
Agora rhif 32 mis Mai – Mehefin 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Llyfrau i herio a chynnal                            
Enid Morgan
Tröedigaeth a democratiaeth                  
Gethin Rhys
Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth
 Neville Evans
Yr Ysbryd Glân
John Gwilym Jones
Hen Gapel John Hughes Pontrobert
Nia Rhosier
- Apêl yr Hen GapelRhagor- Hen Gapel John Hughes, Pontrobert- Clywsom eitem ar Radio Cymru’n ddiweddar yn rhoi sylw i’r argyfwng sy’n wynebu’r Hen Gapel ym Mhontrobert, a chyhoeddwyd manylion apêl newydd a lansiwyd drwy’r papurau bro i geisio codi arian. Cawsom ninnau neges gan Nia Rhosier yn egluro beth yw natur y broblem bresennol:  - Sefyllfa Hen Gapel John Hughes Pontrobert (Gradd II*) a adferwyd gennym ni yma yn Sir Drefaldwyn gyda chefnogaeth Cymru gyfan ym 1995 a’i droi yn Ganolfan Undod ac Adnewyddiad Cristnogol yw bod y to yn gollwng ers blynyddoedd a’r adeiledd yn ... 
- Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaethRhagor- Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth- gan Neville Evans - Rwyn credu mod i’n cofio’n gywir mai Pennar Davies a gynigiodd y sylw, ‘Os ydych am wybod beth yw diwinyddiaeth y Cymry Cymraeg, ewch at eu hemynau’. Gyda hynny’n gyfarwyddyd, rhoddais amser yn ddiweddar i chwilota yn Caneuon Ffydd (lle ceir 873 o emynau yn yr iaith Gymraeg) am gyfeiriadau at ddigwyddiadau Gwener y Groglith a Dydd y Pasg, hynny yw, am gyfeiriadau at y Croeshoeliad a’r Atgyfodiad. - Y cam cyntaf a symlaf oedd troi at dudalen Cynnwys y llyfr emynau a chael bod un pennawd, ‘Y Groes’, gyda 61 o emynau (482–542) a phennawd arall, ‘Yr Atgyfodiad a’r Esgyniad’, gyda ... 
- Llyfrau i herio a chynnalRhagor- LLYFRAU I HERIO A CHYNNAL – Gwahoddiad i gyfrannu - Dyma gyfres o lyfrau sydd wedi bod yn gymorth a sialens i rai o bobl Cristnogaeth 21. Maen nhw’n cynrychioli rhychwant eang o safbwyntiau. Ond os ydych am estyn eich adenydd ysbrydol a deallusol, porwch yn y rhestrau isod. - Os carech chi ychwanegu teitlau, gyrrwch air at y golygydd: enid.morgan (at) gmail.com - Duw yn Broblem - Armstrong, Karen A Short History of Myth (Canongate, 2005) - Soelle, Dorothy Theology for Sceptics (Mowbray, 1993) - Spong, John Shelby Eternal Life: A New Vision (Harper, 2009) - Tomlinson, ... 
- Yr Ysbryd GlânRhagor- Yr Ysbryd Glân 
 gan John Gwilym Jones- Ni chofiaf imi erioed wneud yr Ysbryd Glân na’r Drindod yn destun pregeth. Roeddwn wedi llunio darnau byrion ar ddatblygiad athrawiaeth y Drindod ar gyfer darlithoedd, a hynny’n cynnwys syniadau’r diwinyddion a’r athronwyr am yr Ysbryd Glân, eithr mwy anodd o lawer fyddai ceisio cyflwyno syniadau am y Drindod a’r Ysbryd dwyfol i gynulleidfa o’m cyd-aelodau ar y Sul. Ond dyma ni nawr yn sŵn y Pentecost, felly efallai y dylem roi cynnig eto ar ddeall lle’r Ysbryd Glân ym mywyd ein heglwysi. - I mi, rhaid dechrau gydag Iesu, gan mai hwnnw yw’r person canolog ym mhob ystyr. Ond pa Iesu? Yn y ... 
- Tröedigaeth a democratiaethRhagor- Tröedigaeth a democratiaeth- Yn Agora Ionawr/Chwefror 2019, fe fûm yn sôn am fy nhröedigaeth o ran newid hinsawdd. Addewais geisio peidio â diflasu fy narllenwyr a’m cydnabod drwy sôn am y peth yn rhy aml. Ond un o nodweddion y sawl gafodd dröedigaeth yw eu bod yn closio at ei gilydd, ac yn porthi gweledigaeth ei gilydd.  - Dyma dderbyn drwy’r post, felly, gan un cyfaill gafodd brofiad tebyg (ac sydd, yn wahanol i mi, yn wyddonydd), gyfrol arall i’w darllen. The Uninhabitable Earth: A Story of the ... 
