Ysbeilio’r Dyn Cryf

Ysbeilio’r Dyn Cryf

Enid R. Morgan

Marc 3: 23–28
Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion. Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas yn ymrannu yn erbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ’r un cryf ac ysbeilio’i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo’r un cryf; wedyn caiff ysbeilio’i dŷ ef.

‘Make America Great Again’ oedd slogan mudiad Donald Trump a’i giwed wrth iddo gelwydda’i ffordd i fod yn Arlywydd. Peth arswydus yw gweld gwlad â chymaint o adnoddau yn byw mewn cwmwl o hiraeth am y tybiwyd a fu. Gwelsom yr un broses ym Mhrydain a’r un meddylfryd yn ymgyrchoedd UKIP. Hiraeth am gyfnod pan oedd rhyw Ni go niwlog ond hunandybus yn meddu cyfoeth, awdurdod, annibyniaeth a grym i reoli dros eraill llai cryf.

Does dim angen mynd ymhell yn ôl i ddod ar draws slogan Americanaidd arall a ddefnyddiwyd i’r un perwyl yn union gan Ronald Reagan wrth iddo ymgyrchu am ail dymor fel arlywydd.

Ronald Reagan

Y fersiwn yr adeg honno oedd, ‘America is back again, and walking tall’.

Ym Mhrydain mae’r un meddylfryd o Brydain yn bocsio ‘mewn dosbarth uwch na’i phwysau’ yn dra chyffredin ac yn mynd yn ôl i gyfnod uchelderau’r ymerodraeth Brydeinig pan oedd Victoria’n rheoli’r India ac yn sicrhau bod parthau helaeth o fap y byd yn binc ac yn eiddo i Ni.

Pam ar y ddaear rydw i’n crybwyll y fath bethau mewn erthygl sydd i wasanaethu fel y ‘darn ysgrythurol’ yn Agora fis Mawrth 2017?  Roeddwn i wedi penderfynu bod yn gydwybodol a gwneud tipyn o waith cartref ar gyfer pregethu yn ystod y flwyddyn sydd, yn ôl y llithiadur, yn rhoi’r flaenoriaeth i Efengyl Marc. Roedd gen i glamp o gyfrol ysgolheigaidd heb erioed ei darllen yn drylwyr ar y silffoedd sy’n dwyn y label ‘Ysgrythurol’. Ysgrifennwyd y dyddiad 2010 y tu mewn i’r clawr, ond yr 17eg argraffiad ydyw (2006) o gyfrol a gyhoeddwyd gyntaf yn America yn 1988. Teitl annisgwyl mewn esboniad Beiblaidd sydd arno, sef Binding the Strong Man, ac mae’n siŵr gen i fy mod wedi prynu’r llyfr ar ôl gweld ei gymell yn rhywle, gan gynnwys cyfrol fach reit ddiweddar gan Rowan Williams ar Efengyl Marc.

Felly nid cyfrol newydd mohoni, ond er ei bod yn amlwg wedi cael llawer o sylw yn y cyfnod pan oeddwn yn meddwl am bethau eraill, roedd hi’n newydd i fi. Mae’r awdur, Ched Myers, yn ŵr a fu’n astudio dan gyfarwyddyd ac ysbrydoliaeth yr ysgolhaig Hebreig Norman Gottwald. Arweiniodd ef fudiad ysgolheigaidd taer i geisio pontio’r bwlch a agorodd rhwng byd academia a’r eglwysi; i geisio rhoi ysfa i gyfathrebu ym moliau’r rhai oedd yn bwyta’r academic dost, a’r gweinidogion a’u dosbarthiadau beiblaidd neu eu hysgolion Sul oedd yn poeni am danseilio ffydd syml eu haelodau a’r rhai a gredai’n ddigon cydwybodol mai ystyr syml, arwynebol hyd yn oed llythrennol, oedd gwir ystyr y testunau beiblaidd. Felly magwyd cenhedlaeth o ysgolheigion beiblaidd yn America y mae eu gwaith yn wirioneddol gyffrous, yn twrio dan yr wyneb ac yn dwyn allan drysorau newydd a hen o’r geiriau sydd wedi bod yn sylfaen ac yn un ffynhonnell ffydd ar hyd y canrifoedd. Dywed y meddyliwr mawr Paul Ricoeur fod angen i’r gwaith o ddehongli’r Beibl gael ei fynegi mewn dwy ffordd: mewn parodrwydd i amau, ac mewn parodrwydd i wrando. ‘Yn ein cyfnod ni,’ meddai, ‘dydyn ni ddim wedi gorffen cael gwared ar eilunod a phrin wedi dechrau ar wrando ar symbolau.’

A’r geiriau hynny sy’n agor pennod gyntaf Binding the Strong Man – A Political Reading of  Mark’s Story of Jesus.

Ched Myers

Mae Ched Myers yn mynd yn syth ymlaen i ddyfynnu slogan Ronald Reagan gan ddisgrifio strategaeth y gŵr llyfn-dafod hwnnw fel ‘to feed the people and the equally credulous press a steady diet of blithe reassurances about America’s divine anointing and world dominance, and contemptuously brush aside all social and political evidence to the contrary. Am ryw reswm, dydyn ni ddim yn disgwyl i esboniad fod yn gyffrous o berthnasol, ond mae dehongliad Ched Myers o amcan a strwythur a chrebwyll Efengyl Marc mor danbaid o berthnasol ag ydoedd pan gyhoeddwyd ef bron ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’n amheus gen i a yw’r gyfrol ar silffoedd llawer o bregethwr yng Nghymru, ond buasai’n bywiogi’n pregethu’n rhyfeddol pe bai’n dod yn destun astudiaeth yn y Gymru Gymraeg eleni.

Daniel Berrigan

Dylwn fod wedi sylwi flynyddoedd yn ôl fod y rhagair gan Daniel Berrigan. Bydd llawer o ddarllenwyr Agora yn gwybod am Daniel Berrigan a’i frawd, Philip, ac yn eu hedmygu o bell. Dau offeiriad yn Urdd yr Iesuwyr oedden nhw, heddychwyr tanbaid ac arweinwyr yn y mudiad yn erbyn rhyfel Vietnam, a phob ryfel arall. Treuliodd Philip Berrigan 11 mlynedd yng ngharchar am ei brotestiadau yn torri i mewn i sefydliadau milwrol Americanaidd a dywedir mai ef oedd calon y mudiad tra mai Daniel, y bardd, drwy ei gyfraniadau deallusol a diwinyddol oedd ymennydd y mudiad. Tipyn o embaras fuon nhw i’r Urdd a’r esgobion. Dim ond flwyddyn yn ôl y bu farw Daniel Berrigan yn 94 oed ac yn ei henaint rhoddodd ei gefnogaeth i fudiad Occupy Wall Street. Mae’n debyg ei fod yn ystyried brwydr y proffwyd Daniel yn yr Hen Destament yn erbyn pŵer y wladwriaeth yn alegori o’i yrfa ef ei hunan.

Pam roedd Daniel Berrigan yn rhoi ei eirda a’i enw i gyfrol academaidd drom a swmpus fel hon? Mae’r rhagair ei hun yn sain utgorn yn erbyn academia ‘wrthrychol’ ac yn disgrifio sut y bu fersiynau cynnar y deipysgrif yn adnodd ymarferol i ysbrydoli a gwreiddio’r mudiad heddwch yn nhraddodiad yr eglwys fore ac yn arbennig yn nehongliad Marc o ystyr bywyd, gyrfa ac angau Iesu o Nasareth. Fel yr oedd Marc yn ysgrifennu i grŵp penodol o ddisgyblion, felly yr oedd yr awdur Ched Myers yn ysgrifennu ar gyfer grwpiau o gyffelyb fryd o ddisgyblion oedd yn dibynnu ar ei ysgolheictod, ei ymroddiad i Grist, a’i ddealltwriaeth o ystyr neges Crist i’w oes ac i’w ddilynwyr. Dechreuwyd Binding the Strong Man mewn cymuned a enwyd ar ôl y cardotyn dall, Bartimeus, yn Berkeley yng Nghaliffornia. Dywed Myers fod y gwaith ar gyfer  ‘y gwrthwynebwyr di-drais sydd oherwydd  eu tystiolaeth yn erbyn y Goliath ymerodrol ar hyn o bryd yng ngharchar’.

Mae Berrigan yn disgrifio’r protestiadau yn y saithdegau a’r wythdegau pan oedd pebyll yn Lafayette Park gyferbyn â’r Tŷ Gwyn i brotestio o blaid y digartref. Bu eraill yn ymprydio, eraill yn taflu gwaed ar bileri’r Tŷ Gwyn ac wedyn yn penlinio i weddïo gan ddyfynnu’r ysgrythurau a mynnu bod gwaed y diniwed yng Nghanolbarth America, De Affrica a De Corea yn llefain o’r pileri gwyngalchog hynny.

Ymadrodd Myers am ei sefyllfa gyfoes ef oedd ‘Rhyfel y Mythau’ ond y mae’n ystyried yr ymadrodd yn briodol i amcan Marc yr Efengylydd, sef enlistio yn ‘rhyfel mythau’ ei gyfnod drwy adrodd stori Iesu fel brwydr yn erbyn y pwerau treisiol ym Mhalesteina Rufeinig. Heddiw, mae’r ffordd rydyn ni’n dehongli’r Efengyl yn dibynnu ar ein dehongli a’n hymroddiad i’r rhyfel mythau sy’n parhau o’n cwmpas o hyd. Os oedd cyfrol Myers yn berthnasol yn niwedd y saithdegau a’r wythdegau, mae’n ymddangos hyd yn oed yn fwy perthnasol yn y dyddiau presennol. Dydi poeri casineb at Trump ddim yn mynd i’w danseilio ac mae lle i ddiolch bod y gwrthwynebiad cadarnhaol iddo yn dechrau crynhoi. Dadl James Alison yn Y Dioddefus sy’n Maddau a sylfaen cyfraniad cyfoethog Rene Girard i’r meddwl cyfoes fu dangos bod ymuno mewn brwydr benben, Ni yn erbyn Nhw, yn fater o Satan yn trio bwrw allan Satan.

Mae’r stori am yr esboniad, ei gefndir academaidd a gwleidyddol o bosib yn ddychryn i’r rhai sy’n teimlo bod angen amddiffyn y Beibl yn erbyn y fath ddeongliadau hanesyddol a daearol. Mae digon o wleidyddion sy’n rhybuddio Cristnogion yn erbyn ‘ymyrryd’ yn y byd gwleidyddol ac i gadw’u diddordebau yn y maes ‘ysbrydol’.

Erich Auerbach

Ond ymhell cyn Ronald Reagan yr oedd Eric Auerbach yn Memesis wedi mynnu bod ‘efengyl’ yn rhywbeth cwbl unigryw. Dywed fod efengyl yn porteadu rhywbeth nad oedd beirdd na haneswyr yr hen fyd erioed wedi mentro’i ddisgrifio, sef geni mudiad ysbrydol o berfedd digwyddiadau cyffredin beunyddiol eu cyfnod sydd drwy hynny’n ennill arwyddocâd na allasai fyth ei ennill yn yr hen lenyddiaeth.

 

Roedd yn rhy ddifrifol i gomedi, yn rhy gyffredin i drasiedi, ac rhy wleidyddol ddibwys i hanes. Does dim byd tebyg iddo yn llenyddiaeth yr hen fyd.

Ond wrth gyhoeddi ‘teyrnas’oedd yn llwyr wrthwyneb i safonau byd Iddewig y Sadwceaid a’r ysgrifenyddion ac yn beryglus i systemau pŵer yr ymerodraeth Rufeinig, yr oedd Iesu yn ei bregethu a’i weinidogaeth yn wynebu ofn a llid y systemau treisiol a bydol. Yn rhyfel y mythau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl fel y mae Marc yn ei ddisgrifio, mewn gwahanol fudiadau apocalyptaidd hefyd drwy’r canrifoedd y mae chwyldroadau efengyl yr ymgnawdoliad yn herio’n gallu i ddofi a chymedroli tanbeidrwydd neges yr Efengyl.

Yn esboniad Myers mae Iesu’n dod o’r anialwch gyda’r bwriad o herio dulliau treisiol y byd hwn ac mae’n dadansoddi strwythur yr efengyl fel sawl ymgyrch benodol yn erbyn grym y deml a’r ymerodraeth. Gobeithio, yn y misoedd sy’n dod, y ceir enghreifftiau o’r esboniad cyffrous hwn yn Agora. Am y tro fe ddof i ben drwy ddyfynnu geiriau Dorothy Soelle sy’n ein herio i ‘ddiwinydda yn nhŷ Pharo’, hynny yw i fod o blaid yr Hebreaid er yn ddinasyddion yr Aifft.

Binding the Strong Man: A Political Reading of Mark’s Story of Jesus gan Ched Myers (Orbis Books; ISBN 0-88344-621-9)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.