Dyheu a breuddwydio

Dyheu, gobeithio, breuddwydio – ysgrythur i’r Adfent

Addasiad o syniadau gan Brian Mclaren yn We Make the Road by Walking ar gyfer gwersi a phregethu yn yr Adfent

Daniel 7:9–28; Eseia 40:9–11; Luc 1:67–79

Mae byw yn golygu chwennych, gobeithio a breuddwydio, ac mae’r Beibl yn llyfr am chwennych, am obeithio a breuddwydio.

Mae’r stori sydd yn y Beibl yn dechrau gyda dyhead Duw am fyd da a hardd a ninnau’n rhan ohono. Yn fuan bydd rhai’n dyheu am bŵer i ladd, i gaethiwo neu orthrymu eraill. Mae pobl sy’n cael eu gorthrymu yn gobeithio am ryddid, rhai sy’n crwydro yn yr anialwch yn dyheu am wlad yr addewid lle y gallan nhw setlo i lawr. Mae pobl sydd wedi cael setlo yn dyheu am amser yr addewid pan na fyddan nhw’n cael eu rhwygo gan anghytuno a chweryla, nac yn cael eu rheoli gan grachach pwdr na chenhedloedd cryfach gerllaw.

Mae dyheu, gobeithio a breuddwydio yn arwain at weithredu; nid dim ond dymuno a wneir. Gallwn ddymuno yn lle gweithredu, rhyw obeithio y bydd popeth yn ol-reit yn y man. Dim ymddisgyblu i weithio, ymdrechu, aberthu na chynllunio. A heb y pethau hynny, does dim byd yn newid. Ond mewn ffordd gwbl wahanol mae ein dymuno a’n gobeithio yn peri i ni weithredu. Mae plant sy’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl tyfu lan yn gweithio i’r amcan hwnnw – boed hynny’n bod yn gerddorion neu’n ddoctoriaid. Maen nhw’n trefnu eu diddordebau yn ôl eu gobeithion.

Yn y Beibl y proffwydi sy’n casglu ynghyd obeithion, dyheadau a breuddwydion eu cymdeithas. Maen nhw’n herio’u pobl i fod yn gyson, a phan welan nhw bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy’n groes i’w gwir ddyheadau maen nhw’n dweud hynny (Eseia 11:1–2, 6, 9 a 42:1–3). Pa syndod fod Iesu’n dyfynnu cymaint o lyfr Eseia. Ond mae proffwydi fel Eseciel a Malachi yn ychwanegu eu lliwiau arbennig hwy at y gobeithion hyn i gyd.

Ni fu i’r breuddwydion hyn drengi yn y blynyddoedd rhwng y proffwydi ac amser Iesu, ac mae’r breuddwydion hyn yn cael eu crynhoi yn y cymeriadau yn y stori am eni Iesu mewn pobl fel Elisabeth a Sechareia, Mair a Joseff, Anna a Simeon. Mae byw antur bywyd gydag Iesu yn arwain at ddyhead, breuddwyd a gobaith i’r dyfodol. Mae’n fater o droi’r gobaith yn weithredu, a dal ati beth bynnag fo’r siomedigaethau a’r disgwyl. Gadewch i ni felly gychwyn yr Adfent drwy gynnau cannwyll i gofio am y proffwydi a gyhoeddodd eu gobeithion, eu dyheadau, a’u breuddwydion.

 

Awgrymiadau i grisialu ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd

  1. Pa un syniad sy’n eich taro, eich diddori, eich procio, eich herio a’ch calonogi?
  2. Wnaethoch chi erioed golli gobaith neu ddal i obeithio?
  3. Beth yw’ch ymateb chi i ddelweddau Eseia a sut fyddech chi’n trosi’r delweddau o’r hen Ddwyrain Canol yn ddelweddau o’r byd heddiw?
  4. Gyda’r plant: beth ydych chi’n gobeithio bod neu ei wneud pan fyddwch chi wedi tyfu lan? Pam?
  5. Gweithredu: yr wythnos hon, chwiliwch am ddigalondid neu siniciaeth ynoch chi’ch hunan. Rhowch her i chi’ch hun i fod yn sinicaidd am eich siniciaeth a herio’ch hunan i fod yn broffwydol obeithiol.
  6. Myfyrio: cyneuwch gannwyll a dewis un ddelwedd o waith y proffwydi y soniwyd amdanynt. Yn syml, daliwch y ddelwedd yn eich calon, ym mhresenoldeb Duw mewn distawrwydd.
  7. Os yw hynny’n ysgogi gweddi syml ynoch – ysgrifennwch hi, neu dwedwch hi.