Sŵmio’r Sul i Eglwys Bresbyteraidd Westminster, Southwest, Washington DC
Sul, 22 Tachwedd 2020
Roedd un oedfa Sŵm Sul wedi bod rhwng 11 a 12 o’r gloch, a chynulleidfa fawr oherwydd mae’n eglwys fawr o ran adeilad, adnoddau, aelodau – a gweledigaeth. Yna, wedi’r oedfa, roedd gwahoddiad i ymuno â’r RBS sydd yn cyfarfod bob Sul rhwng 12.30 a 2 o’r gloch. Rhaid brysio i ddweud nad banc yw’r RBS hwn ond rhan ganolog o fywyd eglwys Westminster. Rhaid prysuro i ddweud hefyd nad oes a wnelo’r eglwys hon ddim â Westminster, Llundain. Resistance Bible Study yw RBS ac mae’n cael ei gyflwyno fel hyn ar wefan yr eglwys
Thought-provoking and stimulating study and discussions rooted in biblical teachings practically applied to today’s justice challenges … RBS also sponsors other action for justice such as our campaign against voter suppression
Os yw cefnogwyr Donald Trump wedi rhoi enw gwael i Gristnogion America, dyma’r eglwys i chi swmio iddi i sylweddoli fod yna eglwysi Americanaidd sydd â chymaint i’w ddysgu i’r eglwys ym mhob man. Yr un Beibl a ddefnyddir â Beibl enwad o’r un enw yng Nghymru, fel pob capel yng Nghymru: Beibl y Gwrthwynebwyr. Ond nid gelynion sy’n difa ac yn dychryn yw’r gwrthwynebwyr: ’yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr’? Ond eglwys yw hon sy’n sylweddoli beth yw bod yn eglwys yn y mannau hynny lle mae yn byw yn frwydr yng nghymunedau enfawr, tlawd America neu unrhyw wlad arall. Crist yw’r Gwrthwynebwr i gyfundrefn a gwleidyddiaeth sy’n gyfrwng i greu anghyfiawnder, caethiwed i gyffuriau o bob math, diweithdra, digartrefedd, tor cyfraith, gwrthdaro cymunedol a hilyddiaeth – a hynny mewn gwlad gyfoethog. Nid Crist y Cydymffurfiwr sydd i’w ddisgwyl yma.
Mae Ann Griffith yn aelod o’r eglwys hon ac o’r RBS. Mae hi’n yn cysylltu’n aml ac wedi cyfrannu i Gristnogaeth 21; roedd ei llais yn gyfarwydd ar Radio Cymru ac ar S4C yn ystod ymgyrch etholiad arlywyddol America. Roedd hi wedi gwahodd rhai ohonom i ymuno yn y cyfarfod arbennig hwn oedd yn edrych ar waith a rhaglen yr RBS cyn seibiant byr dros yr haf, er nad yw gwaith y grŵp yn dod I ben. A defnyddio’r jargon, oherwydd natur y gwaith, mae hwnnw yn 24/7.
Fe ddechreuodd y sesiwn, oedd hefyd yn barhad o’r addoli cynharach, â chân gospel, a’r côr yn canu a dawnsio ac yn cynyddu mewn nifer, yn y sgwâr o flaen yr eglwys – y lle delfrydol, waeth pa mor hardd yr eglwys, i ganu clod a dawnsio’r ffydd. ‘Every praise is to our God’ – Ann oedd yn croesawu (am fod rhai ohonom o Gymru) ac roedd ei geiriau o groeso yn arweiniad i weddill y sesiwn: ‘Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a’r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw.’ (Meica, wrth gwrs)
O liw du ac o gefndir Affro-Americanaidd y mae’r rhan fwyaf o aelodau’r eglwys, ond mae nifer, fel Ann, yn wyn neu’n gymysg o liw a chefndir. Mae hynny ynddo’i hun yn cyfoethogi eglwys.
Elfen bwysig yn y Sesiwn Sŵm hwn oedd mawl: fideo o gôr o Soweto, aelodau o’u cartrefi, yn unigolion a grŵpiau. Roedd y caneuon yn gofiadwy (nid nad yw Zoom Merica yn fyr o ambell stop sydyn, cracl a gwich), fel ‘What would Jesus have me do?’, ‘It’s a long time coming’, ‘People get ready! You need no tickets – just thank the Lord’. Roedd y moliant wedi ei blethu â nifer o ddarlleniadau Beiblaidd a gweddïau byr, ond wedi eu paratoi yn ystyrlon.
Roedd un weddi o eiriolaeth yn arbennig oedd yn adlewyrchu gwaith yr RBS. Sylfaen ac ysbrydoliaeth – ac onid y cyfan – yw’r sesiynau wythnosol, sy’n arwain yn gwbwl naturiol i gariad a gofal mawr tuag at bobol eu cymuned. Roedd y weddi hon dros un oedd newydd ei ryddhau ar ôl 45 mlynedd yng ngharchar; eraill yn ddioddefwyr Cofid a dioddefwyr Alzheimer’s; person yn byw yn drawsrywiol, ac ar ddiwedd y weddi hon gweddïo dros y rhai oedd yn cario’r cyfrifoldeb o arwain America, ei chlwyfau a’i rhaniadau, i fod yn wlad iach a chyfan i bawb.
Cafwyd adroddiadau gan wahanol rai o fewn yr RBS yn cyfeirio’n fyr at agweddau arbennig o’r gwaith. Roedd rhai’n gyfrifol am anfon 15,000 o gardiau post yn gyson yn nodi’r materion (tua dwsin i gyd) oedd yn poeni’r eglwys gymunedol hon, gan wahodd unrhyw un i mewn i’r eglwys (neu i ymweld â hwy) i drafod pryderon neu ddicter ac i ymateb. Ann, gyda llaw, yw arweinydd y Poor People’s Campaign, er nad oedd yn rhoi adroddiad y tro hwn. Rhoddwyd amser i atgoffa’r RBS o’u datganiadau fel eglwys a phwysigrwydd Datganiad Cenhadol i unrhyw eglwys sydd o ddifrif ynglŷn â’i galwad. Nid digon dweud fod pob eglwys yn genhadol; mae cenhadaeth gyfled â holl fywyd a theyrnas Crist.
Roedd 22 Tachwedd yn Sul Crist y Brenin, ac ni ddaeth y sesiwn (byrrach nag arfer) hwn o’r RBS i ben heb ein hatgoffa mai brenin gwahanol iawn oedd Iesu. Nid brenin awdurdod, grym a chyfoeth, ond gwas a blygodd i olchi traed, a ddaeth i wasanaethu ac a ddaeth i wella briwiau’r ddynoliaeth, ac i adfer yr hyn a gollwyd – yn Waredwr.
Fe ddywedodd un o’r gymdeithas liwgar hon, ‘Come and find new truths with us’ ac fe ddywedodd un arall, ‘Maybe we are at a different point in our faith journey, but we are together here’.
Canol oed a hŷn oedd y rhai gweladwy yn y Sesiwn Sŵm hwn, ond yn llawn cellwair a chwerthin (roedd arweinydd y sesiwn yn dweud, ‘Amen ac amen … AC amen’ ar ôl pob cyfraniad, ac oherwydd bod yna nifer o gyfraniadau roedd yn sesiwn ‘Amen’ drwyddo draw!). Braint a bendith oedd cael picio i Washington ddoe a chael profi, yng nghwmni Ann o Aberystwyth ond sydd wedi crwydro’r byd i wasanaethu, fod yr eglwys, ym mhob ystyr, yn ddi-ffiniau.
PLlJ (23.11.20)

Mae megis dameg i ddangos y math o feddylfryd a gweithgarwch sydd ei angen wrth deimlo ar chwâl – boed yn fusnesau, theatrau, tafarndai, siopau, ffatrïoedd neu’n weithgarwch cymunedol ac, wrth gwrs, sefydliadau crefyddol. Siŵr iawn y bydd rhai yn methu ond mae’r gobaith yn yr wybodaeth y bydd rhai yn llwyddo.
Doedd disgyrchiant ddim yn plygu na gofod nac amser ym mharadeim Syr Isaac! Ni allai’r paradeim Newtonaidd egluro ffenomenau y gellid eu gweld gan seryddwyr, er enghraifft. Dim ond pan lamodd Einstein i mewn i baradeim lle mae disgyrchiant yn plygu gofod, ac yn arafu amser – oherwydd bod cyflymdra goleuni yn ddigyfnewid, ac felly dim ond plygu gofod all esbonio … Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ond beth sydd a wnelo hyn â COVID-19, a ninnau fel Cristnogion yn y 21ain ganrif?
Oedd unrhyw un yn cwyno? Nac oedd siŵr. Roedd pawb yn cydnabod fod yn rhaid cymryd camau eithriadol a chryf er mwyn trechu gelyn mor gryf. Clywais sylwebyddion yn dweud fod Tsieina wedi llwyddo i drechu’r firws oherwydd grym anferthol y llywodraeth yn Beijing a grym y Blaid Gomiwnyddol, ond tydi hynny’n ddim ond hanner y stori. Oedd, wrth gwrs, roedd grym yr awdurdodau’n caniatáu gweithredu effeithiol a chyflym – fel ag a wnaed i atal yr ail don yn Wuhan – ond yr elfen bwysicaf wrth guro’r firws oedd agwedd y bobl. Mae Tsieineaid yn ystyried mai un teulu mawr ydi’r genedl gyfan ac mae’r teulu yn sanctaidd yn y wlad hon. Gan hynny, roedd pawb yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal lledaeniad y pla ac yn disgwyl i’r llywodraeth gymryd pob cam posib i sicrhau hynny. Drwy gydernes y bobl y llwyddwyd.
Aeth bron i drigain mlynedd heibio ers cyhoeddi’r llyfr. Ydy’r dewis yn dal yn briodol? Ydy’r dewis yn dal yn ddealladwy? I ni? I eraill? Pa allweddeiriau a fyddwn i/ a fyddet ti am eu dewis ar gyfer heddiw? Dyma’r her: llunio myfyrdod byr (200 gair) ar un o’r geiriau hyn i helpu’n gilydd ac eraill sydd â diddordeb mewn deall yn well yr hyn sy’n ein cadw ni’n aelodau o eglwys Crist.
Cafodd ein hyder ei sigo ychydig eleni. Prin fu’r oedfaon diolchgarwch, yn un peth – ac arhoswch chi am yr wylofain a rhincian dannedd pan na fydd llysiau salad Sbaen yn gallu ein cyrraedd yn ddiogel fis Ionawr yn dilyn Brecsit caled. Ond fe allwn ni feio Tsieina am y feirws a Boris am y Brecsit, heb darfu ar ein sicrwydd diwinyddol fod Duw yn dal i ofalu amdanom ni.
Adroddwyd y stori hon gan ŵr o’r enw Wali Fejo wrth gynulleidfa o Gristnogion o bedwar ban y byd a ddaeth ynghyd yn Brasil dan nodded Cyngor Eglwysi’r Byd i drafod y thema ‘Un Efengyl, Sawl Diwylliant’. Un o drigolion cynhenid Awstralia a gweinidog Methodus ydoedd. Cymerodd saib wrth adrodd y stori gan adael i arwyddocâd yr hanesyn wawrio ar y gynulleidfa fawr. Yna ychwanegodd, “Y cwbl rydyn ni’n gofyn ganddoch chi, bobl y Gorllewin, yw eich bod yn edrych o’r newydd am arwyddion o’r efengyl yn ein diwylliant ni.”