Bydd dydd Sul 25ain o Hydref, 2020, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.
Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis y Stafell Fyw, CAIS ac Adferiad Recovery, ond hefyd i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw.
Elin Maher sy’n gyfrifol am baratoi’r gwasanaeth ac ynddo mae’n myfyrio ar y gair DEFNYDD – y defnydd yn ein dillad a’r defnyddiau sydd o’n cwmpas a’r weithred o ddefnyddio.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gellir ei ddadlwytho o’n gwefan: www.cynnal.wales Neu fe allwch lawrlwytho’r pdf Cymraeg wrth glicio ar y llun uchod neu’r ddolen hon.
Dyma nawfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; yn gofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.
Diolch rhagblaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth.
Wynford Ellis Owen
Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol/ Specialist Counselling ConsultantCYNNAL, y gwasanaeth Cwnsela Eglwysig sydd ar gael ar draws Cymru i’r holl Glerigwyr, Gweinidogion yr Efengyl, gweithwyr Cristnogol a’u teuluoedd.