Absenoldeb-Presenoldeb
Hefin Wyn
Treuliais y bore yn cynorthwyo i gynnal gwasanaeth mewn capel diarffordd ym mherfeddion cefn gwlad. Serch hynny, cysylltid ei enw â thref lan-y-môr brysur gerllaw. Ond roedd ei leoliad o’r neilltu, ar y cyrion, fel pe bai’n drosiad am ei statws o fewn y gymdeithas bellach.
Ni thramwya fawr neb ar hyd y feidr mwyach – boed ddiwrnod gŵyl, boed Sabath neu ddiwrnod gwaith. Roedd y llwybrau wedi glasu. Doedd yna fawr o raen i’w weld ar yr adeilad. Prin oedd y lle parcio. Doedd dim galw am helaethu’r llecyn parcio. Fe fu yno brysurdeb a gogoniant bid siŵr ryw dro. Clymid ceffylau tra byddai’r saint yn addoli.
Dros ganrif a mwy yn ddiweddarach aed trwy’r mosiwns. Emyn ac adnod a gweddi ac ychydig sylwade. Pawb yn gyfarwydd â’r drefn. Yn or-gyfarwydd falle. Ni theimlwn fod yna gyfathrebu’n digwydd. Anelwn fy sylwade at gynulleidfa ddychmygol ar y llofft. Twyllwn fy hun fod y gynulleidfa anweledig ar y galeri yn gwrando’n astud.
Gwnaed y casgliad, wrth gwrs, a chafwyd y Cyhoeddiade. Soniwyd bod yna lyfr bro ar fin ei lansio yn llawn o hanes ddoe ac echdoe. Cedwid at y defodau. Roedd dodrefn ein crefydda yn eu lle. Rhoddid sylw i’r hyn a fu ond nid i’r hyn a fydd.
Gwasgarodd pawb wedi’r oedfa. Rhyw funud neu ddwy o sgwrs rhwng dau neu dri ac yna ffarwelio tan y tro nesa. Roedd holi hynt cydnabod yn brawf o gyfeillgarwch. Gyrrais yn hamddenol bensyfrdan ar hyd y feidr i gyfeiriad y ffordd fawr. Sylwais fod y dail yn dal i ddisgyn yn gawodydd ysgafn oddi ar y colfenni ac y bydden nhw’n dal i wneud am getyn eto. Prysurdeb oedd y norm ar hyd y ffordd fawr.
Cafwyd hoe yn y prynhawn cyn gwrando ar wyth o gantorion lled-broffesiynol yn cyflwyno amrywiaeth o ganeuon yn ymwneud â chyfnod yr Adfent gyda’r hwyr. Cafwyd darlleniadau pwrpasol gan actores oedd newydd ddychwelyd o Efrog Newydd ar ôl cyfnod yn actio mewn drama newydd yno. Roedd hyn oll yn un o gapeli mwyaf enwad yr Annibynwyr yn Sir Benfro. Ac oedd, roedd yna gynulleidfa ar y galeri.
Roedd y canu yn dechnegol gywrain. Rhoddwyd gwrandawiad teilwng. Rhoddwyd rhybudd rhag blaen na ddylid cymeradwyo yn dilyn pob datganiad rhag amharu ar y naws. A da o beth oedd hynny. Wedi’r cyfan oedfa grefyddol oedd wedi’i threfnu.
Roedd nifer o’r datganiadau’n ddieithr i’r lleygwyr cerddorol ond cyfoethogi’r profiad a wnâi’r detholiad. Cafwyd nifer o garolau cyfarwydd W. Rhys Nicholas. Teimlwyd ysfa ymhlith y gynulleidfa i gydganu. Gwelwyd nifer yn gwefuso’r geiriau. Roedd pobl ei gynefin yn bresennol.
Hwyrach fod y cywirdeb technegol yn drech na’r enaid yn y geiriau ar adegau. Wedi’r cyfan, roedd y gynulleidfa hefyd am ddatgan fod y ‘nos yn fwyn ym Methlehem’ a bod ‘yr awel neithiwr yn finiog oer a llithrai dieithrwch dros wedd y lloer’. Roedd y geiriau’n rhan o’u cynhysgaeth.
Do, rhoddwyd cymeradwyaeth wresog. Digwyddodd hyn oll yng ngolau canhwyllau gan ychwanegu at y naws slawer dydd. Cafodd yr achlysur ei ffilmio. Cafodd gwin cynnes a bishgis eu cynnig yn y festri. Roedd yno gymdeithas a chyfle i rannu gorfoledd. Fe’n dyrchafwyd yn un ac oll.
Ymneilltuodd rhai ohonom i dafarn gyfleus a chlyd o fewn tafliad carreg i’r capel. Buan y pylodd fy niddordeb yn anturiaethau Ant a Dec ar y teledu wrth i un o’n plith gyfeirio at y gerddoriaeth a glywai yn y gerdd ‘Cofio’, a hithau wedi dod at y Gymraeg fel oedolyn.
Traethai â’r brwdfrydedd hwnnw sy’n nodweddiadol o’r sawl sy’n sylweddoli fod dysgu iaith yn agor ffenestr o’r newydd unwaith y llwyddir i’w meistroli. Mae’n frwdfrydedd heintus i glustiau’r sawl sy’n ei chael yn anodd dirnad fod yna arwyddocâd arbennig i’r hyn a gymerir yn ganiataol.
Ac roedd Waldo wedi’i fagu yn y pentref hwnnw, wedi mynychu’r ysgol gynradd yno o dan brifathrawiaeth ei dad nes iddo fynd i Ysgol Sirol Arberth. Fy ffiol oedd lawn. ‘Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren, Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt’.
Ond yn gopsi ar y cwbl dyma fy nghydnabod yn sôn am wyliau diweddar a dreuliodd yng Nghyprus gan ymweld â’r fynachlog ar fynydd Troodos. Cofiwn inne dreulio noson o dan ddisgo’r sêr a’r lloer yn y cyffinie flynyddoedd lawer ’nôl. Roedd yr aer yn denau yno.
Gwyddwn hefyd fod fy nghydnabod, a oedd o gefndir Anglicanaidd ond yn gwbl gyfarwydd â’r traddodiad Anghydffurfiol, wedi colli merch, a’i bod dros nos wedi gorfod bod yn fam yn ogystal â mam-gu i’w hwyrion. Er iddi alaru, roedd hi’n ei chael yn anodd dygymod â’r ffaith bod mam ifanc wedi cael ei chymryd oddi ar ei phlant.
Eisteddodd yn y fynachlog a chyneuodd gannwyll. Myfyriodd. Gweddïodd. Teimlodd bresenoldeb yn ei hymyl. Yr unig fynach a oedd yn y fynachlog mwyach. Gan amlaf byddai’n encilio pan fyddai ymwelwyr oddeutu. Prin y byddai neb yn ei weld. O ble y daethai? Beth a’i hysgogodd i’r fan?
Ni fu sgwrs rhyngddynt. Yr hyn a ddywedodd y mynach yn ddigymell oedd ‘mae hi’n iawn nawr’. Roedd pendantrwydd yn y dweud. Cododd a diflannodd. Ni chlywodd fy nghyfeilles erioed eiriau mor gysurlawn. Bu’r ychydig eiriau hynny yn fodd iddi fwrw o’r neilltu ei amheuon a bwrw ati o’r newydd i greu bywyd o ansawdd i’w hwyrion. ‘Dwi’n cysgu’n well nawr, twel,’ meddai. Dychwelodd asbri wedi’r tristwch llethol.
Cyd-ddigwyddiad, mae’n siwr, oedd y ffaith mai’r Angel oedd enw’r dafarn. Roedd yna fendith yn y Cyhoeddiade yno. Symudwyd rhywfaint ar ddodrefn ein crefydda.
Rhyfedd yw llwybr taith y bererindod.
YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.