‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

Phoebe sy’n disgrifio golwg newydd ar rannau o’r Hen Destament. Ydi arferion Teml Solomon yn cynnig ffordd newydd o feddwl am ateb i gwestiwn Iesu,‘Pwy meddwch chwi yr wyf i?

‘Rwy’n perthyn i griw bach o ffrindiau sy’n cwrdd i drafod darnau o’r Beibl sy’n ddryswch neu’n boen iddynt. Daeth un ohonom â stori Ananeias a Saffeira i’n sylw’n ddiweddar ac mi euthum ati i chwilio cefndir. A dyma ddarganfod y digrifwch (neu’r cywilydd) nad yw’r hanes enbyd hwn yn cael ei gynnwys fel darlleniad dydd Sul yn y Llithiadur Diwygiedig Cyffredin’ sy’n fframwaith a sail pregethu llawer o enwadau. A’r llithiadur tair blynedd hwn yn ganllaw i bregethu eang, cynhwysol ac amserol; tipyn o syndod oedd darganfod bod y stori hon yn ormod o her, (neu o ‘embaras’ i gael i gynnwys yn narlleniadau’r Sul. Dyna dystiolaeth bellach, pe bai angen hynny, ein bod bawb ohonom yn llunio rhyw ‘ganon’ personol o beth sy’n ystyrlon a chredadwy yn ein Beibl.

Ystyriwn am funud lyfrau’r Apocryffa. Faint o ddilynwyr gwefan Cristnogaeth21 sy’ wedi pori’n ddiweddar ynddyn’ nhw, llyfrau a oedd yn rhan o ‘ysgrythurau’ Iesu, y disgyblion a’r eglwys fore? Ceir darnau godidog a phwysig yn yr Apocryffa, ond fe luchiwyd y gwych allan gyda’r gwachul am fod arbenigwyr y cyfnod wedi barnu nad oedd modd i rai ohonyn nhw fod yn ‘Air Duw’ yn ôl diffiniad y Diwygiad Protestanaidd. Yn y Beiblau a ddefnyddir gan Eglwys Rufain mae rhai llyfrau wedi eu gwasgaru ymhlith gweddill llyfrau’r Hen Destament ac eraill wedi eu dileu yn llwyr o’r canon. Ond mae’r Beiblau Cymraeg a Saesneg wedi eu gosod ar wahân, rhwng y ddau Destament. ‘Dydyn nhw ddim ,fel petae, yn kosher ac o ganlyniad, argraffiadau o’r Beibl heb y llyfrau Apocryffaidd yw beth sy’ gan fwyafrif y Cymry.

Felly prun yw’r Beibl iawn?’ A’i fersiwn y Diwygiad Protestanaidd ynte’r canon a luniwyd gan yr eglwys fore sy’n “anffaeledig Air Duw”? Buasai Luther wedi hoffi cau allan lythyr Iago a Llyfr y Datguddiad. Dim ond ar y funud olaf y llwyddodd hwnnw i grafangu lle yn y Canon cynnar. Ac mae e wedi peri digon o ddryswch a chamddehongli.

Ni ddeffrowyd fy chwilfrydedd i ddarllen yr Efengylau Apocryffaidd na’r cyfrolau dysgedig yn cynnwys cyfieithiadau o’r Pseuepigrapha yn nyddiau coleg. Mewn ffordd braidd yn ddifater tybiais eu bod yn fater i ysgolheictod ac nid pregethu. Ond mae gwybod sut y lluniwyd ‘Canon’ y Testament Newydd a’r Hen yn fater o bwys pan fo ‘anffaeledigrwydd’ y Beibl yn dal yn destun dadl. Mae pleidwyr anffaeledigrwydd y testunau ‘Protestanaidd’ yn gwahaniaethu’n syml rhwng awdurdod a dilysrwydd y testunau canonaidd (Protestanaidd) a’r rhai a esgymunwyd. Er bod Paul yn amlwg yn adnabod y llyfrau a elwir yn ‘apocryffaidd’, ac yn dyfynnu ohonyn nhw, mae’n amheus gennyf a oes llawer o bregethu arnynt heddiw yng Nghymru.

Tipyn o her felly rhyw dair blynedd yn ôl oedd dod ar draws ysgolhaig Beiblaidd sy’n barod i honni bod Llyfr y Datguddiad yn allwedd i ddeall sut yr oedd yr eglwys fore Iddewig ( yr un gynharaf oll,) yn dehongli ystyr bywyd yr Iesu. Y mae dehongliadau Margaret Barker yn dipyn o her i ysgolheictod hanesyddol draddodiadol, ond mae hi wedi ymdrwytho yn llawysgrifau’r Môr Marw, yn y Pseuddepigrpha, yn yr efengylau apocryffaidd, ac yn wir yn y testunau canonaidd y trwythwyd hi ynddynt yn yr Eglwys Fethodistaidd. Fe geisiaf nodi rai o’r pethau sy’ ganddi i’w dweud * sy’n taflu goleuni newydd ar y testunau a gymerwn yn ganiataol.

Pan ddarganfuwyd papurau’r Môr Marw bu llawer o sôn y byddai’r darganfyddiadau yn ysgwyd athrawiaethau uniongred yr eglwysi trwy ddatguddio beth oedd meddylfryd y carfannau Iddewig a ymneilltuodd i’r anialwch. Ymneilltuo i’r anialwch a wnaeth Iesu wrth baratoi ar gyfer ei weinidogaeth.

Lluniwyd Canon Hebreig yr Iddewon o’r ysgrythurau gan y Rabiniaid a ddaeth at ei gilydd yn Jamnia yn yr ail ganrif. Cyfeirir at hwn fel y testun Masoritig – ac fe’u lluniwyd yn benodol i wrthsefyll dehongliadau’r Cristnogion o beth ddaeth i’w alw’n Hen Destament. Ymateb yn erbyn ffordd y Cristnogion o ddehongli testunau a wnaeth y Rabiniaid. Y mae’r testun Groeg o’r Hen Destament,( y Septuagint ‘Fersiwn y Saith Deg) yn wahanol. Pan ddechreuwyd cyfieithu’r Beibl i ieithoedd Ewrop adeg y diwygiad Protestanaidd y dybiaeth oedd fod dychwelyd at yr Hebraeg yn mynd i ddatguddio fersiwn mwy dilys. Ond testun wedi ei olygu yw’r testun Masoritig. Mae fersiwn llawysgrif y Môr Marw o Lyfr y Proffwyd Eseia yn hirach a mwy cyflawn na’r Testun Iddewig Masoritig a hwnnw mae’n debyg oedd y testun oedd yn gyfarwydd i Iesu. Pan gododd Iesu destun Eseia yn y synagog, nid fersiwn Jamnia na’n fersiwn Brotestanaidd ni oedd hi. Pa fersiwn sy’n ‘Air Duw’ felly? A sut yr ydym i’w darllen a’i dehongli?

Rhaid cofio bod y testunau Hebreig eu hunain wedi cael eu golygu a’u newid – sawl tro, o bosib. Disgrifiad a dehongliad o berthynas pobl Israel á Duw yng ngoleuni eu profiad yw’r ysgrythurau Hebreig. Mae digwyddiadau hanesyddol a chrebwyll a dirnadaeth ddynol yn newid y dehongliad hwnnw – ac yn wir yn newid y testun! Nid ystyrid eu bod o awduriaeth ddwyfol nac yn anffaeledig. Testun i’w ail-ddehongli o genhedlaeth i genhedlaeth yn ól beth oedd yn digwydd i’r genedl sy’n gyfrifol am y gwahanol safbwyntiau. Testun mewn gwewyr ydyw medd Rene Girard, y meddyliwr gwreiddiol sy’ wedi trydaneiddio’n deall o natur a phwrpas aberth mewn crefyddau, ac wedi taflu goleuni newydd ar sut y mae’r groes yn ‘gweithio’.

Mae Margaret Baker yn awgrymu bod teyrngarwch i ddiwinyddiaeth Teml Solomon wedi parhau’n fyw a bod llais Iesu yn adlewyrchu’r r traddodiad hwnnw. Ei hawgrym hi yw bod yr offeiriad a fwriwyd allan gan Joseia wedi ffoi i Arabia ac wedi meithrin eu diwinyddiaeth, diwinyddiaeth a darddai o adeiladwaith a dodrefn, a litwrgi- addoliad Teml Solomon. Diwinyddiaeth ‘presenoldeb’ Duw yn y cysegr sancteiddiolaf ydyw, nid deddf Moses yn unig. Bu’r dehongliad ‘Protestanaidd’ ar ddiwygiad Joseia yn cyflwyno’r Deuteronomydd fel math o Luther neu Galfin Iddewig yn bwrw allan ddefodau paganaidd a gwaith celf yn sawru o eilun addoliaeth. Dyna weld diwygiad y Brenin Joseia yn amser Jeremeia. Fel rhyw fath o ‘Ddiwygiad Protestanaidd’. Mae’r hanes yn edrych yn gwbl wahanol i’r traddodiad Uniongred Dwyreiniol.

Nid dim ond colli’r adeilad a defod oedd colli’r Deml gyntaf, teml Solomon, ond colli’r ddiwinyddiaeth litwrgaidd ac eiconaidd oedd yn cynnwys dealltwriaeth yr Iddewon o Dduw a’i berthynas â’i bobl a’i bresenoldeb yn eu plith. O gyfnod y deml gyntaf y mae cof hefyd am Doethineb, a gynrychiolid gan wraig a oedd hefyd yn offeiriad. Yr Archoffeiriad oedd canol ac uchafbwynt y ddefod. Ef yn ei briod swydd yn y cysegr sancteiddiolaf fel e’i disgrifir mor fyw gan Ann Griffiths, yn Fab Duw, yn Arglwydd ac yn Fab y Duw Goruchaf. Yr oedd y termau hyn yn gyfarwydd ac annwyl yn amgyffred a chof yr Iddewon am y Deml gyntaf . Peth naturiol oedd iddynt gael eu defnyddio am Iesu. Disgwylient ddychweliad Melchisedec ei hun ac iddyn nhw dyna oedd Iesu, neu o leiaf dyna un disgrifiad priodol ohono a’i allu i ddwyn presenoldeb Duw i’w plith.
Trafodaeth ar hyn yw’r Epistol at yr Hebreaid. Dadleua Margaret Barker nad rhyw o arweinydd milwrol a ddisgwylid yng nghyfnod Iesu i gael gwared ar y Rhufeiniaid, nid rhyw Fuherer, ond Melchisedec ei hun oedd yn cael ei atgyfodi yn y Cysegr sancteiddiolaf ac yn dwyn y Deyrnas Nefol i fodolaeth. Mae hi’n dadlau’n gelfydd trwy ddyfynnu o Lyfr y Datguddiad, yr Epistol at yr Hebreaid, a hefyd o epistolau Paul ein bod wedi camddeall beth oedd disgwyliadau a dirnadaeth y Cristnogion cynnar a sut yr atebent gwestiwn Iesu “Pwy , meddwch yr wyf Fi?”

Priodolid enwau a nodweddion yr archoffeiriad i Iesu – ond prin bod eglwys y gorllewin wedi dal ei gafael ar ddeall y cefndir hyn yn iawn. Nid teitlau newydd wedi eu dyfeisio fel labeli gwyddonol, ond teitlau traddodiadol y Deml oeddent yn enwi’r un a arferai weithredu cymod rhwng Duw a’r ddynoliaeth. Mae darllen pytiau bach o’r Epistol at yr Hebreaid yn ei gwneud yn hynod anodd deall y cefndir – ond byddai deall y llyfrau hyn yn help i ddatgloi rhai o’r clymau yr ydyn ni wedi ein carcharu ganddynt. ‘Rydyn ni’n dal i feddwl fel petaem yn y bymthegfed ganrif o hyd. Y mae Efengyl Ioan yn dweud yn eglur mai am fygwth trefn y drydedd deml, teml Herod y dygwyd Iesu gerbron y llys. I lawer o’r bobl a ddaliodd eu gafael yn y cof am y deml gyntaf nid oedd yr ail deml a godwyd wedi dychwelyd o Falion yn ddim ond fersiynau tila o’r deml wreiddiol a’i diwinyddiaeth lachar am natur y creu, y cyfamod, y Cymod a Doethineb. Putain ydoedd. Oherwydd nid y Ddeddf, ond presenoldeb creadigol Duw ei hun oedd yn bwysig. Hyn i gyd sy’n gefndir i’r canrifoedd cynnar pan luniwyd yr eirfa a’r cysyniadau sydd wrth wraidd Cristoleg yr Eglwys. Byddai dychwelyd i ddeall beth a phwy oedd Iesu’r archoffeiriad yn help i gyrraedd ateb i’r cwestiwn “Pwy y dywedwch yr Wyf Fi?”

Tybed, chwi giwed ryddfrydol radical, na fyddai Duw gyda ni – Emaniwel yn gwneud y tro, yn fan cychwyn eto.

Phoebe

Dywed y diwinydd o Babydd James Alison, bod yr Iddewon yn ymddiddori’n fawr yn g ngwaith Margaret Barker ac eraill yn y maes yma. Wedi’r cyfan y maent yn sylweddoli bod Iddewiaeth Rabinaidd yn ffrwyth dinistrio’r deml a cholli tir Israel. I ysgolheigion Israel heddiw sy’ wedi adennill y tir y mae sefyllfa gwbl newydd yn codi. Ac y mae’r angen i ail-ddehongli yn parhau.

Llyfrau Margaret Barker

The Risen Lord SPCK (1995)
Christmas The Original Story SPCK (2008)
The great High Priest SPCK(2003)
Temple Theology SPCK (2004)
An Extraordinary Gathering of Angels SPCK (2004)
The Hidden Tradition of the Kingdom of God SPCK (2008)
The Revelation of Jesus Christ Continuum T&T Clark (2000)

The Scapegoat – Rene Girard (Gwasg Prifysgol John Hopkins) 1986

19/11/2012