Archif Awdur: Golygydd

Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

 

Nid yw Coleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru yn enwog am weithredu’n sydyn yn ei benderfyniadau – corff gofalus ydyw. Ond yr oedd enw Joanna Penberthy yn codi’n gyson ymhlith y rhai oedd wrthi’n trafod yn yr wythnosau diwethaf cyn y penderfyniad.  “Mae hi hefyd,” meddai cyfaill bachog ei ymadrodd “yn caru Duw”.

Doedd dim amheuaeth chwaith am ei gallu, ei phersonoliaeth, ei chynhesrwydd a’i chryfder. Mae hi’n ddiwinydd praff ac yn offeiriad profiadol, ac mae hi wedi gweithio yn y dalaith ac ar bwyllgor y corff sy’n rheoli’r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi (Y Chapter – Cabidwl) Y mae hi’n ferch sydd wedi cael profiad personol o’r anhawsterau a fu’n gymaint tramgwydd ac annhegwch i ferched drwy’r degawdau diweddar. Mae hi wedi magu teulu o bedwar o blant, wedi dal i weithio (yn aml heb gyflog – onid dyna ddyletswydd pob gwraig i offeiriad?) a gweithiodd mewn tîm o swyddogion datblygu yn y Bwrdd Cenhadu – ac mae Tyddewi’n llawen i’w chroesawu nôl. Mae ganddi, fel dysgwraig, sylfaen o Gymraeg graenus, a nawr bod rhaid iddi ei ddefnyddio, dïau y gwnaiff hi dyfu’n llawer iawn mwy rhugl.

Bydd hi’n gyfreithiol yn esgob ar ôl cyfarfod o’r Synod ar Dachwedd 30. Fe’i hordeinir gan yr Archesgob Barry yn eglwys gadeiriol Llandaf ar Ionawr 21 ac fe gymer feddiant o’i chadair, ei cathedra yn  Nhyddewi ar Chwefror 11. (Dyma a elwir yn wasanaeth gorseddu, os gwelwch yn dda.)

Mae gwreiddiau ffydd Joanna Penberthy yn y maes efengylaidd, ond mae hi’n arddel dylanwad y traddodiad Catholig – ac ar hyn o bryd yn ymddiddori’n fawr mewn  ffiseg quantum a’r dylanwad posibl ar iaith diwinyddiaeth.  Dydi hi ddim yn dehongli’r Ysgrythur yn llythrennol nac yn arddel Iawn Dirprwyol. Dyna’r pethau pennaf sy’n poeni cristnogaeth21!

Mae hi’n dod yn Esgob ar gyfnod tyngedfennol i’r eglwys, pan yw pob esgobaeth yn newid ei phatrwm hanesyddol o ofal offeiriad i bob plwyf. Mae hwnnw wedi dadfeilio ers degawdau ond bellach y mae’r plwyfi’n datblygu i weithio gyda’i gilydd mewn ardaloedd gweinidogaeth. Mae’r rhain yn ardaloedd lle y cysylltir sawl plwyf, lle y ceir un offeiriad llawn-amser yn llywio ac arolygu’r gwaith. Gan ddibynnu ar faint yr ardal anelir at gael offeiriaid eraill hefyd, yn cynorthwyo, ac offeiriaid rhan amser di-gyflog, a darllenwyr lleyg i sicrhau cysondeb gwasanaethau, gofal bugeiliol, a chydweithio cenhadol. Un elfen y mae pobl yn gofidio amdano yw’r bwriad i gael gweinidog ‘ffocws” ym mhob un cynulleidfa; lle bo rhywun sy’n barod i ymgymryd â hyfforddiant gallai weithio’n iawn; ond mater tra sensitif yw rhoi awdurdod i unigolion mewn grwpiau bach.

Bishop elect Jo & Canon Enid

Enid Morgan, Golygydd Agora, gyda Joanna Penberthy, darpar esgob Tyddewi

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed yr oedd MAECymru (Merched a’r Eglwys – Ministry and Equality) yn cynnal ei gyfarfod blynyddol cyntaf yn y Drenewydd. Cadeirydd MAECymru yw Golygydd AGORA, Enid Morgan, wnaeth gyflwyno tusw o flodau a charden llongyfarch i’w hen gyfaill Jo, cyd-weithiwr yn y Bwrdd Cenhadu  yn y 90au.

E-fwletin Tachwedd 6ed, 2016

Chwilio am rywbeth ysgafn i’w ddarllen oeddwn pan es i mewn i un o’r amryw siopau elusen sydd yn yr ardal. Ymhlith y dewis helaeth oedd llyfr gan y newyddiadurwr a’r darlledwr o Gaerdydd, John Humphrys – un o hoelion wyth y BBC ers blynyddoedd. Fel gyda llawer llyfr dwi wedi’i brynu, y teitl a’m denodd i estyn ato,  Beyond Words – how language reveals the way we live now. Llyfr am eiriau ac ymadroddion sy’n ei gythruddo, yn gwneud iddo grafu pen, yn mynd dan ei groen.

*******HI RES******John Humphrys in the Today studio...John Humphrys (next to studio microphones), one of the presenters of the Today radio programme (the news and current affairs programme), which is broadcast on BBC Radio 4 (BBC Radio Four) each weekday morning 6-9am and on saturday"s 7-9am.'; Humphrys, John - BBC News Journalist / Presenter of the Today programme on BBC Radio Four

John Humphrys (Llun: BBC)

Mae iaith yn fwy nag offeryn i ni fynegi’n hunain, meddai, a dwi’n synhwyro mai tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio iaith yn gywir, yn fanwl ac yn ddealladwy oedd ei resymau dros ysgrifennu’r llyfr, a phartner i lyfr blaenorol ganddo yn ymwneud â geiriau,  Lost for Words, “a cry from the heart of an ageing hack who has made his living using words.”

Falle bod rhai ohonoch sy’n darllen y geiriau hyn yn / wedi ennill bywoliaeth yn defnyddio geiriau. Yn sicr, os addolwyr a mynychwyr oedfaon y buom, ac yr ydym o hyd o ran hynny, fe fyddwn wedi boddi mewn geiriau. A beth am y geiriau hynny – geiriau emyn, darlleniad, gweddi a phregeth? Yn gymorth i fyw, i ddeall, i wneud synnwyr o fywyd, yn ateb i’n cwestiynau dyfnaf? Ydy iaith ein crefydda ni yn ateb gofynion a galwadau’r cyfnod rydym yn byw ynddo?

Mae Humphrys yn adrodd stori am wraig yn mynd i Tesco’s un noson. Ar ôl prynu beth oedd ei angen mae’n mynd i dalu, a llanc yn ei ugeiniau yn gwneud beth oedd rhaid. Mae’n rhoi arian iddo ac wrth iddo roi newid iddi mae’n dweud “There you go.”  Ac mae’n ddechrau sgwrs. “Beth yw ystyr hynny?” “Dwi ddim yn gwybod.” “Pam ei ddweud, felly?” “Dwi ddim yn gwybod.” Mae rhagor i’r stori, ond mae’n gorffen gyda’r wraig yn awgrymu i’r llanc y byddai dweud “Diolch” wedi gwneud llawer mwy o synnwyr na “There you go.” A  dyna enghraifft fach o eiriau’n cael eu defnyddio sy’n cyfleu na golygu dim byd mewn gwirionedd.

Tristwch yw clywed pentyrru geiriau “there you go” mewn oedfaon ac ar achlysuron megis gwasanaethau bedydd, priodi a chladdu sydd wedi peidio bod yn ystyrlon i lawer o’r gweddill ffyddlon, heb sôn am y mwyafrif sy’n fodlon eu byd heb na Duw, na Gwaredwr, na chredo, na ffydd – beth bynnag yw ystyr geiriau fel yna!

Tu hwnt i eiriau – sut mae iaith yn datgelu sut rydym nid yn unig yn byw ond yn crefydda nawr.

Gwahoddiad – oes gyda chi eiriau ‘there you go’ yn eich / ein crefydda? Beth am eu rhannu â darllenwyr yr e-fwletin.

Golygyddol

GOLYGYDDOL

Enid Morgan

dail

Mis Tachwedd a Sul y Cofio ar y ffordd. Dyma ni hefyd hanner ffordd drwy’r cyfnod o gofio can mlynedd ers y Rhyfel Byd cyntaf. Bu cryn nerfusrwydd ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuwyd ar bedair blynedd o goffáu. Ofnid y byddai’r cwbl yn cael ei oruwchlywodraethu gan y gyfundrefn filwrol. Nid felly y bu. Bu’n gyfle i bobl gofio – mor fanwl ag y gallent, i chwilio am hen ddyddiaduron a lluniau a thraddodiadau teuluol, i edrych ar ganeuon poblogaidd y cyfnod, i ddysgu am gydymdeimlad tribiwnlysoedd â ffermwyr oedd eisiau cadw’u meibion gartref; cawsom gyhoeddi lluniau a manteisio ar ddisgyblaethau’r haneswyr a’u hystadegau. Mae nodi’r ganrif wedi newid ansawdd y cofio – ac nid yw cofio am y lladdedigion yn gyfystyr â chlodfori rhyfel. Bu mwy nag arfer o ymatal rhag barnu pobl wrth safonau cyfnod mwy diweddar, ychydig llai o hunangyfiawnder. Mae llawer ohonom wedi cael y cyfle i ailddehongli atgofion cam plentyndod; cofio ac arswydo, cofio ac ochneidio. Cofio a phwyllo a chael cyfle i gofio fel Cymry.

aberfan-disaster-1472807809Mae’n ddiddorol sylwi ar y gwahaniaeth rhwng can mlynedd o gofio’r Rhyfel Byd cyntaf a’r hanner can mlynedd ers cyflafan Aberfan. Mae llawer o bobl yn cofio lle roedden nhw pan glywson nhw am y digwyddiad erchyll hwnnw ac mae’r rhaglenni a gynhyrchwyd wedi bod yn wych iawn. A beth yw amcan y cofio? Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae natur y stori’n newid, a chyda phob ailadrodd mae’r dehongliad yn cael ei gymhwyso a’r mesur o ddicter, galar, eiddigedd, dolur, colled, hunangyfiawnder a beio yn newid wrth i’r un sy’n cofio newid a symud ymlaen ac i ambell gam gael ei gywiro, er yn hwyr y dydd.

Mae’n hynod sut y mae naws y cofio wedi newid wrth i rengoedd y genhedlaeth sy’n cofio’r tridegau a’r pedwardegau deneuo. Nid cof personol sy gan y rhai sy’n fodlon sefyll wrth gofeb fach neu fawr bellach, ond cofio sôn am rai y mae eu henwau wedi eu cerfio. Yng Nghymru dan dylanwad heddychiaeth ymneilltuol yr oedd amheuaeth o fartsio’r Lleng Brydeinig a chwifio baneri, a gwisgoedd y mudiadau Prydeinig a’r cadets.

ymbelydreddCyfleir y cwbl yn fachog gan y snechgi beirniadol o wrtharwr yn nofel Guto Dafydd, Ymbelydredd. Wrth fynychu seremoni goffa ym Manceinion dywed yn wawdlyd:

defnyddio cofeb ryfel i anrhydeddu pobl a fu farw mewn protest wleidyddol wallgo, a’r ffaith y bydd clerigwyr Eglwys Loegr yno – yn eu dull arferol, fel cigfrain barus – yn hawlio’r holl alar iddynt eu hunain gyda’u geiriau diogel, siwdo ddiwinyddol.

Siawns nad ydi hynny’n cyfateb i agweddau llawer iawn o Gymry, ac o ddarllenwyr Cristnogaeth21, tuag at Sul y Cofio – a thuag at Eglwys Loegr o ran hynny. Ond y mae hefyd yn enghraifft, o blith llawer, o hunangyfiawnder rhagfarnllyd ac unllygeidiog y Cymro ifanc at lu o brofiadau sy’n ei oddiweddyd wrth fynd trwy driniaeth enbyd ymbelydredd. (Dychwelwn at y nofel drawiadol hon yn y man.) Erbyn hyn mae rhan ohonof yn cydnabod bod y ffurfioldeb cefnsyth yn ffordd o wneud synnwyr a rhoi urddas i brofiadau annynol.

A derbyn bod gwasanaethau gor-filwrol yn bethau anghysurus, sut mae cofio syml, gwylaidd, anymhongar i ddigwydd? Mewn llawer o eglwysi bach gwledig aeth yn arfer i nodi dwy funud o ddistawrwydd ac i ddarllen enwau ac enwau cartrefi’r bechgyn a laddwyd a chenhedlaeth a ysigwyd.

A bod yn bersonol, pan euthum i ofal plwyf mewn tre yn y de, fe newidiodd pethau. Cymerwyd yn ganiataol y byddwn yn rhinwedd fy swydd yn llywyddu ar seremonïau’r Lleng Brydeinig a RAFA. Yn wir, ymysg un o’r seremonïau dinesig cyntaf y bu’n rhaid i mi eu cymryd yr oedd ‘Battle of Britain Sunday’, rhywbeth nad oeddwn i wedi dod ar ei draws erioed o’r blaen. Chefais i ddim llawer o amser i synfyfyrio am y peth cyn cwrdd â hen fachgen hynod o annwyl a fu’n gwasanaethu mewn awyren fomio a ollyngodd fomiau dros Dresden. Roedd wedi bod yn aelod o gôr yr eglwys er 1946 pan ddaeth i Faesteg, syrthio mewn cariad â nyrs o Gymraes o’r ardal a setlo i lawr i fod yn gigydd yn y dre. Gŵr o Sunderland ydoedd, â’i acen bron cyn gryfed ag erioed (nes i chi glywed ei frawd a methu deall hwnnw o gwbl!). Wrth drafod (neu’n hytrach fy nghyfarwyddo ynghylch beth fyddai’n digwydd), daeth yn amlwg fod ei brofiad yn y rhyfel wedi bod yn graith ddifesur ar ei enaid. Wnaeth e ddim ceisio cyfiawnhau, nac ymfalchïo mewn dim.

maesteg_war_memorial

Cofeb Maesteg gan Sedgie http://www.flickr.com/photos/sedgie1979/4095732741/, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=13025657

Soniodd am y gweddwon y bu’n ymweld â hwy dros gyfnod o hanner canrif ac meddai’n ddwys gan ysgwyd ei ben, ‘Vicar, we was only boys!’ I mi, anrhydeddu Gordon Ford a derbyn dilysrwydd ei brofiad yr oeddem. Mynnais, heb i neb ddeall yn iawn pam, fod y ddwy anthem ‘genedlaethol’ i’w canu ar ôl i’r gwasanaeth ddarfod. Ac roedd hances wrth law, a chogio chwythu fy nhrwyn wrth i bobl ganu’r anthemau, gwaedlyd hyn. Nid emynau mohonynt.

Dyma fanylyn arswydus: ym Maesteg doedd dim digon o le ar y gofeb i gynnwys holl enwau’r gwŷr a’r gwragedd a laddwyd. Dros y blynyddoedd dysgais sut yr oedd y gwaith cynhyrchu arfau ym Mhen-y-bont ger gwaelod y cwm wedi trawsnewid bywydau’r teuluoedd wrth i ferched ifanc ddechrau ennill eu harian eu hunain.

wreath1Dyw traddodiad Sul y Cofio ddim yn rhan o dreftadaeth ymneilltuaeth y Gymru Gymraeg ond erbyn hyn mae yna ryw gofio amodol wrth ddefnyddio pabi gwyn. Byddai ymrafael ynghylch beth yw’r ffordd orau o gofio yn ddim mwy na thystiolaeth o hunangyfiawnder.

Mae harddwch a goddefgarwch cyfoes mewn dwy dorch, un wen ac un goch, ochr yn ochr â’i gilydd.


 

guto-dafydd

Guto Dafydd Llun: Cyngor Llyfrau Cymru

A dychwelyd at nofel Guto Dafydd. Dyma i chi ysgrifennu cignoeth a gonest sy’n llawer iawn mwy na chofnod technegol, manwl gywir o driniaeth ymbeldrol. Mae hi’n driniaeth ymbelydrol o gyflwr cymdeithas – a dyna, mae’n debyg, ystyr y pwynt a’r llygad annifyr ar y clawr. Cawn ddisgrifiad byw o brofiad Cymro ifanc sy’n cael triniaeth ar diwmor yn ei gesail ym Manceinion. Nid beirniadaeth gytbwys a gewch yn Ymbelydredd ond chwydfa o ddicter huawdl ar lu o nodweddion ein bywyd cyfoes. Mae’r gwrtharwr o Gymro yn mynd trwy gyfres o brofiadau ac yn gweld pobl mewn gwahanol amgylchiadau ac yn aml fel pe bai’n gweiddi, ‘Gwagedd’. Mae ei brofiadau gyda chriw digartref o brotestwyr gwrthgyfalafol, o grefyddwyr efengylaidd, o arddangosfa am ryfel, o arddangosfa o gelfyddyd fodern, cwis mewn tafarn, massage mewn ystafell gefn – cyfres o ddigwyddiadau – yn gyfle i fynegi dicter a surni. Mae pawb yn ei chael hi gan yr arwr ifanc – bendith ar ei ben – fel petai’r driniaeth yn gwenwyno’i hunaniaeth fregus a’i foesau ansicr. Ar un olwg mae’r stori’n fath o Daith y Pererin ôl-fodern tuag yn ôl, yn llawn dicter.

Dywed yr awdur mai hunan-ffuglen ydyw ac os nad ydych eisoes wedi ei darllen, wel, ewch ati. Mae’n nofel am wacter yn ogsytal â gwae, ac yn destun sblash o drafodaeth am ei bod yn disgrifio’n onest brofiadau credadwy. Mae crebwyll cryno bardd yn yr ysgrifennu, sy’n troi digwyddiad bach fel prynu bananas yn ddatguddiad llwyr!

(Am drafodaeth fanwl ar natur ac amcan cofio, darllener cyfrol hynod Miroslav Wolf, The End of Memory: Remembering Rightly in a Violent World. Eerdmans, ISBN: 978-0-802802989-4.)

(Ymbelydredd gan Guto Dafydd ISBN: 9781784613297 (1784613290 ) Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont Fformat: Clawr Meddal, 195×129 mm, 288 tudalen Iaith: Cymraeg Pris: £8.99)

 

Newyddion Agora

Newyddion Agora

keyboard2

Paratoi ar gyfer 2017

martin-luther

Martin Luther

Mae’r paratoadau i gofio dechrau’r Diwygiad Protestannaidd yn 2017 wedi dechrau yn barod. Bydd yn ddigwyddiad mawr a hanesyddol ac y mae Cerbyd Teithiol y Diwygiad yn dechrau ei daith o Genefa, Dinas y Diwygiad, ar Dachwedd 3ydd, ac fe fydd yn ymweld â  67 o ddinasoedd  mewn 19 o wledydd Ewropeaidd cyn dechrau’r dathliadau ddiwedd Hydref 2017. Mae mudiadau fel CPEC (Cymdeithas eglwysi Protestannaidd yn Ewrop) SEK (Cyngrair Eglwysi Protestannaidd y Swistir), EKD (Eglwysi Efengylaidd yr Almaen) yn ogystal â’r Eglwys Lutheraidd (gyda’i 80 miliwn o aelodau) yn rhan o’r cynllunio. Wrth lansio’r dathliadau dywedodd Olav Tveit, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd, na all cofio’r rhwyg a arweiniodd at y Diwygiad fod yn ddim ond ‘gweithred o rannu’r cyfrifoldeb’ a arweiniodd i Martin Luther hoelio ei 95 o ddatganiadau ar ddrws yr Eglwys yn Wittenburg. Yn yr un ysbryd mae Thomas Bruch, un o arweinwyr yr Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain, yn pwysleisio mai rhywbeth i’r holl eglwys drwy’r holl fyd  – eciwmenaidd –  i’w gofio ar y cyd ydyw. Iddo ef, cofio, dysgu, myfyrdod ac addoli fydd 2017, nid dathliadau. Bellach, meddai, o ‘wrthdaro i gofio’ yw’r pwyslais. Am fwy o wybodaeth am y cofio yn 2017 ewch i www.reformation500.uk

CWM yn dathlu

Mae CWM (Council for World Mission) yn paratoi i ddathlu’r 40ain yn 2017 oherwydd yn 1977 aeth yr hen London Missionary Society LMS (1795) a’r CMS (1836) yn CWM, gyda’i bencadlys bellach yn Singapore. Mae’r gymdeithas yn deulu o 32 o eglwysi sy’n cynnwys eglwysi’r URC ym Mhrydain, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd â rhai eglwysi cynulleidfaol na ddaeth yn rhan o’r URC. Yng nghyfarfod y Bwrdd yn Singapore ym mis Hydref cyhoeddwyd rhaglen blwyddyn gyfan i’r dathlu ar y thema Iachau: gobaith ar waith. ‘Mae’r eglwys’ yn ôl CWM, ‘ar daith o obaith’. Mae’r pwyslais cyson ar rannu adnoddau trwy bartneriaeth rhwng eglwysi, ac erbyn hyn mae mwy o bartneriaid o wledydd deheuol a dwyreiniol y byd yn dod i Ewrop na phartneriaid o eglwysi Ewrop sydd mewn eglwysi eraill o fewn CWM.

SAMSUNG CSC

Bwrdd CWM yn cyfarfod yn Singapore

(Dyma lun o Fwrdd CWM yn Singapore bythefnos yn ôl. A fedrwch adnabod rhai o Gymru yn y llun?)

 

Jerwsalem: dinas ranedig

jerwsalem

Haram al-Sharif, sef safle Mosg al-Aqsa a Safle’r Hen Deml

Mae UNESCO  wedi codi nyth cacwn ac oherwydd hynny wedi tynnu sylw at y tristwch a’r dagrau a berthyn i ddinas Jerwsalem. Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan UNESCO (cangen o’r Cenhedloedd Unedig, wrth gwrs) ar safle’r Haram al-Sharif, sef safle Mosg al-Aqsa a Safle’r Hen Deml, yn rhestru cwynion y Palestiniaid yn erbyn yr Israeliaid ac yn codi cwestiynau ynglyn â pherthynas yr Iddewon â’r safle. Mae’r Adroddiad wedi ei dderbyn, o fwyafrif o ddau,  gan UNESCO. Mae llawer o’r anghytuno  yn codi oherwydd y gor-ddefnydd (yn ôl Israel) o’r iaith Arabaidd. Mae hynny ynddo’i hun, meddai’r Israeliaid, yn tanseilio perthynas unigryw yr Iddewon â safle hynafol y deml yn Jerwsalem (a ddinistriwyd yn y flwyddyn 70).

Clychau Aleppo.

forty-martyrs

Eglwys Armenaidd y Deugain Merthyr a ddinistriwyd yn Aleppo Llun: iNews

Gyda’r mwyafrif o bobl yn teimlo yn gwbwl  ddiymadferth wrth weld y lladd a’r dinistrio yn Aleppo (40 o blant a 400 o oedolion mewn un penwythnos yn Hydref) yr oedd canu clychau eglwysi yn ddyddiol rhwng Hydref 12-24 (Dydd y Cenhedloedd Unedig ) o leiaf yn weithred o ‘godi llais’ yn erbyn y troseddau yn erbyn y ddynoliaeth sydd yn digwydd yn y ddinas. Dechreuodd yr ymgyrch gydag Eglwys Efengylaidd Lutheraidd yn Helsinki gan ledaenu drwy’r Ffindir ac ymestyn i nifer o eglwysi yn Awstralia, Canada a gweledydd eraill yn Ewrop. Aeth Zeid Ra’ad al Hussein, Comisiynydd y CU ar Iawnderau Dynol, mor bell â galw Aleppo yn ‘ladd-dŷ – canol erchyll i boen ac ofnau’. Yr oedd y clychau yn alwad i Gristnogion ac i’r holl genhedloedd, yn ogystal ag yn gri ar ran pobl Aleppo.

Meithrin bywyd ysbrydol plant

Chwarae Gyda Duw

Meithrin bywyd ysbrydol plant

gan
Rhiannon Johnson 

Mae dau fachgen wyth mlwydd oed yn chwarae ar y llawr. Maen nhw wedi dechrau casglu ynghyd y teganau a ddefnyddir i adrodd dwy stori hollol wahanol – stori Arch Noa, a dameg y Bugail Da. Mae ffigwr y Bugail Da wrthi’n arwain yr holl greaduriaid i mewn i’r arch. Gwylio ydw i. Mae’r bechgyn yn dod o hyd i’r blaidd yng ngwaelod y blwch damhegion. Dydw i ddim wedi cyflwyno’r blaidd iddyn nhw eto, ond maen nhw’n llawn cywreinrwydd. Rwy’n eu gwylio wrth iddyn nhw ddatblygu’r gwahanol bosibiliadau. Mae’r Bugail Da yn sefyll rhwng y creaduriaid a’r blaidd. Yna maen nhw’n dyfeisio ffordd arall: tybed a yw’r blaidd yn gi defaid i’r Bugail Da ac yn hel yr anifeiliaid i mewn i’r arch a’i diogelwch? Yna maen nhw’n dyfalu a oes lle yn yr arch hyd yn oed i’r blaidd? A beth fyddai’n rhaid i’r blaidd ei wneud i gael mynd i mewn i’r arch? Maen nhw wrthi’n trafod holl broblem drygioni mewn byd sy’n eiddo i Dduw daionus.

rhiannonjohnsoncu

Rhiannon Johnson

Dyna un o’m profiadau cyntaf wrth arwain sesiwn ‘Chwarae Gyda Duw’. Ffordd o ddatblygu bywyd ysbrydol plant yw ‘Chwarae Gyda Duw’ (Godly Play) ac mae’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol gydag oedolion hefyd. Fe’i dyfeisiwyd gan Americanwr o’r enw Jerome Berryman, a ddatblygodd ei waith ar seiliau a osodwyd gan Maria Montessori a Sofia Calvetti yn eu llyfr, Catechesis of the Good Shepherd. Bellach, mae’n fudiad rhyngwladol ac ar hyd a lled Cymru mae yna arweinwyr wedi’u hyfforddi’n dda sy’n dyheu am rannu dealltwriaeth o’r gyfundrefn â’r rhai sy’n barod i wrando a rhyfeddu.

Dyma sut mae sesiwn nodweddiadol yn mynd. Cesglir y rhai sydd wedi dod yn gylch, gan amlaf yn eistedd ar y llawr, gan baratoi i wrando stori. Mae’r arweinydd yn cyflwyno stori, dameg neu litwrgi gan ddefnyddio gwrthrychau a symudiadau. Mae’r ddrama’n digwydd yng nghanol y cylch, ond o’i gwmpas mae gwrthrychau a ddefnyddir mewn straeon eraill, a defnyddir offer celf a chrefft wedi’u gosod mewn trefn gerllaw fel bod y stori’n rhoi cliwiau sy’n dangos sut mae’n perthyn i straeon eraill.

godly-play-space-behind-the-altar-in-st-marys-churchMae’r ffocws ar y gwrthrychau, nid ar yr un sy’n dweud y stori. Ar y diwedd mae’r storïwr yn eistedd yn ôl ac yn gwahodd gweddill y cylch i ystyried yr hyn maen nhw newydd ei weld gyda chwestiynau fel, ‘Tybed beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y stori hon? Beth, tybed, oedd y peth pwysicaf ynddi?’ Yn raddol mae’r atebion yn dod, a gyda’i gilydd mae’r cylch yn creu ystyr o’r hyn maen nhw newydd gael profiad ohono. Does yna ddim atebion ‘cywir’, a’r unig ffordd i fod yn ‘anghywir’ fyddai dweud celwydd am yr hyn sydd yn eich meddwl. Yn aml mae’r atebion yn peri syndod. Bob tro mae’r cylch ar ei ennill o wrando ar ei gilydd yn trafod.

Mae’r stori yn cael ei rhoi heibio’n ofalus a’i rhoi mewn man lle mae pawb yn gwybod ble i ddod o hyd iddi.

tegannauYna, mae pob aelod o’r cylch yn cael ei holi beth hoffai ei wneud i ymateb i’r stori ac yn cael ei helpu i ddod o hyd i’r adnoddau y bydd eu hangen i’w gyflawni. Does yna ddim ymateb parod wedi’i gynllunio. Bydd rhai yn tynnu llun, yn peintio neu’n ysgrifenu; eraill fel y bechgyn yn y stori uchod yn cyfuno stori y maen nhw newydd ei chlywed â stori arall, ac eraill am eistedd a meddwl. Ar ôl amser i ymateb, mae’r cylch yn ymgasglu eto ac yn dweud gweddïau a rhannu ‘gwledd’ o fyrbrydau a diod. Rhoddir llawer iawn o sylw i sut i gynnig patrwm i’w ddynwared wrth fwyta gan roi ystyriaeth i’w gilydd. Ar ôl clirio’r ‘wledd’, daw pob un person at y storïwr, sy’n dweud rhywbeth da amdano neu amdani gan edrych i’w wyneb a dal ei ddwylo a dweud, ‘Dos mewn tangnefedd’.

godly-play-logoMae plentyn bod yn sâl am gyfnod hir. Mae ei mam wedi mynd â hi at feddygon di-ben-draw, a’r rheini wedi pwyntio a phrocio’i chorff bach, yn aml gan beri dolur. Ar ddiwedd un sesiwn aeth y plentyn chwe blwydd oed yn ddifrifol at y meddyg, gafael yn ei ddwylo, edrych yn ei wyneb a dweud, ‘Ry’ch chi’n gwneud eich gorau i beidio â gwneud dolur i mi. Ry’ch chi’n ddoctor da iawn. Duw fo gyda chi. Ewch mewn tangnefedd.’

Am ddeng mlynedd fe fûm i’n trefnu dosbarth ‘Chwarae Gyda Duw’ mewn pentre bach yng ngorllewin Cymru a gwelais yr effaith gafodd e ar y plant, yr eglwys a’r gymuned ehangach. Gall fod yn rym er daioni. Mae’n denu plant sy’n aml ddim yn ffynnu mewn ysgol gonfensiynol. Nid dim ond dysgu straeon y ffydd y maen nhw, ond sut i greu ystyr allan ohonyn nhw. Mae’n meithrin y gymuned, yn dysgu i blant ac oedolion wrando ar ei gilydd a dysgu gan ei gilydd. Mae llawer iawn llai o orweithio a diffygio ymysg yr arweinwyr. Mae’n gweithio’n dda gyda grwpiau o allu ac oed cymysg iawn: y model yw’r eglwys, nid yr ysgol.

Os carech chi wybod mwy, edrychwch ar wefan www.godlyplay.org.uk.

godly-playUn tro roedd plentyn naw blwydd oed yn sâl ond yn gorfod bod mewn sesiwn oherwydd bod ei mam yn arwain sesiwn ‘Chwarae Gyda Duw’ gydag oedolion. Wrth i’r stori gael ei hadrodd, fe wrandawodd hi gyda’r oedolion. Pan ddaeth yn amser myfyrio ac ystyried, fe ymunodd fel y byddai wedi arfer gwneud, ond roedd yr oedolion wedi eu syfrdanu ac wedi eu herio. Doedden nhw erioed wedi ymwneud â ffydd plentyn mewn unrhyw ffordd, nac ar delerau cyfartal, ac fe sylweddolon nhw eu byd yn syrthio’n brin. I rai fel hyn y mae Teyrnas Dduw yn perthyn (Marc 10.14–15)

Disgwyl

DISGWYL

Mae’r Duw a ddaeth at ei bobl yn Iesu yn mynd i dadlennu ryw ddydd ei deyrnas yn ei holl ogoniant gan ddwyn cyfiawnder a llawenydd i’r byd i gyd. Sut mae modd bod yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw? Ble mae’r ffyrdd i’w sythu? Pa goelcerth sydd angen ei chynnau i losgi’r llanast sydd ar ei lwybrau? Pa goed marw sy angen eu torri i lawr?  A llawn bwysiced, pwy ddylid eu galw i gyfrif, nawr, i edifarhau?

N.T. Wright yn St Matthew for All


Mae Mair a Joseff, Elisabeth a Sachareias, Anna a Simeon i gyd yn disgwyl. Cyfrinach disgwyl yw’r ffydd fod hedyn wedi ei hau, fod rhywbeth wedi dechrau. Mae disgwyl  gweithredol yn golygu bod yn bresennol yn y funud hon yn yr argyhoeddiad fod rhywbeth yn digwydd yn y fan lle rydych chi, a’ch bod chithau eisiau bod yn bresennol iddo. Mae person disgwylgar yn rhywun sy’n bresennol yn y funud, sy’n credu mai’r eiliad hon yw yr eiliad.

O Watch for the Light – darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig. (Plough Publishing, 2001)


Mae gormod o’n disgwyl nad yw’n agored – mae’n gymysg â chwennych, dymuno, rheoli ein dyfodol.

O Watch for the Light – darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig. (Plough Publishing, 2001)


Rhowch y gorau i ddymuno, er mwyn gobeithio.

O Watch for the Light – darlleniadau ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig. (Plough Publishing, 2001)


Mae aros yn amyneddgar mewn disgwylgarwch yn sail i’r bywyd ysbrydol.

Simone Weil


Mae disgwyl yn agored yn ffordd o fyw eithriadol o radical. Felly hefyd ymddiried y bydd rhywbeth yn digwydd i ni sydd y tu hwnt i’n holl ddychmygu. Felly hefyd rhoi’r gorau i reoli ein dyfodol, a gadael i Dduw ddifinio’r bywyd, ymddiried bod Duw yn ein llunio yn ôl cariad Duw ac nid yn ôl ein hofn ninnau.

Henri Nouwen


Os nad yw natur ddiamgyffred Duw yn gafael ynom mewn gair, os nad yw’n ein denu i mewn i’w dywyllwch disglair, os nad yw’n ein galw allan o lety bychan y gwirioneddau bach cartrefol y byddwn yn eu cofleidio … rydyn ni wedi camddeall y gair Cristnogaeth.

Karl Rahner


Mae Thomas Merton yn cyfeirio at ryw point vierge, rhyw ‘fan gwyryfol’ mewn myfyrdod, a hynny yng nghanol ei hanfod ef ei hun, man heb ei gyffwrdd gan dwyll, man gwirionedd pur sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Dduw. Man anhygyrch i ffantasïau’r meddwl ac i greulonderau ein hewyllys. Man bach tlodi llwyr – dyna ogoniant Duw ynom ni.

 

Beth sy’n bod arnon ni?

Beth sy’n bod arnon ni?

– Goleuni newydd ar y picil rydyn ni ynddo

Enid Morgan yn cyflwyno gwaith James Alison mewn dwy gyfrol ddylai apelio at bobl Cristnogaeth21

Mae gen i gof clywed y digrifwr o’r Alban Armando Ianucci yn disgrifio’i hun yn grwt bach oedd yn cynorthwyo wrth yr allor yn ei eglwys blwyf yn Glasgow ac yn gofyn  i’w offeiriad,  ‘Ry’ch chi’n dweud bod Iesu wedi marw dros ein pechodau ni – sut mae hynny’n gweithio?’ Cwestiwn digon tebyg ofynnais innau i Mam ryw ddydd Gwener y Groglith: ‘Pam maen nhw’n dweud yn Saesneg ei bod hi’n “Good” Friday?’ Ni chafodd y naill na’r llall ohonon ni ateb!

Cwestiynau allweddol. Dyna pam y gwnes i gwrs ar Gristoleg  pan ges i gyfle i astudio diwinyddiaeth. O leia fe ddysgais bryd hynny nad ydi’r eglwys erioed wedi bodloni ar un ateb, oherwydd bod pob ‘model’ yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd. A dyna pam y gwnes i gyffroi wrth ddarganfod gwaith gŵr o’r enw Rene Girard, Ffrancwr sy wedi gweithio’n bennaf yn America.

y-duw-syn-maddau

Yr awdur (Enid R. Morgan) a’r cyhoeddwr (Aled Davies)

Sut y deuthum ar ei draws? Ugain mlynedd yn ôl roeddwn i’n gyfrifol am Fwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru ac oherwydd hynny cefais y cyfle i fynd i gynhadledd yn Brasil ar y thema ‘Un Efengyl, sawl diwylliant. Un gobaith’. (Roedd bod mewn swydd eglwysig, yn wraig, ac yn perthyn i leiafrif diwylliannol am unwaith yn fantais i gael lle!) Cefais fodd i fyw a meddwl. Ar y noson ola roedd criw bach, a hwythau’n ymwybodol iawn eu bod yn mwynhau moethusrwydd gwesty cyfforddus tra oedd tlodion yn crafu byw lai na milltir i ffwrdd dan fwâu’r draffordd newydd, yn trafod beth oedden ni wedi ei ddysgu. Roedd helynt Rwanda newydd ddigwydd a diwinydd praff o Tanzania wedi mynegi’n ddwys yr eirioni bod Cristnogion wedi bod wrthi’n lladd Cristnogion (fel yn y ddau Ryfel Byd!). ‘Pwy,’ meddai Musimbi Kanyoro, ‘pwy a’n gwared rhag marwnad Hanes?’ Pam y trais, pam y casineb, pam y tywallt gwaed?

rene_girard

Rene Girard (1923-2015)

Yn ystod y sgwrs dyma David Godfrey, gŵr o Iwerddon a wnaeth lawer o waith yn  Corymeela yn ystod yr helyntion yn Iwerddon, yn dweud bod gan Ffrancwr o’r enw Rene Girard bethau diddorol i’w dweud am y pwnc. Nodais yr enw a’r llyfr – Things Hidden from the Foundation of the World. Yr arswyd! Fe gostiodd y gyfrol £40 ugain mlynedd yn ôl! Felly, dyma roi cryn ymdrech i mewn i’w darllen a cheisio gwneud rhyw synnwyr o gyfieithiad lletchwith o Ffrangeg tra haniaethol. Bu’n rhaid dysgu geirfa’r ddisgyblaeth anthropolegol a chofio bod angen cloddio i ddod o hyd i’r perl! Fe gymerodd wyth mis a neilltuo dyddiau i ddarllen yn y gymuned yn Nhŷ Mawr ger Trefynwy cyn i mi roi’r gyfrol i lawr ac ebychu, ‘Os yw e’n iawn, mae hyn yn gwneud byd o wahaniaeth!’

Yn sgil y datguddiad hwn darganfûm wefan gan Lutheriad oedd yn cynnig dehongliadau Beiblaidd ar sail gwaith Girard o’r enw http://girardianlectionary.net/ a chael adnodd gwerthfawr wrth ymaflyd mewn gwaith pregethu cyson o Sul i Sul. Yno y deuthum ar draws gwaith James Alison, diwinydd yr oeddwn wedi prynu ei lyfr Knowing Jesus fisoedd ynghynt ond heb gael amser i’w darllen. Dyna ddarllen y gyfrol a chytuno â barn Rowan Williams fod yma awdur oedd yn gwneud i rywun feddwl y byddai’n beth gwerth chweil trio bod yn Gristion. Darllenais ei gyfrol fawr The Joy of Being Wrong: Original Sin Through Easter Eyes – teitl nodweddiadol ddireidus – a darganfod ysgrifennu gwirioneddol gyffrous, a hynny mewn gwaith trwyadl academaidd.

Cefais gyfle i’w glywed yn darlithio yn Llundain a chael yr un cyffro a mwynhad. Darllenais gyfrolau eraill ganddo a’u cael yn hynod ddefnyddiol ac yn dipyn o her – Living in the End Times yn enwedig. Pan ddarganfûm ei fod wrthi’n cynhyrchu cwrs anacademaidd i gyflwyno Cristnogaeth dan y teitl Jesus the Forgiving Victim, penderfynais fynd i’r encil oedd yn cyflwyno’r gwaith. Mae cryn fwlch rhwng cyfrolau diwinyddol academaidd a defnyddiau sy’n addas i leygwyr. Mae syniadau Alison, er mor gymhleth ei ysgrifennu yn Saesneg – mae ei frawddegau’n dra aml-gymalog – yn syniadau gogleisiol. (Roedd un aelod o Eglwys Rufain yn y grŵp oedd yn arbrofi â’m cyfeithiad i wedi cyffroi cymaint nes anfon am y set o lyfrau gwreiddiol. ‘Mae e’n ddiddorol iawn,’ meddai. ‘Dwn i ddim beth mae’r eglwys yn ei ddweud amdanyn nhw ond wir, maen nhw’n gyffrous.’  Sylw James ar hyn oedd: ‘Dwedwch wrthi am beidio â phoeni; dyw’r eglwys ddim wedi bod yn gas wrtha i ers blynyddau!’)

Mae diwinyddiaeth academaidd yng Nghymru wedi bod yn hynod ddigyffro yn y blynyddoedd diwethaf. Bu’r cyfrolau ardderchog a gynhyrchwyd ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau o fudd aruthrol i fyfyrwyr – ond does dim rhaid i bob Cristion fod yn ddiwinydd! Ond mae angen i Gristnogion sy’n hoffi deall y byd yr ydyn ni’n byw ynddo fedru meddwl am eu ffydd gyda’r crebwyll a’r iaith sy’n ddilys iddyn nhw. Nid yw’n bosibl i ni gymryd arnom feddylfryd Cristnogion yn y ddeunawfed ganrif, na’r Swistir yn yr unfed ganrif ar bymtheg, nac Affrica yn y bumed ganrif chwaith.

Dyna pam yr euthum ati i lunio cyfieithiad-addasiad o Jesus the Forgiving Victim. Wnaethoch chi sylwi erioed nad oes gair ar gyfer victim yn Gymraeg ar wahan i aberth?  Dydi pob victim ddim o reidrwydd yn aberth. Ond mae’r gair ysglyfaeth yn llwythog o ystyron eraill amherthnasol. Felly, ar awgrym yr Esgob Saunders dyma droi at fardddoniaeth Eseia am y Gwas Dioddefus. Y Dioddefus sy’n Maddau felly yw’r pennawd ar y ddwy gyfrol.

James Alison

James Alison

Ymgais i roi trallwysiad o syniadau creadigol i bobl sy’n cymryd eu ffydd o ddifrif yw hon. Fy ngobaith yw y bydd yn gyffro (yn ogystal ag yn her) i weinidogion a lleygwyr i fywiogi trafod, pregethu a dealltwriaeth o’r ysgrythurau, ac yn gyflwyniad i ffordd o feddwl am y byd a’r ddynoliaeth fel ag y mae. Mae rhyw gornel o fy meddwl yn dweud y buasai teitl gwahanol fel ‘Beth sy’n bod arnon ni?’ wedi bod yn fwy trawiadol, ond mae’n rhy hwyr i hynny nawr!  Mae ein cymdeithas yn llwythog o broblemau iechyd meddwl, moesoldeb, diffyg ystyr, diffyg cymuned ddiogel, gwagedd, ac mae’n fater o bwys ac o frys i gyflwyno trysor y traddodiad Cristnogol mewn ffordd ddealladwy. Berf yw traddodi, nid enw ar faen llog digyfnewid ydyw. Rydyn ni’n bobl sydd wedi derbyn rhyw elfennau o feddwl Freud a Marx a Darwin; rydyn ni’n gallu edrych i bellafoedd y cosmos a meddwl am nano-eiliadau, am ddirgelion ein celloedd a’n cemegau. Beth sydd gan Iesu o Nasareth, a Christ yr Efengylau, i’w ddweud wrth ein gwych a’n gwachul ni? Oherwydd mae llong y newyddion da wedi magu cymaint o gregyn nes bygwth ei boddi.

Mae James Alison wedi cymhwyso’i waith academaidd i fod o fewn cyrraedd pobl sy ddim yn arbenigwyr ac yn y ddwy gyfrol Y Dioddefus sy’n Maddau mae’n ymaflyd â sut i feddwl am y ddynoliaeth ac am ‘Dduw’, yr (Arall-Arall), sut i ddarllen y Beibl, sut i wneud gwell synnwyr o’r groes, sut i weddïo – a sut i ddechrau amgyffred y meddwl sydd yng Nghrist Iesu.

cyfrol-un-enid

Manylion y Llyfrau:
Y
Dioddefus Sy’n Maddau: 1. Dechrau’n Ddynol, Dal Ati’n Ddynol
Pris £12.99
ISBN: 9781859948156 (1859948154)
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau’r Gair, Chwilog
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Enid R. Morgan.

Fformat: Clawr Meddal, 210×149 mm, 240 tudalen

cyfrol-2-enid

 

Y Dioddefus Sy’n Maddau: 2. Iesu’n Gwneud Gwahaniaeth
Pris: £12.99
ISBN: 9781859948163 (1859948162)
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau’r Gair, Chwilog
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Enid R. Morgan.

Fformat: Clawr Meddal, 211×149 mm, 232 tudalen

 

Un o ddyfyniadau Kierkegaard

kirkegaard

“Mae’r hen eirfa ddogmatig, Gristnogol fel castell cyfareddol lle mae tywysogion a thywysogesau’n gorffwys mewn cwsg dwfn – does ond angen ei ddeffro, ei fywhau er mwyn iddo sefyll yn ei ogoniant llawn.” (Kierkegaard)

Cam Dau yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

       Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

 CAM DAU

Y mis hwn mae Wynford yn edrych ar Gam 2: ‘Fe ddaethom i gredu fod pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n hiawn bwyll.’

Y Pŵer Mwy

Mae Cam 2 yn perthyn i ran gyntaf y rhaglen adferiad, sef Camau 1–3. Y camau hyn yw craidd adferiad ac mae’n hanfodol eu bod yn cael eu selio’n gadarn ar ein heneidiau. Byddwn yn rhuthro yma a thraw yn gwneud iawn i hwn a’r llall, yn dadansoddi’n bywydau ac yn delio â materion eraill. Mae’r rhaglen adferiad wedi’i gosod allan mewn ffordd syml ond clyfar iawn. Canolbwyntir ar y pethau pwysig yn gyntaf – a’r peth pwysicaf yw hyn: os na ddown o hyd i bŵer mwy na ni ein hunain a dod i gredu yn y pŵer hwnnw, go brin fod gennym siawns o dorri’n rhydd o’n dibyniaeth/ymddygiad niweidiol ac adfer trefn ar ein bywydau afreolus. Mewn geiriau eraill: heb Dduw, heb ddim.

Logo Stafell FywFe gofiwch mai ein gwaith yng Ngham 1, a drafodwyd y mis diwethaf, yn y Stafell Fyw yw datgelu’n raddol i’r dioddefwr y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, a’i adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiad niweidiol arall) wedi ei achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.

Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – y grym mwyaf creadigol ym myd natur o bosib – eu perswadio i newid eu ffyrdd. Drwy hyn, gobeithiwn agor eu llygaid i ddifrifoldeb eu cyflwr, ac yn fwy na dim i’r ffaith na all un pŵer meidrol eu harbed rhag canlyniadau’r cyflyrau hynny. Felly, os na fedraf fi ac os na fedran nhw eu harbed eu hunain, pwy all?

A dyna bwrpas Cam 2: dod i gredu y gall pŵer mwy na ni wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ein hunain.  

Ac yma canfyddwn broblem sy’n gyffredin iawn i staff y Stafell Fyw: ystyfnigrwydd y meddwl caeedig. Mae meddwl caeedig yn rhwystr i bob deall ac addysg, a dyna pam mae meddu ar feddwl agored yn hanfodol os ydym i ganfod pŵer trawsnewidiol all achub ein bywydau.

alcoholic-shutter26260609-alcoholic-helpMae’r gwrthwynebiad i’r cam hwn, sut bynnag, yn naturiol iawn os yw’r pŵer yng Ngham 2 yn cael ei gysylltu â’r Duw a fradychodd yr adict pan oedd yn blentyn. ‘Pwy yw’r Duw hwn sy’n cadw’r bobl ddrwg ond yn cymryd y bobl dda?’ neu ‘Pa fath o Dduw fyddai’n cymryd fy nhaid/nhad-cu oddi arnaf?’ Yn fy achos i, roeddwn yn arfer meddwl mai marwolaeth fy nhad oedd yn fy chwerwi – ond rwy’n deall nawr mai colled fwy o lawer oedd y colli ffydd yn fy nghalon.

gabor-mate

Dr Gabor Maté, yr awdur o Ganada

Yn ôl Gabor Maté, yr awdur a’r cyn-golofnydd meddygol, nid yw plant yn deall metafforau. Pan glywant y geiriau ‘Duw’r Tad’ nid ydynt yn deall eu bod yn cynrychioli cariad, yr undod a’r pŵer creadigol cynhenid sydd yn y bydysawd. Dychmygant hen ddyn rywle uwchben yn y cymylau. I rai, gall hyd yn oed ymdebygu i’r taid/tad-cu wnaeth eu treisio. I bobl ifanc, os nad yw’r Duwdod yn ei amlygu’i hun yng ngweithredoedd y bobl hynny sy’n llenwi eu byd, mae’r gair Duw yn troi’n rhagrith.

adictWrth roi ei ffydd mewn pethau/sylweddau/pobl/ymddygiad niweidiol y tu allan iddo ef neu iddi ei hun, mae’n datblygu dibyniaeth (addiction): defnyddio pethau y tu allan i ni’n hunain i wneud i ni deimlo’n well, a hynny er gwaethaf canlyniadau negyddol i ni ein hunain ac i eraill. Mae’r adict yn colli nabod ar y person dilys y tu mewn ac yn ei weld ei hun fel rhyw ego pitw sy’n gorfod crafu a begera am bob owns o fodlonrwydd yn y byd a’i bethau. Nid dioddefaint corfforol, nid poen meddwl nac emosiynol sy’n dod â phobl i’r Stafell Fyw yn chwilio am help, ond y tlodi ysbrydol enbyd hwnnw sy’n dilyn ymddygiad o’r fath. Nid oes ganddynt syniad pwy neu beth ydynt, a dioddefant faich annioddefol o unigrwydd a’r syniad affwysol o arwahanrwydd oddi wrthynt eu hunain, eu cyd-ddyn ac oddi wrth y Creawdwr. Dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd.

Dyma’r tlodi y cyfeiria Iesu ato: ‘Pan fyddwch yn nabod eich hunain, byddwch yn cael eich adnabod, a byddwch yn deall mai chi ydy plant y Tad byw. Ond os nad ydych yn nabod eich hunain, yna rydych mewn cyflwr o dlodi, a chi ydy’r tlodi hwnnw.’ (Efengyl Thomas)

Sylweddoli’r tlodi hwn yn aml iawn yw dechrau’r broses o ddatblygu perthynas lawn â’r Creawdwr; ac mae’n dechrau’n aml gyda’r cyfaddefiad yma: ‘Dydw i ddim yn credu mewn Duw, ond o leiaf drwy Gam 2 rydw i wedi derbyn nad fi ydy O neu Hi!’

Rhaid i ni ofyn un cwestiwn byr i ni ein hunain yn unig: ‘Ydw i’n credu neu ydw i hyd yn oed yn fodlon credu bod yna bŵer mwy na mi fy hun?’

Proses yw Cam 2 felly:

Fe ddaethom i’r stafell fyw (neu ganolfan debyg am help);

Fe ddaethom i sylweddoli (anallu’n ego i’n cadw’n ddiogel neu’n dawel neu’n hapus);

Fe ddaethom i gredu (mai pŵer mwy na ni ein hunain yn unig allai wneud hynny).

Sylwch hefyd ar y cymal: ‘ein hadfer i’n hiawn bwyll’.

Gwallgofrwydd, yn ôl Albert Einstein yw ‘gwneud yr un peth drosodd a throsodd gan ddisgwyl canlyniadau gwahanol’.

wynford-ellis-owen-at-the-living-room-cardiff-w-712x400

Wynford wrth ei waith

Fy niffiniad i o wallgofrwydd yw’r anallu i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll felly yw medru amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Pan ystyriwch mai dibyniaeth yw un o’r ychydig gyflyrau sy’n mynnu dweud wrthych nad oes dim byd yn bod arnoch (sgitsoffrenia yw un arall), gellwch ddeall pam mae fy niffiniad i’n gweddu i’r dim i’r cyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll yw medru gweld ein hunain, fel y dywedodd Cromwell ‘warts and all’ – heb wadu dim, y da a’r gwachul.

ar-ryw-adeg-ym-mywydau-pob-un-ohonomDylid pwysleisio yma mai rhaglen ysbrydol yw’r 12 Cam ac nid rhaglen grefyddol. Mae crefydd yn hysbysu ond mae cariad yn ffurfio a thrawsnewid. Rydym yn edrych am berthynas gyda phŵer mwy na ni ein hunain, nid am drefniant.

Ar ryw adeg ym mywydau pob un ohonom yn ddiwahân mae’n rhaid i ni ateb dau gwestiwn: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’ Ac mae’n rhaid i ni ddarganfod yr atebion i’r ddau gwestiwn yna drosom ein hunain. Fel rheol, rhyw argyfwng neu ddioddefaint sy’n rhagflaenu’r cwestiynu – er mai agosrwydd marwolaeth sy’n eu gorfodi arnom yn aml iawn. Gwelwch felly pam mae dioddefaint yn arf mor bwerus yn y Stafell Fyw ac yn yr holl broses o adferiad.

jesustasselwomansmOherwydd, wedi derbyn deffroad ysbrydol o ganlyniad i’r 12 Cam – astudiaeth sydd wedi’i hysgogi gan y dioddefaint hwnnw, gyda llaw, ac nid trwy fynd i’r capel neu’r eglwys, sylwch (er bod tystiolaeth yn awgrymu bod ffydd grefyddol yn hwyluso’r broses), mae’n anorfod y bydd yr adict, os yw o ddifri, yn gallu ateb y ddau gwestiwn. Nid yn unig hynny ond, fel y wraig honno yn y Beibl sy’n dioddef o’r gwaedlif ac sy’n cyffwrdd mantell Iesu yn y sicrwydd pendant y bydd yn derbyn adferiad llawn, mae’r adict yntau, maes o law, yn dod i wybod bod Duw yn bod, yn hytrach na’r mwyafrif ohonom sydd ddim ond yn credu bod Duw yn bod. A’r rheswm dros hynny yw bod Duw yn gwneud rhywbeth drosto – ei alluogi i roi’r gorau i’w gyffur neu i’r ymddygiad caethiwus – na all ei wneud drosto’i hun.

Ond mae ffordd bell eto i fynd ar y daith i sobrwydd llawn a chyflawnder. Mae diffygion cymeriad lu yn ein rhwystro rhag cael cysylltiad ymwybodol â’r Creawdwr. Mae’r tiwb at Dduw wedi’i flocio.

Y mis nesaf byddwn yn edrych ar Gam 3: ‘Gwnaethom benderfyniad i droi ein hewyllys a’n bywydau i ofal Duw fel yr ydym yn ei ddeall ef.’ A hwn yw’r cam sy’n gwahanu’r dynion oddi wrth y bechgyn a’r menywod oddi wrth y genethod! A’r cam hwn yw’r allwedd i ddechrau dadflocio’r tiwb at Dduw.

 

 

 

 

Beth yw Dynoliaeth?

Beth yw Dynoliaeth?

Mae cant o bobl ifanc, plant, o Syria sydd wedi gorfod aros yng ‘ngwersyll’ Calais wedi cael caniatâd i ymuno â’u teuluoedd ym Mhrydain. I ddeall yn well y pethau yr oedden nhw’n ffoi rhagddynt, edrychwch ar y ffilm White Helmets (ar gael ar Netflix). Cyn ac ar ôl edrych ar y ffilm, ystyriwch eiriau’r ysgolhaig Walter Wink am beth yw bod yn ddynol.

330px-walter-wink

Walter Wink (1935 – 2012) Llun: QuixoticLife yn English Wikipedia, CC BY-SA 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=20064242

Mae Duw yn ddynol … Camsyniad mawr y ddynoliaeth yw credu ei bod hi eisoes yn ddynol.

Dim ond rhannol ddynol ydyn ni – dynol weithiau, dynol ar chwâl. Cawn ambell gip ar ein dynoliaeth, ond dim ond breuddwydio fedrwn ni sut beth fyddai bywyd a threfn wleidyddol fwy dynol – ond nid ydym eto wedi cyrraedd gwir ddynoliaeth.

Dim ond Duw sy’n ddynol, ac fe’n gwnaed ni ar ddelw Duw – hynny yw, rydyn ni’n abl i dyfu i fod yn ddynol.

Walter Wink yn Just Jesus: my struggle to become human