‘Troedigaeth’ … arall?

Peth rhyfedd yw iaith! Gall term a fu’n ddynodiad o barch mewn un genhedlaeth, droi yn ddirmyg i’r nesaf. Tybed nad gair felly yw ‘efengylaidd’ yng Nghymru heddiw. Ar ei orau, y mae yn air prydferth y byddwn yn falch o’i arddel petai rhywun yn ei ddefnyddio fel ansoddair i’m disgrifio, ond aeth yn air bellach sy’n dynodi agweddau na fynnwn ar un cyfri gysylltu fy hun a hwy. Oni chafodd ei ddefnyddio yn fwriadol gan ei arddelwyr i rwygo eglwysi, ac i gau pobl allan o’r hyn sydd yn ymddangos yn rhy aml yn ddim anad clwb bach preifat. Dichon yr anharddwyd y gair ei hun wrth ei ddefnyddio o gymhellion mor annheilwng.
Efengylaidd…?
Bu i minnau gael fy ngalw yn ‘efengylaidd’ droeon dros y blynyddoedd (er na fûm erioed yn gysylltiedig a’r ‘Mudiad’) ond mynnaf gyswllt a’r term yn unig mewn ystyr gyfyng a phenodol. I mi, roedd bod yn ‘efengylaidd’ yn golygu derbyn traddodiad o ddehongli awdurdod y Beibl mewn ffordd arbennig, ag a oedd o’r herwydd yn lliwio y ddealltwriaeth o bob athrawiaeth a safbwynt moesol arall. Y mae hynny yn parhau i fod yn ganolog yn fy ngherddediad ysbrydol, ac yn safbwynt y tybiaf ei fod yn meddu hygrededd rhesymegol, ag a ddylai dderbyn parch eraill, hyd yn oed os na chredant yr un fath. Agwedd arbennig at y Beibl felly yw hanfod bod yn ‘efengylaidd’ i mi, ond tybiaf fod y dehongliad hwnnw o’r gair yn rhy gul i gwmpasu y cyd-destun cyfoes, ac oherwydd fod y llabed wedi ei herwgipio a’i ddefnyddio mewn ystyr llawer mwy llac, fe’i caf yn haws yn gyffredinol i ymwadu a’r term, gan iddo ddod bellach yn ddynodiad o ddirmyg yn y modd y’i defnyddir.
A yw defnyddio ‘efengylaidd’ fel term o ddirmyg yn deg? Credaf o leiaf ei fod yn rhesymol, ac nad oes neb i’w beio ond yr ‘efengylaidd’ eu hunain. O ddiffyg ymgydnabyddu â pherson Iesu, syrthiodd y ’garfan’ i’r rhigol oesol o ystyried cariad Duw atynt yn nhrefn sofran yr ‘achub’, nid fel anogaeth i ostyngeiddrwydd a diolchgarwch, ond fel cynsail i falchder ag elitiaeth. Gwn yn iawn fod eich derbyniad i gylchoedd cyfrin y sefydliad efengylaidd yn dibynnu bellach, nid ar ddiffuantrwydd profiad, nag hyd yn oed ‘uniongredaeth athrawiaethol’, ond ar waseidd-dra difeddwl, ag i bwy yr ydych yn perthyn…gan fod ‘rhagor rhwng teulu a theulu mewn gogoniant’ yn y cylchoedd hyn. Yn wir, daeth yn amlwg i mi ers amser maith, fod yr honiad o ‘ffyddlondeb i’r Gair’ ei hun yn dwyllodrus, wrth i lawer a gydnabyddir yn efengylaidd, werthu yr etifeddiaeth deg am grefydd sydd yn rhoi pwyslais gwbl anghymesur ar y profiad goddrychol ag unigolyddol, a’i wneud yn faen prawf ac yn dystiolaeth derfynol popeth oll. Gwelwyd hefyd ildio i bragmatiaeth eithafol a wna ‘llwyddiant’ yn linyn mesur pob peth, yn yr awydd i ddangos fod ‘y fendith’ yn brawf o sêl Duw ar agenda sydd yn aml yn ddynol ddigon, (ac agenda a hyrwyddir mewn ffordd fyddai yn embaras i unrhyw gwmni masnachol neu blaid wleidyddol)! Dywedwyd unwaith fod crefydd yng Ngogledd America ‘dair mil o filltiroedd o led, a hanner modfedd o ddyfnder’, ac wrth i genhedlaeth newydd o arweinwyr ‘efengylaidd’ yng Nghymru geisio llwybr tarw at gynnydd, y mae perygl fod mesuriad y dyfnder yn gywir hyd yn oed os yw y lled yn llai! Nodwedd arall rwystredig yw tra ceir ymdrech frwdfrydig i amddiffyn anffaeledigrwydd yr adroddiad am Iesu yn y Beibl, prin fod tynerwch ei eiriau na’i esiampl wedi cael nemor effaith. Gwn yn dda, y fath ddirmyg sydd gan y sefydliad efengylaidd at unrhyw un a gwyd ei ben uwch y pared, a’r dirmyg hwnnw weithiau yn medru cymryd gwedd cwbl frawychus.
Rhaid felly i’r ‘efengylaidd’ hwythau gydnabod rhagrith eu safbwynt, a bod eu dirnad yn y meddwl cyffredin fel rhai eithafol ac anoddefgar, yn ganlyniad i’w hymddygiad eu hunain, a dichon fod llawer bywyd clwyfedig ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i agweddau rhai a dybient fod dirmygu eraill yn arf derbyniol yng ngwasanaeth Tywysog Tangnefedd. Rhaid iddynt dderbyn felly fod llawer o’r feirniadaeth a wynebant, ac ychydig ohono yn dra anghymesur ar brydiau, yn deillio yn aml o’u hanallu hwy eu hunain i ddelio ag eraill gyda’r parch a’r cariad y mae y Beibl yntau yn ei ddysgu mor glir.
Teimlaf y meddaf ryw hawl i ddweud hyn oll, megis un sydd ei hun wedi bod ar y ‘tu fewn’ megis ers dros chwarter canrif, ag sydd ei hun gwaetha’r modd, wedi bod yn rhy euog yn aml o’r rhai o’r beiau yr wyf yn awr yn eu rhestru.
O ddelio felly a’r ‘trawst’…beth am y ‘brycheuyn’!
Mas o’r bocs…!
Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, deuthum i weld fod cariad didwyll at Iesu yn medru ymddangos yn y mannau mwyaf annisgwyl, heb iddo fod wedi ei fynegi na’i ddiffinio yn iaith emyn na chyffes, tra y gwelais ar y llaw arall amryw oeddent yn gyfoethog eu profiad efengylaidd, ond yn amlwg yn fwy cyfarwydd a ‘pherson Crist’ na’i bersonoliaeth. Aeth y bocsys arferol felly yn ddiwerth, o leiaf felly i mi. A thra bod eraill yn dirnad eu cysur a’u hunaniaeth yn nhermau y llabed ar eu bocs bach hwy, sylweddolais bellach fod bywyd yn bosib tu fas i’r bocs, (hyd yn oed os yw cwmnïaeth yn brin).
Nid fod rhagfarn eithafol yn gyfyngedig i bobl efengylaidd, gan y’i gwelir mewn cylchoedd mwy rhyddfrydig hefyd. Efallai y gellid ei ddeall yn nhermau gwrthdystiad yn erbyn y rhyfyg hunangyfiawn a wel pawb yn golledig oddieithr ein cylch ffrindiau ni, ond nid yw fymryn harddach o’r herwydd. Derbyniais fy e-fwletin cyntaf o ‘Cristnogaeth 21’ (Medi 17), ac er efallai y dylaswn ei ddarllen yng nghyd-destun ehangach ymdrech ardderchog y wefan honno, prin y gellid ystyried ei gynnwys yn gymedrol, na chwaith yn amcanu at y ddealltwriaeth ‘gymodlon a goleuedig’ y cyfeirir ati. Y mae pentyrru ffwndamentalwyr Islamaidd (gyda holl gysylltiadau erchyll y term yn y meddwl a’r profiad cyfoes), ynghyd ag Iddewon sy’n ceisio lloches ddaearyddol wedi dioddefaint enbyd (er bod eu dioddefiadau heb eto eu goleuo yn eu hagwedd at y Palestiniaid) at Martin Luther (oedd yn ŵr o flaen ei amser mewn rhai pethau yn unig), llywodraethau barbaraidd y dwyrain canol, a chyd gristnogion sy’n dal safbwynt gwahanol ar Ordeinio merched, yn dangos fod yr oll ohonom yn medru llithro i ieithwedd rhagfarn. Prin fod cyfeirio at argyhoeddiadau eraill o fewn yr eglwysi yng Nghymru fel ‘eithafiaeth erchyll’ yn cyfrannu yn adeiladol at annerch cwestiynau anodd ein cyd-fyw.
Cred neu Cariad?
Yr erthygl grybwylledig gododd hefyd y cwestiwn o’r ‘eithafiaeth lle mae dilynwyr Iesu yn galw hoywon yn bechaduriaid’, ac efallai fod y mater hwnnw yn enghraifft dda o’r gwir gwestiynau sydd angen eu trafod, os ydym am rwystro eglwysi Cymru rhag fynd yn ysglyfaeth i’r math o eithafiaeth sydd yn canfod mantais mewn pegynnu pobl a thrafodaeth.
Oherwydd derbyn traddodiad arbennig o ddehongli awdurdod y Gair, y cyfeiriwyd ato eisoes, mae y mater yn peri cryn anhawster i mi. Y safbwynt cychwynnol i rai fel fi, yw fod popeth sy’n groes i ewyllys ddatguddiedig (a gwrthrychol os y’i cyfyngir i’r Beibl) Duw, yn ‘bechod’. Mae hynny yn cynnwys, hunanoldeb, balchder, ysbryd sectyddol, diffyg tosturi, rhagfarn, rhyfyg, a llu o bethau eraill sydd i’w gweld yn amlwg ynof fi, ac ynom oll. Ond y mae yn cynnwys hefyd sefyllfa yr hoyw. Cytunem oll fod barn y Beibl ar y mater yn glir, yr anghytundeb yw a ddylem benderfynu y mater ar sail dogfen o gyfnod a sefyllfa gwbl wahanol i’r eiddom ni? I mi, byddai ildio ar y mater yn fy ngorfodi i ddwyn i gwestiwn bopeth arall hefyd sydd yn dibynnu ar y dehongliad arbennig hwnnw o awdurdod yr ysgrythur.
Yn gyfochrog a hynny, mae yr ymwybyddiaeth fod crefydd yn glogyn cyfleus i ragfarn a chasineb yn achos llawer, ac na fynnwn i fod yn rhan o hynny. Yn wir, mae’n syndod cyson i mi faint o ryddfrydwyr diwinyddol sy’n troi yn lythyrenolwyr pybyr unwaith y sonnir am le yr hoyw, a phartneriaethau sifil! Dylai hynny fod yn wrthyn i bawb. Yr her sydd yn wynebu yr eglwysi yng Nghymru yw darganfod ffordd i gwmpasu hawliau moesol a chyfreithiol y gymuned hoyw, sydd yn gyfrifoldeb arnom oll, tra yn ceisio ateb hefyd a oes modd i un eglwys warchod yr urddas a’r hawl hwnnw, ynghyd a derbyn anrhydedd safbwynt y sawl na fyddant fyth yn medru ildio eu deall o awdurdod yr ysgrythur. Dyna gwestiwn y byddai yn dda gennyf gael help i’w ateb, ond ei bod yn anodd darganfod pobl sydd yn ddigon tirion ac eangfrydig i gynnal y sgwrs. Mae yn fater aruthrol o anodd i un fel fi, pan mae dyhead dwfn i wrthweithio rhagfarn, tra ar yr un pryd awydd cryf i warchod awdurdod moesol y Beibl. Tybed nad all Cristnogaeth 21 ddod yn fan cychwyn i sgwrs onest ac adeiladol ar y mater hwn, a materion eraill. Gwn fod fy naliadau yn gwbl wrthun i lawer, ond dichon fod a wnelo hynny efallai ag anwybodaeth ac amharodrwydd i gyffwrdd bywyd yr ‘arall’, sydd yn ‘bechod’ ar naill ochr y ddadl a’r llall.Sgwrs newydd.
Am ormod o amser, defnyddiwyd pob esgus i begynnu y drafodaeth grefyddol yng Nghymru, gan adael yr eglwys heb lais credadwy yn ein cymunedau. Y mae y ffordd yr ydym wedi delio a’n gilydd yn embaras i ni, ac yr wyf yn ymuno yn llawen a chymuned Cristnogaeth 21 am y credaf fod anoddefgarwch o bob ochr, ag amharodrwydd i gynnal sgwrs am bethau anoddaf ein tystiolaeth, yn llesteirio gwaith yr eglwys, ac yn ildio i ddyfodol o rwygiadau ac anghydfod. Fyddai ddim yn llai teilwng o esiampl yr Iesu.Morris P. Morris, Rhuthun.