Athronyddu am Gymru

Athronyddu am Gymru

Enid R. Morgan yn holi Huw Williams

Bu sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bwnc dyheu a gobaith, ac yn gynnyrch gwaith caled. Rydyn ni’n dechrau clywed lleisiau ifanc newydd yn siarad gydag awdurdod a rhugledd am bynciau pwysig a diddorol sy’n destun eu hymchwil.

Testun llawenydd i lawer oedd llwyddiant Meredydd Evans yn sicrhau y byddai darlithyddiaeth mewn athroniaeth yn rhan o ddarpariaeth y coleg newydd. Yn ystod yr haf eleni daeth un o ffrwythau’r penodiad i’r amlwg y tu hwnt i’r byd academaidd wrth i Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi Credoau’r Cymru gan Huw L. Williams, y darlithydd cyntaf mewn athroniaeth yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae yna droddodiad anrhydeddus iawn o Gymry yn y byd academaidd yn ei gweld yn ddyletswydd i gyfrannu i wybodaeth cylch ehangach na’r brifysgol ac i ddarparu dysg sy’n cyfrannu i’r hyn a alwodd Dr Huw Rees yn ‘gyhoeddfa’ – byd y bywyd cyhoeddus. Mewn gwlad sy’n enbyd o anwybodus o’i hanes ei hun ac o’r tebygrwydd a’r gwahaniaeth rhwng y byd Cymraeg a’r meddwl Seisnig neu Ewropeaidd, y mae hyn yn beth eithriadol o bwysig.

Mae Huw Williams wedi ysgrifennu casgliad o ymddiddanion cwbl ddychmygol i gyfleu ei ddehongliad ef o feddylfryd nifer o Gymry sydd wedi bod yn bwysig yn ein hanes. Dim ond un – Dr Richard Price – y gellid ei alw’n athronydd yn ystyr ffurfiol academaidd y gair (er nad oedd ef yn academydd ei hun, ond yn hytrach yn weinidog Undodaidd yn Llundain), ond yr oedd yn rhan o brif ffrwd meddylfryd radical ei gyfnod.

Huw Williams

Dilynir pob un ymddiddan Socrataidd gan drafodaeth o’r cefndir a’r syniadaeth ehangach. Yn y dull hwn cyflwynir i ni ddarluniau bywiog iawn o arwyr (ac un arwres) allweddol yn ein hanes. O Morgan (Pelagius) i Raymond Williams, o Hywel Dda i Robert Owen, o Owain Glyndŵr i Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ynghyd â Michael D. Jones, Aneurin Bevan, Henry Richard, J. R. Jones a David Davies, y diwydiannwr.

Yn y diolchiadau ar ddechrau’r gyfrol mae cymaint o enwau’n cael eu crybwyll fel nad oes neb ar ôl i ysgrifennu adolygiad awdurdodol ar y gyfrol! Felly, yn lle adolygiad, dyma gyfle i holi’r awdur.

BETH OEDD ‘CREDOAU’R CYMRY’?

     Holi Huw Williams, Darlithydd mewn Athroniaeth,

  Y Coleg Cymraeg, Prifysgol Caerdydd

O ddiffyg hen brifysgolion yng Nghymru, fel y pedair yn yr Alban, a dwy yn Lloegr, ni fu modd i Gymru fagu athronwyr academaidd tan yr ugeinfed ganrif. Beth felly yw amcan sylfaenol y gyfrol Credoau’r Cymry?

Mae fy ymateb i’r cwestiwn yn dibynnu ar beth sydd ar fy meddwl pan mae’n cael ei ofyn! Ac eto’n sylfaenol, hybu athroniaeth Gymraeg a’i phoblogeiddio oedd wrth wraidd y gyfrol. Nid yw Cymru’n unigryw, yn yr ystyr bod athroniaeth yn gyffredinol yn cael ei hystyried yn bwnc astrus. Mae rhai mathau o athroniaeth (ymhlith yr amryw athroniaethau sy’n bod) wedi rhoi sail i’r rhagdybiaeth ei fod yn bwnc haniaethol, anodd, nad yw’n ymwneud â bywyd bob dydd. Mae’n bosib ei fod yn fwy o her yma yng Nghymru am nad oes gennym draddodiad cryf ein hunain nac athronwyr o Gymry i gyfeirio atynt a’u trafod.

Ond er mwyn osgoi’r rhwystrau hyn, rwy’n pwysleisio bod modd dehongli athroniaeth mewn ffordd sy’n llawer mwy ymarferol na phwnc nad yw’n digwydd ac eithrio o fewn waliau’r brifysgol. Mae syniadau a myfyrdodau athronyddol yn rhan annatod o’r clytwaith o syniadau sydd yn gefndir i’n bywydau bob dydd, yn ogystal â’n bywydau deallusol.

Cerflun Owain Glyndŵr yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

A dechrau o’r safbwynt yma, mae rhywun yn gallu edrych ar ffigyrau adnabyddus ein hanes, fel Glyndŵr, Henry Richard ac Aneurin Bevan, ac ystyried eu syniadau nhw o safbwynt eu cynnwys athronyddol, ochr yn ochr ag athronwyr ‘go iawn’ megis Richard Price a J. R. Jones. Wrth fynd ati i athronyddu yn y modd yma, cawn fodd i fynd ar drywydd amcanion eraill, megis awgrymu’r angen am fwy o drafod ynghylch ein hanes deallusol er mwyn deall ein gwerthoedd fel cenedl, a gofyn y cwestiwn a oes gennym draddodiad deallusol unigryw?

 

Rydych chi’n nodi bod egni deallusol y Cymry wedi mynd i fyd diwinyddiaeth yn y colegau enwadol. Ond eto, Adran Athroniaeth Prifysgol Cymru sydd wedi llwyddo i sicrhau darlithyddiaeth drwy’r Gymraeg yn y Coleg Cymraeg. Oes eglurhad am hynny?

Rwy’n siŵr fod yna sawl person fyddai’n llawer mwy cymwys na fi i sôn am ddiwinyddiaeth, ond rwy’n credu ei bod yn rhesymol awgrymu bod amlygrwydd diwinyddiaeth yng Nghymru yn adlewyrchu nid yn unig y diffyg prifysgolion (ac felly gwendid pwnc fel athroniaeth) ond yn ogystal rymuster ein hetifeddiaeth Gristnogol. Hynny yw, mewn gwlad a oedd mor grefyddol, mae’n siŵr mai peth naturiol ac iach oedd yr ymwneud deallusol helaeth yna.

Fodd bynnag, mae’r byd yn newid, ac roedd sefydliadau a oedd unwaith yn sefyll ar eu traed eu hunain wedi ei ffeindio hi’n anos i wneud hynny – ac efallai fod y traddodiad hwnnw wedi gadael mwy o fwlch yn ein prifysgolion o safbwynt diwinyddiaeth. Wedi dweud hynny, mae mwy o ddiwinyddion Cymraeg proffesiynol nag sydd o athronwyr! A dylid ystyried llwyddiant Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn sicrhau swydd yn erbyn cefnlen sydd yn llawer mwy bregus mewn un ystyr: mai dyma oedd yr unig obaith oedd ar ôl o safbwynt cynnal athroniaeth Gymraeg oherwydd y gwendid hanesyddol a’r duedd dros y 30 mlynedd diwethaf o weld adrannau Athroniaeth yn cau a chrebachu yng Nghymru.

Dewi Z Phillips (1934-2006)

Mae datblygiadau diweddar o safbwynt y cwricwlwm astudiaethau crefydd mewn ysgolion yn codi cwestiynau heriol yn y cyswllt yma, am fod elfen athronyddol swmpus yn perthyn iddo bellach – am resymau gwleidyddol (cyfeiliornus, yn fy marn i) nad oes lle imi fynd ar eu hôl yn y fan hon. Mewn gwirionedd, mae cywasgu crefydd ac athroniaeth fel hyn yn un maes astudiaeth mewn ysgolion yn amddifadu’r ddau o statws, ond efallai fod yna ffordd o fanteisio ar y sefyllfa er lles cyffredinol. Wedi’r cwbl, ganrifoedd yn ôl, ni fyddai’r meddylwyr mawr wedi gweld gwahaniaeth amlwg rhwng crefydd ac athroniaeth, ac mae athronwyr Cymreig fel Richard Price, Henry Jones, J. R. Jones, Dewi Z. Phillips a John Heywood Thomas wedi ymdrin â’r ddau gyda’i gilydd.

John Heywood Thomas

Yn wir, mae’n bosib mai’r ffordd orau o gynnal diddordeb yn y ddau faes academaidd yw drwy beidio â mynnu rhyw fath o arwahanrwydd ond yn hytrach magu cyd-ddibyniaeth. Un o’r pethau a ddaeth yn amlwg imi wrth ysgrifennu Credoau’r Cymry (sy’n ymwneud bron cymaint â chrefydd ag athroniaeth) oedd nad oes modd deall nifer o gysyniadau ‘gwleidyddol’ heb ichi gael rhyw fath o afael ar y syniadau diwinyddol sydd y tu ôl iddynt. Er enghraifft, nid oes modd deall y gwahaniaeth yn athroniaethau heddwch Henry Richard a David Davies, yn fy marn i, oni bai eich bod chi’n deall eu safbwyntiau diwinyddol gwahanol.

Ydych chi’n fwriadol yn creu ‘llinyn aur Cymreig’ rhwng Pelagius, Hywel Dda, Owain Glyndŵr, Robert Owen a Michael D. Jones, neu ydych chi’n casglu tystiolaeth i fod yn sail i’r fath ddamcaniaeth?

Dyma gwestiwn dyrys, ac efallai un y byddai’n well gen i ei osgoi! Rydw i’n mynd ati i drafod rhai o’r themâu sy’n codi yn y llyfr mewn modd ‘rhydd’ a ‘dyfaliadol’.

Michael D. Jones (1822-1898)

Roedd y syniad o ryw fath o ‘linyn aur’ wedi amlygu ei hunan wrth imi addysgu’r modiwl yn y brifysgol (y gwaith addysgu yma oedd yn gynsail i’r gyfrol). Yr addysg oedd yn arwain yr ymchwil yn hytrach na’r ymadrodd hoff a glywch drwy’r amser yn y brifysgol, sef ‘research-led teaching’. Wrth ddechrau gyda diwinyddiaeth Pelagius, a’r syniadau y byddem heddiw yn eu hadnabod fel rhai rhyddfrydol, fel ewyllys rydd, hunanbenderfyniad a’r gallu i geisio ymgyrraedd at berffeithrwydd, daeth yn amlwg imi fod pob un o’r ffigyrau dan sylw yn cynnig syniadau a safbwynt uchelgeisiol, delfrydol – yn wir, iwtopaidd yn aml iawn.

Nid wyf am fod mor hy ag awgrymu fy mod yn casglu tystiolaeth sy’n profi bod yna draddodiad deallusol hanesyddol sydd wedi goroesi o un oes i’r llall ymysg y Cymry, sydd wedi sicrhau syniadaeth ddyrchafedig o’r fath. Ac eto, rwy’n credu bod yna werth mewn tynnu sylw at y cysylltiadau yma a ‘chreu’ rhyw fath o linyn cyswllt er mwyn i’r darllenydd ei ystyried, er mwyn sbarduno trafodaeth, ac er mwyn codi’r cwestiwn.

Pennar Davies (1911-1996)

Rwyf yn mentro cynnig damcaniaeth, yn fwy na dim: bod lle i feddwl bod yna draddodiad deallusol Cymreig neilltuol, a’r elfen iwtopaidd yn ei nodweddu. Gellir wfftio hyn, wrth gwrs, ond ar y llaw arall gall sbarduno eraill i gynnig syniadau ac ymateb. Gall gynnig her i wrthbrofi neu ategu’r ddamcaniaeth drwy edrych yn fwy penodol ar ddatblygiadau deallusol Cymru; rwy’n dwyn Pennar Davies i mewn i’r drafodaeth fel rhywun sy’n awgrymu rhywfaint o dystiolaeth, yn ei honiad bod modd adnabod olion Pelagaidd yn ein llenyddiaeth ganoloesol.

Wnewch chi ymhelaethu ar yr awgrym eich bod yn gobeithio cyfoethogi’r broses o feithrin egin wladwriaeth yn y gyhoeddfa (public sphere)?

Un o’r heriau mwyaf sydd yn ein hwynebu ni fel cenedl wleidyddol yw diffyg cyhoeddfa. Yn fras dyma’r sffêr lle mae trafodaeth, dadlau a meddwl cymdeithasol yn digwydd, yn troi o gwmpas ein syniadau a’r heriau gwleidyddol. Yn ddelfrydol, yn y gyhoeddfa hon y dylid creu barn gyhoeddus a llywio’r hyn mae gwleidyddion yn ei wneud. Yn wir, byddai rhai’n honni nad oes dyfodol go iawn i unrhyw gyfundrefn wleidyddol ddemocrataidd heb y gyhoeddfa, oherwydd bod trefn o’r fath yn dibynnu cymaint ar y syniadau a’r gwerthoedd sy’n codi o’r gweithgarwch yma.

Ein diffyg mwyaf, wrth gwrs, yw papurau newydd cenedlaethol (a’r gwefannau sy’n gysylltiedig â nhw y dyddiau hyn). Cyfryngau digon bregus a thenau eu cynnwys sydd gennym ond mae’r rhain yn chwarae rhan allweddol mewn cynnal ymwybod cenedlaethol gwleidyddol. Os ystyriwn bod Cymru yn egin wladwriaeth (nid pawb sydd yn gwneud hynny o bell ffordd, wrth gwrs), rhaid inni roi’r un sylw i’r gyhoeddfa ag i’r sefydliadau gwleidyddol eu hunain.

O’m safbwynt i fel athronydd, yr hyn sydd o ddiddordeb yn bennaf yw’r syniadau, y gwerthoedd, a’r rhinweddau sydd yn nodweddu ac yn creu cynsail i’r gyhoeddfa honno. Mae’n deg imi honni bod yna ryw syniadau digon annelwig gennym o’r Cymry fel cenedl sydd wedi tueddu tuag at wleidyddiaeth radical, heddychiaeth efallai, rhyngwladoldeb (tan fis Mehefin o leiaf) a gwerthfawrogiad o iaith, diwylliant a chymuned. Mater o ymwybyddiaeth yw hwn ond mae’n golygu ystyried ambell ffigwr hanesyddol hefyd. Rwyf i felly’n ystyried y llyfr fel ymgais i geisio datgelu a rhoi cyfrif gweddol systematig a thrwyadl o syniadau’r bobl yma sydd yn llechu yn yr ymwybod cyhoeddus.

Helen Mary Jones

Yn y bôn, os ydym am saernïo cenedl Gymreig ar ffurf ddatganoledig neu annibynnol, mae angen inni gael rhyw syniad o’r gwerthoedd yna sydd bwysicaf inni er mwyn gosod cyfeiriad i ni ein hunain a chynnig gweledigaeth i anelu ati o safbwynt polisïau. Nid siarad gwag yw hyn chwaith; yng nghynhadledd y North American Association for the Study of Welsh Culture and History yr haf diwethaf roeddwn wrth fy modd yn clywed Helen Mary Jones yn trafod sut yr oedd hi a’r sawl oedd wedi gweithio ar ddeddf plant Cymru yn gweld eu hamcanion o fewn y traddodiad ehangach, hanesyddol, Cymreig sy’n mynd yn ôl i gyfraith Hywel. Gresyn nad oes mwy o wleidyddion yn meddwl fel hyn yn y Cynulliad erbyn hyn; mae cael rhyw fath o afael ar y syniadau yma’n talu’r ffordd pan mae cwestiynau mawr, tyngedfennol yn codi – fel refferendwm yr UE, wrth gwrs. I mi, mater o Gymru yn colli ar ei hunan oedd y digwyddiad hwnnw, a’r gyhoeddfa wedi’i boddi mewn syniadau a disgwrs asgell-dde, Seisnig, a’n traddodiadau a’n syniadau ni yn cael eu colli ynghanol yr ynfydrwydd.

Dywedwch eich bod yn anelu at ystyried ‘pynciau cyfarwydd trwy lygaid anghyfarwydd’ a ‘trwytho ein presennol fel rhan o wareiddiad ehangach’. Mae ‘myth’ hanesyddol wedi bod yn bwysig ac mae pleidiau gwleidyddol a diwinyddol yn meithrin eu mythau. Mae haneswyr diweddar wedi datgelu bod angen Harri VIII am arian cyn bwysiced â’i awydd am wraig i eni etifedd, a’r ddau cyn bwysiced, os nad pwysicach, â’r dadleuon diwinyddol. Fe lyncodd Prydain i gyd y propaganda Tuduraidd. Oes lle i haneswyr ac athronwyr gyda’i gilydd ymchwilio i rai o’n hoff fythau fel cenedl? Ydi hi’n ddyletswydd academaidd i adolygu ein dehongliad o’n hanes?

A bod yn gwbl onest, rwy’n credu i’r gwrthwyneb – mai tuedd nifer o academyddion, llawn cymaint ag ymchwilio i fythau, yw eu creu nhw drwy eu dehongliadau, ac yn hynny o beth mae’n ofynnol fod y sawl sy’n darllen a dehongli eu gwaith yn gwneud hynny mewn modd beirniadol, ymchwilgar. Yn wir, mae’n ddyletswydd arnyn nhw i beidio â derbyn yn ddigwestiwn yr hyn maent yn ei ddarllen. Oblegid, os yw academydd yn honni ei fod ef, neu hi, yn chwalu rhyw fyth neu’n dryllio rhyw ddelw, yn aml mae’n cynnig ei syniadau ei hunan yn eu lle.

Gwyddom yng Nghymru, yng nghyswllt yr iaith, pa mor bwerus a dinistriol mae rhai mythau a syniadau’n gallu bod, ac yn hynny o beth mae wastad yn bwysig holi beth yw cymhelliad yr awdur a beth yw ei amcan. Nid bod hynny o reidrwydd yn tanseilio’i gyfraniad – bydd yr academyddion gorau yn gallu dwyn perswâd arnoch chi, mwy na thebyg oherwydd bod y syniadau maent yn eu cynnig yn adlewyrchu dehongliad gwreiddiol, diddorol sydd yn cynnig rhyw fath o wirionedd.

Ceisio cyfrannu dehongliad adeiladol o’n hanes deallusol ydw i, yn y gobaith o hyrwyddo’r syniad bod gennym ein traddodiad ein hunain y gellir ei ddefnyddio ar gyfer llywio ein trafodaethau cyhoeddus a gwleidyddol. Rwy’n agored ynglŷn â hynny, ac efallai nad wyf wedi gwneud gwaith digon da ohono, sy’n ddigon teg. Ond os oes rhai’n ceisio tanseilio’r ymgais yn llwyr, mae yna le i feddwl am eu cymhellion hwythau hefyd!

Mae’r cwestiynau hyn yn codi pwyntiau o’ch pennod agoriadol gyfoethog. Yno dywedwch eich bod am gynnig dadansoddiad athronyddol o syniadau sy’n rhan o’r trafodaethau a’r honiadau cyhoeddus ac i ‘ennyn chwilfrydedd a thrafodaethau ar bynciau hanesion sy’n ganolog i’n diwylliant’.

Nid wyf yn gobeithio am ryw lawer felly! Mae’r gobaith hwnnw’n gysylltiedig â’r hyn rwy’n ei drafod uchod o safbwynt cyfoethogi’r gyhoeddfa, ac un o’r rhesymau pam y mae’r llyfr yn y ffurf y mae (gyda sgyrsiau dychmygol) yw er mwyn ceisio gwneud y drafodaeth a’r cysyniadau mor apelgar a hygyrch â phosib. Fy ngobaith yw y bydd y darllenwyr arferol, yn enwedig y rhai ifanc, myfyrwyr yn y 6ed dosbarth, efallai, yn gallu codi’r llyfr, darllen rhyw ychydig a thrwy hynny sylweddoli nad oes gofyn bod yn athronydd nac yn academydd i ddeall a gwerthfawrogi’r syniadau yna sydd yn gynsail i’n bywyd cyfunol.

Oes yna gyfrol arall ar y gweill – i ba gyfeiriad yr ewch chi nawr?

Rwyf yn ffodus i gael dilyn yn ôl traed Richard Wyn Jones a Simon Brooks, a chyfrannu at y gyfres wych, Syniadau, gan Wasg y Brifysgol, dan olygyddiaeth Daniel Williams. Y bwriad cyffredinol yw datblygu rhai o’r syniadau rwy’n cyffwrdd â hwy yn Credoau’r Cymry ynghylch datblygiad ein traddodiad deallusol, gan ddatblygu’r llinyn aur hwnnw rwy’n damcaniaethu yn ei gylch. Rhaid cyfaddef bod natur amserol y gyfrol yn fy meddwl i fy hun wedi dwysáu ers y refferendwm, oherwydd fel y dywedais, roedd hon yn rhyw fath o weithred o hunanymwadu o safbwynt ein hanes a’n gwerthoedd, boed hynny o safbwynt cenedlaetholgar neu sosialaidd.

J.R.Jones (1911-1970)

Ar un gwastad felly, rwy’n siŵr y bydd y llyfr yn ymgais i fynd i’r afael â symbolaeth y digwyddiad hwnnw, gan ofyn i ba raddau y mae’n datguddio dirywiad yn ein traddodiad deallusol neilltuol, a beth y gallwn ei wneud er mwyn ei adennill a’i ddiogelu at y dyfodol. Ar hyn o bryd rwy’n chwarae â’r syniad o deitl sydd yn dwyn i gof waith gan J. R Jones, fel ‘Yr Argyfwng Prinder Ysbryd’; ond cawn weld ai hwnnw fydd y teitl ar y clawr yn y pen draw!

 

Neges i Wasg y Brifysgol ac i'r Coleg Cymraeg
Gofynnwyd i’r Athro Ifor Williams rywdro pam nad oedd wedi cyhoeddi ei nodiadau yn y Saesneg. “Roedd hi’n ddigon anodd yn Gymraeg” oedd ei ateb digon swta ef – ond roedd hynny bron gan mlynedd a sawl cenhedlaeth yn ôl, ac erbyn hyn y mae agosrwydd y byd mawr Seisnig ac Americanaidd yn anferth o’n cwmpas. Wrth i’r Coleg Cymraeg ddatblygu, bydd mwy a mwy o academyddion ifanc addawol yn bwrw ati i gyhoeddi eu gwaith ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer darllenwyr y tu allan i fyd academia. Mae hyn yn golygu cyfrifoldebau lu nid yn unig i’r awduron ifanc, ond hefyd i’r coleg ac i’r wasg – sef sicrhau safon academaidd yn y pwnc, safon cyfathrebu â’r darllenwyr a thasg anos fyth, sef sicrhau safon y Gymraeg. Golyga hyn lawer mwy na sicrhau cyfartaledd rhwng y Saesneg academaidd a’r Gymraeg. Mae’n golygu bod yn ffyddlon i deithi’r Gymraeg. Gall sicrhau manylder technegol fod yn anodd – ond heb fod yn ffyddlon i ‘ffordd y Gymraeg o ddweud rhywbeth’ bydd yn aml yn glogyrnaidd, os nad yn annealladwy. Anaml y bydd gan arbenigwyr mewn gwahanol bynciau gefndir o feithrin eu Cymraeg ysgrifenedig, a mawr obeithir y cânt gyfle i ddatblygu ystwythder a glendid mynegiant. Does dim cywilydd yn hynny. Bu’r Saesneg yn gyfrwng llawer o’n haddysg, a pho fwyaf arbenigol, gan amlaf, mwyaf Seisnig fydd ein hymadrodd. Ac mae pob arbenigedd yn datblygu ei hieithwedd (neu, ei jargon) ei hun. “Mae Credoau’r Cymry yn gyfrol ddifyr – ond mae’r Gymraeg yn aml yn lletchwith ac yn Seisnigaidd, ac o dro i dro’n anghywir. Nid yw’n edrych fel petai’r gyfrol wedi cael sylw manwl gan olygydd profiadol. Profiad y mwyafrif o Gymry Cymraeg sydd heb ennill gradd yn y Gymraeg ydi ansicrwydd am gywirdeb manwl wrth ysgrifennu’r Gymraeg. Rhydd hynny gyfrifoldeb arbennig ar gyhoeddwyr i roi’r gwerth priodol ar waith golygydd profiadol a manwl. Ni roddwyd y gofal priodol i Credoau’r Cymru ac mae hynny’n drueni mawr. Gwasg Prifysgol Cymru yn ddïau sy’n gyfrifol am hynny.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.