Archif Awdur: admin

Ti, yr hwn wrandewi weddi…

“Ti, yr hwn wrandewi weddi…” yw pennawd colofn chwaraeon Derec Llwyd Morgan yn rhifyn Tachwedd cylchgrawn Barn, ac mae’n rhyfeddu at y ‘ffordd y mae cynifer o chwaraewyr blaenllaw yn dwyn eu Duw i mewn i’w camp’. Y mae hon, meddai, yn ddiwinyddiaeth seml: ‘da yw Duw – i mi’. Hawdd diystyru ymbilio o’r fath fel ymarferiad digon plentynnaidd, anaeddfed. Ond beth yw diben gweddi, ar lefel bersonol ac yn ehangach? Ydy’r enghreifftiau diweddar hyn yn ein cynorthwyo i fod yn gliriach ein syniadau am weddi?:

1. Pennawd ar wefan, fel enghraifft o eirioli personol: God Answers a Woman’s Prayer and Heals her of Leukemia

2. Yn dilyn etholiad Obama:

• ‘Gorchymyn’ i Dduw gan un o gefnogwyr Obama: We are all United with God’s Grace!! God Bless us all!
• Ymbil ar Dduw gan un o wrthwynebwyr Obama: Are we wrong in believing that our right of self-government is a God given right? Of course, we are not wrong. We just got out-maneuvered . . . I do know we cannot give up, with God at the helm, America can rise again. PRAY, FIGHT, NEVER GIVE UP!
3. Cyfaddefiad Archesgob Rowan Williams yn sgil ei siom yn wyneb pleidlais aelodau lleyg Synod Cyffredinol Eglwys Loegr i rwystro merched rhag cael eu hordeinio’n esgobion: I hoped and prayed that this particular business would be at another stage before I left.

4. Gweddïau i gofio am y rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd oedd y rhai a offrymwyd ar 11 Tachwedd, Diwrnod y Cofio eleni, yn hytrach na gweddïau i ddiolch am ‘fuddugoliaethau’. Yn yr un cywair mae’r gweddïau cyhoeddus gan y ddwy ochr yng nghanol helbul athrist y Dwyrain Canol yn canolbwyntio bron yn ddieithriad ar ymbil ar bobl i chwilio am ddulliau heddwch ac i wrthod trais.

Mewn oedfaon cyhoeddus gwneir llawer mwy o ddefnydd erbyn heddiw o’r arferaid o wahodd y gynulleidfa i blygu pen mewn distawrwydd ac i offrymu gweddïau personol. Mae ambell bregethwr yn anesmwyth ynghylch yr holl syniad o weddïo cyhoeddus ac yn ei osgoi.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai nid “Ti, yr hwn sy’n ateb gweddi…” yw llinell gyntaf emyn RM Jones (Meigant).

Yn ogystal ag ymateb i’r e-fwletin neu i rannu unrhyw agwedd arall ar ein ffydd a’n cred, cofiwch fod croeso pob amser i awgrym o gyfrol gwerth ei darllen neu wefan gwerth ymweld â hi.

‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

Phoebe sy’n disgrifio golwg newydd ar rannau o’r Hen Destament. Ydi arferion Teml Solomon yn cynnig ffordd newydd o feddwl am ateb i gwestiwn Iesu,‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

‘Rwy’n perthyn i griw bach o ffrindiau sy’n cwrdd i drafod darnau o’r Beibl sy’n ddryswch neu’n boen iddynt. Daeth un ohonom â stori Ananeias a Saffeira i’n sylw’n ddiweddar ac mi euthum ati i chwilio cefndir. A dyma ddarganfod y digrifwch (neu’r cywilydd) nad yw’r hanes enbyd hwn yn cael ei gynnwys fel darlleniad dydd Sul yn y Llithiadur Diwygiedig Cyffredin’ sy’n fframwaith a sail pregethu llawer o enwadau. A’r llithiadur tair blynedd hwn yn ganllaw i bregethu eang, cynhwysol ac amserol; tipyn o syndod oedd darganfod bod y stori hon yn ormod o her, (neu o ‘embaras’ i gael i gynnwys yn narlleniadau’r Sul. Dyna dystiolaeth bellach, pe bai angen hynny, ein bod bawb ohonom yn llunio rhyw ‘ganon’ personol o beth sy’n ystyrlon a chredadwy yn ein Beibl.

Ystyriwn am funud lyfrau’r Apocryffa. Faint o ddilynwyr gwefan Cristnogaeth21 sy’ wedi pori’n ddiweddar ynddyn’ nhw, llyfrau a oedd yn rhan o ‘ysgrythurau’ Iesu, y disgyblion a’r eglwys fore? Ceir darnau godidog a phwysig yn yr Apocryffa, ond fe luchiwyd y gwych allan gyda’r gwachul am fod arbenigwyr y cyfnod wedi barnu nad oedd modd i rai ohonyn nhw fod yn ‘Air Duw’ yn ôl diffiniad y Diwygiad Protestanaidd. Yn y Beiblau a ddefnyddir gan Eglwys Rufain mae rhai llyfrau wedi eu gwasgaru ymhlith gweddill llyfrau’r Hen Destament ac eraill wedi eu dileu yn llwyr o’r canon. Ond mae’r Beiblau Cymraeg a Saesneg wedi eu gosod ar wahân, rhwng y ddau Destament. ‘Dydyn nhw ddim ,fel petae, yn kosher ac o ganlyniad, argraffiadau o’r Beibl heb y llyfrau Apocryffaidd yw beth sy’ gan fwyafrif y Cymry.

Felly prun yw’r Beibl iawn?’ A’i fersiwn y Diwygiad Protestanaidd ynte’r canon a luniwyd gan yr eglwys fore sy’n “anffaeledig Air Duw”? Buasai Luther wedi hoffi cau allan lythyr Iago a Llyfr y Datguddiad. Dim ond ar y funud olaf y llwyddodd hwnnw i grafangu lle yn y Canon cynnar. Ac mae e wedi peri digon o ddryswch a chamddehongli.

Ni ddeffrowyd fy chwilfrydedd i ddarllen yr Efengylau Apocryffaidd na’r cyfrolau dysgedig yn cynnwys cyfieithiadau o’r Pseuepigrapha yn nyddiau coleg. Mewn ffordd braidd yn ddifater tybiais eu bod yn fater i ysgolheictod ac nid pregethu. Ond mae gwybod sut y lluniwyd ‘Canon’ y Testament Newydd a’r Hen yn fater o bwys pan fo ‘anffaeledigrwydd’ y Beibl yn dal yn destun dadl. Mae pleidwyr anffaeledigrwydd y testunau ‘Protestanaidd’ yn gwahaniaethu’n syml rhwng awdurdod a dilysrwydd y testunau canonaidd (Protestanaidd) a’r rhai a esgymunwyd. Er bod Paul yn amlwg yn adnabod y llyfrau a elwir yn ‘apocryffaidd’, ac yn dyfynnu ohonyn nhw, mae’n amheus gennyf a oes llawer o bregethu arnynt heddiw yng Nghymru.

Tipyn o her felly rhyw dair blynedd yn ôl oedd dod ar draws ysgolhaig Beiblaidd sy’n barod i honni bod Llyfr y Datguddiad yn allwedd i ddeall sut yr oedd yr eglwys fore Iddewig ( yr un gynharaf oll,) yn dehongli ystyr bywyd yr Iesu. Y mae dehongliadau Margaret Barker yn dipyn o her i ysgolheictod hanesyddol draddodiadol, ond mae hi wedi ymdrwytho yn llawysgrifau’r Môr Marw, yn y Pseuddepigrpha, yn yr efengylau apocryffaidd, ac yn wir yn y testunau canonaidd y trwythwyd hi ynddynt yn yr Eglwys Fethodistaidd. Fe geisiaf nodi rai o’r pethau sy’ ganddi i’w dweud * sy’n taflu goleuni newydd ar y testunau a gymerwn yn ganiataol.

Pan ddarganfuwyd papurau’r Môr Marw bu llawer o sôn y byddai’r darganfyddiadau yn ysgwyd athrawiaethau uniongred yr eglwysi trwy ddatguddio beth oedd meddylfryd y carfannau Iddewig a ymneilltuodd i’r anialwch. Ymneilltuo i’r anialwch a wnaeth Iesu wrth baratoi ar gyfer ei weinidogaeth.

Lluniwyd Canon Hebreig yr Iddewon o’r ysgrythurau gan y Rabiniaid a ddaeth at ei gilydd yn Jamnia yn yr ail ganrif. Cyfeirir at hwn fel y testun Masoritig – ac fe’u lluniwyd yn benodol i wrthsefyll dehongliadau’r Cristnogion o beth ddaeth i’w alw’n Hen Destament. Ymateb yn erbyn ffordd y Cristnogion o ddehongli testunau a wnaeth y Rabiniaid. Y mae’r testun Groeg o’r Hen Destament,( y Septuagint ‘Fersiwn y Saith Deg) yn wahanol. Pan ddechreuwyd cyfieithu’r Beibl i ieithoedd Ewrop adeg y diwygiad Protestanaidd y dybiaeth oedd fod dychwelyd at yr Hebraeg yn mynd i ddatguddio fersiwn mwy dilys. Ond testun wedi ei olygu yw’r testun Masoritig. Mae fersiwn llawysgrif y Môr Marw o Lyfr y Proffwyd Eseia yn hirach a mwy cyflawn na’r Testun Iddewig Masoritig a hwnnw mae’n debyg oedd y testun oedd yn gyfarwydd i Iesu. Pan gododd Iesu destun Eseia yn y synagog, nid fersiwn Jamnia na’n fersiwn Brotestanaidd ni oedd hi. Pa fersiwn sy’n ‘Air Duw’ felly? A sut yr ydym i’w darllen a’i dehongli?

Rhaid cofio bod y testunau Hebreig eu hunain wedi cael eu golygu a’u newid – sawl tro, o bosib. Disgrifiad a dehongliad o berthynas pobl Israel á Duw yng ngoleuni eu profiad yw’r ysgrythurau Hebreig. Mae digwyddiadau hanesyddol a chrebwyll a dirnadaeth ddynol yn newid y dehongliad hwnnw – ac yn wir yn newid y testun! Nid ystyrid eu bod o awduriaeth ddwyfol nac yn anffaeledig. Testun i’w ail-ddehongli o genhedlaeth i genhedlaeth yn ól beth oedd yn digwydd i’r genedl sy’n gyfrifol am y gwahanol safbwyntiau. Testun mewn gwewyr ydyw medd Rene Girard, y meddyliwr gwreiddiol sy’ wedi trydaneiddio’n deall o natur a phwrpas aberth mewn crefyddau, ac wedi taflu goleuni newydd ar sut y mae’r groes yn ‘gweithio’.

Mae Margaret Baker yn awgrymu bod teyrngarwch i ddiwinyddiaeth Teml Solomon wedi parhau’n fyw a bod llais Iesu yn adlewyrchu’r r traddodiad hwnnw. Ei hawgrym hi yw bod yr offeiriad a fwriwyd allan gan Joseia wedi ffoi i Arabia ac wedi meithrin eu diwinyddiaeth, diwinyddiaeth a darddai o adeiladwaith a dodrefn, a litwrgi- addoliad Teml Solomon. Diwinyddiaeth ‘presenoldeb’ Duw yn y cysegr sancteiddiolaf ydyw, nid deddf Moses yn unig. Bu’r dehongliad ‘Protestanaidd’ ar ddiwygiad Joseia yn cyflwyno’r Deuteronomydd fel math o Luther neu Galfin Iddewig yn bwrw allan ddefodau paganaidd a gwaith celf yn sawru o eilun addoliaeth. Dyna weld diwygiad y Brenin Joseia yn amser Jeremeia. Fel rhyw fath o ‘Ddiwygiad Protestanaidd’. Mae’r hanes yn edrych yn gwbl wahanol i’r traddodiad Uniongred Dwyreiniol.

Nid dim ond colli’r adeilad a defod oedd colli’r Deml gyntaf, teml Solomon, ond colli’r ddiwinyddiaeth litwrgaidd ac eiconaidd oedd yn cynnwys dealltwriaeth yr Iddewon o Dduw a’i berthynas â’i bobl a’i bresenoldeb yn eu plith. O gyfnod y deml gyntaf y mae cof hefyd am Doethineb, a gynrychiolid gan wraig a oedd hefyd yn offeiriad. Yr Archoffeiriad oedd canol ac uchafbwynt y ddefod. Ef yn ei briod swydd yn y cysegr sancteiddiolaf fel e’i disgrifir mor fyw gan Ann Griffiths, yn Fab Duw, yn Arglwydd ac yn Fab y Duw Goruchaf. Yr oedd y termau hyn yn gyfarwydd ac annwyl yn amgyffred a chof yr Iddewon am y Deml gyntaf . Peth naturiol oedd iddynt gael eu defnyddio am Iesu. Disgwylient ddychweliad Melchisedec ei hun ac iddyn nhw dyna oedd Iesu, neu o leiaf dyna un disgrifiad priodol ohono a’i allu i ddwyn presenoldeb Duw i’w plith.
Trafodaeth ar hyn yw’r Epistol at yr Hebreaid. Dadleua Margaret Barker nad rhyw o arweinydd milwrol a ddisgwylid yng nghyfnod Iesu i gael gwared ar y Rhufeiniaid, nid rhyw Fuherer, ond Melchisedec ei hun oedd yn cael ei atgyfodi yn y Cysegr sancteiddiolaf ac yn dwyn y Deyrnas Nefol i fodolaeth. Mae hi’n dadlau’n gelfydd trwy ddyfynnu o Lyfr y Datguddiad, yr Epistol at yr Hebreaid, a hefyd o epistolau Paul ein bod wedi camddeall beth oedd disgwyliadau a dirnadaeth y Cristnogion cynnar a sut yr atebent gwestiwn Iesu “Pwy , meddwch yr wyf Fi?”

Priodolid enwau a nodweddion yr archoffeiriad i Iesu – ond prin bod eglwys y gorllewin wedi dal ei gafael ar ddeall y cefndir hyn yn iawn. Nid teitlau newydd wedi eu dyfeisio fel labeli gwyddonol, ond teitlau traddodiadol y Deml oeddent yn enwi’r un a arferai weithredu cymod rhwng Duw a’r ddynoliaeth. Mae darllen pytiau bach o’r Epistol at yr Hebreaid yn ei gwneud yn hynod anodd deall y cefndir – ond byddai deall y llyfrau hyn yn help i ddatgloi rhai o’r clymau yr ydyn ni wedi ein carcharu ganddynt. ‘Rydyn ni’n dal i feddwl fel petaem yn y bymthegfed ganrif o hyd. Y mae Efengyl Ioan yn dweud yn eglur mai am fygwth trefn y drydedd deml, teml Herod y dygwyd Iesu gerbron y llys. I lawer o’r bobl a ddaliodd eu gafael yn y cof am y deml gyntaf nid oedd yr ail deml a godwyd wedi dychwelyd o Falion yn ddim ond fersiynau tila o’r deml wreiddiol a’i diwinyddiaeth lachar am natur y creu, y cyfamod, y Cymod a Doethineb. Putain ydoedd. Oherwydd nid y Ddeddf, ond presenoldeb creadigol Duw ei hun oedd yn bwysig. Hyn i gyd sy’n gefndir i’r canrifoedd cynnar pan luniwyd yr eirfa a’r cysyniadau sydd wrth wraidd Cristoleg yr Eglwys. Byddai dychwelyd i ddeall beth a phwy oedd Iesu’r archoffeiriad yn help i gyrraedd ateb i’r cwestiwn “Pwy y dywedwch yr Wyf Fi?”

Tybed, chwi giwed ryddfrydol radical, na fyddai Duw gyda ni – Emaniwel yn gwneud y tro, yn fan cychwyn eto.

Phoebe

Dywed y diwinydd o Babydd James Alison, bod yr Iddewon yn ymddiddori’n fawr yn g ngwaith Margaret Barker ac eraill yn y maes yma. Wedi’r cyfan y maent yn sylweddoli bod Iddewiaeth Rabinaidd yn ffrwyth dinistrio’r deml a cholli tir Israel. I ysgolheigion Israel heddiw sy’ wedi adennill y tir y mae sefyllfa gwbl newydd yn codi. Ac y mae’r angen i ail-ddehongli yn parhau.

Llyfrau Margaret Barker

The Risen Lord SPCK (1995)
Christmas The Original Story SPCK (2008)
The great High Priest SPCK(2003)
Temple Theology SPCK (2004)
An Extraordinary Gathering of Angels SPCK (2004)
The Hidden Tradition of the Kingdom of God SPCK (2008)
The Revelation of Jesus Christ Continuum T&T Clark (2000)

The Scapegoat – Rene Girard (Gwasg Prifysgol John Hopkins) 1986

19/11/2012

Oedfa Dathlu David Charles

David Charles

Oedfa ddathlu 250 mlynedd geni David Charles
Anerchiad: Parchg J. E. Wynne Davies, Aberystwyth.
Llywydd: Parchg Athro D. Densil Morgan
Nos Iau, 15 Tachwedd am 7.00pm
Capel Heol Dŵr, Caerfyrddin
Croeso cynnes i bawbhttp://www.emynau.org/digwyddiadur.php

Hefyd, rhag ofn bod diddordeb …
Dewch i wrando ar y gweinidog a’r canwr bytholwyrdd Tecwyn Ifan (a’i fand) yn canu yn Llanbedr Pont Steffan
Nos Wener, 2 Tachwedd am 7.30pm.
Tocynnau £8 ar gael gan Ann Bowen Morgan – 01570 422413


Delyth G Morgans Phillips
Llety Clyd
Stryd Newydd
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7AL

01570 422992
07971 375068
delyth.gwenllian@gmail.com

31/10/2012

Deiseb i’r Llywodraeth

Bydd Cymdeithas y Cymod yn cyflwyno deiseb ynglyn â’r ‘Adar Angau’ (drones)
i Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth, Hydref 9fed, am 1.00 y prynhawn. Byddai’n
wych o beth pe gallwn gael torf dda yno i gefnogi’r cais ar i’r datblygiadau
hyn gael eu hatal. A wnewch sicrhau fod hyn yn cael ei gyhoeddi yn eich
eglwysi y Sul sy’n dod os gwelwch yn dda, gan roi anogaeth i’ch aelodau ddod
i gefnogi.

‘Troedigaeth’ … arall?

Peth rhyfedd yw iaith! Gall term a fu’n ddynodiad o barch mewn un genhedlaeth, droi yn ddirmyg i’r nesaf. Tybed nad gair felly yw ‘efengylaidd’ yng Nghymru heddiw. Ar ei orau, y mae yn air prydferth y byddwn yn falch o’i arddel petai rhywun yn ei ddefnyddio fel ansoddair i’m disgrifio, ond aeth yn air bellach sy’n dynodi agweddau na fynnwn ar un cyfri gysylltu fy hun a hwy. Oni chafodd ei ddefnyddio yn fwriadol gan ei arddelwyr i rwygo eglwysi, ac i gau pobl allan o’r hyn sydd yn ymddangos yn rhy aml yn ddim anad clwb bach preifat. Dichon yr anharddwyd y gair ei hun wrth ei ddefnyddio o gymhellion mor annheilwng.
Efengylaidd…?
Bu i minnau gael fy ngalw yn ‘efengylaidd’ droeon dros y blynyddoedd (er na fûm erioed yn gysylltiedig a’r ‘Mudiad’) ond mynnaf gyswllt a’r term yn unig mewn ystyr gyfyng a phenodol. I mi, roedd bod yn ‘efengylaidd’ yn golygu derbyn traddodiad o ddehongli awdurdod y Beibl mewn ffordd arbennig, ag a oedd o’r herwydd yn lliwio y ddealltwriaeth o bob athrawiaeth a safbwynt moesol arall. Y mae hynny yn parhau i fod yn ganolog yn fy ngherddediad ysbrydol, ac yn safbwynt y tybiaf ei fod yn meddu hygrededd rhesymegol, ag a ddylai dderbyn parch eraill, hyd yn oed os na chredant yr un fath. Agwedd arbennig at y Beibl felly yw hanfod bod yn ‘efengylaidd’ i mi, ond tybiaf fod y dehongliad hwnnw o’r gair yn rhy gul i gwmpasu y cyd-destun cyfoes, ac oherwydd fod y llabed wedi ei herwgipio a’i ddefnyddio mewn ystyr llawer mwy llac, fe’i caf yn haws yn gyffredinol i ymwadu a’r term, gan iddo ddod bellach yn ddynodiad o ddirmyg yn y modd y’i defnyddir.
A yw defnyddio ‘efengylaidd’ fel term o ddirmyg yn deg? Credaf o leiaf ei fod yn rhesymol, ac nad oes neb i’w beio ond yr ‘efengylaidd’ eu hunain. O ddiffyg ymgydnabyddu â pherson Iesu, syrthiodd y ’garfan’ i’r rhigol oesol o ystyried cariad Duw atynt yn nhrefn sofran yr ‘achub’, nid fel anogaeth i ostyngeiddrwydd a diolchgarwch, ond fel cynsail i falchder ag elitiaeth. Gwn yn iawn fod eich derbyniad i gylchoedd cyfrin y sefydliad efengylaidd yn dibynnu bellach, nid ar ddiffuantrwydd profiad, nag hyd yn oed ‘uniongredaeth athrawiaethol’, ond ar waseidd-dra difeddwl, ag i bwy yr ydych yn perthyn…gan fod ‘rhagor rhwng teulu a theulu mewn gogoniant’ yn y cylchoedd hyn. Yn wir, daeth yn amlwg i mi ers amser maith, fod yr honiad o ‘ffyddlondeb i’r Gair’ ei hun yn dwyllodrus, wrth i lawer a gydnabyddir yn efengylaidd, werthu yr etifeddiaeth deg am grefydd sydd yn rhoi pwyslais gwbl anghymesur ar y profiad goddrychol ag unigolyddol, a’i wneud yn faen prawf ac yn dystiolaeth derfynol popeth oll. Gwelwyd hefyd ildio i bragmatiaeth eithafol a wna ‘llwyddiant’ yn linyn mesur pob peth, yn yr awydd i ddangos fod ‘y fendith’ yn brawf o sêl Duw ar agenda sydd yn aml yn ddynol ddigon, (ac agenda a hyrwyddir mewn ffordd fyddai yn embaras i unrhyw gwmni masnachol neu blaid wleidyddol)! Dywedwyd unwaith fod crefydd yng Ngogledd America ‘dair mil o filltiroedd o led, a hanner modfedd o ddyfnder’, ac wrth i genhedlaeth newydd o arweinwyr ‘efengylaidd’ yng Nghymru geisio llwybr tarw at gynnydd, y mae perygl fod mesuriad y dyfnder yn gywir hyd yn oed os yw y lled yn llai! Nodwedd arall rwystredig yw tra ceir ymdrech frwdfrydig i amddiffyn anffaeledigrwydd yr adroddiad am Iesu yn y Beibl, prin fod tynerwch ei eiriau na’i esiampl wedi cael nemor effaith. Gwn yn dda, y fath ddirmyg sydd gan y sefydliad efengylaidd at unrhyw un a gwyd ei ben uwch y pared, a’r dirmyg hwnnw weithiau yn medru cymryd gwedd cwbl frawychus.
Rhaid felly i’r ‘efengylaidd’ hwythau gydnabod rhagrith eu safbwynt, a bod eu dirnad yn y meddwl cyffredin fel rhai eithafol ac anoddefgar, yn ganlyniad i’w hymddygiad eu hunain, a dichon fod llawer bywyd clwyfedig ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i agweddau rhai a dybient fod dirmygu eraill yn arf derbyniol yng ngwasanaeth Tywysog Tangnefedd. Rhaid iddynt dderbyn felly fod llawer o’r feirniadaeth a wynebant, ac ychydig ohono yn dra anghymesur ar brydiau, yn deillio yn aml o’u hanallu hwy eu hunain i ddelio ag eraill gyda’r parch a’r cariad y mae y Beibl yntau yn ei ddysgu mor glir.
Teimlaf y meddaf ryw hawl i ddweud hyn oll, megis un sydd ei hun wedi bod ar y ‘tu fewn’ megis ers dros chwarter canrif, ag sydd ei hun gwaetha’r modd, wedi bod yn rhy euog yn aml o’r rhai o’r beiau yr wyf yn awr yn eu rhestru.
O ddelio felly a’r ‘trawst’…beth am y ‘brycheuyn’!
Mas o’r bocs…!
Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, deuthum i weld fod cariad didwyll at Iesu yn medru ymddangos yn y mannau mwyaf annisgwyl, heb iddo fod wedi ei fynegi na’i ddiffinio yn iaith emyn na chyffes, tra y gwelais ar y llaw arall amryw oeddent yn gyfoethog eu profiad efengylaidd, ond yn amlwg yn fwy cyfarwydd a ‘pherson Crist’ na’i bersonoliaeth. Aeth y bocsys arferol felly yn ddiwerth, o leiaf felly i mi. A thra bod eraill yn dirnad eu cysur a’u hunaniaeth yn nhermau y llabed ar eu bocs bach hwy, sylweddolais bellach fod bywyd yn bosib tu fas i’r bocs, (hyd yn oed os yw cwmnïaeth yn brin).
Nid fod rhagfarn eithafol yn gyfyngedig i bobl efengylaidd, gan y’i gwelir mewn cylchoedd mwy rhyddfrydig hefyd. Efallai y gellid ei ddeall yn nhermau gwrthdystiad yn erbyn y rhyfyg hunangyfiawn a wel pawb yn golledig oddieithr ein cylch ffrindiau ni, ond nid yw fymryn harddach o’r herwydd. Derbyniais fy e-fwletin cyntaf o ‘Cristnogaeth 21’ (Medi 17), ac er efallai y dylaswn ei ddarllen yng nghyd-destun ehangach ymdrech ardderchog y wefan honno, prin y gellid ystyried ei gynnwys yn gymedrol, na chwaith yn amcanu at y ddealltwriaeth ‘gymodlon a goleuedig’ y cyfeirir ati. Y mae pentyrru ffwndamentalwyr Islamaidd (gyda holl gysylltiadau erchyll y term yn y meddwl a’r profiad cyfoes), ynghyd ag Iddewon sy’n ceisio lloches ddaearyddol wedi dioddefaint enbyd (er bod eu dioddefiadau heb eto eu goleuo yn eu hagwedd at y Palestiniaid) at Martin Luther (oedd yn ŵr o flaen ei amser mewn rhai pethau yn unig), llywodraethau barbaraidd y dwyrain canol, a chyd gristnogion sy’n dal safbwynt gwahanol ar Ordeinio merched, yn dangos fod yr oll ohonom yn medru llithro i ieithwedd rhagfarn. Prin fod cyfeirio at argyhoeddiadau eraill o fewn yr eglwysi yng Nghymru fel ‘eithafiaeth erchyll’ yn cyfrannu yn adeiladol at annerch cwestiynau anodd ein cyd-fyw.
Cred neu Cariad?
Yr erthygl grybwylledig gododd hefyd y cwestiwn o’r ‘eithafiaeth lle mae dilynwyr Iesu yn galw hoywon yn bechaduriaid’, ac efallai fod y mater hwnnw yn enghraifft dda o’r gwir gwestiynau sydd angen eu trafod, os ydym am rwystro eglwysi Cymru rhag fynd yn ysglyfaeth i’r math o eithafiaeth sydd yn canfod mantais mewn pegynnu pobl a thrafodaeth.
Oherwydd derbyn traddodiad arbennig o ddehongli awdurdod y Gair, y cyfeiriwyd ato eisoes, mae y mater yn peri cryn anhawster i mi. Y safbwynt cychwynnol i rai fel fi, yw fod popeth sy’n groes i ewyllys ddatguddiedig (a gwrthrychol os y’i cyfyngir i’r Beibl) Duw, yn ‘bechod’. Mae hynny yn cynnwys, hunanoldeb, balchder, ysbryd sectyddol, diffyg tosturi, rhagfarn, rhyfyg, a llu o bethau eraill sydd i’w gweld yn amlwg ynof fi, ac ynom oll. Ond y mae yn cynnwys hefyd sefyllfa yr hoyw. Cytunem oll fod barn y Beibl ar y mater yn glir, yr anghytundeb yw a ddylem benderfynu y mater ar sail dogfen o gyfnod a sefyllfa gwbl wahanol i’r eiddom ni? I mi, byddai ildio ar y mater yn fy ngorfodi i ddwyn i gwestiwn bopeth arall hefyd sydd yn dibynnu ar y dehongliad arbennig hwnnw o awdurdod yr ysgrythur.
Yn gyfochrog a hynny, mae yr ymwybyddiaeth fod crefydd yn glogyn cyfleus i ragfarn a chasineb yn achos llawer, ac na fynnwn i fod yn rhan o hynny. Yn wir, mae’n syndod cyson i mi faint o ryddfrydwyr diwinyddol sy’n troi yn lythyrenolwyr pybyr unwaith y sonnir am le yr hoyw, a phartneriaethau sifil! Dylai hynny fod yn wrthyn i bawb. Yr her sydd yn wynebu yr eglwysi yng Nghymru yw darganfod ffordd i gwmpasu hawliau moesol a chyfreithiol y gymuned hoyw, sydd yn gyfrifoldeb arnom oll, tra yn ceisio ateb hefyd a oes modd i un eglwys warchod yr urddas a’r hawl hwnnw, ynghyd a derbyn anrhydedd safbwynt y sawl na fyddant fyth yn medru ildio eu deall o awdurdod yr ysgrythur. Dyna gwestiwn y byddai yn dda gennyf gael help i’w ateb, ond ei bod yn anodd darganfod pobl sydd yn ddigon tirion ac eangfrydig i gynnal y sgwrs. Mae yn fater aruthrol o anodd i un fel fi, pan mae dyhead dwfn i wrthweithio rhagfarn, tra ar yr un pryd awydd cryf i warchod awdurdod moesol y Beibl. Tybed nad all Cristnogaeth 21 ddod yn fan cychwyn i sgwrs onest ac adeiladol ar y mater hwn, a materion eraill. Gwn fod fy naliadau yn gwbl wrthun i lawer, ond dichon fod a wnelo hynny efallai ag anwybodaeth ac amharodrwydd i gyffwrdd bywyd yr ‘arall’, sydd yn ‘bechod’ ar naill ochr y ddadl a’r llall.Sgwrs newydd.
Am ormod o amser, defnyddiwyd pob esgus i begynnu y drafodaeth grefyddol yng Nghymru, gan adael yr eglwys heb lais credadwy yn ein cymunedau. Y mae y ffordd yr ydym wedi delio a’n gilydd yn embaras i ni, ac yr wyf yn ymuno yn llawen a chymuned Cristnogaeth 21 am y credaf fod anoddefgarwch o bob ochr, ag amharodrwydd i gynnal sgwrs am bethau anoddaf ein tystiolaeth, yn llesteirio gwaith yr eglwys, ac yn ildio i ddyfodol o rwygiadau ac anghydfod. Fyddai ddim yn llai teilwng o esiampl yr Iesu.Morris P. Morris, Rhuthun.

DIRYWIAD?

‘Rydym yn clywed hyd syrffed y dyddiau hyn am ddirywiad mewn crefydd. Beth yn union sy’n dirywio? Yn sicr nid yr Efengyl. ‘Rydym yn mesur y dirywiad trwy gyfeirio at y lleihad yn nifer aelodau eglwysig a mynychwyr gwasanaethau, a hynny yn arwain at gau capeli. Fe gyfeiriwn hefyd at brinder y rhai sy’ncynnig eu hunain i’r weinidogaeth. Ond a ydy hyn yn fesur dilys o lwyddiant neu aflwyddiant crefydd? Yr hyn sy’n dirywio yw trefn bresennol yr eglwys, ac y mae lle mawr i amau a ydyw’r drefn bresennol yn gyfystyr â chrefydd. Yr hyn sy’n digwydd yw newid, newid enfawr y mae’r Esgob Spong yn dweud fod y Diwygiad Protestannaidd yn bitw o’i gymharu ag e’, newid a ddechreuodd mor bell yn ôl â’r Dadeni Dysg. Y cwestiynau y mae’n rhaid inni eu gofyn yw “Beth yw crefydd? I beth mae e’ dda?”
Gadewch inni fwrw golwg frysiog dros hanes crefydd. ‘Roedd ein cyndeidiau cyntefig yn ymwybodol iawn o freuder eu bywydau, a pha mor ddibynnol oedden’ nhw ar adnoddau’r ddaear i’w cynnal, boed yn anifeiliaid i’w hela neu allu’r ddaear i gynhyrchu cnydau. ‘Roedd dŵr yn hanfodol; dŵr glaw, nentydd, afonydd, llynnoedd a ffynhonnau; tân hefyd wedi iddyn’nhw ddarganfod sut i’w gynnau. Fe allai awel fod yn fendithiol, ond gwynt stormus yn andwyol, yn distrywio cnydau a chartrefi. ‘Roedden’ nhw’n parchu rhain i gyd, ac yn tybio fod yna ysbrydion, duwiau neu dduwiesau ynddyn’ nhw. ‘Roedden’ nhw’n cyfeirio at y fam ddaear, yn addoli’r haul, a’r duwiau eraill, gan geisio sicrhau trwy ddefodau a seremonïau eu bod yn parhau i’w cynnal, neu beidio gwneud dim byd andwyol fyddai’n peryglu’u bywydau a bodolaeth eu cymunedau. Ond nid rhywbeth ar wahan i fywyd oedd eu crefydd; ‘roedd crefydd a bywyd yn un.
Yna yn y cyfnod o tua 800 i 300 CC, y cyfnod a elwir yn Saesneg yn Axial Age, fe ddaeth crefyddau newydd i fod, rhai a alwn ni yn grefyddau mawr y byd, ac sy’n dal i fodoli mewn rhyw ffurf neu’i gilydd: e.e. Bwdhiaeth yn India, crefydd Confucius yn Tsieina, ac Iddewiaeth. Yn ddiweddarach fe darddodd Cristnogaeth ac Islam o Iddewiaeth. Y cyfnod hwn hefyd oedd oes aur Athroniaeth Groeg. Mae Karen Armstrong wedi olrhain hanes y datblygiad hwn yn hanes crefydd yn ei chyfrol feistrolgar The Great Transformation.
Un nodwedd a ddaeth i’r amlwg bryd hynny oedd deuoliaeth; Nef a Daear, Corff ac Enaid er enghraifft. ‘Roedd Plato yn dysgu fod y byd hwn, y byd materol, yn afreal, bod popeth sydd ynddo yn dod i ben. ‘Roedd yna fyd arall, byd haniaethol, ysbrydol, ac ynddo ffurfiau yr oedd pethau’r byd hwn yn gopïau israddol ohonyn’ nhw. Hwnnw oedd yr unig fyd real, nad oedd diwedd iddo.
Fe ddylanwadodd athroniaeth Plato yn drwm iawn ar Gristnogaeth. Fe gawsom ni ein dysgu fod y byd hwn yn gwbl ddrwg, a bod bodau dynol wedi’u carcharu ynddo dros dro. Y nefoedd yw’r unig fyd real tragwyddol, a’n bwriad a’n cyfrifoldeb ni yw ceisio cyrraedd y lle delfrydol hwnnw ar ôl marw. Fe ddywedodd un awdur “The Earth is like a huge airport terminal where we spend what seems to be an unduly lengthy period, overcrowded and a little bored, waiting for the plane to heaven to take us away.” Yn gysylltiedig â hyn fe ddaeth y gred mewn bydysawd tri llawr i fod; nefoedd, daear ac uffern. Fe gyrhaeddodd y cyfan ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, ond ar waethaf popeth, mae’n parhau yn fyw yn y Gristnogaeth draddodiadol hyd heddiw.
Wedyn fe ddown at y Dadeni Dysg. Yn ôl rhai dyma ddechrau’r ail Axial Age, pan drodd pethau o fod yn theosentrig i fod yn homosentrig. Dechrau oes y dyneiddwyr oedd hon, pan drodd pobl o edrych ar bopeth o safbwynt Duw i safbwynt dyn. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus efallai yw Copernicus a Galileo, a wrthododd dderbyn dysgeidiaeth yr eglwys am y bydysawd ond yn hytrach dystiolaeth eu synhwyrau a’u meddyliau eu hunain. Fe welson’ nhw nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd, ond ei bod yn blaned ymhlith planedau eraill oedd yn troi o gwmpas yr haul. Dyma ddechrau tanseilio awdurdod yr eglwys. Wedi’r dechrau hwn ‘roedd yna rwydd hynt i wyddonwyr eraill megis Isaac Newton i ymchwilio i wirioneddau’r bydysawd.
Dyma hefyd ddechrau cyfnod athroniaeth ddiweddar; dechrau gyda Renee Descartes, a oedd yn Gristion, ond ar yr un pryd yn amau popeth hyd nes iddo ddod o hyd i brawf a’i bodlonai fod rhywbeth yn wir. ‘Roedd yn amau hyd yn oed ei fodolaeth ei hunan hyd nes iddo sylweddoli ei fod yn meddwl, ac felly rhaid ei fod yn bod. Cogito ergo sum, meddai.
Cwta ganrif yn ddiweddarach daeth yr Oleuedigaeth, oes rheswm. (Diddorol yw gweld yng Ngwyddoniadur diweddar Prifysgol Cymru na chyffyrddodd yr Oleuedigaeth fawr ddim ar Gymru.) Cododd nifer o athronwyr mawr bryd hyn, megis David Hume yn yr Alban, ac yn fwyaf arbennig Immanuel Kant yn yr Almaen. ‘Roedd ef yn gwahaniaethu rhwng pethau fel y maen’ nhw a phethau fel yr ŷm ni’n eu gweld nhw. Mae’n amhosibl felly inni weld pethau fel y maen’ nhw, gan ein bod ni’n gweld popeth trwy ein llygaid ein hunain. Mae’n dilyn na all popeth fod yn gwbl wrthrychol; nid oes dim byd absoliwt; nid oes Duw absoliwt, dim ond Duw fel yr ŷm ni’n ei weld e.
Yna yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth datblygiadau mawr gwyddonol. Y daearegwyr gyntaf yn profi fod y ddaear yn hŷn o lawer iawn na’r ychydig filoedd o flynyddoedd y mae’r Beibl yn ei awgrymu, biliynau o flynyddoedd mewn gwirionedd. Wedyn Darwin yn dangos nad oedd stori’r Creu yn y Beibl yn llythrennol wir, ond fod popeth byw wedi esblygu dros filiynau o flynyddoedd. Yn ystod yr un cyfnod dechreuwyd astudio’r Beibl yn feirniadol, gan ddefnyddio’r un canllawiau ag a ddefnyddir wrth feirniadu unrhyw waith llenyddol. Canlyniad hyn oedd y gyfrol Essays and Reviews a greodd fwy o fraw yn y byd eglwysig a diwinyddol nag a wnaeth The Origin of Species. ‘Roedd hon yn ganrif pan oedd technoleg a diwydiant yn datblygu’n aruthrol o gyflym, gan greu optimistiaeth y byddai hyn yn creu byd a bywyd gwell. Tua diwedd y ganrif fe drefnwyd i bawb gael addysg gynradd, a hyn yn arwain ymhen amser at gyfle i gael addysg uwchradd ac addysg prifysgol. Canlyniad hyn oedd fod pobl yn fwy parod i feddwl a phenderfynu drostyn’ nhw eu hunain, yn hytrach na derbyn yr hyn a ddywedid wrthyn’ nhw gan yr ychydig oedd wedi derbyn addysg. Canlyniad arall oedd y newid mewn cymdeithas: yn hytrach na dau ddosbarth cwbl ar wahan, bonheddig a gwerin, daeth dosbarth canol i fod, y ffiniau rhwng y dosbarthiadau yn mynd yn aneglur, a genedigaeth-fraint bellach ddim yn penderfynu i ba ddosbarth yr oedd rhywun yn perthyn.
Yr ugeinfed ganrif. ‘Rydym i gyd yn gyfarwydd â hi gan ein bod ni wedi byw trwy’r ail hanner. Dyna ddau Ryfel Byd, a chwalodd yr optimistiaeth cynt, ac a sigodd ffydd llawer iawn o bobl. Ond y peth mwyaf chwyldroadol sydd wedi digwydd yw’r datblygiad enfawr mewn cysylltiadau: awyrenau, ffôn, radio, teledu, lloerennau, cyfrifiaduron, a’r cyswllt rhwng y rhain i gyd. Mae’r cyfan yn prysur greu un byd; GLOBAL yw’r gair mawr erbyn hyn. Mae’r cyfan yn newid y ffordd yr ŷm ni’n gweld ein byd yn aruthrol o gyflym. ‘Rym ni’n gweld y pethau sy’n digwydd ben draw’r byd bob dydd, ac yn gallu deall yn well beth yw’r cefndir iddyn’ nhw. ‘Rym ni’n prysur fynd yn ddinasyddion un byd yn hytrach na dinasyddion gwahanol wladwriaethau.
Wedi gwneud ein taith Tardis drwy’r canrifoedd, gan ganolbwyntio ar y pum canrif ddiwethaf, y cwestiwn amlwg sy’n codi yw hyn: a allwn ni ddisgwyl i bobl yn yr unfed ganrif ar hugain ymlynu wrth Gristnogaeth a luniwyd fwy na phymtheg canrif yn ôl, pan oedd dyn yn dal i gredu yn y bydysawd tri llawr, pan oedd pobl yn egluro pethau trwy gyfrwng myth yn hytrach na thrwy resymeg, pan oedd byd pob un yn gyfyng ac America ddim yn bod? A dyma’r Gristnogaeth y mae ein trefn eglwysig wedi’i seilio arni. Mae’r ateb i mi yn gwbl eglur – na fedrwn!
Mae’n rhaid inni felly ailfeddwl ac ailddehongli beth yw Cristnogaeth i ni heddiw. Mae nifer o bobl wedi rhoi cynnig arni, a rhaid inni gofio na all neb ddweud fod un yn iawn ac un arall yn rong. Mae gan bob un hawl i’w safbwynt, ac y mae hynny’n wir am bob un ohonon’ ni.
Mae’n debyg fod Nietzsche yn cael ei gofio gan bobl yn gyffredin am iddo ddweud fod Duw wedi marw. Mae eraill fel Thomas Altizer wedi dweud yr un peth, a nifer cynyddol yn cytuno â’r gosodiad er efallai nad ydyn’ nhw’n dweud hynny mor blwmp a phlaen. Mae hyn yn amlwg yn nheitlau rhai o’u llyfrau; Taking leave of God (Don Cupitt), Christianity without God (Lloyd Geering), Religion without God (Ray Billington). Yr hyn maen’ nhw’n ei olygu yw nad yw’r Duw theistaidd, Duw fel bod gwrthrychol, yn bod ym mhrofiad dyn bellach. Fe ddywedodd yr Athro J.R.Jones (y dethlir canmlwyddiant ei eni eleni), pan ofynwyd iddo a oedd yn credu yn y bod o Dduw – “Y mae’n bod,ond nid yw yn fod.”
Mae’r Esgob Spong yn cyfeirio at y stori yn Llyfr Exodus am Moses ar fynydd Sinai, lle na chai weld ŵyneb Duw, dim ond gweld ei ôl, gweld y canlyniad a’r effaith wedi iddo fynd heibio. ‘Roedd gan y Duw theistaidd ei gyneddfau, e.e. Duw yn dda, Duw yn gyfiawn, Duw yn gariad. Ond neges yr awduron hyn yw mai’r cyneddfau hyn yw Duw. Dyna yw Duw – ymbersonoliad o’r gwerthoedd uchaf a gorau y mae dyn yn brofiadol ohonyn’ nhw. A’n cyfrifoldeb ni yw rhoi’r gwerthoedd hyn ar waith yn ein byd ac ymhlith ein cyd-ddynion. “Nid oes gan Dduw ddwylo ond ein dwylo ni.” ‘Does yna ddim Duw goruwchnaturiol i wneud y gwaith ar wahan i ni. ‘Does yna ddim goruwchnaturiol. ‘Does yna ond y byd a’r bywyd hwn.
‘Roeddwn i’n sôn yn gynharach am ddeuoliaeth. Enghraifft arall ohono yw’r crefyddol a’r seciwlar. ‘Rym ni’n rhy barod i feddwl am y seciwlar fel rhywbeth sy’n groes i grefydd ac yn gwbl ddrwg. Ond nid dyna yw e. Mae’r gair yn tarddu o’r Lladin saeculum sy’n golygu ‘cyfnod’ neu ‘oes.’ Daw’r gair Ffrangeg am ganrif ohono, siecle. Yr hyn mae’n ei olygu yw ein bywyd bob dydd, ac fel y cyfryw ‘dyw e ddim yn dda nac yn ddrwg. Mae Lloyd Geering wedi ysgrifennu llyfryn In Praise of the Secular. Y peth pwysig i’w gofio yw mai ein crefydd ddylai ein cyflyru i fyw ein bywydau seciwlar yn ôl arweiniad dysgeidiaeth Iesu.
Peth arall i’w gofio yw y dylai ein Cristnogaeth roi ei briod werth ar ddyn. Yn rhy aml o lawer fe glywn am “wael , golledig, euog ddyn,” “llwch y llawr” ac ati. Ond nid felly y dylem ni synied. Mae Geering yn sôn mewn sawl man am Ludwig Feuerbach yng nghanol y 19g. a’i ddehongliad o athrawiaeth yr Ymgnawdoliad. Os yw Adda yn cynrychioli dyn, a’r ddynoliaeth, yna mae’r Ail Adda yn eu cynrychioli yn yr un modd. Felly mae Duw wedi ymgnawdoli, nid mewn un dyn, ond yn y ddynoliaeth gyfan. Felly ‘does dim gwahaniaeth rhwng y dwyfol a’r dynol; mae Duw yn ddynol a dyn yn ddwyfol.
Beth bynnag am hynny mae pwyslais cynyddol wedi’i roi ar ddyn dros y canrifoedd. Ychydig amser yn ôl ‘roeddem yn dathlu daucanmlwyddiant diddymu caethwasiaeth. Wedi i’r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo am nifer o flynyddoedd, teimlwyd rheidrwydd i wahardd cyflogi plant yn y pyllau glo a’r ffatrioedd cotwm. Erbyn hyn ‘rydym yn clywed yn feunyddiol am hawliau dynol, ond nid yw hyn bellach yn seiliedig ar grefydd. Yn wir mae’n well gan rai Cristnogion ceidwadol lynu wrth hen athrawiaethau yn hytrach na rhoi gwerth ar ddyn, e.e. y gwrthwynebiad i fendithio partneriaethau sifil rhwng y cyfunrywiol.
Mae’r ddynoliaeth heddiw yn wynebu’r argyfwng mwyaf yn ei hanes, argyfwng o wneuthuriad dyn, ac sy’n bygwth dileu’r ddynoliaeth oddi ar ŵyneb y ddaear cyn diwedd y ganrif hon, gan adael y ddaear eto yn afluniaidd a gwag. Mae amryw o ffactorau yn cyfrannu at yr argyfwng hwn: gor-gynhyrchu carbon dioxid sy’n arwain at gynhesu’r ddaear a’i effeithiau, gor-boblogi, distrywio rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion, gor-ddefnyddio a dihysbyddu adnoddau’r ddaear na ellir eu hatgynhyrchu, prinder bwyd sy’n arwain at densiynau rhwng gwledydd, difwyno a halogi awyr a dŵr, ymyrraeth cyffredinol ag ecoleg y ddaear, niweidio a lleihau’r haen ozôn sy’n arwain at gynnydd mewn cancr, distrywio fforestydd glaw ac ehangu anialwch.
Beth ellir ei wneud i rwystro’r difodiant sy’n ein hwynebu? I Lloyd Geering mae’n rhaid i’r ateb fod yn un crefyddol. Mae’n rhaid i’r holl bobloedd ddod at ei gilydd i fyw’n gytun mewn harmoni. Rhaid i’r ddynoliaeth gyfan gyda’i gilydd ymdrechu ar raddfa grefyddol i wyrdroi holl achosion yr argyfwng, a hynny gyda sêl a brwdfrydedd crefyddol. Mae e wedi pwysleisio hyn yn gryf mewn dau o’i lyfrau yn arbennig, The World to come a Coming Back to Earth. Dyma un dyfyniad o’i waith:
“The whole earth must become resanctified in our eyes: the holy colour must change from heavenly purple to earthly green. The imperative to care must take precedence over lesser loyalties and over all differences of race, nationality, gender and personal beliefs. It is the kind of love which is ready to sacrifice individual self-interest for the greater good of the whole….This calls for the kind of self-sacrificing love which has long been affirmed in the Christian tradition and symbolised as the way of the cross.”
Mi allwn i ddweud llawer rhagor ond nid yw amser yn caniatau. Ond cyn cloi mi garwn i fynd ‘nôl at y darlleniad ar ddechrau’r cyfarfod, am Ioan Fedyddiwr yn anfon negesyddion at Iesu a gofyn ‘Ai ti yw’r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ Atebodd e ddim trwy ddweud ‘Myfi yw, ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu’ fel yr honnir iddo wneud ger bron Caiaffas. Na, mae ei ateb i Ioan Fedyddiwr yn arwyddocaol iawn: ‘y mae’r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a’r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.’ Dyma sy’n cyfri; dyma ddylai gael y flaenoriaeth. Yn hytrach na rhoi’r pwyslais sylfaenol ar drefn eglwysig a chred, rhaid byw ein bywyd yn gyfan yn y byd hwn, y byd seciwlar hwn; byw y bywyd hwn ymhlith a chyda’n cyd-ddynion ac er eu mwyn.
Delwyn Tibbott
(Traddodwyd mewn cyfarfod yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, 1 Rhagfyr 2011, a’i gyhoeddi yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys , Mawrth 2012)

Beth yw ‘Credu’ a beth i’w gredu?

Mae’r ysgrif yma wedi’i seilio ar anerchiad a draddodwyd yng nghapel Cribyn fel rhan o ddathliadau cydenwadol wythnos y Pasg ardal Dyffyrn Aeron.

Beth yw ‘Credu’ a beth i’w gredu?

Yn y sylwadau yma mi fyddaf yn dibynnu’n drwm ar waith Karen Armstrong ac yn enwedig ei llyfr The Case for God. Fe gafodd yr ysgolhaig disglair yma ei magu’n Babydd o Gristion traddodiadol. Ar ôl cyfnod yn lleian, fe ymadawodd, a chefnu ar gredo’i magwraeth. Yna, yn rhannol drwy astudio traddodiadau eraill, fe sylweddolodd o’r newydd bwysigrwydd crefydd ym mhrofiad dyn.

Ces innau brofiad tebyg; magwraeth grefyddol iawn, er nad yn gul nac yn ormesol; cyfnod o anffyddiaeth lwyr; ac yna gael fy nhynnu’n ôl, yn rhannol drwy gyfrwng Undodiaeth; a sylweddoli fwyfwy gymaint o gysur, ystyr a chyfoeth profiad y gall crefydd gynnig.

Logos a Mythos

Mae Karen Armstrong yn tynnu sylw at y ffaith fod y Groegiaid gynt yn defnyddio dau air gwahanol i gyfleu dwy agwedd sylfaenol ar fywyd dyn:

Prif ystyr y gair logos yw rheswm ac mae’n ymwneud a materion ffeithiol ac ymarferol a gwyddonol. Hwn sy’n galluogi dyn i gael trefn ar ei fywyd, i ddatrys problemau, gwneud ei waith bob dydd, dilyn ei grefft, esbonio byd natur ac ati.

Peth gwahanol iawn yw mythos. Hwn yw’r allwedd i fyw’n dda, yn fwy dwys ac angerddol; i ymdeimlo a rhyfeddod bodolaeth; i ddygymod a galar a dioddefaint ac i wynebu marwolaeth.

I bwrpasau felly mae dyn drwy’r oesoedd wedi dyfeisio defodau, megis penlinio, treulio cyfnodau o ddistawrwydd a llonyddwch, myfyrdod, ymprydio ac (i roi enghraifft gyfarwydd) rannu bara a gwin.

O ymarfer defodau felly mae modd i ni gael profiadau sy’r tu hwnt i fywyd bob dydd: ymdeimlo’n ddwysach â’n perthynas â’n cyd-ddyn neu’r bydysawd; hyd yn oed weithiau fwynhau profiadau cyfriniol neu ecstatig, neu’r llonyddwch dwfn y mae’r Bwdiaid yn ei alw’n Nirfana.

Meddai Pantycelyn
‘Datrys, datrys fy nghadwynau
gad i’m hysbryd fynd yn rhydd;
rwyf yn blino ar y twyllwch,
deued, deued golau’r dydd.
Yn y golau
mae fy enaid wrth ei fodd’

I Karen Armstrong felly, nid gorfod derbyn hyn-a-hyn o ddamcaniaethau yw hanfod crefydd, ond disgyblaeth ymarferol i weithredu’r defodau a thrwy hynny feithrin y ddawn (‘knack’ yw ei gair hi) o gyrraedd at hanfod y profiad crefyddol. O wneud hynny, mae dyn hefyd yn dysgu tosturio a chydymdeimlo, sy’n angenrheidiol er mwyn byw yn dda.

Un o broblemau’n hoes ni yw ein bod wedi colli’r ddawn yna drwy fod logos wedi ennill y dydd mor llwyr yn ein gwareiddiad ni. Serch hynny mae yna ddyhead yn parhau am ryw fath o ddimensiwn ysbrydol, weithiau drwy ddilyn crefyddau a sectau amgen ac weithiau, yn anffodus, adweithio yn erbyn gwyddoniaeth e.e. gan rai mudiadau efengylaidd

‘Credu’ a ‘Ffydd’

Mae Karen Armstrong yn olrhain ystyron y geiriau yma, sy mor ganolog i grefydd, i’w tarddiad.

Y gair Groeg am ‘gredu’ yn y Testament Newydd gwreiddiol oedd ‘pisteo’, a’i ystyr oedd ymddiried, rhoi teyrngarwch, ymrwymo i rywbeth. Pan gyfieithwyd y Testament Newydd i Ladin, y gair a ddefnyddiwyd oedd ‘credo’, sy’n tarddu o ‘côr do’, sy’n golygu ‘rwy’n rhoi fy nghalon’. Dewisodd y cyfieithydd Lladin ddefnyddio ‘credo’ yn hytrach nag ‘opinior’ sy’n golygu ‘rwy i o’r farn bod’. Adeg cyfieithu’r Beibl i’r Saesneg roedd ‘believe’ yn cario ystyr tebyg, sef ‘rhoi teyrngarwch’.

Mae’n bwysig deall felly nad ‘Rwy o’r farn fod rhywbeth yn ffaith’ oedd ystyr y geiriau a gyfieithwyd fel ‘credu’ yn y lle cyntaf

Os sylwn ni ar y defnydd o’r gair ‘credu’ yng Nghymraeg heddiw, mi ddown ni o hyd i ddau ystyr gwahanol.

(1) Un ystyr yw meddwl bod rhywbeth yn ffaith, ee ‘Dwy i ddim yn credu mewn ysbrydion’, neu ‘Rwy’n credu mewn esblygiad’. Fe glywch ambell ffwndamentalydd yn dweud, ‘Rwy’n credu bod Iesu Grist wedi cerdded ar y dŵr’ yn yr ystyr yma. Ynghylch ofergoelion mi glywch rywun efallai yn dweud, ‘Beth sy’n bod arno fe’n credu rhyw ddwli felna!’

(2) Mae’r ail ystyr i’w weld mewn ymadroddion megis, ‘Rwy’n credu mewn hunanlywodraeth i Gymru’, neu fel arall ‘ym Mhrydain Fawr’; neu ar lefel uwch ‘Rwy’n credu yng ngrym cariad’ neu ‘Dwy i ddim yn credu mewn rhyfel’. Ystyr ‘credu’ yma yw bod yn angerddol o blaid rhywbeth, bod wedi ymrwymo i, hyd yn oed yn caru, y peth hwnnw.

Gwyddoniaeth a Chrefydd

Mae Karen Armstrong yn dadlau bod ystyr (2) wedi shifftio’n gryf tuag at ystyr (1) erbyn tua’r flwyddyn 1700, yn sgil y chwyldro gwyddonol. E.e roedd Newton yn mynnu bod Ffiseg a’i ddarganfyddiadau wedi profi bodolaeth Duw, nad oedd modd esbonio’r bydysawd heb fodolaeth Duw fel ffaith. Fe ddaeth ‘credu yn Nuw’ yn gyfystyr a derbyn bodolaeth Duw fel ffaith. (Erbyn hyn mae rhesymeg Newton wedi’i wrthod gan wyddonwyr.)

I’r gwyddonydd mae derbyn bodolaeth rhywbeth yn dibynnu ar dystiolaeth a phrawf. Mae arbrofion trwyadl yn cael eu cynnal er mwyn darganfod a yw rhywbeth yn ffaith. Oherwydd dylanwad mawr y dull yma o feddwl fe aeth crefyddwyr hefyd i weld cwestiynau megis bodolaeth Duw a’r hanesion am fywyd yr Iesu yn nhermau tystiolaeth a phrawf. A dyna ddechrau ar y ddadl rhwng crefydd a gwyddoniaeth sydd wedi para hyd heddiw.

I gawlio pethau ymhellach, gan ddechrau yn America’r 19eg ganrif, fe ddatblygodd ffwndamentaliaeth, sy’n gwrthod darganfyddiadau gwyddonol megis esblygiad ac yn dehongli storïau megis y Creu yn Llyfr Genesis fel ffeithiau hanesyddol.

Barn Karen Armstrong, a ’marn innau, yw bod y ddadl hon yn misio’r pwynt yn llwyr, ac yn wastraff amser.

Beth i’w Gredu?

Fel hyn y gwelaf i’n bersonol bethau.

Yn ystyr (1) y gair, dwyf i ddim yn credu yn y goruwchnaturiol. Welaf i ddim sut y gallu unrhyw beth fodoli, a siarad yn ffeithiol, y tu fas i drefn natur.

Mae’n dilyn oddi wrth hyn nad wyf i ddim yn credu mewn Bod Mawr goruwchnaturiol sy wedi creu’r bydysawd ac sy rywsut yn ei reoli. Felly mae cwestiynau megis pam y mae Duw yn caniatáu swnamis, neu glefyd motor-neurone, neu gant a mil o erchyllterau eraill, yn ddiystyr.

Yr hyn rwyf yn credu ynddo (yn ystyr 2) yw’r rhinweddau hynny a fyddai’n cael eu galw ers llawer dydd yn ‘bedair merch y Drindod’: trugaredd, gwirionedd, cyfiawnder a thangnefedd, gwerthoedd sy’n cael eu cwmpasu yn y syniad o gariad. Ystyr dweud bod y gwerthoedd hynny i’w cael ar eu ffurf berffeithiaf yn Nuw yw datgan mai nhw a ddylai fod yn rheoli’r byd. Ac yn y Duw symbolaidd yna, creadigaeth dyn wrth gwrs, rwy’n fodlon ‘credu’, ymrwymo wrthyn nhw gyda hynny o argyhoeddiad ag sy’n bosibl i weiniad fel fi.

Ac yn ogystal â chredu yn y pethau yna, rwyf am ymrwymo i ymarfer y defodau sy’n help i fi gael yn ysbrydoli ganddyn nhw, tra’n rhoi rhyw brofiad i fi hefyd o’r ‘llawenydd uwch’ y mae `Pantycelyn yn cyfeirio ato ac o ‘dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall’. Y defodau sydd ar gael i fi yw: mynd i’r cwrdd, cyd-ganu, gwrando ar y darlleniadau, cymryd rhan yn yr ymatebion, penlinio a gweddïo, derbyn y cymun. Y cyfan wrth gwrs yng nghwmni ’nghyd-ddyn.

Wythnos y Pasg

Mae’r ychydig sylwadau yma wedi’u llunio yn ystod wythnos y Pasg, a ninnau’n
cael ein hatgoffa o’r newydd o un o’r storïau mwyaf rhyfeddol a adroddwyd erioed, o fynediad gorfoleddus Iesu i Jerwsalem, drwy’r disgrifiad o’r brad a’r gwadu a’r dioddefaint erchyll i fuddugoliaeth yr Atgyfodiad.

Nid hanes ffeithiol mo hyn oll wrth gwrs ond myfyrdod mewn stori a chwedl am brofiadau dyfnaf dyn: am ddewrder ac aberth, am greulondeb bwystfilaidd a dioddefaint, am ffyddlondeb a brad, am iachawdwriaeth, am adfer gobaith a hyder wedi trallod a dadrithiad. Nid logos yw hyn oll, ond mythos.

Dwyn y Traddodiadau Ynghyd

Peth gwych iawn yw gweld y gwahanol enwadau’n dod ynghyd i ddathlu’r Pasg yn ardal Dyffryn Aeron. Mae i bob un o’r enwadau hyn eu cryfderau. Yr Undodiaid a’u pwyslais ar reswm, rhyddid a diwygiad cymdeithasol. Yr anghydffurfwyr eraill a’u pwyslais ar angerdd, parchedig-ofn a dwyster profiad personol. Yr eglwyswyr a’u pwyslais ar ddefod a litwrgi, ar ffurf ac addurn. Ond mae i bob un o’r traddodiadau yma eu diffygion hefyd. Mae yna gyfle mawr iddyn nhw yn awr ddysgu oddi wrth ei gilydd. Fe fu amser pan oedd gwahaniaethau sylfaenol yn golygu bod rhaid iddyn nhw fod ar wahân. Ond os cywir fy honiad i mai dadl ddoe yw’r gwrthdaro rhwng rheswm a chrefydd, ac os derbyniwn ni fod i logos a mythos ill dau eu lle, welaf ddim bod angen iddyn nhw fod ar wahân ddim mwy.

Cynog Dafis

Anghofio a chofio, cofio ac anghofio.

Mae anghofio yn boen bywyd, ac mae colli cof yn ddolur enaid; mae cofio ac anghofio yn allweddol bwysig i bobl.

Mae’r ymennydd dynol yn ryfeddol gymhleth; perthyn iddo’r gallu anhygoel i brosesu a chadw pentwr o wybodaeth, ond mae anghofio’n anhepgor i’w lwyddiant. Buasai’r ymennydd yn chwythu ei blwc yn reit sydyn pe bai’n gorfod cofio pob peth!

Er yn anhepgor i’n hiechyd ymenyddol, nid hoff gennym anghofio, a buom yn brysur, ers dechrau’r dechrau yn ceisio sicrhau fod ryw bethau’n cael eu cadw’n ddiogel yn y cof; ond o’r dechrau, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Yn y dechreuadau cynnar, ‘roedd y cof yn gyfyngedig i’r unigolyn. Yr unig ffordd i gadw rhyw bethau ar gof a chadw oedd trosglwyddo’r pethau hynny o berson i berson. Er mor bwysig a buddiol eich gwybodaeth, anodd iawn oedd rhannu’r wybodaeth hwnnw’n effeithiol dros bellter ffordd ac amser. O’r herwydd, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Mae rhannu yn allweddol bwysig yn y broses o gofio, a gyda datblygiad iaith, daeth rhannu gallu a dawn, defnyddio gwybodaeth a rhyddhau grym dychymyg yn haws o lawer. Ond, nid digon iaith i gynnal cof, ac o’r herwydd ‘roedd anghofio yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Dechreuwyd paentio lluniau i gadw’r hyn a ddylid ei gofio’n ddiogel, a bu lluniau, am ganrifoedd, yn fodd i gynnal a chadw’r cof; ond oherwydd natur llun, ‘roedd anghofio o hyd, yn llawer mwy cyffredin na chofio. Gellid defnyddio llun i gadw’r cof am un digwyddiad mewn stori, ond mae llun yn methu cadw’r stori i gyd. Ni all llun gyfleu syniadau a damcaniaethau cymhleth; ac eiddo’r arbenigwyr, a’r sawl a fedrai dalu am eu harbenigedd oedd y llun, ac felly…erys anghofio’n arferol a chofio’n eithriadol!

Datblygwyd ysgrifen, a maes o law, llyfrau. Dyma ddatblygiad rhyfeddol yn ein hymdrech i gofio. Gyda datblygiad ysgrifennu daeth modd i gadw ein profiad, gallu a gwybodaeth yn ddiogel a chywir, ar femrwn. Ond eiddo’r ychydig dethol bu’r gallu i ysgrifennu a pherchenogi’r hyn a ysgrifennwyd am ganrifoedd lawer eto. ‘Roedd y gwaith o gofnodi ar bapur yn anferth ac araf. Amcangyfrifir fod cwmni o ysgrifellau mewn mynachlog yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar ddeg wedi cynhyrchu chwedeg chwech o lyfrau mewn…dwy flynedd ar hugain o lafur di-dor! Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, ‘roedd llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn cynnwys 122 o lyfrau! Ym 1450, daeth newid byd, daeth gwasg argraffu Gutenberg. Daeth llyfrau’n bethau llawer llawer fwy cyffredin, llaciwyd gafael y dethol rhai ar wybodaeth, ond yn sgil pris uchel llyfrau, ac anllythrennedd lled gyffredin, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio o hyd. Ie, anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Gyda’r papur newyddion beunyddiol, daeth modd i bobl cael gwybod beth oedd yn digwydd yn eu cymuned a’u byd. ‘Roedd gwybodaeth ar gael i fwy a mwy o bobl, ond mae’r newyddion beunyddiol yn troi’n hen dros nos! ‘Roedd y pwyslais ar heddiw – rhyw edrych ar bethau fesul diwrnod – mae’r papur newyddion. Mae’r pwyslais ar ddeall, nid cofio, ac o’r herwydd parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol.

Maes o law, daeth ffotograffiaeth, recordiau a ffilm. A ydych yn cofio eich camera cyntaf tybed? Er yn ddigon o ryfeddod ar y pryd, gwyddom erbyn heddiw mae gwaith digon anodd a chymharol ddrud oedd prosesu’r lluniau hyn, ac o’r herwydd ‘roedd gofyn i bobl bwyllo wrth gymryd llun, rhag gwastraffu un o’r 36 llun a berthyn i’r ffilm arferol! Arhoswyd am yr amser iawn i wasgu’r botwm, gosodwyd pobl mewn trefn, a gofynnwyd iddynt wenu’n ddel er mwyn argraffu’r lluniau a’u gosod yn dwt mewn albwm trwm a thrwchus. Mawr bu’r newid! Gall cof bach y camera digidol cadw miloedd o luniau, ond y cyfnod analog hwnnw y’n ganed ni iddo, gwaith anoddach o lawer oedd cadw atgofion a chynnal y cof, a do, parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol hyd nes yn gymharol ddiweddar.

At hyn dwi’n dod! O’r dechrau, ‘roeddem yn anghofio llawer mwy o bethau nag ‘roeddem yn gallu cofio. ‘Roedd maint ein byd, natur ein cymdeithas â’n gilydd yn sicrhau fod anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol. Gyda datblygiad technoleg digidol a rhwydweithiau rhyngwladol mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Erbyn hyn, mae cofio’n arferol, ac anghofio’n eithriadol. Yn 2007, cyfaddefodd Google fod pob un cais o eiddo ei ddefnyddwyr, a phob un canlyniad a gliciwyd arno wedi ei gofnodi’n gymen gan y cwmni. Cystal cyfaddef felly, fod Google yn cofio trwch o bethau amdanom, am ein bywyd, ac am ein ffordd o fyw, sydd wedi hen fynd yn angof gennym! Mae Google yn gwybod fwy amdanom ni na fedrwn gofio amdanom ein hunain! Mae polisïau Google wedi gorfod newid yn ddiweddar, ond erys hyn fel esiampl o beryglon enbyd y cofio dwfn sydd mor nodweddiadol o’r oes ddigidol hon.

Mae goblygiadau y cofio dwfn hwn yn bwysig i bawb, ond yn eithriadol bwysig i bobl ffydd. Wrth wraidd ein ffydd mae maddeuant Duw; hanfod maddeuant Duw yw ei barodrwydd i ‘anghofio’ ein pechod – i osod ein pechod o’r neilltu: Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd, medd yr ARGLWYDD. Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân (Eseia 1:18). Heb y gosod hwn o’r neilltu – yr anghofio hwn – mae maddeuant yn amhosibl. ‘Rydym yn palmantu’r ffordd i ddyfodol heb y gallu i anghofio, ac felly heb fedru gosod ein pechodau o’r neilltu, ac o’r herwydd heb y gallu i faddau’n iawn a llawn.

Bellach, mae’r hyn oll a wnawn ar gof a chadw digidol, ac mae hynny, wrth gwrs yn newid y ffordd yr ydym yn ymwneud â’n gilydd. Yr ydym yn cofio, ac anghofio fel cymunedau, mae ein hanallu i anghofio yn yr oes ddigidol hon yn golygu nad oes gwir gyfle i’r sawl a droseddodd yn erbyn y gymuned i symud ymlaen ac ailddechrau wedi iddo ateb am ei drosedd. Mae ein ddoe, a’n hechdoe fel tatŵ ar fraich ein byw. Ni ellir dianc rhagddo.

Nid wyf am eiliad yn annog agwedd Canute (985 – 1035) debyg – nid oes troi llawn technoleg yn ôl! Ond, fe ddylem, yn union oherwydd hynny, sylweddoli fod anghofio troseddau a chamgymeriadau, a phob cyfle i ailddechrau ac ailgydio a ddaw yn sgil yr anghofio hwnnw, yn mynd yn anoddach o hyd fyth. Heb ein bod ni a’n tebyg ym mynd i’r afael a hyn, bydd ein plant, a phlant ein plant yn byw a’u ddoe a’u heddiw yn gymysg gawl! Yng ngeiriau T.S.Eliot (1888-1965): “If all time is eternally present, all time is unredeemable.” (Burnt Norton. No.1 Four Quartets. 1943, Harcourt Press).
Owain Llyr Evans

Ymateb i’r Athro Densil Morgan

Yn ei Ragymadrodd i argraffiad newydd o’r gyfrol The Span of the Cross, mae’r Athro Densil Morgan yn hallt iawn ei sylwadau ar Cristnogaeth 21. Dyma ddyfyniad o’i eiddo:

In 2000, a somewhat desperate last-ditch attempt to create what had been, forty years earlier, the ecumenical dream of a single Welsh Nonconformist church failed due to the noisy protestations of a phalanx of recalcitrant Independent ministers, but even more to the realization on the part of the Presbyterian Church of Wales that a putative centrally organized single Nonconformist church encompassing all the denominations would virtually bankrupt its own pension fund. Some of the key proponents of the abortive venture have since channelled their energy into doctrinal matters through the Welsh website Cristionogaeth (sic) 21 (Christianity 21) in which a reductionist theology, reminiscent of the 1960’s, is once more in vogue. Trinity, incarnation, the deity of Christ and the unique authority of the Word of God are said to be incompatible with the norms of the twenty first century world, and as such will have to be jettisoned. Such a program will itself run into the sand, but it is indicative of of the frustrations of a disillusioned generation of ministers who, at the close of their ministries, have witnessed massive and disheartening decline.

Isod, wele ateb y Parchedig Pryderi Llwyd Jones i’w sylwadau.

Mae ei ddisgrifiad o Annibynwyr 2000 ( a wrthwynebodd yr uno ) yn ddiamwys ac yn hallt (‘a phalanx of recalcitrant Independent ministers’). Yr Annibynwyr sydd i benderfynu a yw ei ddisgrifiad yn un teg. Yna mae brawddeg yn dweud mai rheswm pennaf tros fethiant yr uno (but even more ) oedd i Eglwys Bresbyteraidd Cymru sylweddoli y byddai’r cynllun yn ‘virtually bankrupt its own pension fund.’ I enwad a gefnogodd y cynllun, ac a gytunodd i barhau i drafod er nad oedd pwrpas i hynny yn y diwedd, nid oes sail i’r hyn a ddywed Densil am yr Eglwys Bresbyteriadd. Efallai ei fod wedi siarad gyda un neu ddau oedd yn poeni am effaith uno a’r gynllun pensiwn, ond ni fu yn ddadl dros wrthod y cynllun uno. Yn y cofnodion am y drafodaeth ( Cofnodion y Gymanfa Gyffredinol 2000/01/02 ) ni fu sôn am Gronfa Pensiwn. Go brin felly fod gan yr awdur yr hawl i wneud gosodiad o’r fath.

Yna fe ddaw y brawddegau sy’n ddirgelwch llwyr. Mae’n dweud mai ymdrech gan some of the key proponents y cynllun uno, ar ôl methiant hwnnw, oedd sefydlu Cristnogaeth 21. Dim ond dau ( cyn belled ag y gwyddom ) oedd ar unrhyw bwyllgor i drafod sefydlu’r eglwys unedig. Mae’r criw a sefydlodd y wefan yn gwbwl syfrdan gyda’r honiad. Mewn gwirionedd, ni fu ‘uno’r enwadau’ na ‘methiant uno’r enwadau’n rhan o’r drafodaeth a arweiniodd i sefydlu’r wefan o gwbwl a go brin bod unrhyw drafodaeth sydd yn ymwneud ag uno wedi bod ar y wefan chwaith.

Ond yna daw brawddeg sy’n bersonol iawn. Dywed yr awdur fod Cristnogaeth 21 yn deillio o the frustrations of a disillusioned generation of ministers who, at the close of their ministries, have witnessed massive and disheartening decline. Mae’n berffaith wir fod llawer o’r criw fu’n trafod sefydlu Cristnogaeth 21 yn rhai ar fin ymddeol neu wedi ymddeol. Yn un o’r cyfarfodydd cynnar yn 2004, roedd 8 o’r ugain yno yn weinidogion, 2 ohonynt wedi ymddeol , 6 yn leygwyr a 4 o ferched . Roedd y brwdfrydedd, y sêl genhadol, y drafodaeth fywiog ac argyhoeddiad dwfn o’r ffydd yn amlwg iawn yn ein plith Nid criw wedi ein siomi na’n dadrithio ydym ond nifer sydd wedi gweinidogaethu yn llawen tros y blynyddoedd ac wedi bod yn gyson yn ein argyhoeddiad a’n hymdrechion i ddehongli a chyflwyno Efengyl. Yr ydym hefyd wedi bod yn astudio, myfyrio, pregethu’r Gair yn ddiflino tros flynyddoedd lawer ac mae’r efengyl yn fythol newydd i ni. Yn wir fe hoffem fod yn ieuengach, ond gobeithiwn hefyd fod i’r rhai hyn gyfraniad i waith y Deyrnas. Yn fwy na dim gobeithiwn, yn wylaidd a gostyngedig, ond yn ymwybodol iawn o’n methiannau, ein bod wedi arwain ein pobl i addoli Duw, i ddyfnhau eu ffydd ac i dystio i’r Efengyl. Ein gweddi yw ein bod – ac yn parhau i fod – yn gwasanaethu ein Harglwydd. Nid ydym yn griw digalon a siomedig – mae’n argyhoeddiad a’n cred yn dyfnhau, nid pylu. Rhan o’n bwriad yw ceisio rhoi lle a llais i’r traddodiad radical Rhyddfrydol ( sydd wedi cael ei feirniadu yn ddidrugaredd a’i feio am yr holl ddirywiad , gan yr uniongredwyr traddodiadol ) ond mae’n lais yr un mor ddilys, Feiblaidd a hanesyddol na’r honedig draddodiad Beiblaidd efengylaidd Protestannaidd’. Dehongliad arall posibl o’r dirywiad yn y dystiolaeth Gristnogol yw nad yw’r iaith a’r dehongli sydd wedi eu defnyddio tros y cenedlaethau yn ddealladwy erbyn hyn – ciliodd y miloedd o’r eglwysi am nad yw’r diwylliant diwinyddol yn golygu dim iddynt. Mae angen llawer mwy nag ail adrodd ystrydebau. Mae Keith Ward yn ei gyfrol Rethinking Christianity ( ef oedd y gwr gwadd yng nghynhadledd Cristnogaeth 21, 2010 ) yn dangos yn glir fod yr eglwys ym mhob cyfnod wedi gorfod ail ystyried y ffordd y mae am gyflwyno yr Efengyl i’w hoes. Os nad yw’n gwneud hynny, traddodiad marw yw’r etifeddiaeth Gristnogol.

Cafodd Densil Morgan, yn dilyn beirniadaeth arall ganddo ar Gristnogaeth 21, wahoddiad i ymateb i erthygl ar y Drindod gan Vivian Jones ar y wefan hon ( gw. Erthyglau ). Yr ydym yn ei hystyried yn erthygl sy’n haeddu sylw oherwydd ei bod yn enghraifft o ddiwinydda gonest ac ystyrlon o’r radd flaenaf. Ni ddaeth ymateb. Nid yw’r erthygl yn gwadu’r Drindod ond y mae’n mynd yn ddyfnach nag ail adrodd athrawiaeth a luniwyd mewn cyfnod arbennig pan odd y pwyslais yn athronyddol a’r awyrgylch yn ddadleuol. Sut all unrhyw addolwr/wraig o Gristion wadu’r Duw sydd yn Dad, Mab ac Ysbryd Glan, oherwydd iaith addoli ydyw ? A dyna ydyw yn y Beibl hefyd. A yw Densil yn awgrymu nad oes ond un ffordd o fynegi cred yn y Duw byw, yn Arglwyddiaeth ei Fab ac yng ngrym a dylanwad yr Ysbryd ? Nid yw galw’r erthygl hon, er enghraifft, yn ddim ond reductionist theology ( Densil eto ) yn deilwng o hanesydd diwinyddiaeth. A phetai wedi bod mewn cyfarfod o Gristnogaeth 21 ddiwedd Medi fe fyddai wedi clywed digon o sôn am Iesu fel calon a chanol ein bywydau a’n cred. Ni allwn, wrth gwrs , siarad ar ran pawb sy’n gysylltiedig â’r wefan oherwydd nid oes unffurfiaeth barn yn ein plith – dyna yw natur C21 a’r grwpiau lleol sydd yn tyfu mewn ymateb i’r wefan. Pererindod yw’r bywyd Cristnogol a chan fod pobl wedi cyrraedd mannau gwahanol ar y bererindod honno, onid ydynt yn amrywio yn eu cyffes a’u cred ?

A hithau yn ganmlwyddiant geni Pennar Davies roedd yn ddiddorol darllen y geiriau yma yng nghofiant ardderchog Densil i Pennar, wrth sôn am feirniadaeth yn y Cylchgrawn Efengylaidd ar gyfrol Pennar Y Brenin Alltud : Ni chrybwyllodd ( h.y. yr adolygydd ) yr ysbryd defosiynol a oedd yn cynysgaeddu’r gyfrol, na’r canoli addolgar ar berson Iesu o Nasareth. Nid dyma’r tro cyntaf i efengylyddiaeth Cymru fod yn ddall i gymhellion didwyll a chrefyddol y rhyddfrydiaeth ddiwinyddol a mynnu barnu yn lle gwerthfawrogi. Hmm.

Nid ydym yn disgwyl gwerthfawrogiad, wrth gwrs. Mae beirniadu ac esgymuno o deulu’r ffydd yn rhan o hanes trist Cristnogaeth. Bychan ac ymylol yw ein cyfraniad ond credwn ei fod yn angenrheidiol er mwyn hygrededd a gwirioneddau’r Efengyl ei hun. Ond yr ydym yn disgwyl sylwadau mwy teg sydd yn dangos mwy o ddealltwriaeth o fwriad a nod gwefan Cristnogaeth 21. Mae hynny wedi ei nodi yn glir ar dudalen gartref y wefan. Mae Densil yn gwbwl rhydd i gyfrannu iddi ( ac yr ydym yn gwerthfawrogi yn fawr ei gyfraniad arbennig i’r etifeddiaeth Gristnogol yng Nghymru ) ac rwy’n siŵr ei fod yn cytuno y dylai diwinyddiaeth fod yn drafodaeth fyw rhwng yr academi a’r eglwys ac, yn bwysicach fyth, yn ein tystiolaeth i’r Efengyl yn y Gymru hon .

Nietzche

Fel y mwyafrif llethol ohonoch, mae’n siŵr, dw i’n gwbl argyhoeddedig mai llesol i’r Cristion yw darllen gwaith y mwyaf huawdl o’r anffyddwyr mawr. Dyna’n union pam nad oes wirioneddol rhaid i ni ddarllen gwaith Samuel Harris, Richard Dawkins a Christopher Hitchins! Gellid darllen cynnyrch y rhain er diddordeb; ond nid os ydym am wybod beth yw anffyddiaeth go iawn – anffyddiaeth â dannedd arni, anffyddiaeth â min iddi, gwell o lawer buasai darllen Bertrand Russell efallai, Albert Camus o bosib, ond Nietzche yn sicr!Mae anffyddwyr ‘pop’ ein cyfnod yn gyson annog pobl i ymwrthod â chrefydd, i wthio o’r neilltu yr hen ofergoeledd gwenwynig am Dduw creadigol a gwaredigol. Wrth ddarllen eu gwaith, mae’n amlwg fod y tri ohonynt yn credu y buasai diwylliant y Gorllewin, heb Dduw, yn parhau heb newid i bob amcan a chyfrif. Fe ellid, meddent, gadw’r golau er colli’r haul. Nid ydynt yn or awyddus i ddilyn llinyn eu syniadaeth i’w ben draw synhwyrol. Heb Dduw, heb grefydd, meddent, buasai terfysgaeth a ffwndamentaliaeth yn diflannu, buasai pawb yn gweld a chydnabod ei ffolineb, ac yn derbyn mai esblygiad yn hytrach na Duw creadigol yw gwraidd a bonyn pwy a beth ydym fel pobl.Buasai Nietzsche yn gwrido! Nid anffyddiaeth go iawn mo hyn. Chwarae plant ydyw – llawn gymaint o chwarae plant a Dynoliaeth y chwedegau. Bas ydyw, ond dyfroedd diogel yw’r dyfroedd bas. Mynnodd Nietzsche wthio i’r dwfn, ildiodd i lanw mawr ei ddamcaniaeth. Pan gollir ffydd yn Nuw, meddai, collir pob peth arall hefyd, collid y moesoldeb sydd wrth wraidd ein diwylliant.

Christianity is a system, a consistently thought-out and complete view of things. If one breaks out of it a fundamental idea – the belief in God – one thereby breaks the whole thing to pieces: one has nothing of any consequence left in one’s hands.

Nid wyf am awgrymu bod yn rhaid bod yn grefyddol i fod yn foesol. Perthyn moesoldeb (ac anfoesoldeb) i’r crefyddwr a’r anffyddiwr fel ei gilydd. Ond heb ffydd yn Nuw mae seiliau moesoldeb ein diwylliant yn gwegian – daw geiriau fel dyletswydd, gonestrwydd, teyrngarwch, ymddiriedaeth yn llai egniol, llai ystyrlon – ac ar y pethau hyn y adeiladwyd, ac adeiladir y diwylliant Gorllewinol. Hebddynt buasai’r cyfan oll yn dechrau erydu; mae’r peth yn digwydd nawr, a da yw cofio nad oes yn rhaid i ddiwylliant farw gyda bloedd sydyn, fe all farw gydag ochenaid hir, dawel.

Anffyddiaeth go iawn oedd anffyddiaeth Nietzsche, anffyddiaeth tu hwnt hollol i Harris, Hitchins a Dawkins gan na fuasai’r anffyddiaeth hwn byth yn gwerthu llyfrau! Anffyddiaeth onest, synhwyrol ydoedd – ynddo cawn gip olwg ar wir oblygiadau gwir anffyddiaeth, wedi gollwng gafael ar Dduw one has nothing of any consequence left in one’s hands.

Owain Llyr Evans