Y Pumed Cam

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y PUMED CAM

Cyfaddefwn ein camweddau

Rydym wedi dysgu llawer drwy weithredu Cam 4 ac wedi gorfod derbyn nifer o wirioneddau anghyfforddus ac annifyr amdanom ni ein hunain yn y broses. Yn awr, wrth weithredu Cam 5, mae gofyn inni gymryd y risg fwyaf un hyd yma.

Mae’r ffrwyth mwyaf, aeddfetaf, fel rheol, ar y brigyn uchaf, anoddaf cyrraedd ato. Mae’n rhaid cymryd risg i’w berchnogi a’i fwynhau. Felly hefyd gydag adferiad. A’r risg fwyaf wrth adfer yw bod yn barod i roi ein hunan mewn sefyllfa i gael ein clwyfo. Vulnerability yw gair y Sais amdano. Mae’n golygu gostwng y masg rydym wedi cuddio y tu ôl iddo drwy’n bywydau; rhoi’r gorau i berfformio – beth rydym yn tybio mae’r person arall eisiau ei weld ynom; beth rydym yn tybio mae’r person arall eisiau ei glywed gennym. Mae’n golygu bod yn authentic; yn ‘true to nature’, ys dwedodd Wil Bryan ers talwm. Mae’n golygu cymryd y risg fwyaf, sef ‘bod yn ni ein hunain’.

Mae Cam 5 yn golygu mwy na dim ond darllen yr hyn sydd yng Ngham 4, felly. Mae i’w wneud â’r cyfaddefiad a wnawn – i Dduw, i ni’n hunain, ac i berson arall – a’r cyfaddefiad hwnnw sy’n gyfrifol am y twf ysbrydol sy’n gysylltiedig â’r cam hwn. Eisoes cawsom beth profiad o wneud cyfaddefiadau. Rydym eisoes wedi cyfaddef bod gennym afiechyd, bod angen help arnom; a bod Pŵer allai ein helpu.

Gall y profiadau hyn fod yn help ac yn ysgogiad wrth inni wynebu Cam 5.

Teimlodd llawer ohonom ryddhad wrth inni gwblhau Cam 4, gan feddwl bod y rhan galetaf drosodd, dim ond i sylweddoli fod Cam 5 yn aros amdanom. Dyma pryd y daeth yr hen, gyfarwydd ‘ofn’ i dra-arglwyddiaethu drosom unwaith eto.

Ofnai llawer ohonom y byddai’r ‘person arall’ yn ein barnu neu’n gwrthod gwneud dim byd â ni yn dilyn ein cyfaddefiadau; oedodd eraill ohonom gan na fedrem ymddiried yn llwyr yn y ‘person arall’ i gadw ein cyfrinachau. Poenodd llawer ohonom beth fyddai’r broses yn ei ddatgelu. Efallai y byddai rhywbeth sy’n guddiedig oddi wrthym ni ein hunain yn dod yn berffaith eglur i’r ‘person arall’ – a hwnnw, efallai, yn rhywbeth drwg. Poenodd llawer ohonom am ailgodi hen grachen gan amau a fyddai unrhyw werth yn hynny; ac i lawer ohonom, gan nad oeddem eto wedi  trafod Cam 4 ar lafar, nid oedd ei gynnwys yn hollol real rywsut; roedd elfen o gyfrinachedd yn parhau o’i gwmpas o hyd ac yn ein rhwystro rhag bod yn berffaith onest.

Mae balchder, hefyd, i ryw raddau, wedi bod yn gydymaith rhy barod inni hyd yma, a gall hwnnw sefyll ochr yn ochr ag ofn a’n rhwystro rhag bod yn gwbl onest ac agored â Duw, â ni ein hunain, ac â pherson arall.

Ond mae rhywbeth amgenach na’r ddau elyn cyfarwydd yna yn ein gyrru ’mlaen. Rydym yn adfer, rywsut, er gwaethaf ni ein hunain. A gwyddom yn reddfol fod yr hyn y mae William Johnston yn ei ddweud yn wir:

William Johnston (1925-2005)

‘Pan mae popeth wedi’i ddweud, does dim sy’n debyg i agor ein henaid i rywun arall – i un sy’n derbyn, sy’n caru, sy’n clywed, nad yw’n barnu, sy’n bwydo ’nôl i mi yr hyn sydd yn fy meddwl a ’nghalon, sy’n fy helpu i adnabod llais yr Ysbryd yn fy mywyd.’ Gwyddom y cawn ein rhyddhau o’n poen drwy ei rannu.

Gwyddom hefyd, o adnabod y bobl sydd wedi cymryd y cam hwn, fod y broses bob amser yn arwain at newid. Fe’n trawyd gan eu diffuantrwydd a’u gallu i wneud cysylltiad ag eraill. Nid oeddynt yn siarad amdanynt eu hunain bob amser. Roeddynt yn holi am eraill ac roedd ganddynt wir ddiddordeb mewn clywed yr atebion. A phan ofynnom iddynt sut y dysgon nhw gymaint am greu perthynas â phobl eraill, fe gafwyd yr ateb fod gweithredu Cam 5 wedi bod o gymorth mawr. Os oeddem am ymdebygu iddynt hwy, felly, roedd rhaid i ni fod yn barod i newid ein ffordd arferol o ymddwyn.

Roedd ambell un ohonom yn amau a oeddem wir eisiau hynny. Ar y llaw arall, roedd llawer ohonom yn gwybod fod yn rhaid inni newid, ond yn ofni na fedrem.

Y ddau beth rydym eu hangen i ddechrau gweithredu Cam 5 yw gwroldeb a ffydd yn y broses o adferiad. Os meddwn y ddau rinwedd yma, byddwn yn gallu herio pob ofn a gwneud y cyfaddefiadau y mae’n rhaid i ni eu gwneud yn y cam hwn.

Wynebu ofn

Ffordd dda o ddelio ag ofn yw ei ddefnyddio fel rheswm dros wneud rhywbeth yn hytrach nag fel esgus i beidio. Os oes arnom ofn cyfaddef popeth, yna ymladdwn hynny ag ofn mwy, sef ofn methu adfer. O osgoi cyflawni Cam 5, efallai na lwyddwn i roi’r gorau i yfed (neu beth bynnag yw’r ddibyniaeth).

Gwyddom am lawer sydd, dro ar ôl tro, wedi ceisio cuddio rhai ffeithiau am eu bywydau. Er mwyn osgoi’r profiad annymunol o herio’u ffug-falchder, maen nhw wedi troi at ddulliau rhwyddach. Heb eithriad, bron, maen nhw’n meddwi eto. Dyna sy’n dueddol o ddigwydd pan na chwblhawn y gwaith o roi trefn ar ein bywydau personol. Mynnwn ddal ein gafael ar rai o’n ffyrdd gwaethaf o ymddwyn. Mae’n hawdd ein twyllo’n hunain ein bod wedi gorchfygu ein hunanoldeb a’n balchder a’n hofnau, ond os na allwn adrodd holl hanes ein bywydau wrth rywun arall, yna rydym mewn perygl o fethu cyrraedd ein prif nod, sef adferiad llawn.

Ond pam cyfaddef i Dduw?

Mae arwyddocâd arbennig i’r weithred pan gyfaddefwn union natur ein camweddau o flaen Duw fel yr ydym yn ei ddeall. Mae llawer ohonom yn barod i gael ffydd mewn damcaniaeth sydd heb ei phrofi ac na ellir ei hamddiffyn yn wyddonol. Ond ychydig sydd â digon o ymddiriedaeth i roi’r ffydd honno ar brawf. Fe gofiwch fod y 12 Cam wedi’u seilio ar y rhagdybiaeth na all un pŵer meidrol ein harbed rhag ein halcoholiaeth (neu beth bynnag yw’r ddibyniaeth). Os ydym i gael byw yn rhydd o grafangau’r aflwydd, mae’n rhaid inni ganfod Pŵer mwy na ni ein hunain all ein galluogi i wneud yr hyn na fedrwn ei wneud drosom ein hunain. Dyna holl bwrpas y 12 Cam – ein harwain at y Pŵer hwnnw.

O ganlyniad down i brofi ffordd o fyw lle mae’r ysbrydol yn cyfarfod y byw-bob-dydd, lle mae’r cyffredin yn cyfarfod yr anghyffredin.

Digwydd hyn pan gydnabyddwn bresenoldeb Duw yn y broses o adfer (Cam 3), ac wrth i ni ddatgelu ‘union natur ein camweddau’ i berson arall (Cam 5).

Mae’n deg nodi yma, sut bynnag, mai camgymeriad yw meddwl fod pob adict yn canfod Duw’r Beibl neu’r Corân wrth weithredu’r 12 Cam. Nid ffordd crefydd yw’r unig ffordd at Dduw. Mae rhai’n canfod ‘y Pŵer sy’n fwy na nhw eu hunain’ drwy fynychu capel neu eglwys neu fosg. Mae eraill yn ei ganfod trwy ddefnyddio’r grwpiau, natur, hip-hop, AA ei hun a.y.b., gan ‘weithio’r camau hyn hyd eithaf eu gallu’. I lawer, taith ysbrydol yn hytrach na chrefyddol yw taith adferiad.

Cyfaddef i ni ein hunain

Gall pobl eraill ddweud wrthym fod gennym broblem ac y dylem chwilio am help – ond bydd hynny fel dŵr ar gefn hwyaden. Fydd y cyngor, er yn ddoeth, yn golygu dim hyd nes inni gyfaddef i ni ein hunain fod angen help arnon ni. Dim ond wedyn, ar ôl cyfaddef i waelodion ein heneidiau union natur ein camweddau (Cam 5), ac yna ildio i’r 12 Cam – dim ond wedyn y gallwn ni obeithio rhoi’r gorau i’r cyffur neu’r ymddygiad niweidiol yn gyfan gwbl a datblygu ffordd amgenach o fyw.

Ac i berson arall

Un o broblemau mwyaf yr adict yw ei anallu i wahaniaethu rhwng beth ddylai fod yn gyfrifoldeb iddo ef neu hi a beth ddylai fod yn gyfrifoldeb i eraill. Beiwn ein hunain am drychinebau nad oedd gennym ddim rheolaeth drostynt. Ar y llaw arall, byddwn yn llawn ymwadiad ynglŷn â sut y gwnaethon ni ein niweidio ni’n hunain ac eraill. Gor-ddramateiddiwn broblemau bychain ac anwybyddu problemau mawr y dylem fod yn delio â hwy.

Ond mae rhannu meddyliau â rhywun arall yn beth da oherwydd gall ein gwrandäwr weld yr hyn na fedrwn ei weld drosom ein hunain, a gall ein helpu i wahaniaethu rhwng yr hyn a ddylai neu na ddylai fod yn gyfrifoldeb i ni.  

Dewis y person arall

Mae’n iawn ac yn naturiol i ni feddwl yn ofalus cyn dewis y person neu’r bobl a fydd yn barod i gydweithio’n glòs ac yn gyfrinachol â ni. Fel rheol byddwn yn gofyn i rywun sydd yn adfer i wrando ar ein cyfaddefiadau. Ond, yn aml, trown at feddyg teulu neu unigolyn o’r gymuned ffydd. Fe welwn yn aml fod person o’r fath yn llawn cydymdeimlad, yn medru cadw cyfrinach ac yn gweld a deall ein problem yn gyflym.     Wrth gwrs, fe fyddwn weithiau’n dod ar draws pobl sydd ddim yn medru deall pobl fel ni sy’n gaeth i sylweddau neu ymddygiad niweidiol. Mae’n well osgoi pobl o’r fath. Gallwn ofyn i aelod o’r teulu, wrth gwrs, ond ni ddylem gyfaddef i’n gwragedd neu’n gwŷr na’n rhieni bethau a fyddai’n eu dolurio a’u gwneud yn drist. Yn fwy na dim, dylai’r ‘person arall’ feddu ar dosturi, didwylledd a mewnwelediad (insight) – a gorau oll os gall uniaethu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r dioddefwr.

Dyna pam, yn fy marn i, y dylai gweinidogion, offeiriaid a swyddogion eglwysig fodelu’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol – bod yn berffaith amherffaith. Rhydd hynny ganiatâd i eraill ddangos eu breuder a mentro dangos eu hunain fel ag y maent, yn dda a gwachul. I bobl y Stafell Fyw, dyna’n bendifaddau yr allwedd i’w calonnau. Tybiaf hefyd mai dyna mae’r rhan fwyaf allan yna yn y byd mawr yn chwilio amdano – clust anfeirniadol i wrando cŵyn.

Ac wedyn?

Erbyn hyn mae gras ar waith yn ein bywydau – a down yn ymwybodol fod Pŵer Duw o’n mewn. Dyma sut yr ysgrifennais i am y profiad o weithredu Cam 5 yn fy hunangofiant, Raslas bach a mawr!

Bu rhannu gydag enaid hoff cytûn, ac o flaen Duw, yn fendith ac yn llesol y diwrnod hwnnw. Pan ddois i allan ar ddiwedd y dydd, ro’n i’n ddyn gwahanol. Teimlwn fod llwythi’r greadigaeth wedi cael eu tynnu oddi ar fy ysgwyddau.

Am ormod o flynyddoedd, ro’n i wedi cael fy sigo dan bwn euogrwydd a chywilydd. Am fethu bod yn fab gweinidog teilwng i ’nhad; am ymddygiad afreolus, meddw ar fy rhan; am siomi pawb; am fod yn frawd gwael; am ddifetha bywyd Meira a bywydau Bethan a Rwth; am yr affêr a’r niwed achosais i’r ferch arall; am fethu galaru marwolaeth fy mam; am niweidio’n hun. Roedd y rhestr yn ddiddiwedd. Yn sydyn, roedden nhw i gyd wedi diflannu. Wrth gwrs, roedd rhaid i mi wneud iawn i bobol ro’n i wedi’u niweidio – allwn i ddim osgoi hynny; fynnwn i ddim osgoi hynny. Ond o ran teimlo cywilydd ac euogrwydd am f’ymddygiad yn y gorffennol, chollis i ddim winc o gwsg wedi hynny, na chael fy mhigo gan fy nghydwybod un waith wedi i mi edifarhau. A’r fath ryddhad! Hwn oedd y profiad ysbrydol go iawn. Duw yn fy mywyd a minnau’n profi maddeuant am fy holl gamweddau. Daeth emyn David Morris i’m meddwl:

‘… Y maglau wedi eu torri,
A’m traed yn gwbl rydd;
Os gwelir fi fel hynny,
Tragwyddol foli a fydd.’

Yn sicr, roedd moliant yn fy nghalon i’r diwrnod hwnnw. Ac mae’n foliant sydd wedi parhau a dwysáu dros y blynyddoedd wrth i mi brofi’r gwir ryddid o gaethiwed y mae maddeuant Duw yn ei gynnig wrth i’m ffydd droi’n sicrwydd.

        [Owen, W., Raslas bach a mawr! Gwasg Gomer, Llandysul (2004), 228–9]

Diweddglo

Er mwyn cwblhau Cam 5 bu’n rhaid i ni fagu hyder, dewrder, hunan-onestrwydd ac ymroddiad. Ond os craffwn yn ofalus, mwy na thebyg y gallwn adnabod teimlad arall sy’n dechrau crynhoi yng nghysgod poen y gorffennol: gobaith. Down i sylweddoli fod yr hyn sy’n dechrau mewn poen yn diweddu mewn llawenydd a thangnefedd.

Y mis nesaf byddwn yn edrych ar Gamau 6 a 7. ‘Y newyddion da yw fy mod wedi cael fy nheimladau ’n ôl. Y newyddion drwg yw fy mod wedi cael fy nheimladau ’n ôl!’

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.