Archif Tag: John Bell

Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu

 

Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu

Crynodeb o gyflwyniad John Bell i’w gyfrol, ‘Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu’ (2009)

John Bell

Mae Eglwys y Gorllewin wedi dioddef o dri pheth, o leiaf:

  1. Yn ein haddoli does dim digon o sylw i Iesu fel person cadarnhaol o gig a gwaed, dim digon o sôn am ddigwyddiadau yn ei fywyd. Un rheswm am hyn yw mai’r darluniau mwyaf poblogaidd ohono yw naill ai’n fabi ym mreichiau ei fam neu’n hongian ar y groes. Delweddau statig ydynt. Nid yw Iesu yn gwneud dim. I laweroedd, mae’r ddau ddarlun yn cuddio gweddill ei fywyd. Rhoddodd y ffilm The Passion of the Christ yr argraff nad oedd a wnelo’r Croeshoeliad ddim â gweddill ei fywyd.

Nid yw datganiadau fel Credo’r Apostolion a Chredo Nicea yn ddigonol, wrth gwrs. Fe wyddom nad rhoi bywgraffiad o Iesu oedd eu bwriad, ond rhoi crynodeb o gred yr Eglwys wedi’r Atgyfodiad. Ond ni allwn ddeall yr Ymgnawdoliad na’r Groes heb wybod am ei fywyd. Nid yw’n wir dweud bod Iesu ‘wedi ei eni i’w groeshoelio’ chwaith, oherwydd fe’i croeshoeliwyd ar sail ei dair blynedd o fywyd cyhoeddus a’i neges fod Teyrnas Dduw wedi dod.

Mae’n arwyddocaol heddiw mai yng ngwledydd tlawd y byd mae’r addoli yn cynnwys cymaint mwy am ei fywyd ac am y Crist Cyflawn nag yn addoli Gwaredwr llonydd y gorllewin.

  1. Mae rhai cymunedau wedi gweld Iesu trwy lygaid Paul. Ychydig iawn y mae Paul yn ei ddweud am fywyd Iesu a phan mae’n dweud rhywbeth, nid yw’n gwbwl glir; e.e. 1 Timotheus 6.13: ‘Yng ngwydd Duw, sy’n rhoi bywyd i bopeth, ac yng ngwydd Crist Iesu, a dystiodd i’r un gyffes lew o flaen Pontius Peilat, yr wyf yn dy gyfarwyddo di i gadw’r gorchymyn’. Pa gyffes oedd honno, tybed? Mae’r efengylau’n tystio na ddywedodd Iesu ddim o flaen Peilat. Ond mae Paul yn sôn llawer am y Groes a’r Atgyfodiad.

Ond nid yw’n sôn am unrhyw ddameg, na gwyrth yng ngweinidogaeth Iesu. Llythyrau ysgrifennodd Paul, wrth gwrs, ac nid Efengyl arall, ac fe wyddai y byddai ei ddarllenwyr, fel Paul ei hun, wedi clywed yr hanes drwy dystiolaeth lafar neu drwy rannau o’r Efengylau oedd yn cyrraedd yr eglwysi.

Ond, ers canrifoedd lawer, Paul fu dylanwad mawr y traddodiad Protestannaidd a thrwy lygaid a phrofiad Paul y clywodd llawer am Iesu. Yn hytrach, trwy lygaid Iesu y dylid darllen llythyrau Paul. Ond i lawer, nid felly y bu.

              Y gwahoddiad heddiw yw dilyn Iesu, a sut y gall neb ei ddilyn heb wybod am ei fywyd?

  1. Mae mwy nag un ‘ymchwil am Iesu hanes’ wedi bod, a cheisio darganfod drwy dystiolaeth wasgaredig (fragments) y pedair Efengyl (ac mai cyfiethiadau ydynt) beth yn union a ddywedwyd a beth a ysgrifennwyd yn ddiweddarach. Ers blynyddoedd lawer mae ysgolheigion y Jesus Seminar yn America yn treulio’u bywyd yn chwilio am fwy o wybodaeth. Nid oes dim i’w rhwystro rhag gwneud hyn, wrth gwrs, ond ar y llaw arall mae perygl credu bod yr ysgolheigion hyn yn mynd i gael gafel ar y ‘gwir’ gan greu amheuon a thanseilio Cristnogaeth.

Gan gydnabod y gall unrhyw wybodaeth ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r Efengyl, mae’n rhaid i’r dystiolaeth fod yn gyson ag ewyllys Duw a bywyd Iesu i’r Cristnogion cynnar.

Gwahoddiad yw’r gyfrol hon i gymryd tystiolaeth ysgrifenedig yr Efengyl yn gyfan ac ar y themâu sy’n codi’n gyson yn yr Efengyl, ond nad ydynt wedi eu cymryd o ddifrif, e.e. pwysigrwydd prydau bwyd a chwmni o gwmpas y bwrdd i Iesu. Ond, ar wahân i’r swper olaf, nid yw’n cael lle cyson yn ein tystiolaeth Gristnogol

Bwriad y gyfrol hon yw darganfod ym mywyd Iesu ddigon i galonogi ac i ddyfnhau bywyd dilynwyr Iesu.

 

John Bell

(Mai 2009)

Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

Dydd Sul, 27 Mehefin, am 3.00p.m.

Eleni, yn hytrach na’r gynhadledd oedd i’w chynnal dros benwythnos ym Mangor, bydd yn rhaid bodloni ar un sesiwn yn unig, awr a hanner o hyd, ar Zoom. Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau arweiniad John Bell, y cerddor, y pregethwr, y darlledwr a’r awdur sy’n un o aelodau blaenllaw Cymuned Iona.

‘Haleliwia am heresi’

Dyna fydd teitl pryfoclyd y sesiwn, ac fel y gŵyr y rhai hynny ohonom sy’n gyfarwydd ag ef, bydd ei gyflwyniad yn siŵr o fod yr un mor wreiddiol a ffres â’r teitl ei hun.

Mae gan John Bell neges i bawb sydd yn ymwneud â bywyd yr eglwysi yng Nghymru, o bob enwad, ac i bawb sydd wedi hen droi cefn ar fywyd crefyddol teuluol eu gorffennol. Dyma lais proffwydol sy’n cyflwyno neges Cristnogaeth i’r rhai hynny sydd yn chwilio, neu nad ydynt yn siŵr bellach beth i’w gredu.

Fel aelod o gymuned Iona yn yr Alban, bu’n allweddol yn y gwaith o sefydlu’r Wild Goose Worship Group, ac mae’n argyhoeddedig mai bywiogi’r addoli yn yr eglwys leol yw’r man cychwyn i adnewyddu’r gymuned Gristnogol. Ers blynyddoedd, bu ef a grŵp o gerddorion yn ymweld ag eglwysi yn yr Alban a phob rhan o Brydain, yn ogystal ag America a Chanada, i gynnig hyfforddiant ac arweiniad.

Fel cerddor, mae’n credu bod yn rhaid cyfansoddi salmau a chaneuon newydd sy’n tyfu o draddodiad gwerin pob gwlad, er mwyn ‘canu’r efengyl’, yn hytrach nag ailadrodd llinellau ystrydebol. Mae John ac eraill wedi cyfansoddi mwy o emynau cyfoethog a bywiog na neb arall ers deugain mlynedd. Maent ar gael ar nifer o gryno-ddisgiau a llyfrau o emynau, e.e. ‘Love from down below’, a ‘Heaven shall not wait’.

 

John Bell hefyd oedd golygydd cerddorol ac Ysgrifennydd y Panel a luniodd lyfr emynau diwygiedig Eglwys yr Alban.

Fel awdur, bu’n gyfrifol am ysgrifennu tua 20 o lyfrau, rhai hawdd eu darllen ond grymus eu neges, ac yn ddieithriad maen nhw’n Grist ganolog, e.e. Ten things they never told me about Jesus, States of bliss and yearning, And the crowd is still hungry, All that matters.

 Mae’n un o siaradwyr blynyddol Greenbelt ac yn un o ddarlledwyr cyson Thought for the day (BBC Radio 4) – bob amser yn onest a threiddgar, ac yn aml yn ddadleuol.

Mae’r Alban, fel Cymru, yn falch o’i thraddodiad pregethu, a John Bell – sydd hefyd yn weinidog ordeiniedig – yw un o bregethwyr enwocaf yr Alban heddiw.

Bydd ymuno â’r sesiwn yn costio £8 y cyfrifiadur. Rhaid cofrestru cyn derbyn y ddolen. Medrwch wneud hynny drwy anfon e-bost at cristnogaeth21@gmail.com i fynegi eich diddordeb ac fe dderbyniwch fanylion am sut i dalu (ar-lein neu â siec drwy’r post) a dolen fydd yn eich galluogi i ymuno.