Golygyddol

Golygyddol

Pryderi Llwyd Jones

Diwygiad ynteu diwygio? Mae’n hen gwestiwn ac yn codi ei ben eto yn 2017. O fewn y gymuned Gristnogol Gymraeg yn arbennig (a sylw wrth fynd heibio, efallai, yn y gymuned Gristnogol Saesneg yng Nghymru ac yn fyd-eang) fe fydd cofio Williams Pantycelyn yn gyfrwng i bwysleisio’r angen am ddiwygiad ysbrydol fydd yn rhoi Cymru ar dân unwaith eto.

William Williams, Pantycelyn (1717-1791)

Mae’r weddi a’r dyhead hwnnw yno yn barhaus, wrth gwrs, ac yn rhan o etifeddiaeth Gristnogol cenhedlaeth na ŵyr ddim am ddiwygiad. Mae twf y dystiolaeth efengylaidd garismataidd (yn ei hamrywiol weddau) yn llawn tystiolaeth o brofiadau a thröedigaethau unigolion a hynny, fel arfer, yn eu harwain i eglwys gydag arweinydd a phobl sydd yn rhannu yr un profiadau. Ond mae diwygiad mawr yn wahanol i hynny. Petai diwygiad felly yn digwydd – ac y mae digon o arwyddion, gan gynnwys arweinwyr ifanc (nid mor ifanc â diwygwyr y ddeunawfed ganrif, efallai) a allai fod yn gyfrwng i gynnau’r tân diwygiadol, fe fyddai’n creu problem a bygythiad arall i iaith Pantycelyn. Ond damcaniaethu yw dweud hynny.

Cofgolofn Martin Luther yn Wittenberg

Mae diwygio yn wahanol. Cyn diwedd y flwyddyn (31 Hydref yw’r dyddiad) fe fydd cofio Martin Luther a’i Ddatganiad 95 yn Wittenberg 500 mlynedd yn ôl a oedd yn ddechrau cyfnod cythryblus i geisio diwygio’r Eglwys Gatholig. I Luther, fe ddaeth hyn yn dilyn profiadau ingol, cythrybus, adnewyddol a’i harweiniodd i brofi rhyddid trwy ras Duw a ddatguddiwyd iddo yn y Beibl. Un canlyniad i hynny (ac fe fu llu o ganlyniadau, da a drwg) oedd bod yn rhaid i Eglwys Dduw gael ei diwygio’n gyson os yw am gyflawni ei gwaith.

Mae ‘diwygio parhaus’ yn un o egwyddorion mawr Protestaniaeth. Thema’r cofio am Luther a’r Diwygiad eleni yw ‘Ein rhyddhau gan ras Duw’.

O safbwynt gwaith cyntaf yr eglwys heddiw – sef ei chenhadaeth – ym mhlith y Cymry (gan ein bod wedi sôn am Williams), y mae’r angen i ddiwygio ein cyfundrefnau crefyddol. Nid yw ambell i uno, amrywio patrwm gweinidogaeth neu ofalaeth yn ddim ond crafu’r wyneb. Mewn gwirionedd, yr ydym mewn sefyllfa o ddechrau o’r dechrau mewn pentrefi a chymunedau (eled yr eglwysi trefol, maestrefol, a dinesig i’w ffordd eu hunain – ni fu Duw erioed yn ffafrio unffurfiaeth!) ac y mae galw arnom i ddiwygio’n llwyr yr hyn sydd gennym er mwyn rhannu’r efengyl ac ehangu’r deyrnas. Ein gwaith yw adfywio cymuned yn ogystal â meithrin addolwyr newydd, yn rhydd o gaethiwed y traddodiad sy’n mynnu bod yn ddigyfnewid. Efallai na ddaw hynny drwy un dyn fel Luther, na thrwy gynlluniau enwadol chwaith, ond trwy Gristnogion yn eu bro yn credu y gall diwygio radical, gydag ysbryd dewr, angerddol  a chwyldroadol Luther, agor y drws i Ysbryd adnewyddol Duw.

Pantycelyn

Fentrwn ni sôn (yn iaith Pantycelyn) am ‘seiadau newydd’ sy’n barod i addoli a gweithredu heb eu cyfyngu na’u caethiwo a phwyso am ddiwygio’r strwythurau sy’n fwy addas i gystadleuaeth na chenhadaeth bro?

I’r eglwysi Cymraeg o bob traddodiad, onid yw argyfwng ysbrydol ein heglwysi a’n gwlad, yn ogystal ag argyfwng ein diwylliant a’n hiaith, wedi dod â ni at amser (kairos yw’r gair Beiblaidd) aeddfed i ddiwygio sylfaenol ar yr hyn nad yw bellach yn gyfrwng teilwng i’r alwad hon. Dyna yn 2017, blwyddyn Pantycelyn a Luther, fyddai ein rhyddhau drwy ras rhyfeddol, annisgwyl a diderfynau Duw.

(Nid drwg o beth fyddai atgoffa ein hunain o neges R. Williams Parry yn ei soned enwog ‘Cymru 1937’ a gyhoeddir yn yr adran nesaf.)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.