Yn ôl at Theomemphus

Cofio Pantycelyn

Yn ôl at Theomemphus

Pryderi Llwyd Jones

Er bod nifer wedi bod yn hallt eu beirniadaeth na neilltuwyd 2017 fel Blwyddyn Genedlaethol Pantycelyn ar achlysur trichanmlwyddiant ei eni – fel y bu dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas – fe fu cryn sylw yn y cyfryngau Cymraeg.

Print o’r Pêr Ganiedydd yn y Llyfrgell Genedlaehol (Casgliad y Werin.)

Neilltuodd Radio Cymru chwe rhaglen ar y Sul olaf o Ionawr; bu dwy raglen Caniadaeth y Cysegr; bu DCDC; bu nifer o erthyglau yn y wasg grefyddol; a bu darlithoedd ac ambell gynhadledd hefyd. Ac fe fydd mwy eto. Mewn gwirionedd, nid yw’n syndod nad oedd y sefydliadau sydd yn awyddus i ‘ddenu pobl i Gymru’ (ac a neilltuodd 2017 fel ‘Blwyddyn Chwedlau’, gyda llaw) wedi ystyried Pantycelyn – mewn gwlad sydd wedi hen golli gafael ar ei hetifeddiaeth Gristnogol, pwy yw Pantycelyn?

 ***********************************************

Yn 1977 cyhoeddodd Dafydd Rowlands nofel, Mae Theomemphus yn hen.  Geiriau Kate Roberts yw’r teitl: ‘Mae Theomemphus yn hen o ran oed ond yn newydd o hyd.’ Mae’r nofel yn brawf o hynny, oherwydd nofel gyfoes am bererindod boenus i adnabod yr hunan ydyw. Hyd yn oed yn 1977 fe fyddai cyfartaledd uchel o Gymry Cymraeg wedi deall arwyddocâd y teitl. Erbyn hyn nid yw hynny’n wir, a phrawf o hynny yw i un newyddiadurwr Cymraeg gredu mai teitl y gerdd 6,000 o linellau gan Pantycelyn oedd ‘Mae Theomemphus yn hen’!

Llawysgrifen Williams

Bywyd a marwolaeth Theomemphus yw teitl cerdd Williams, a gyhoeddwyd yn 1764. ‘Ymofynnwr Duw’ yw ystyr Theomemphus, ac ar ei bererindod mae’n cyfarfod â nifer sydd yn awyddus i’w gynghori a’i arwain at Dduw. Yn eu plith mae Boanerges, Schematicus, Philomela, Philomede a llawer mwy. Ond efallai mai Orthocephalus yw’r mwyaf diddorol a’r mwyaf arwyddocaol ohonynt o safbwynt Theomemphus ddoe a heddiw, hen a newydd. O safbwynt yr awdur, Efangelius  yw’r pwysicaf ohonynt, wrth gwrs, ac ar ôl ei glywed ef y mae Theomemphus yn canu:

na ddelo gair o’m genau
yn ddirgel nac ar goedd,
ond am fod Iesu annwyl
yn wastad wrth fy modd.

 ***********************************************

Orthocephalus

 Mae Orthocephalus yn gwneud dau beth.

  1. Mae’n wfftio’r rhai sy’n credu mai eu hathrawiaeth hwy sy’n gywir.
  2. Mae’n mynnu mai ei athrawiaeth ef, Orthocephalus, sydd yn gywir.

Dyma enghraifft o 1:

Mae eglwys Rufain, frodyr, ers dyddia maith o’r bla’n
chwi wyddoch, wedi colli’r efengyl oll yn lân;
Mae eglwys Groeg tan d’wyllwch ’r hyd conglau’r Myscofi,
er gwadu Eglwys Rufain, nid llawer gwell yw hi.
Mae amryw Galfinistiaid yn mynd i maes o’u lle,
rhy galed maent yn gwasgu’r pwnc ar yr ochr dde,
y maent yn dala’r ethol a’r gwrthod cas yn un
heb gofio llw’ trugaredd a dyngodd Duw ei hun.

 Ac enghraifft o 2:

Orthocephal’ yn flaenaf, yr hwn ddywedai’n llyn,
‘Rhaid credu pynciau cywir, a chrefydd bur yw hyn;
Mae athrawiaethau’r beibl fel gwryd mawr ynghyd
mae’n rhaid eu credu’n union, mae’n rhai eu credu i gyd.’
Dewch yma gylch o gwmpas, a thyma’r unig fan
y cewch eich adeiladu, ac y cewch Dduw i’ch rhan;
chwi ddewch yn hardd Gristnogion, a hynny cyn bod hir,
cans union-gred athrawiaeth sy’n gwneud y praidd yn bur.

(Nid yw Pantycelyn ar ei orau bob amser! Nid barddoni oedd ei fwriad cyntaf, ond dweud stori Theomemphus – ac aeth hwnnw yn Theomemph’ mewn ambell le!)

Fe ddywedodd Pantycelyn mai caru yw credu’. Wrth graffu ar emynau’r Groes, mae rhai Cristnogion am dynnu sylw at yr Iawn a’r ddyled a dalwyd, ond mae eraill am bwysleisio’r fuddugoliaeth, y Christus Victor, y cariad a orchfygodd ddrygioni / Satan a’r tywyllwch. Ond mae mwy o bwyslais ar ryfeddu a charu yr un a groeshoeliwyd, a hynny yn ysbrydoli’r saint i addoli mewn rhyfeddod a chariad, sef prif fwriad Williams wrth gyfansoddi ei emynau. Cân yn y galon (‘y deyrnas yn y galon’) ydyw, ac os yw’r gân honno’n cael ei llesteirio gan ddadleuon athrawiaethol à la Orthocephalus, mae’r addoli yn oeri a distewi. Nid oedd Pantycelyn am greu rhwyg rhwng ‘tân yn y galon’ a ‘goleuni yn y pen’, wrth gwrs, ond fe wyddai mai â’r galon y mae credu. Bu dylanwad ei dröedigaeth yn ugain oed yn ddylanwad oes arno, ac nid oedd angen Orthocephalus i’w atgoffa o beryglon cywirdeb athrawiaeth ar draul y berthynas o garu a rhyfeddu rhwng y Cristion a’i Waredwr. Gan Pantycelyn mae’r amgyffred eang, cyfan o Deyrnas Dduw, ac Iesu yng nghanol y Deyrnas honno. Golwg ar deyrnas Crist oedd teitl y gerdd epig arall a ysgrifennodd.

*****************

 

Daniel Rowland (1717-1790 ) a Hywel Harris (1714-1743)

Ni ellir meddwl nad oedd Pantycelyn wedi teimlo tristwch a siom wrth gael ei dynnu i ddwy ddadl athrawiaethol. Un oedd y rhwyg ffôl rhwng Harris a Rowland a ataliodd ddatblygiad y diwygiad am gyfnod o dros flwyddyn. Roedd Orthocephalus ar waith! Yn y bôn, athrawiaeth y Drindod oedd y maen tramgwydd wrth i Harris bwysleisio fod Duw ei hun wedi marw ar y groes. Patripasiaeth yw enw’r heresi honno. Roedd y rhwyg yn gwbwl groes i anian Pantycelyn, ond oherwydd y berthynas rhwng y tri diwygiwr roedd yn rhaid ceisio cadw undod y diwygiad. Er iddo, am gyfnod, ddangos cefnogaeth i Rowland, nid oedd yr anghytuno yn fater o dragwyddol bwys iddo ar y pryd. Hawdd credu y byddai Williams wedi ei siomi gyda’r ddau fel ei gilydd. Gwyddai am natur Harris i ‘fod yn ben’; gwyddai am deimladau cymysg Harris oherwydd bod Williams a Rowland wedi cael eu derbyn i’r Eglwys Anglicanaidd – ac iddo ef gael ei wrthod; gwyddai hefyd mor hawdd y gall defnyddio geiriau a delweddau fel fod ‘Duw wedi marw ar y groes’ gael eu dehongli’n llythrennol. Onid oedd Williams hefyd wedi defnyddio ‘gwaed fy Nuw’ yn ei emynau? Mewn geiriau eraill, roedd Williams yn medru deall a chydymdeimlo â Harris – o’r tri diwygiwr, eiddo Williams oedd y ddynoliaeth fawr – ac mae’n amlwg hefyd fod gan Harris feddwl mawr o Williams. Siom i Bantecelyn oedd i Harris neilltuo i Drefeca – ond llawenydd mawr iddo hefyd oedd i Harris ddod yn ôl at ‘ei frodyr yng Nghrist’.

Bu Williams hefyd yng nghanol yr achos trist a arweiniodd at ddiarddel Peter Williams, y gŵr gweithgar a didwyll hwnnw a wnaeth cymaint o waith fel pregethwr ac awdur ac yn arbennig wrth gyhoeddi’r Beibl cyntaf i’w argraffu yng Nghymru. Roedd yn cynnwys ‘Agoriad’ byr i lyfrau’r Beibl, er mwyn goleuo’r darllenwyr. Un frawddeg mewn nodyn eglurhaol ar ddechrau Efengyl Ioan oedd trosedd Peter Williams – ei hersei Orthocephalistaidd. Sabeliaeth oedd yr heresi honno a’r Drindod y pwnc – agwedd o’r un pwnc ag a achosodd y rhwyg rhwng Rowland a Harris a’r pwnc a gondemniodd Servetus, heretig arall, i’r stanc yng Ngenefa Calfin. Mae hanes yr eglwys yn brawf nad oes air terfynol ar y Drindod gan mai iaith addoli, nid iaith athrawiaeth, ydyw yn y Beibl. Mae’r tu hwnt a’r tu draw i’w hathrawiaethu. Nid oedd gan y Methodistiaid gredo sefydlog yn y cyfnod pan oedd cyfraniad yr arweiwnyr cynnar yn dod i ben. Fe ddiarddelwyd Peter Williams yn Sasiwn Llandeilo yn 1791 – ychydig fisoedd cyn marw Pantycelyn ac ychydig fisoedd ar ôl marw Daniel Rowland. (Roedd Harris wedi marw yn 1773 yn 59 oed.) Roedd i Williams ran yn y diarddel, ac er na wnaeth feirniadu Peter Williams yn gyhoeddus ac er iddo apelio arno i dderbyn llais y Sasiwn, yr oedd Williams erbyn hyn, yn wael ac yn fregus, yn dyheu am weld undod o fewn Methodistiaeth a bod yn rhaid gwarchod sylfaen eu cred er mwyn y dyfodol. Ond er iddo (yn Gloria Scripturaum) feirniadu’r rhai oedd yn bygwth ‘egwyddorion iachusol’ y Gair, nid enwodd Peter Williams.

Go brin fod Pantycelyn wedi cael unrhyw foddhad o’r erlid fu ar Peter Williams. Ni allai fod yn hapus gydag agwedd haerllug ac anoddefgar Nathaniel Rowland (mab Daniel Rowland), y pennaf erlidiwr ar Peter Williams. (Roedd Daniel wedi ceryddu Nathaniel yn gyhoeddus, ‘Nat, Nat, ti a gondemniaist dy well.’) Fe ellid mynd â chrib mân drwy weithiau Williams ei hun a gweld nad oedd yntau chwaith yn Drindodwr perffaith. Pwy sydd? Do, fe bwysleisiodd Williams yn ‘Theomemphus’ ac ar hyd ei oes mai iaith y galon yw iaith credu. Yn Orthocephalus, ei rybudd i Theomemphus oedd nad y rhai sy’n mynnu undod athrawiaeth, ond yn cyhoeddi  cariad Duw yn Iesu, sydd yn cyhoeddi’r Newyddion Da. ‘Gwedd dy wyneb, yw fy mywyd yn y byd.’ Nid yw tröedigaeth na diwygiad o angenrheidrwydd yn arwain at uniongrededd ceidwadol digyfaddawd.

************************************

Wrth gofio a diolch am Williams Pantycelyn, efallai fod mynd yn ôl at Theomemphus, ymofynnydd, yn bwysicach na dim yn 2017. Mae Cymru yn llawn o ymofynwyr, ymholwyr ac amheuwyr, ac mae’n syndod mor gyfoes yw’r rhai sy’n ceisio dylanwadu a denu Theomemphus. Mae’n syndod hefyd sut mae crefyddwyr o bob math yn medru bod yn rhwystr i rhai fel Theo druan. Yn aml maent yn arddel crefydd Duw amodol ac athrawiaethol. Mae hynny’n golygu fod yna delerau ac esboniadau anodd i’w deall. Ac y mae hynny ymhell iawn o ymateb y rhyfeddod diddiwedd, diolch diderfyn a chariad diatal Williamsaidd i gariad Duw yn Iesu: ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon’. Nid dibrisio diwinyddiaeth yw hyn, ond dyrchafu person. Dyna ben draw ymgnawdoliad.

Derec Llwyd Morgan (Llun BBC Cymru)

‘Tybed,’ gofynnodd Derec Llwyd Morgan, wrth ystyried y gefnogaeth a gafodd Peter Williams gan seiadwyr llawr gwlad y diwygiad, oedd yn flin a siomedig fod yr awdurdodau wedi diarddel Peter, ‘mai gwaith yr Arglwydd yn eu calonnau oedd yn cyfrif, nid unrhyw ddiffiniad o’i natur?’ Efallai ei bod yn fendith fod Pantycelyn wedi marw cyn gweld y Methodistiaid, fel canlyniad pob diwygiad arall, yn rhoi gormod o bwyslais ar gywirdeb iaith ac athrawiaeth gywir y Calfinistiaid (chwedl Williams) a oedd i ddilyn oes Pantycelyn.

Fe gofiwch mai ‘Mae’n rhaid eu credu’n union, mae’n rhaid eu credu i gyd’ oedd y geiriau a roddodd Williams, â’i dafod yn ei foch, i Orthocephalus.

Neges mewn ymateb gan Geraint Lloyd:

Dwedodd C. S. Lewis unwaith fod astudiaethau o Hamlet yn aml yn dweud mwy am y beirniaid nag am arwr Shakespeare, ac efallai y gellid dweud rhywbeth tebyg am ymdriniaeth Pryderi â Theomemphus. Mae trafferthion Pryderi gydag athrawiaethau traddodiadol Cristnogaeth yn hysbys i bawb, ond mae ei ddarllen yn priodoli’r un petruster i ddiwinydd mwyaf to cyntaf y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn creu syndod, a dweud y lleiaf. Dyfynna Orthocephalus i wneud ei bwynt. Fodd bynnag, ai dyna’r lle gorau i ddechrau? Beth yrrodd Theomemphus i geisio cysur gan y pregethwr hwn yn y lle cyntaf? Pregethu Boanerges, a  hwnnw’n bregethu athrawiaethol ar natur ysbrydol pechod:

‘Darllenwch eiriau’r Iesu ddaeth i egluro’r gwir,
Cewch weled mai ysbrydol yw’r gyfraith, ac mai pur;
Ysbrydol yw’r llythyren sy’n haeddu parch a braw,
Llythyren hollta’r creigydd yn ddarnau’r dydd a ddaw.

Ar ôl cael ei siomi gan wahanol bregethwyr ac Orthocephalus, caiff Theomemphus ryddhad o’r diwedd o dan bregethu Efangelius, sy’n llawer mwy na galwad emosiynol heb unrhyw gynnwys diwinyddol:

‘Newyddion o lawenydd orchmynnwyd roi ar led,
Cas gwynfyd ar ôl gwynfyd fydd fyth i’r sawl a’u cred;
Newyddion rhad i ddynion, i Dduw newyddion drud,
Myfyrdod gen y Duwdod cyn gosod seilfaen byd.

‘Disgwyliad patriarchiaid o’r diwedd ddaeth i ben,
Y mwyaf bwnc o’r arfaeth dragwyddol uwch y nen;
Fe brynwyd dyn syrthiedig ag anfesurol bris,
Gwaed calon Duw ei hunan, – ‘wasanaethai dim yn is

‘Mae’r addfwyn Oen fu farw ers tro ar Seion fryn
Trwy’r Eglwys fawr Gatholig ‘n awr am egluro hyn,
Fod ynddo fe gyfiawnder, doethineb mawr, a grym
Nas tâl i’r nef nac uffern byth i’w wrthsefyll ddim.

O’r ychydig ddyfyniadau hyn, daw’n amlwg nad diwinyddiaeth yw’r broblem yn Theomemphus ond math o ddiwinyddiaeth, neu yn hytrach math o ddiwinydda nad oedd ond yn porthi balchder y rhai a gymerai ran ynddo, ac nad oedd yn galw ar neb i ddod yn eu hangen at Grist i gael iachâd. Mae’r nodyn hwn i’w glywed yn glir yn nhraethu Orthocephalus:

‘Ni chaiff articlau Lloeger eu credu genny’n lân,
Na rhai wnawd yn Genefa ryw flwyddau maith o’r blân;
Er pured Eglwys Sgotland, nid purdeb yw hi ‘gyd,
Ni phinna’ i ddim o’m crefydd ar lawes neb o’r byd.

Myfi sydd yn pregethu’r athrawiaeth olau ryw
A’ch gwna chi fyth yn hapus, a’ch gwna chi fyth yn fyw;
Does unrhyw gyfeiliornad a gylwad ar y don
Yn ddirgel, neu yn amlwg o fewn terfynau hon.

Hwn oedd y pregethu cecrus, cynhennus a glywodd William Williams yng nghynulleidfa ymneilltuol Cefnarthen lle’i magwyd ef, ac mae’r rhybudd rhag gorddeallusrwydd ac ymchwyddo yn un pwysig i bawb. Yn wir un o wersi annisgwyl y wefan hon i mi yw bod balchder ysbrydol yn broblem sy’n croesi’r ffiniau diwinyddol (nid oes ond angen newid enwau’r awduron a’r athrawiaethau).

I Pryderi, gyda chefnogaeth Derec Llwyd Morgan fe ymddengys, mae achos Peter Williams ac ymlyniad y  bobl wrtho yn dangos nad mudiad athrawiaethol oedd Methodistiaeth gynnar, ond bod y galon yn drech na’r meddwl, a’r galon yn credu heb y meddwl bron. Unwaith eto, rwy’n credu bod y dadansoddiad hwn yn colli rhywbeth pwysig. Nid oedd Methodistiaeth yn fudiad di-athrawiaeth ond roedd pwyslais athrawiaethol y mudiad ar waith yr achub a digonolrwydd Iesu Grist yn Waredwr dwyfol. Yn hyn o beth roedd Peter Williams a’r arweinwyr Methodistaidd eraill yn gytûn. Roedd y pwyslais hwn hefyd yn adleisio un y Diwygiad Protestannaidd. Gwahaniaethent ar athrawiaeth y Drindod ond roedd y pwnc hwn wedi cael llawer mwy o sylw yn y Dwyrain. Rhan o athrylith Calfin oedd cyfuno canfyddiadau Trindodaidd y Dwyrain a ffocws y Gorllewin ar waith yr iachawdwriaeth ond ychydig iawn sydd wedi llwyddo i’w ddilyn mewn gwirionedd.

Diolch am yr ysgogiad i feddwl am y pethau hyn, a gobeithio y bydd yr ymateb hwn o ryw gymorth, er fy mod i’n amau hynny rywsut.

Cofion gorau,

Geraint Lloyd

Ateb Pryderi Llwyd Jones:

Diolch i Geraint Lloyd am ei ymateb i’r erthygl  Yn ôl at Theomemphus, a diolch iddo hefyd  am ymateb i wefan C21 ac anfon sylwadau adeiladol a chwrtais pob amser. Dyna ran o bwrpas y wefan, wrth gwrs, ond mae’n ymddangos mai anwybyddu’r wefan a wna’r mwyafrif gan gredu nad yw’n werth darllen sylwadau y ‘bobl ryddfrydol’ ma sydd wedi gwneud cymaint o ddrwg i’r dystiolaeth Gristnogol’.

Er bod Geraint yn dweud fod ‘athrawiaethau traddodiadol Cristnogaeth’ yn creu trafferthion i mi, nid dyna’r gwir. Pan fo’r athrawiaethau hynny yn dod yn derfynol a’r iaith yn ddigyfnewid sy’n achosi trafferthion i mi, fel y mae wedi achosi trafferthion i’r eglwys ar hyd y canrifoedd. Soniodd y bardd George Mackay Brown am y Gair yn dod yn gnawd, ond bod rhai Cristnogion yn mynnu ei droi yn ôl yn eiriau eto.

Mae’r Drindod yn enghraifft dda o hynny. Nid  yw’n anodd credu nad oedd Pantycelyn yn teimlo tristwch mawr wrth weld y rhwyg rhwng Harris a Rowlands a’r diarddel ar Peter Williams. Roedd Williams, wrth gwrs, yn uniongred – roedd yn uniongred fel eglwyswr – ond roedd yn gwybod hefyd fod llawer mwy nag uniongrededd yn ei dröedigaeth. Fe fyddai Harris a Rowland yn cytuno â hynny. Ac fe fyddai Geraint hefyd. O ail ddarllen Theomemphus yn ddiweddar, onid dyna yw neges fawr y gerdd, sef bod Efangeliws wedi cyhoeddi neges aruthrol fwy nag athrawiaethau? Mae’n  hen neges: nid yw uniongrededd athrawiaeth (a dyfynnu’r gerdd eto)  ‘yn gwneud y praidd yn bur.’

Nid oeddwn yn awgrymu fod ‘y galon yn drech na’r meddwl’, fel y dywed Geraint, chwaith. “Nid oedd am greu rhwyg rhwng ‘tân yn y galon’ a ‘golau yn y pen’” oedd y frawddeg. Roedd y ‘golau yn y pen’ yn ganolog iddo, fel y dengys ei waith mawr Pantheologia a’i bwyslais canolog drwy’r seiadau ar feithrin a hyfforddi. Ond iaith gras a chariad yw dweud, fel Williams, mai â’r galon y mae credu. Unwaith eto, nid dibrisio athrawiaeth yw hyn, ond dyrchafu Iesu a groesodd ffiniau crefyddol a diwinyddol ei ddydd. Roedd yn heretic.

Nid wyf yn siŵr beth i’w wneud o gyfeiriad Geraint  at ‘falchder ysbrydol’ mewn cysylltiad â C21, ond fe wn ei fod braidd yn annheg yn ei gyfeiriad at Derec Llwyd Morgan. Gofyn cwestiwn mae Derec ac, fel hanesydd sydd wedi gwneud astudiaeth fanwl a byw iawn  o’r diwygiad, mae ganddo pob hawl i wneud hynny. Wrth sôn am gefnogaeth seiadwyr lawr gwlad i Peter Williams pan oedd yn cael ei groesholi ac yna ei ddiarddel  am gymal  mewn un frawddeg o’i esboniad byr : ‘Tybed mai gwaith yr Arglwydd yn eu calonnau oedd yn cyfrif, nid unrhyw ddiffiniad o’i natur?’ Fe allaf gofio am un gwerinwr diwylliedig, meddyliwr treiddgar  ac addolwr ffyddlon na fyddai yn medru cadw’r dagrau yn ôl pob amser y byddai sôn am Iesu yn cael ei groeshoelio neu wrth ganu (er nad oedd fawr o ganwr) “O Fab y dyn, eneinioig Duw.”  Ni  fyddai  lle iddo gyda’r uniongred.  Roedd ganddo feddwl mawr o Pantycelyn. Ac mae gen i deimlad y byddai Pantycelyn wedi ei groesawu i’w seiat, ac wrth ei fodd ei fod yn canu ei emynau ym moliant yr Eglwys ar y ddaear.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.