniaeth ac Anghydffurfiaeth, i gydnabod dilysrwydd ei gilydd o fewn Corff Crist.

Maent yn gweld Canolfan Penrhys fel esiampl i holl gymunedau Cymru, nid yn unig gan ei bod yn gynhwysol o ran y traddodiadau crefyddol,  ond wrth ei bod hefyd wedi ei gwreiddio yn y gymuned, ac yn dathlu treftadaeth amrywiol y gymuned – yn gerddorol, yn llenyddol, yn gelfyddydol yn ogystal â’i gwleidyddiaeth radical ac anghydffurfiol.

Tynnwyd y ddau lun olaf ar gyfer y gyfrol yr un diwrnod. Y naill yw llun o ffenestr liw yn eglwys Llanfair ar y Bryn, a oedd yn rhodd i’r eglwys gan John Petts i gofio am y gwrthodedig, yr estron, y di-enw. Yn llachar ruddgoch ei ffrâm mae yn y ffenest ddau air – ‘Câr di’; galwad, gorchymyn yn wir, ar i ni garu. Y geiriau ‘Duw Cariad Yw’ sydd i’w gweld ar fur yng nghapel Soar y Mynydd yw’r  llun arall.

Cred John Morgans a Peter Noble bod y ddau lun yma yn cyfuno i roi’r “ateb dwyfol” i’r hyn roeddent wedi bod yn chwilio amdano ar eu pererindodau ar hyd ac ar led Cymru yn paratoi’r gyfrol hon. ‘Câr di’ a ‘Duw Cariad Yw’.  “Roedd yn glo teilwng” meddent,  “i’n siwrnai, neu tybed ai dyma ddechrau’r siwrnai?”  

Dyma gyfrol gwerth cael golwg arni. Y Lolfa yw’r cyhoeddwyr a’r pris yn £9.99.