Archifau Categori: Newyddion

Gweddi’r Nadolig

Neges gan Cynnal am eu gweddi ar gyfer y Nadolig.

Pob Nadolig ar ran Cynnal a holl staff a defnyddwyr y Stafell Fyw, CAIS ac Adferiad Recovery, rydym yn anfon allan gyfarchion ar ffurf gweddi i Gymru gyfan.

Y Nadolig hwn y Parchedig Denzil I John, gweinidog y Tabernacl, Caerdydd, sy’n gyfrifol am weddi Adfent 2020, sydd wedi ei hatodi. Diolch Denzil – am y gymwynas hon ymhlith nifer dros y blynyddoedd. 

Cliciwch yma i lawrlwytho’r weddi ar ffurf .pdf

Nid yw’n amser hawdd i lawer. Yr ydym lle’r ydym, er gwell, er gwaeth.  

Ry’n ni’n ddiolchgar nad yw popeth yn dywyll. Ry’n ni’n ddiolchgar am y rhai sydd yna i ni yn ein hangen, yn cynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth a dealltwriaeth. Boed i ni mewn rhyw ffordd fach fod yna i’r rhai sydd ag anghenion nid annhebyg i ni. Boed i ni fod yn anrhegion y naill i’r llall. 

Nadolig llawen ichi gyd ar waethaf popeth – a diolch am bob cefnogaeth yn ystod y flwyddyn gythryblus a aeth heibio. Boed i Dduw tangnefedd roi ei dangnefedd i ni, beth bynnag a wnawn ac i ble bynnag yr awn heddiw a phob dydd. 

Wynford Ellis Owen 

Sul Adferiad 2020

Bydd dydd Sul 25ain o Hydref, 2020, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru. 

Cliciwch ar y llun i lawrlwytho’r gwasanaeth

Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis y Stafell Fyw, CAIS ac Adferiad Recovery, ond hefyd i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth.  Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!”  Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw. 

Elin Maher sy’n gyfrifol am baratoi’r gwasanaeth ac ynddo mae’n myfyrio ar y gair DEFNYDD – y defnydd yn ein dillad a’r defnyddiau sydd o’n cwmpas a’r weithred o ddefnyddio.  

Mae croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gellir ei ddadlwytho o’n gwefan: www.cynnal.wales   Neu fe allwch lawrlwytho’r pdf Cymraeg wrth glicio ar y llun uchod neu’r ddolen hon.

 Dyma nawfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; yn gofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw. 

 Diolch rhagblaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth. 

Wynford Ellis Owen 
Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol/ Specialist Counselling Consultant  

CYNNAL, y gwasanaeth Cwnsela Eglwysig sydd ar gael ar draws Cymru i’r holl Glerigwyr, Gweinidogion yr Efengyl, gweithwyr Cristnogol a’u teuluoedd.

Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

Fel y gwyddoch, does dim tâl aelodaeth am gael ymuno â Cristnogaeth 21, ac ni fyddem yn dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn gorfod codi tâl yw er mwyn clirio costau cynnal encil neu gynhadledd.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynwyd lansio apêl i dalu am ddatblygu’r wefan a sefydlu’r cylchgrawn digidol Agora, a chafwyd ymateb rhagorol mewn byr amser bryd hynny.

Erbyn hyn, rydym yn gorfod cydnabod bod cynnal y wefan yn faich ariannol, a heb incwm o unrhyw fath mae’n amlwg nad yw’r fenter yn gynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg rydym wedi lansio apêl ariannol newydd am gefnogaeth ariannol gyson. Yn hytrach na chodi tâl aelodaeth penodol, gofynnwn i’n cefnogwyr ystyried cyfrannu’n fisol neu’n flynyddol ar sail wirfoddol tuag at gostau rhedeg C21.

Fe welwch dair ffurflen ar y wefan, i’w defnyddio yn ôl y gofyn gan ddibynnu ar sut y bwriadwch gyfrannu. Mae’r gyntaf ar gyfer archeb sefydlog drwy’r banc, sy’n ffordd hwylus a didrafferth o dalu. Mae’r ail ffurflen yn berthnasol i daliadau electronig neu drwy siec, ac mae’r ffurflen olaf yn rhoi caniatâd i ni hawlio 25c Rhodd Cymorth am bob £1 yr ydych yn ei gyfrannu.

Bydd rhai caredigion yn siŵr o fod yn ceisio dyfalu pa fath o swm y dylid ei gyfrannu. Tybed a fyddai modd ystyried y canlynol:

  • isafswm o £30 y flwyddyn i rai sydd mewn gwaith
  • isafswm o £20 y flwyddyn i rai sydd wedi ymddeol
  • fydden ni ddim yn disgwyl unrhyw gyfraniadau gan fyfyrwyr na rhai diwaith.

Diolch o galon am eich haelioni a’ch cefnogaeth gyson i Cristnogaeth 21.

Bywydau Du o Bwys – datganiad yr Eglwys yng Nghymru

Oddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru 

Mae Grŵp Rhyngwladol yr Eglwys yng Nghymru yn cadarnhau ei ymrwymiad i frwydro yn erbyn hiliaeth yn ei ymateb i lofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau yr wythnos hon.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, mae’r grŵp a gadeirir gan Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi, yn datgan ei gefnogaeth i ymgyrch #BlackLives Matter.

Mae’r datganiad llawn yn dilyn:

Mae’r digwyddiadau presennol yn yr Unol Daleithiau wedi tynnu sylw’r byd at anghyfiawnder eithafol goruchafiaeth y dyn gwyn a hiliaeth. Wrth herio hiliaeth mae gan yr Eglwys lawer i’w ddysgu ac i edifarhau amdano. Fodd bynnag, mae’r ffydd Gristnogol yn glir fod pawb yn gyfartal o flaen Duw ac yn cael eu gwerthfawrogi. Wedi’n brawychu gan lofruddiaeth George Floyd, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i weithio gydag eraill i frwydro yn erbyn hiliaeth. Rydym yn datgan, yn ddigamsyniol, fod Bywydau Du o Bwys #BlackLivesMatter.