Beth sy’n bod arnon ni?

Beth sy’n bod arnon ni?

– Goleuni newydd ar y picil rydyn ni ynddo

Enid Morgan yn cyflwyno gwaith James Alison mewn dwy gyfrol ddylai apelio at bobl Cristnogaeth21

Mae gen i gof clywed y digrifwr o’r Alban Armando Ianucci yn disgrifio’i hun yn grwt bach oedd yn cynorthwyo wrth yr allor yn ei eglwys blwyf yn Glasgow ac yn gofyn  i’w offeiriad,  ‘Ry’ch chi’n dweud bod Iesu wedi marw dros ein pechodau ni – sut mae hynny’n gweithio?’ Cwestiwn digon tebyg ofynnais innau i Mam ryw ddydd Gwener y Groglith: ‘Pam maen nhw’n dweud yn Saesneg ei bod hi’n “Good” Friday?’ Ni chafodd y naill na’r llall ohonon ni ateb!

Cwestiynau allweddol. Dyna pam y gwnes i gwrs ar Gristoleg  pan ges i gyfle i astudio diwinyddiaeth. O leia fe ddysgais bryd hynny nad ydi’r eglwys erioed wedi bodloni ar un ateb, oherwydd bod pob ‘model’ yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd. A dyna pam y gwnes i gyffroi wrth ddarganfod gwaith gŵr o’r enw Rene Girard, Ffrancwr sy wedi gweithio’n bennaf yn America.

y-duw-syn-maddau

Yr awdur (Enid R. Morgan) a’r cyhoeddwr (Aled Davies)

Sut y deuthum ar ei draws? Ugain mlynedd yn ôl roeddwn i’n gyfrifol am Fwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru ac oherwydd hynny cefais y cyfle i fynd i gynhadledd yn Brasil ar y thema ‘Un Efengyl, sawl diwylliant. Un gobaith’. (Roedd bod mewn swydd eglwysig, yn wraig, ac yn perthyn i leiafrif diwylliannol am unwaith yn fantais i gael lle!) Cefais fodd i fyw a meddwl. Ar y noson ola roedd criw bach, a hwythau’n ymwybodol iawn eu bod yn mwynhau moethusrwydd gwesty cyfforddus tra oedd tlodion yn crafu byw lai na milltir i ffwrdd dan fwâu’r draffordd newydd, yn trafod beth oedden ni wedi ei ddysgu. Roedd helynt Rwanda newydd ddigwydd a diwinydd praff o Tanzania wedi mynegi’n ddwys yr eirioni bod Cristnogion wedi bod wrthi’n lladd Cristnogion (fel yn y ddau Ryfel Byd!). ‘Pwy,’ meddai Musimbi Kanyoro, ‘pwy a’n gwared rhag marwnad Hanes?’ Pam y trais, pam y casineb, pam y tywallt gwaed?

rene_girard

Rene Girard (1923-2015)

Yn ystod y sgwrs dyma David Godfrey, gŵr o Iwerddon a wnaeth lawer o waith yn  Corymeela yn ystod yr helyntion yn Iwerddon, yn dweud bod gan Ffrancwr o’r enw Rene Girard bethau diddorol i’w dweud am y pwnc. Nodais yr enw a’r llyfr – Things Hidden from the Foundation of the World. Yr arswyd! Fe gostiodd y gyfrol £40 ugain mlynedd yn ôl! Felly, dyma roi cryn ymdrech i mewn i’w darllen a cheisio gwneud rhyw synnwyr o gyfieithiad lletchwith o Ffrangeg tra haniaethol. Bu’n rhaid dysgu geirfa’r ddisgyblaeth anthropolegol a chofio bod angen cloddio i ddod o hyd i’r perl! Fe gymerodd wyth mis a neilltuo dyddiau i ddarllen yn y gymuned yn Nhŷ Mawr ger Trefynwy cyn i mi roi’r gyfrol i lawr ac ebychu, ‘Os yw e’n iawn, mae hyn yn gwneud byd o wahaniaeth!’

Yn sgil y datguddiad hwn darganfûm wefan gan Lutheriad oedd yn cynnig dehongliadau Beiblaidd ar sail gwaith Girard o’r enw http://girardianlectionary.net/ a chael adnodd gwerthfawr wrth ymaflyd mewn gwaith pregethu cyson o Sul i Sul. Yno y deuthum ar draws gwaith James Alison, diwinydd yr oeddwn wedi prynu ei lyfr Knowing Jesus fisoedd ynghynt ond heb gael amser i’w darllen. Dyna ddarllen y gyfrol a chytuno â barn Rowan Williams fod yma awdur oedd yn gwneud i rywun feddwl y byddai’n beth gwerth chweil trio bod yn Gristion. Darllenais ei gyfrol fawr The Joy of Being Wrong: Original Sin Through Easter Eyes – teitl nodweddiadol ddireidus – a darganfod ysgrifennu gwirioneddol gyffrous, a hynny mewn gwaith trwyadl academaidd.

Cefais gyfle i’w glywed yn darlithio yn Llundain a chael yr un cyffro a mwynhad. Darllenais gyfrolau eraill ganddo a’u cael yn hynod ddefnyddiol ac yn dipyn o her – Living in the End Times yn enwedig. Pan ddarganfûm ei fod wrthi’n cynhyrchu cwrs anacademaidd i gyflwyno Cristnogaeth dan y teitl Jesus the Forgiving Victim, penderfynais fynd i’r encil oedd yn cyflwyno’r gwaith. Mae cryn fwlch rhwng cyfrolau diwinyddol academaidd a defnyddiau sy’n addas i leygwyr. Mae syniadau Alison, er mor gymhleth ei ysgrifennu yn Saesneg – mae ei frawddegau’n dra aml-gymalog – yn syniadau gogleisiol. (Roedd un aelod o Eglwys Rufain yn y grŵp oedd yn arbrofi â’m cyfeithiad i wedi cyffroi cymaint nes anfon am y set o lyfrau gwreiddiol. ‘Mae e’n ddiddorol iawn,’ meddai. ‘Dwn i ddim beth mae’r eglwys yn ei ddweud amdanyn nhw ond wir, maen nhw’n gyffrous.’  Sylw James ar hyn oedd: ‘Dwedwch wrthi am beidio â phoeni; dyw’r eglwys ddim wedi bod yn gas wrtha i ers blynyddau!’)

Mae diwinyddiaeth academaidd yng Nghymru wedi bod yn hynod ddigyffro yn y blynyddoedd diwethaf. Bu’r cyfrolau ardderchog a gynhyrchwyd ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau o fudd aruthrol i fyfyrwyr – ond does dim rhaid i bob Cristion fod yn ddiwinydd! Ond mae angen i Gristnogion sy’n hoffi deall y byd yr ydyn ni’n byw ynddo fedru meddwl am eu ffydd gyda’r crebwyll a’r iaith sy’n ddilys iddyn nhw. Nid yw’n bosibl i ni gymryd arnom feddylfryd Cristnogion yn y ddeunawfed ganrif, na’r Swistir yn yr unfed ganrif ar bymtheg, nac Affrica yn y bumed ganrif chwaith.

Dyna pam yr euthum ati i lunio cyfieithiad-addasiad o Jesus the Forgiving Victim. Wnaethoch chi sylwi erioed nad oes gair ar gyfer victim yn Gymraeg ar wahan i aberth?  Dydi pob victim ddim o reidrwydd yn aberth. Ond mae’r gair ysglyfaeth yn llwythog o ystyron eraill amherthnasol. Felly, ar awgrym yr Esgob Saunders dyma droi at fardddoniaeth Eseia am y Gwas Dioddefus. Y Dioddefus sy’n Maddau felly yw’r pennawd ar y ddwy gyfrol.

James Alison

James Alison

Ymgais i roi trallwysiad o syniadau creadigol i bobl sy’n cymryd eu ffydd o ddifrif yw hon. Fy ngobaith yw y bydd yn gyffro (yn ogystal ag yn her) i weinidogion a lleygwyr i fywiogi trafod, pregethu a dealltwriaeth o’r ysgrythurau, ac yn gyflwyniad i ffordd o feddwl am y byd a’r ddynoliaeth fel ag y mae. Mae rhyw gornel o fy meddwl yn dweud y buasai teitl gwahanol fel ‘Beth sy’n bod arnon ni?’ wedi bod yn fwy trawiadol, ond mae’n rhy hwyr i hynny nawr!  Mae ein cymdeithas yn llwythog o broblemau iechyd meddwl, moesoldeb, diffyg ystyr, diffyg cymuned ddiogel, gwagedd, ac mae’n fater o bwys ac o frys i gyflwyno trysor y traddodiad Cristnogol mewn ffordd ddealladwy. Berf yw traddodi, nid enw ar faen llog digyfnewid ydyw. Rydyn ni’n bobl sydd wedi derbyn rhyw elfennau o feddwl Freud a Marx a Darwin; rydyn ni’n gallu edrych i bellafoedd y cosmos a meddwl am nano-eiliadau, am ddirgelion ein celloedd a’n cemegau. Beth sydd gan Iesu o Nasareth, a Christ yr Efengylau, i’w ddweud wrth ein gwych a’n gwachul ni? Oherwydd mae llong y newyddion da wedi magu cymaint o gregyn nes bygwth ei boddi.

Mae James Alison wedi cymhwyso’i waith academaidd i fod o fewn cyrraedd pobl sy ddim yn arbenigwyr ac yn y ddwy gyfrol Y Dioddefus sy’n Maddau mae’n ymaflyd â sut i feddwl am y ddynoliaeth ac am ‘Dduw’, yr (Arall-Arall), sut i ddarllen y Beibl, sut i wneud gwell synnwyr o’r groes, sut i weddïo – a sut i ddechrau amgyffred y meddwl sydd yng Nghrist Iesu.

cyfrol-un-enid

Manylion y Llyfrau:
Y
Dioddefus Sy’n Maddau: 1. Dechrau’n Ddynol, Dal Ati’n Ddynol
Pris £12.99
ISBN: 9781859948156 (1859948154)
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau’r Gair, Chwilog
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Enid R. Morgan.

Fformat: Clawr Meddal, 210×149 mm, 240 tudalen

cyfrol-2-enid

 

Y Dioddefus Sy’n Maddau: 2. Iesu’n Gwneud Gwahaniaeth
Pris: £12.99
ISBN: 9781859948163 (1859948162)
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau’r Gair, Chwilog
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Enid R. Morgan.

Fformat: Clawr Meddal, 211×149 mm, 232 tudalen