Cloddio

Agora yn holi

Meurig Llwyd, Archddiacon Ffrainc,

Diolch am gytuno i gael sgwrs ar gyfer darllenwyr Agora. I lawer fe fydd yn rhyfedd meddwl fy mod yn sgwrsio ag Archddiacon Ffrainc. Mae gofalaethau gweinidogion Wesle yng Nghymru yn ddigon mawr ond mae dy ofal di yn wlad gyfan. Dau gwestiwn yn un: sut wyt ti wedi cyrraedd fan hyn a beth mae’r swydd yn ei olygu?

Ar lawer ystyr, dwi mewn rôl berffaith, hyd yn oed os ydi hynny’n golygu treulio oriau mewn gorsafoedd trên a meysydd awyr! Mae Ffrainc yn golygu llawer i mi ac ers hanner canrif bellach dwi wedi treulio cyfnodau o mywyd yma. Mae ei diwylliant, ei hiaith a’i ffordd o edrych ar y byd yn rhan bwysig ohona i, heb anghofio’i bwyd.

 Beth ydi ffordd Ffrainc ‘o edrych ar y byd’?

‘Liberté, Egalité, Fraternité’, wrth gwrs! Mae o leia dri pheth yn deillio o hyn. Yn gyntaf, hyd yn oed os oes rhaniadau cymdeithasol ac economaidd dychrynllyd yn Ffrainc ar hyn o bryd, rwy’n dal i gredu fod y reddf at gydraddoldeb yn greiddiol i feddylfryd Ffrainc. Yn ail, er na alla i ddweud yn union pam, i mi mae cymdeithas Ffrainc yn llai unigolyddol nag yn y Deyrnas Unedig.

Ardal Limousin, lle mae Meurig wedi ymgartrefu

Efallai fod hynny i’w ddisgwyl mewn gweriniaeth, ond cyffredinoli difrifol fyddai hynny. Yn olaf, mae’r tir mawr Ewropeaidd yn gwybod beth yw balans gwaith a gorffwys. Wedi byw am bedair blynedd yn ne-ddwyrain Lloegr lle mae bywyd yn un rhuthr gwyllt, rwy’n ddiolchgar am gael y profiad o fyw mewn cymdeithas sydd yn fwy hamddenol wrth reddf. Mae hyn yn feiblaidd, wrth gwrs! Wedi dweud hynny, mae gen i atgofion melys am dreulio oriau hamdden yn cerdded o amgylch arfordir Môn, heb sôn am lonyddwch bendigedig Pen Llŷn.            

 

Felly, a mynd yn ôl at fy swydd, mae bod yn Archddiacon Ffrainc yn cyfuno dwy reddf a hoffter – Ffrainc a chalonogi offeiriaid a’u cynulleidfaoedd. Mae gan Esgobaeth Ewrop (sy’n perthyn i dalaith Caer-gaint yn Eglwys Loegr) ryw gant o gynulleidfaoedd yn Ffrainc, y mwyafrif ohonynt yn defnyddio Saesneg fel cyfrwng addoliad a thystiolaeth. Ond mae gennym hefyd gynulleidfaoedd sydd yn addoli trwy gyfrwng y Ffrangeg a Malgache. Mae ’na gynulleidfaoedd dinesig, ym Mharis, Lyon, Nice a Bordeaux er enghraifft, a chynulleidfaoedd mwy gwledig, yn y Midi-Pyrenees a Poitou-Charentes. Mae llawer o’r cynulleidfaoedd yn tyfu ac yn rhyngwladol eu cymeriad. Dyna sy’n gwneud y gwaith yn gyffrous. Mae’r amrywiaeth yn rhyfeddol.

Fe wn dy fod yn rhugl mewn Ffrangeg, ond os yw’r gynulleidfa’n rhyngwladol, ydi’r addoli’n ddwyieithog (Saesneg/Ffrangeg )? Sut mae Eglwys Loegr yn ymwneud ag amlieithrwydd yn Ffrainc?

Mae’r Cymundeb Anglicanaidd yn deulu rhyfeddol o wahanol daleithiau. Y cam nesaf, naturiol efallai, ydi i Esgobaeth Ewrop lansio’i chwch ei hun i’r dŵr a dod yn dalaith annibynnol, fel y gwnaeth yr Eglwys yng Nghymru yn 1920.

Eglwys Anglicanaidd Sant Siôr ym Mharis, lle’r urddwyd Meurig yn Archddiacon Ffrainc

Mae Eglwys Loegr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o amlddiwylliannedd. Yn Llundain er enghraifft, mae cynulleidfaoedd Anglicanaidd yn addoli mewn amryw o ieithoedd. Mae ’na offeiriad o Nigeria sydd wedi’i benodi gan esgobaeth Llundain i ofalu am y llu o Nigeriaid Anglicanaidd sy’n byw yn y ddinas. Mae cynlluniau ar droed i sefydlu cynulleidfa sy’n addoli yn yr iaith Dwrceg yn Llundain. Yn bersonol, mae hwn yn fater o bwys i mi wrth gwrs, ac mae fy mhrofiad yn yr Eglwys yng Nghymru, gobeithio, yn cyfoethogi fy nghyfraniad i’r berthynas rhwng iaith, diwylliant ac addoliad. Wedi dweud hynny, mae’n rhyfeddol pa mor bwerus yw’r Saesneg. Rwy’n cofio’n dda pan oeddwn yn gofalu am gynulleidfaoedd Anglicanaidd yr Iseldiroedd fod y gwrthwyenbiad i addoli mewn Iseldireg yn dod gan yr Iseldirwyr eu hunain, nid gan fewnfudwyr o gyfandiroedd eraill. Ond gŵyr y darllenwyr yn dda am rym yr iaith Saesneg!        

Dwi wedi bod yn archddiacon ers deuddeng mlynedd a bydd rhai o’r darllenwyr yn fy nghofio fel Archddiacon Bangor rhwng 2005 a 2011 pan gefais wahoddiad gan Esgob Bangor ar y pryd, Anthony Crockett, i ddod yn archddiacon ym mro fy mebyd. Roedd yn fater o dristwch dwfn i lawer ohonom pan fu farw Tony yn 2008 a hynny’n llawer rhy gynnar, wedi gweinidogaeth nodedig ym Mangor pan fu twf mewn hyder a dychymyg.

Ym mis Mai 2011 roeddwn yn dechrau ar weinidogaeth newydd gyda’r Esgob Geoffrey Rowell, Esgob Anglicanaidd Ewrop, diwinydd, hanesydd ac arbenigwr ar y berthynas rhwng Eglwysi Anglicanaidd ac Uniongred. Bu i ni gyfarfod am y tro cyntaf yn angladd y Canon Donald Allchin yn Rhydychen, gyda llaw!

Erbyn 2012 gofynnwyd i mi fod yn archddiacon yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg, ac am bedair blynedd rwyf wedi treulio amser yn gofalu am offeiriaid ein cynulleidfaoedd mewn dinasoedd hyfryd fel Utrecht, Den Haag, Amsterdam, Brugge, Gent, Liege, Eindhoven a Maastrich. Ers Hydref 2016 rwyf wedi bod yn Archddiacon Ffrainc ac yn falch o fod mewn olyniaeth nodedig, yn enwedig y diweddar Roger Greenacre, eciwmenydd oedd â gwybodaeth eang o’r Eglwys Gatholig Rufeinig yn Ffrainc.        

Meurig (ail o’r chwith) yn cael ei groesawu i Eglwys St Paul, Monte-Carlo yn rhinwedd ei swydd newydd.

Mae bod yn archddiacon yn golygu gweithio’n agos iawn gydag esgob, â digon o le gwag rhyngom i greu annibyniaeth barn a gwrthrychedd pan ddaw at benderfyniadau o bwys sy’n aml yn benderfyniadau anodd.

Pa faterion anodd, tybed?

Fel ‘oculus episcopi’, yn draddodiadol mae archddiacon yn llygad yr esgob. Ond mae hefyd yn ffigwr doniol i rai ac yn destun ofn a braw i eraill! Pwy all anghofio’r archddiacon yng nghefn y tacsi yn y gyfres deledu diweddar Rev? Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau bugeiliol a gweinyddol lu pan fo dyn yn archddiacon. Dwi’n ymwybodol iawn o’r pwysau sydd ar offeiriaid y dyddiau hyn, ac felly ar eu teuluoedd, pwysau sy’n aml yn deillio o’r alwad i fod yn berson cyhoeddus. Dyw hi ddim yn gyfrinach fod y mwyafrif o offeiriaid Anglicanaidd yn berchen ar broffil seicolegol sy’n eu rhoi yn y categori ‘Mewnblyg’! Mewn eglwys sy’n credu mewn trefn, weithiau hyd at syrffed, mae’n rhyfeddol faint o anhrefn sy’n codi ei ben. I rai offeiriaid, mae’r cyfan yn mynd yn ormod ac mae llu o weinidogaethau wedi dirwyn i ben dan amgylchiadau trist. Dynol ydym wedi’r cyfan!     

Rwyf wedi gweithio gyda dau esgob yn Ewrop. Roedd y Dr Rowell yn Eglwyswr o’r garfan draddodiadol sy’n dal i brofi anawsterau diwinyddol pan ddaw at weinidogaeth merched. Mae’r esgob presennol, Dr Robert Innes, yn Efengylwr Agored – rydym yn hoff o labeli yn y traddodiad Anglicanaidd! Yn fy mhrofiad i, mae meithrin cyfeillgarwch ar draws ffiniau barn a gwahaniaeth yn cyfoethogi dealltwriaeth dyn o ffydd, Duw a’r byd. Rwyf wastad wedi cael egni o’r gwahaniaethau hyn. Yn y pen draw, mae gweithio tuag at gyfeillgarwch gyda rhywun sy’n gweld pethau’n wahanol i mi yn lleihau’r diffyg ymddiriedaeth sydd rhyngom. Trueni na fyddai mwy o hyn yn digwydd ar draws y gwledydd y dyddiau hyn.        

Yn dy bererindod ysbrydol, Meurig, fe fu Taizé yn ddylanwad mawr arnat. Wnei di rannu efo ni natur y dylanwad hwnnw?

Y tro diwetha i mi fod yn Taizé oedd yn 1999, ond mae’n siŵr fod y dylanwad yn parhau heddiw. Yn Taizé y sylweddolais am y tro cynta beth oedd ystyr perthyn i eglwys fyd-eang. Yna, cefais fy swyno gan y syniad o weddi gyffredin. Yn ola, oherwydd Taizé daeth yr ewcarist yn ganolog i’m ffydd. Yn y bôn, roeddwn yn gweld fod modd cyfuno pwysleisiau Catholig a Diwygiedig, a bod y naill yn cyfoethogi’r llall.

Gwasanaeth yn Taize, Ffrainc

Yn ganolog i ’ngweinidogaeth i heddiw a thros y chwarter canrif diwetha y mae’r gred fod addoliad yn waelodol i bopeth a wnawn, a bod ein hymwneud â chymdeithas yn gyffredinol yn tarddu o’r addoliad hwn. Taizé oedd yn gyfrifol am ddeffro hyn oll ynof. Ond mae’n rhaid symud ymlaen. Yn wir, rwy’n credu y baswn yn ymwrthod â Duw pe na byddwn wedi symud ymlaen a gwreiddio’r hyn a ddysgais yn Taizé yn y weinidogaeth fel mae’r traddodiad Anglicanaidd yn ei deall. Ond mae miloedd o bobl ifanc yn dal i dyrru i Taizé. Yr hyn sy’n apelio, dwi’n meddwl, ydi’r symylrwydd a’r parodrwydd i gyfuno gweddi a gweithred.

Ond mae llawer wedi cydnabod dylanwad Taizé heb adael eu cartref ysbrydol, fel yr wyt ti wedi’i wneud o draddodiad y Bedyddwyr Cymraeg.

Er mor flinedig braidd yw’r trosiad y dyddiau hyn, mae bywyd yn bererindod. Erbyn cyrraedd pen unrhyw daith, mi fydd y daith wedi newid pob un ohonom. Fe gawn ein hysbrydoli gan leoedd sydd yn annwyl i ni, lleoedd sydd wedi ein meithrin, ond mae ffydd yn golygu bod yn barod i gofleidio dimensiynau newydd i fywyd. Fe ddaw cyfleon newydd ar y daith. Rwy’n cofio Rupert Hoare, prifathro fy ngholeg diwinyddol (Westcott House, Caer-grawnt) yn ein hatgoffa ar ddiwrnod cynta ein tymor cynta: ‘Rydych wedi cyrraedd er mwyn i chi adael.’ Fe gymerodd hi dipyn o amser i mi ddeall hynny, ond rywle yng nghefn fy meddwl maent yn dal i’m herio. Mae’n siŵr fod llawer o ffactorau’n symbylu rhywun i chwilio am gartref ysbrydol. Yn fy achos i, roeddwn i’n chwilio am gartref ysbrydol oedd yn cynnig y rhyddid i fyw, i ddiwinydda ac i addoli gyda dychymyg.

Mwy o ryddid na’r traddodiad anghydffurfiol sydd, yn hanesyddol, wedi tyfu o’r angen am ryddid rhag pob awdurod ar wahân i ‘awdurdod y Gair’?

Schleiermacher ddywedodd am gyfnod y Diwygiad Protestannaidd: ‘Gwaherddir popeth dirgel a rhyfeddol. Nid yw’r dychymyg i gael ei lenwi gan ddelweddau cymylog’. A dyna i mi, i raddau, y broblem gydag ysgaru ‘Awdurdod y Gair’ oddi wrth unrhyw awdurdod arall, hyd yn oed pe bai hynny’n ddynol bosibl. Mewn gwirionedd mae’n amhosibl ysgaru’r Gair oddi wrth y dimensiynau mwy diriaethol i fywyd (megis datblygiad iaith, y corff, y synhwyrau, y celfyddydau) sy’n daearu’r Gair ac yn ein hatgoffa mai ffydd ymgnawdoledig yw’r ffydd Gristnogol.

Meurig (ar y chwith) gyda’i gydweithiwr, Paul Vrolijk

Cymerwn enghraifft o ddatblygiad addoliad. Mae litwrgi Anglicanaidd, ar ei gorau, yn ysbrydoli oherwydd ei bod wedi ei throchi yn yr Ysgrythur ond mae hefyd yn ein tywys i fannau gwahanol sy’n medru taflu goleuni newydd ar yr Ysgrythur. Tybed beth yw ystyr ‘iachawdwriaeth’ a ‘datguddiad’ i bobl heddiw? Fawr ddim, fentrwn i ddweud, ond mae’r sialens yn dal yno: i chwilio yn y presennol am ffyrdd newydd o ddirnad y posibiliadau digamsyniol ar gyfer y dyfodol sy’n perthyn i ‘iachawdwriaeth’ a ‘datguddiad’. Mi welwch, gobeithio, sut mae iaith, addoliad litwrgaidd a chreu cymuned Gristnogol yn gyffrous i mi a’u posibiliadau yn ddi-ben-draw. 

Heb os, Taizé a’m helpodd i glywed galwad i’r weinidogaeth Anglicanaidd.

Rhyfeddod Anglicaniaeth yw ei bod yn medru cyfuno trefn ac anhrefn – a dioddef y ddau! Mae’n cynnig patrwm byw (neu reol buchedd) ac, er ei gwendidau, mae’n realistig ynghylch y cyflwr dynol. Wrth ymweld ag arweinwyr rhai o eglwysi’r Dwyrain, mewn lleoedd fel Serbia a Moscow, rwyf yn aml yn teimlo fod yr arweinwyr hyn yn edrych ar yr Eglwys Anglicanaidd â pharch ac edmygedd. Ond maent yn barod iawn i fynegi drwgdybiaeth am ryddfrydiaeth y Gorllewin. Felly, mewn gair, mae’r gôt Anglicanaidd yn fy ffitio’n berffaith – mwy neu lai!

Awn ni ddim ar ôl y ‘mwy neu lai’, ond beth am y newid o’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru i’r Eglwys Anglicanaidd yn Lloegr? Oedd hynny’n anodd?

Wrth fynd yn hŷn, rwyf wedi dysgu gwers syml. Mae bywyd yn rhy fyr i sefyll yn yr unfan a galaru am y ffaith nad yw pethau fel ag yr oedden nhw. I lawer ohonom, diolch i Dduw nad yw pethau fel ag yr oedden nhw! Ond wrth symud o le i le (neu o eglwys i eglwys ym mhrofiad rhai ohonom) mae dau beth yn digwydd. Yn gyntaf, mae dyn yn tyfu, gobeithio, mewn hunan-adnabyddiaeth. Yn ail, gyda hunan-adnabyddiaeth gadarnach, mae dyn yn fwy hyderus i rannu ei brofiad ei hun ag eraill. Felly, i ateb y cwestiwn, doedd symud o’r Eglwys yng Nghymru i Ewrop ddim yn broblem am y rheswm syml fod y profiad Cristnogol Cymreig yn mynd gyda fi o le i le – yn siwtces yr hunan! Wedi’r cyfan, byd llai ydi’r byd sydd ohoni ac mae cyfleon i sôn am Rowan Williams a William Morgan ar gyfandir Ewrop, heb anghofio George Herbert a Gwyneth Lewis … Yn y gwasanaeth i lansio fy ngweinidogaeth yn Ffrainc, roedd yn braf cynnwys un o garolau William Mathias, yr emyn-donau Bryn Calfaria a Gwalchmai, a gweddi yn Gymraeg gan reithor presennol Bro Padarn. Cyfuniad diwylliannol diddorol!           

Wedi dweud hynny, ar lin fy nhad y clywais gynta am Bonhoeffer, Barth a Bultmann. Mae rheswm yn dweud, felly, y bydd fy niolch i’r traddodiad Anghydffurfiol yn parhau trwy gydol fy oes.

Erbyn hyn, yn ddiwinyddol, rwy’n tueddu at y mudiad Uniongrededd Radical (Radical Orthodoxy).

Mae ‘uniongrededd’ yn ddealladwy, ond beth yw ystyr ‘radical’ yn y cysylltiadau yma? Efallai ei fod yn derm sydd angen ei esbonio i rai darllenwyr.

Rowan Williams

Mae’n siŵr mai Rowan Williams, yn anad neb arall, sy’n ymgorffori’r mudiad cyfoes ‘Uniongrededd Radical’. Fe ddechreuodd y mudiad yn nawdegau’r ganrif ddiwetha yng Nghaer-grawnt fel ymateb i’r duedd i dderbyn moderniaeth yn ddigwestiwn. A derbyn ystyr y gair ‘radical’ yn ei hanfod, sef dychwelyd at y gwraidd, mae Uniongrededd Radical yn credu fod dehongliad traddodiadol o’r ffydd Gristnogol yn ymateb yn fwy radical i’r byd cyfoes na llawer o’r athronyddu a ddeilliodd o gyfnod y Goleuo yn y 18fed/19eg ganrif. Dwi ddim yn un i dderbyn unrhyw fudiad yn ddigwestiwn ond yn bersonol mae’r dehongliad hwn o’r dirwedd ddiwinyddol bresennol yn llefaru’n fwy eglur wrthyf. Pe byddai adain efengylaidd i’r mudiad, byddai enwau pobl fel Stanley Hauerwas, Sam Wells a Walter Bruggemann yn perthyn yn go daclus i’r un math o symudiad diwinyddol, rwy’n credu.       

Pwy ohonom, a bod yn ddiflewyn-ar-dafod, all dderbyn moderniaeth yn ddigwestiwn heddiw? Yn bersonol, a thrwy gydol fy ngweinidogaeth hyd yma, rwy’n derbyn mwy a mwy o ysbrydoliaeth o’r cyfnod Patristig na chan lawer o’r hyn dwi wedi’i dderbyn o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y broblem efallai yw fod cymaint o’r profiad Cristnogol Cymreig yn dal i ymdroelli yn yr union ganrifoedd hynny!

Mae’r pwyslais mawr ecwmenaidd erbyn hyn ar rannu â’n gilydd fel eglwysi bob traddodiad. Sut fasat ti’n ystyried cyfraniad dy etifeddiaeth Anghydffurfiol i’r Eglwys Anglicanaidd ac i’r eglwys fyd-eang?

Ar un ystyr, hoffwn feddwl y byddaf yn anghydffurfiwr (yn yr ystyr seciwlar) am byth! Pan ddywedais yn gynharach fod y gôt Anglicanaidd yn fy ffitio’n berffaith, roedd rhaid i mi ychwanegu’r geiriau ‘mwy neu lai’. Yn naturiol, rwy’n anghyffyrddus gyda rhai agweddau o fywyd Eglwys Loegr, er fod y rheini’n llai amlwg yn Esgobaeth Ewrop.

Er enghraifft?

Dwi’n credu mai’r hyn sydd yn dod â chwys i’r wyneb gan amla ydi’r methiant i ddeall y berthynas rhwng crefydd a diwylliant. Wrth gwrs fod mân bethau eraill pan fo’n rhaid croesi bysedd a chroesi popeth arall hefyd … ond, yn y bôn, mae hi’n ddyddiau cynnar ar Eglwys Loegr lle mae deall natur amrywiaeth yn y cwestiwn. Hefyd, mae’r Eglwys yn araf sylweddoli maint dirywiad crefydd yn ei phlwyfi yn Lloegr, yn enwedig yn y plwyfi dosbarth gweithiol lle mae’r Eglwys wedi troi ei chefn arnynt a chanolbwyntio ar dwf mewn ardaloedd mwy cyffyrddus.

Oedfa penodi’r Archddiacom newydd (ar y chwith)

Mae’r dirywiad wedi bod yn gyflymach yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau dwi wedi’u gweld, ac mi fyddai’n braf bod yn rhan o sgwrs ynghylch y rhesymau am hyn. Yng ngorllewin Ewrop, yr un yw’r stori i raddau, fel y mae Grace Davie yn dal i’n hatgoffa ond bod stori gogledd Ewrop a de Ewrop fymryn yn wahanol.

Mae’r byd Uniongred yn yr hen ddwyrain Ewrop yn dal i addasu i’r cyfnod ôl-Gomiwnyddol ond yn canfod llais newydd i lefaru, er enghraifft, ar faterion ecolegol.

Ond mae fframwaith Eglwys Loegr yn rhyfeddol o eang ac mae hynny’n caniatáu ehangder mynegiant, yn enwedig lle mae addoliad yn y cwestiwn. Mewn llawer o’n heglwysi ar dir mawr Ewrop, mae Anghydffurfwyr, Pentecostaliaid, Catholigion ac Uniongred. Mae mudo o gyfandir i gyfandir yn rhannol gyfrifol am hyn wrth gwrs. Ond pan ddaw Cristion o Nigeria i addoli, dyweder, yn Eglwys Anglicanaidd Toulouse ac adrodd hanes ei daith hir i Ewrop, bydd y gymuned honno’n cael ei newid gan dystiolaeth yr un person hwnnw. Mae hyn yn gyffrous, hyd yn oed pan fo amgylchiadau poenus wrth wraidd y sefyllfa.

Felly, mae’r eciwmeniaeth rwy’n ei phrofi ar hyn o bryd yn eciwmeniaeth o rannu cyfoeth ein profiadau Cristnogol. Mae hyn yn mynd â ni ymhellach na thrafod perthynas strwythurol rhwng yr eglwysi. Lle bynnag mae eglwysi’n cynnig profiad gonest o berthyn, yn cynnig gweithredu cymdeithasol, e.e. banciau bwyd a chymorth cyffuriau, ac, efallai yn fwyaf pwysig, yn cynnig addoliad o’r safon uchaf posib (boed yn efengylaidd garismataidd neu mewn eglwys gadeiriol), bydd pobl yn dal i gael eu denu gan yr Eglwys a hithau’n cael ei hadnewyddu’n barhaol.

Fe fydd llawer o sôn eleni am ddechrau’r Diwygiad Protestanaidd – a dweud y gwir mae’r cofio, ar ôl llawer o baratoi, wedi hen ddechrau, e.e. mae yna ‘road show’ ar daith o gwmpas gwledydd Ewrop ac o’r Almaen y daeth yr arweiniad ar gyfer yr Wythnos Weddi am Undod. Rwy’n gweld fod y ddau Archesgob yn Lloegr wedi galw am ‘edifarhau am y Diwygiad yn wyneb y difrod parhaol (i’r eglwys)’. Ym mha ffordd y dylid rhoi sylw cadarnhaol ac ystyrlon i’r Diwygiad?

Mae’r Diwygiad Protestannaidd yn un o’r digwyddiadau hynny a newidiodd gwrs hanes Cristnogaeth. Fel y dywedodd y Pab Ffransis yn ddiweddar, fe adnewyddwyd yr eglwys gyfan gan y Diwygiad Protestanaidd. Nac anghofiwn fod yr Eglwys Gatholig Rufeinig wedi defnyddio’r slogan ‘Semper Reformanda’ yn yr 16eg ganrif. Cofiwn hefyd fod Ail Gyngor y Fatican yn chwedegau’r 20fed ganrif wedi derbyn llawer o’r ‘critique’ Protestannaidd o Gatholigiaeth ganoloesol. Mae pawb ohonom yn dueddol o fod yn ddewisol yn ein darllen o hanes!

Ble fyddai Ewrop heddiw heb Erasmus a Luther? Byddai crefydd, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, celfyddydau a thechnoleg Ewrop yn gwbl wahanol, heb amheuaeth.

Ond wedi dweud hyn oll, a bod yn hollol onest, rwy’n ofni’r duedd at breifateiddio crefydd sy’n arwain at wthio’r Eglwys i ymylon cymdeithas. Mae dyneiddiaeth seciwlar (nid dyneiddiaeth y 16eg ganrif, sylwer) ar gerdded ac yn mynd o nerth i nerth. Ond tybed nad dyma un o ganlyniadau anuniongyrchiol y Diwygiad Protestannaidd? Tra mae’r Eglwys yn sefyll yn gwrtais i’r naill ochr y dyddiau hyn, fe ddaw dylanwadau eraill i lenwi’r gwagle. Oes ryfedd nad oes neb yn gwrando arnom? Rydym wedi colli’r gallu i sôn am Dduw yn effeithiol a chyda dychymyg. Fe ddaw’r gair ‘ystrydebu’ i’r meddwl!

A fyddi’n rhan o unrhyw ddigwyddiadau yn Ffrainc neu’n trefnu rhai?

Rwyf bellach wedi dod yn aelod o Gomisiwn Reuilly sy’n hyrwyddo’r berthynas rhwng eglwysi Anglicanaidd Prydain ac eglwysi Diwygiedig a Lwtheraidd Ffrainc. Rwy’n cyfri hynny’n fraint. Bydd digwyddiadau lleol yn Ffrainc pan fydd Cristnogion o bob cefndir yn ymuno i ddiolch am 500 mlynedd ers y Diwygiad Protestannaidd. Yn sicr, byddwn yn cefnogi’r Kirchentag fydd eleni yn cael ei rannu rhwng Berlin a Wittenburg. Hefyd, oherwydd ein perthynas glòs ag eglwysi Lwtheraidd Sgandinafia a gwledydd y Baltig, bydd ein heglwysi Anglicanaidd yn ymuno yn y dathliadau yn y lleoedd hyn hefyd.

Ar lefel bersonol, rwyf newydd wneud cyfweliad ar y Diwygiad ar gyfer radio lleol yn Ffrainc, sef Fréquence Protestante. Gyda llaw, rwy’n darganfod gydag amser fod nifer o wahanol ganghennau o eglwysi diwygiedig yn Ffrainc. Fel Cymro, mae hyn yn canu cloch gyfarwydd iawn!  

 

Rwyt yn ymwybodol o beryglon mawr Brexit, twf yr adain dde, a bygythiadau Trump. Mewn gwirionedd, mae’r ofnau wedi dod yn wir yn Ffrainc. Sut mae eglwys Anglicanaidd Saesneg yn ymateb i’r sefyllfa? A oes modd codi pontydd, er enghraifft, â’r gymuned Fwslemaidd?

Mae Ffrainc a’i phobl wedi cyrraedd croesffordd. Mae’r syniad creiddiol Ffrengig am rannu’r Eglwys oddi wrth y Wladwriaeth, sef  ‘laïcitï’, dan fygythiad. Sut all gwladwriaeth seciwlar anwybyddu’r lle sydd gan grefydd a chrefyddau o fewn ei chymdeithas heddiw? 

François Hollande

Cofiwn eiriau rhyfeddol yr Arlywydd Hollande wedi llofruddiaeth y Tad Jacques Hammel yn nhref St Etienne du Rouvray y llynedd: ‘Mae ymsodiad ar yr Eglwys Gatholig yn ymosodiad ar Ffrainc.’ Rwy’n siŵr fod Jean-Jacques Rousseau yn troi yn ei fedd!

Y perygl yn Ffrainc ar hyn o bryd, fel yn llawer o wledydd Ewrop, yw fod pobl yn mynd i gredu fod y Wladwriaeth yn amherthnasol iddynt. Yn achos Ffrainc, y perygl yw fod trwch y boblogaeth yn credu nad yw gwerthoedd y Weriniaeth Ffrengig yn gweithio o’u plaid. Rwy’n mawr obeithio na fydd etholiadau arlywyddol 2017 yn dyfnhau’r tensiynau hyn, fel sydd wedi digwydd ym Mhrydain ac yn UDA. 

Yn yr eglwysi lle dwi’n gwasanaethu mae ’na gyfle i gyfrannu i’r ddadl gyhoeddus a hynny o berspectif rhywun sydd wedi mewnfudo o ddiwylliant gwahanol. Mae bod yn y lleiafrif yn gyfle i gynnig rhywbeth gwahanol i’r sgwrs genedlaethol, yn union fel y mae llawer o Foslemiaid yn ei wneud ar hyn o bryd.

Ond mewn gwlad mor seciwlar â Ffrainc, onid yw cyfrannu i’r ‘sgwrs genedlaethol’ yn fwy anodd? Onid datganiad gwleidyddol Arlywydd oedd un Hollande ar ôl llofruddiaeth y Tad Hammel? Soniaist ddiwedd Ionawr yn dy bregeth yn St George, Paris, wrth gael dy groesawu a’th sefydlu yn dy swydd, am y cyfraniad a all yr eglwysi Anglicanaidd ei wneud i ddiogelu ‘undod cymunedau Ffrainc’ (‘cohesive’ oedd y gair yn adroddiad y Church Times). Er bod nifer o’r eglwysi yn gynulleidfaoedd ‘rhyngwladol’, gan gredu y gellir cynnig, fel y dywedi, ‘rywbeth gwahanol’ i’r sgwrs genedlaethol, go brin y bydd y bobl yn cymryd fawr o sylw o eglwys Brotestannaidd sydd yn sefydliad Seisnig.

Mae’n sobr o anodd ond yn sialens i’r holl eglwysi yn Ffrainc, nid yn lleia i’r Eglwys Gatholig Rufeinig. Wrth symud o wlad i wlad yn Ewrop, yr hyn sy’n fy nharo i ydi fod gan Anglicaniaeth (er enghraifft yng Ngwlad Belg) gyfleon arbenning i fod mewn deialog â’r Wladwriaeth. Cymerwch, er enghraifft, yr hyn sydd wedi digwydd ym Mrwsel yn ddiweddar. Yn sgil yr ymosodiadau ym Mrwsel ym mis Mawrth 2016, galwodd y llywodraeth arweinwyr y ‘cultes’ i gyd at ei gilydd i drafod sut mae ymateb i dwf radicaliaeth Islamaidd yn y wlad. Erbyn heddiw, mae tri chaplan Anglicanaidd (ynghyd â chaplaniaid o enwadau a chrefyddau eraill) yn gweithio yng ngharchardai Gwlad Belg ac yn cael eu talu gan y Wladwriaeth i wneud hynny.

Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd San Siôr, Paris

Wedyn, o feddwl am Brexit, fe wnaeth Esgobaeth Ewrop gynnull ynghyd ryw ugain o bobl yn ddiweddar i gyfarfod gyda’r Arglwydd Bridges o adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Llywodraeth Prydain. Yn y bôn, mae Anglicaniaeth yn Ewrop yn canfod drysau agored i ddeialog ym mhobman. Mae hyn yn rhyfeddol o ystyried mai eglwys ‘leiafrifol’ ydi hi. Nid ar chwarae bach y mae Prif Weinidog Ffrainc yn gwahodd Archesgob presennol Caer-gaint i ddeialog o amgylch y bwrdd i drafod lle crefydd yn mywyd Ffrainc, ond ymhell o olwg y cyfryngau wrth gwrs.            

Yn y gymuned wledig lle dwi’n byw yn Limousin, mae disgyblion yr ysgol gynradd leol newydd blannu coeden ar dir yr ysgol: ‘un arbre de laïcité’. Cyn rhuthro i feirniadu, onid dyma symbol o genhedlaeth ifanc yn dyheu am gymuned iachach, lle mae pawb yn medru perthyn a phob cymuned ffydd a di-ffydd yn gydradd? Rwy’n gobeithio y bydd yr eglwysi yn ddigon hyderus (a diymhongar) i ychwanegu eu llais i’r ddadl dyngedfennol bresennol. 

Llawer iawn o ddiolch, Meurig, am roi dy amser i sgwrsio efo darllenwyr Agora ac am dy sylwadau cyfoethog. Roedd llawer ohonom yn teimlo ein bod ‘wedi dy golli o Gymru’ gan wybod fod honno’n golled fawr i’r dystiolaeth Gristnogol yma. Mae canlyniadau Brexit yng Nghymru wedi creu llawer o ofnau ac ansicrwydd yma hefyd a dyna pam rydym yn gobeithio’n fawr y byddi’n dod yn ôl ryw ddydd, er mor hapus wyt yn Ffrainc.

Duw a ŵyr!

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.