Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi!
Cynnwys Agora mis Mawrth
(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

- Golygyddol Pryderi Llwyd Jones
- Cymru 1937 Soned R. Williams Parry
- Newyddion
- Absenoldeb-Presenoldeb Hefin Wyn
- Cloddio Agora yn holi Meurig Llwyd
- Y Pumed Cam Wynford Ellis Owen
- Gwaelod Pob Gofyn Addasiad o waith Thomas Merton
- Yn Ôl at Theomemphus Pryderi Llwyd Jones
- Athronyddu am Gymru Enid R. Morgan a Huw Williams
- Pytiau
- Ysbeilio’r Dyn Cryf Ched Myers ac Enid R. Morgan
Cofiwch am y ddau ddigwyddiad sydd wedi eu trefnu – y naill yn Efail Isaf a’r llall ym Mhenarlâg Manylion yn yr Adran Newyddion YMA
- Newyddion mis MawrthRhagor- Newyddion- Arwyddion yr Amserau- Mae Jude Kelly, fel Cyfarwyddwraig Canolfan y Southbank yn Llundain wedi cyflwyno rhaglen gyffrous ers pan mae hi wrth y llyw. Ond eleni mae’n cyflwyno rhaglen fydd yn ymestyn am flwyddyn gyfan ar rai dyddiau bob wythnos. Cred a thu hwnt i gred yw teitl y rhaglen ac fe fydd yn dechrau ar Fawrth 4-5 gyda seminar a chyfraniadau dros deuddydd, ar y thema Sut y gallwn fyw gyda marwolaeth. Yn ystod gweddill y flwyddyn fe fydd sesiynau cerddorol yn ymwneud â dioddefaint a’r Groes, ysbrydolrwydd a ... 
- Absenoldeb-PresenoldebRhagor- Absenoldeb-Presenoldeb- Hefin Wyn- Treuliais y bore yn cynorthwyo i gynnal gwasanaeth mewn capel diarffordd ym mherfeddion cefn gwlad. Serch hynny, cysylltid ei enw â thref lan-y-môr brysur gerllaw. Ond roedd ei leoliad o’r neilltu, ar y cyrion, fel pe bai’n drosiad am ei statws o fewn y gymdeithas bellach. - Ni thramwya fawr neb ar hyd y feidr mwyach – boed ddiwrnod gŵyl, boed Sabath neu ddiwrnod gwaith. Roedd y llwybrau wedi glasu. Doedd yna fawr o raen i’w weld ar yr ... 
- Y Pumed CamRhagor- Parhad gyda’r- Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA - Wynford Ellis Owen,
 Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd- Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut ... 
- Yn ôl at TheomemphusRhagor- Cofio Pantycelyn- Yn ôl at Theomemphus- Pryderi Llwyd Jones- Er bod nifer wedi bod yn hallt eu beirniadaeth na neilltuwyd 2017 fel Blwyddyn Genedlaethol Pantycelyn ar achlysur trichanmlwyddiant ei eni – fel y bu dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas – fe fu cryn sylw yn y cyfryngau Cymraeg. - Neilltuodd Radio Cymru chwe rhaglen ar y Sul olaf o Ionawr; bu dwy raglen Caniadaeth y Cysegr; bu DCDC; bu nifer ... 
- PytiauRhagor- Paul Ricœur- Rhaid i ni ddeall er mwyn credu, ond rhaid i ni gredu er mwyn deall. - Paul Ricœur, The symbolism of evil (1967, t. 351) - Jean Vanier:- Y llynedd gofynnodd un o’r cynorthwywyr ifanc, sy’ heb unrhyw ffydd grefyddol, ac sy’n byw yn L’Arche, ‘Beth yw’r busnes Garawys yma?’ - Atebais mai dyma’r amser pan fyddwn ni’n meddwl am yr holl bobl dlawd ac ifanc yn y ... 
- Cymru 1937Rhagor- Gan ddilyn trywydd y golofn olygyddol y mis hwn, a hithau hefyd yn Ddydd Gŵyl Dewi, nid drwg o beth fyddai inni edrych o’r newydd ar neges Bardd yr Haf yn ei soned enwog.- Cymru 1937- Cymer i fyny dy wely a rhodia, O Wynt, Neu'n hytrach eheda drwy'r nef yn wylofus waglaw; Crea anniddigrwydd drwy gyrrau'r byd ar dy hynt, - Ni'th eteil gwarchodlu teyrn na gosgorddlu rhaglaw. Dyneiddia drachefn ... 
- GolygyddolRhagor- Golygyddol- Pryderi Llwyd Jones- Diwygiad ynteu diwygio? Mae’n hen gwestiwn ac yn codi ei ben eto yn 2017. O fewn y gymuned Gristnogol Gymraeg yn arbennig (a sylw wrth fynd heibio, efallai, yn y gymuned Gristnogol Saesneg yng Nghymru ac yn fyd-eang) fe fydd cofio Williams Pantycelyn yn gyfrwng i bwysleisio’r angen am ddiwygiad ysbrydol fydd yn rhoi Cymru ar dân unwaith eto. - Mae’r weddi a’r dyhead hwnnw yno yn barhaus, wrth gwrs, ac yn rhan o etifeddiaeth Gristnogol cenhedlaeth na ŵyr ddim am ddiwygiad. Mae twf y dystiolaeth ... 
- Cloddio- Agora yn holi- Meurig Llwyd, Archddiacon Ffrainc, - Diolch am gytuno i gael sgwrs ar gyfer darllenwyr Agora. I lawer fe fydd yn rhyfedd meddwl fy mod yn sgwrsio ag Archddiacon Ffrainc. Mae gofalaethau gweinidogion Wesle yng Nghymru yn ddigon mawr ond mae dy ofal di yn wlad gyfan. Dau gwestiwn yn un: sut wyt ti wedi cyrraedd fan hyn a beth mae’r swydd yn ei olygu? - Rhagor - Gwaelod Pob GofynRhagor- Gwaelod Pob Gofyn, Pwy Wyf Fi? (Thomas Merton)- Yng nghanol ein bod mae ’na bwynt diddymdra sy heb ei gyffwrdd gan na pechod na ffugio, pwynt o wirionedd pur, pwynt neu sbarc sy’n gwbl eiddo i Dduw, na allwn ni byth ei ddefnyddio; trwy hwn y mae Duw’n defnyddio’n bywydau; ni ellir ei gyrraedd gan ffantasïau ein meddyliau na chreulonderau ein hewyllys ein hunain. Y pwynt diddymdra hwn o dlodi llwyr yw gogoniant pur Duw ynom ni.  Hwn, fel petai, yw enw Duw ynom ni fel ... Hwn, fel petai, yw enw Duw ynom ni fel ...- Athronyddu am GymruRhagor- Athronyddu am Gymru- Enid R. Morgan yn holi Huw Williams- Bu sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bwnc dyheu a gobaith, ac yn gynnyrch gwaith caled. Rydyn ni’n dechrau clywed lleisiau ifanc newydd yn siarad gydag awdurdod a rhugledd am bynciau pwysig a diddorol sy’n destun eu hymchwil. - Testun llawenydd i lawer oedd llwyddiant Meredydd Evans yn sicrhau y byddai darlithyddiaeth mewn athroniaeth yn rhan o ddarpariaeth y coleg newydd. Yn ystod yr haf eleni daeth un o ffrwythau’r penodiad i’r amlwg y tu hwnt i’r byd academaidd wrth ... - Ysbeilio’r Dyn CryfRhagor- Ysbeilio’r Dyn Cryf- Enid R. Morgan- ‘Make America Great Again’ oedd slogan mudiad Donald Trump a’i giwed wrth iddo gelwydda’i ffordd i fod yn Arlywydd. Peth arswydus yw gweld gwlad â chymaint o adnoddau yn byw mewn cwmwl o hiraeth am y tybiwyd a fu. Gwelsom yr un broses ym Mhrydain a’r un meddylfryd yn ymgyrchoedd UKIP. Hiraeth am gyfnod pan oedd rhyw Ni go niwlog ond hunandybus yn meddu cyfoeth, awdurdod, annibyniaeth a grym i reoli dros eraill ... 

