Archif Awdur: Golygydd

Esgob Tyddewi a Gay Pride

Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy

Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy oedd un o’r rhai a arweinodd orymdaith Gay Pride drwy strydoedd Caerdydd ar y dydd Sadwrn olaf o Awst. Hi hefyd oedd yr Esgob cyntaf i weinyddu’r Cymun Sanctaidd yn yr ŵyl liwgar hon a gŵyl sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd. Fe weinyddwyd y cymun yn #pabellffydd sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl o’r dechrau. Y mae #pabellffydd yn gydweithrediad rhwng grwp o’r enw The Gathering (LGBT), Church for Everone a CATAC ( sef, Changing attitude/trawsnewid agwedd Cymru) . Roedd yr esgob yn arwain trafodaeth ar rywioldeb hefyd. Roedd nifer o bynciau eraill, fel ffoaduriaid, yn destun trafod yn y babell , yn ogystal â’r addoli.

Diolch i Emlyn

Nawr bod Iestyn yn dechrau setlo i mewn i’r gwaith o gynnal y wefan, mae’n briodol, ac yn fraint cael diolch i Emlyn Davies am ei wasanaeth fel Golygydd y Wefan. Emlyn sydd wedi golygu’r wefan ers i Cristnogaeth 21 ddechrau dros ddeng mlynedd yn ôl. Bu yn gwbwl allweddol yn ein gwaith ac er na fyddai ef yn barod i gydnabod hynny y mae Pwyllgor C21 yn gwybod mai ef, yn fwy na neb arall, sydd wedi ein cynnal, ein symud ymlaen a’n hysbrydoli. Y mae wedi rhoi o’i amser, ei ddoniau a’i argyhoeddiad Cristnogol yn hael, yn llawen ac yn ddi-flino. Y newyddion da yw y bydd Emlyn yn parhau yn un o’r tim bychan sydd yn credu bod angen a bod gwerth i wefan fel C21 a’r hyn sydd wedi datblygu ohoni.

E-fwletin Medi 4 2017

E-fwletin Medi 4 2017

Cristnogaeth 21

Cyfarchion enwadol?

Mor braf yw gweld llwyddiant pabell Cytûn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.  Ond er mor werthfawr yw mwynhau’r cydweithio, nid yw’n ddigon i guddio methiant yr enwadau i wynebu argyfwng mawr ein tystiolaeth Gristnogol Gymraeg. Ar  wefan yr Annibynwyr mae cyfeiriad i’r perwyl mai nid ‘eglwys’ (ond ai ‘enwad’ a olygir ?) ond ‘mudiad’ yw’r Annibynwyr. Y gwir yw mai mudiad yw pob enwad – ond mudiad wedi ei gyfyngu. Fe all y cydweithio guddio methiant yr enwadau Anghydffurfiol yn arbennig, (sydd yn un ym mhopeth hanfodol i eglwys – enwadau y 4 Tudalen) i fuddsoddi adnoddau mewn rhannau helaeth o Gymru sy’n cynnal gweddillion yn hytrach na hyrwyddo mudiad. Os oes rhywun yn amau nad dyma yr her fwyaf erioed i’r dystiolaeth Anghydffurfiol Gymraeg, yna edrycher ar www.politicsbyreuttal.blogspot.co.uk  i weld dyfnder ein hargyfwng. Ond a oes unrhyw weithgarwch newydd, ie, hyd yn oed, plannu eglwysi newydd, ble mae yr enwadau wedi buddosddi gyda’i gilydd i fod yn eglwys sydd yn un yn ei chenhadaeth? Bron nad oes ymhyfrydu erbyn hyn yn y ffolineb o gynnal dau neu dri enwad yn un gynulleidfa ond eto yn enwadau ar wahan. Onid y gynulleidfa sy’n addoli yw’r eglwys? Perthyn i’r gorffennol mae popeth arall.  Onid unig ddyfodol y gynulleidfa honno yw dod a bod yn un eglwys?

Ai naïfrwydd oedd i aelod o gapel a werthwyd yn ddiweddar  awgrymu y dylai’r arian o’r gwerthiant fynd i eglwys o enwad arall yn yr un ardal? Neu ai gweledigaeth amgenach o genhadaeth ydoedd? Fe fydd yr awgrym yn swnio yn naïf i swyddogion enwadol efallai, ond yn y cyfamser mae’r dirywiad yn carlamu ymlaen. Mae’r ffidil chwedlonol i’w glywed, ac etifeddiaeth yn mud losgi.  Nid yw enwad (gan anwyddyddu capelyddiaeth), yn golygu dim i’r mwyafrif o’n haelodau erbyn hyn a phwy a wâd nad oes adlais o’r Efengyl mewn agwedd felly? Mae’r Annibynwyr a’r Presbyteriaid yn cael cefnogaeth hael gan Gyngor Cenhadol CWM, ond a oes gan y ddau enwad un rhaglen genhadol ar gyfer y dyfodol?

Mae’r un cwestiwn yn berthnasol i’r Bedyddwyr. Yn yr ardaloedd Cymraeg, ymylol erbyn hyn yw sôn am Weinidogaeth Bro a rhannu gweinidogaeth, heb sôn am adeilad.  A yw arweinwyr ein henwadau wedi cyd-gyfarfod, dyweder, yn Sir Fôn neu yn Ne Ceredigion, ac wedi ystyried rhaglen genhadol fentrus i’r dyfodol?

Mae’r Llywodraeth yn sôn am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  A yw y tu hwnt i’r dystiolaeth Anghydffurfiol yng Nghymru i sôn am weithgarwch Cymraeg newydd ym mhob cymuned yn y dyfodol? Ac os na allwn ddechrau’r gwaith heddiw, yna – pa bryd ? Yn amser Duw yw’r ateb arferol grefyddol. Heddiw felly?

Gyda’n cofion a’n diolch.
Cofiwch am ein gwefan, Agora a’r Bwrdd Clebran a chofiwch gofrestru ar gyfer ein Diwrnod Tawel yn Aberdaron (Medi 30ain) erbyn Medi 15ed. Manylion ar y wefan. www.cristnogaeth21.cymru.

Golygydd y Wefan

Golygydd y Wefan

Mae’r pwyllgor canolog yn falch o gael cyhoeddi mai golygydd newydd y wefan yw Iestyn Hughes o Aberystwyth. Mae Iestyn  yn ffotograffydd medrus gyda chefndir yn y byd digidol, ac rydym yn dymuno’n dda iddo wrth y gwaith. 

Golygyddol – René Girard, Cawr o Esboniwr

Cawr o Esboniwr – René Girard

Imitation and Scapegoats.

Mae Rene Girard (1923–2015) yn fyd-enwog am ei ddamcaniaeth am ymddygiad y ddynoliaeth. Nid yw’n awdur hawdd ei ddarllen. Ond am fod ei syniadau mor bellgyrhaeddol, mae nifer o gyhoeddiadau o gwmpas i helpu’r newyddian.

Ceir cyflwyniad eglur a dealladwy iawn mewn cyhoeddiad newydd gan Grove Books. Ysgrifennodd Simon J. Taylor bamffledyn – Imitation and Scapegoats: Pastoral Insights from the Work of René Girard – sy’n hynod o ddifyr a defnyddiol. O’i ddarllen â meddylfryd a phrofiad y Cymry, mae’n goleuo’n perthynas â’r byd mawr Seisnig ac ar werth a pherygl y traddodiad cystadlu eisteddfodol.

Gwnaed Girard yn aelod o’r Académie française yn 2015; roedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Stanford.

Hanner can mlynedd yn ôl dechreuodd ddysgu llenyddiaeth Ffrangeg – am fod angen gwaith arno. Doedd e ddim hyd yn oed wedi darllen rhai o’r llyfrau yr oedd i fod i’w dysgu! Yna, wrth iddo ddarllen Stendhal a Proust a chadw ar y blaen i’w fyfyrwyr o un wers dechreuodd sylwi ar batrwm syml a phwerus. Dynwared yw’r hyn sy’n gyrru ymddygiad dynol. Mae stori dda’n dibynnu ar wrthdaro rhwng cymeriadau, ond wrth ddarllen fel petai’n groes graen i ragdybiaethau a ffasiwn gyfoes, dechreuodd sylweddoli nad gwahaniaethau sy’n gwneud i bobl anghytuno, ond y tebygrwydd rhyngddynt. Maen nhw eisiau’r un peth. Maen nhw’n ymladd am eu bod yn chwennych yr un pethau (bwyd, rhyw, cyfoeth, parch) ac am eu bod yn dymuno i bobl fod yn eiddigeddus ohonyn nhw. Mae gan bobl ryddid i ddewis, ond gyda’r rhyddid daw ansicrwydd a pherygl, ac mae pobl yn chwennych yr hyn y mae eraill hefyd yn ei chwennych. Dyna beth yw ystyr ymadrodd Girard ‘chwennych (mimesis) dynwaredol’. Dyna sy’n gyrru’r byd hysbysebu, a chynnydd economaidd a byd addysg hefyd. Ac am fod pobl yn dueddol o chwennych yr un pethau, mae hyn yn arwain yn syth at eiddigedd a chystadleuaeth, sy’n arwain at dyndra cymdeithasol a themâu’r nofelwyr mawr i gyd.

René Girard

Yn dilyn llwyddiant ei feirniadaeth lenyddol daeth awydd arno i ddeall sut roedd ei ddamcaniaeth yn egluro gorffennol y ddynoliaeth, ac aeth ati i astudio anthropoleg a mythau o bedwar ban y byd. Fe’i trawyd gan y pethau oedd yn gyffredin iddyn nhw – un myth ar ôl y llall yn sôn am drais y dorf. Dim ond un dyn all fod yn frenin, yr unigolyn y mae pawb yn cenfigennu wrtho. Ond mae pawb yn gallu ymuno i erlid un person (victim). Bydd cymunedau yn dod o hyd i undeb drwy ddinistrio un bwch dihangol. Damcaniaethodd Girard mai erlid y bwch dihangol sydd wrth wraidd y ddefod o aberthu, sail yr hen grefyddau. Yna trodd at y berthynas rhwng y defodau a’r gweithredoedd treisiol hynny, rhwng defodau aberthol a’r gweithredoedd sydd wrth wraidd llawer iawn o grefyddau’r gorllewin – gan gynnwys crefydd seciwlar yr Aroleuo: y Beibl Hebraeg a’r efengylau Cristnogol. Dehonglodd Girard y Beibl fel datguddiad graddol o anghyfiawnder trais dynol. Mae’r uchafbwynt, croeshoeliad Iesu, yn rhywbeth na welwyd ei debyg o’r blaen, nid am ei fod yn talu dyled ddynol i Dduw, ond am ei fod yn datguddio’r gwirionedd am aberth o bob math; mae’r un a erlidir gan y dorf bob amser yn ddiniwed a thrais torf yn anghyfiawn.

Ar y cyrion yr oedd Girard ym mhob maes, ond mae e wedi newid ffordd pobl o feddwl ynglŷn â llên, anthropoleg a chrefydd. Ond does dim rhaid bod yn academydd i ddeall y ddamcaniaeth. Mae dynward yn beth cyson a di-dor, erlid bwch dihangol yn demtasiwn parhaus a thrais yn beth drwg. Mae’r safbwyntiau hyn wedi datgloi ystyr mewn llawer o nofelau cyfoes, hen fytholeg, traddodiadau crefyddol a’n hymddygiad ni yn ein byw beunyddiol.

Heddiw mae cymuned fyd-eang o ysgolheigion yn adeiladu ar waith Girard er mwyn deall ein byd yn well. Mae Imitatio yn sefydliad anfasnachol sy’n cynorthwyo cynnydd ym maes datblygu a dehongli’n feirniadol ddamcaniaeth fimetig Girard. Gallwch fynd i wefan Imitatio i ddarllen ei waith ef ei hun, ac astudio gwaith academwyr amdano: http://www.imitatio.org/. Gallwch dderbyn cylchlythyr a dysgu am newyddion a digwyddiadau a thrafodaethau o São Paulo i Baris, o Tokyo i San Francisco.

Golygydd

Llwyd yw Lliw Gobaith

Llwyd yw lliw gobaith

Llwyd yw lliw gobaith

Trist oedd clywed am farwolaeth Irina Ratushinskaya, 63 oed, yn Mocso, ar Orffennaf 5ed. Yn 28ain oed cafodd ei dedfrydu i saith mlynedd mewn gwersyll llafur yn Moldofia a phum mlynedd o alltudiaeth fewnol. Bu’n ddifrifol wael ac nid yw hynny’n syndod o gofio amgylchiadau a chreulondeb corfforol a meddyliol y gyfundrefn Sofietaidd yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, roedd hi a nifer o ferched eraill wedi eu caethiwo mewn ‘carchar o fewn carchar’ ac yn cael eu hystyried yn ‘ fygythiad gwleidyddol i’r gyfundrefn’. Mae wedi cofnodi ei phrofiadau yn y gyfrol Grey is the colour of hope, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1988. Mae’n disgrifio profiad bardd ifanc a welodd obaith yn ei chyd-garcharorion, yn y pethau syml bob dydd, yn y weithred o greu ac o droi pethau cyffredin yn gelfyddyd, yn ei chred fod Duw yn gweu o fywyd y distadlaf batrwm o harddwch ac o gariad … ac o obaith. O’r caethiwed erchyll hwnnw hefyd daeth dros 200 o gerddi â ysgrifennodd yn gyntaf ar ddarnau o sebon, cyn eu cadw ar ei chof, ac yna ar unrhyw ddarnau o bapur gan gynnwys pacedi sigaréts. Arwydd gobaith oedd y peth cyntaf a welodd yn oerfel dychrynllyd y carchar:

Dywedaf wrthyt

am yr harddwch cyntaf mewn caethiwed –

ffenestr dan drwch o farrug,

glas disglair mewn ffram gyfyng –

enfys rhew!

Clawr ‘The Odessans’ gan Irina Ratushinskaya

Yn ddiweddarach cyhoeddodd nofel (cyfieithiad Saesneg, The Odessans) yn 1996 a dwy gyfrol o farddoniaeth ‘Na, does arna i ddim ofn’ ac ‘Yn y dechreuad’.

Yn wreiddiol o Odessa yn yr Ukraine, graddiodd Irina mewn Ffiseg ond penderfynodd fynd yn athrawes gynradd. O fewn cyfundrefn addysg oedd yn hyrwyddo anffyddiaeth, gwelodd Irina yn fuan fod yn rhaid meithrin plant i ymdeimlo â’r ysbrydol mewn bywyd. Cafodd ei hadnabod fel bardd Cristnogol a phan drefnodd hi a’i phriod, Igor, brotest yn gofyn am i’r gwyddonydd Sakharov a oedd wedi ei alltudio gael dod yn ôl i Rwsia, cafodd Irina ei chyhuddo o fod yn ‘wleidyddol beryglus’. Dyna pryd y cafodd ei charcharu. Ond gweithred wleidyddol oedd ei rhyddhau, ar ôl pedair blynddoedd o’i dedfryd, oherwydd digwyddodd hynny pan oedd Korbachev, fel rhan o’i bolisi perestroika, o fewn oriau yn unig i gyfarfod Ronald Reagan yn Reykjavik. Yn nes ymlaen treuliodd Irina gyfnod fel bardd preswyl mewn prifysgol yn Illinois. Erbyn hyn yr oedd yn adnabyddus drwy’r byd oherwydd yr ymgyrchu a fu i’w rhyddhau. Dan nawdd PEN fe fu hefyd am gyfnod yn Llundain.

Yn Aberystwyth

Rhan o’n paratoadau i sefydlu Canolfan Morlan oedd ei gwahodd i Aberystwyth ac fe gawsom y fraint o’i chwmni a’i chlywed yn siarad ac yn darllen rhai o’i cherddi nos Sul, 15 Tachwedd 1998. Er nad oedd ymysg y Cristnogion oedd yn cael eu herlid am nad oeddynt yn barod i dderbyn gwaharddiad ar bregethu, efengylu a dysgu – Bedyddwyr, Pentecostaliaid, Efengylwyr – tawelach, ond yr un mor gadarn a disglair, oedd ffydd Irina yn etifeddiaeth gyfoethog Eglwys Uniongred Rwsia. Yn wir, mae’n dathlu amrywiaeth a lliw’r ffydd Gristnogol yn Llwyd yw lliw gobaith. Yr oedd yn gwbwl gartrefol yn addoli yng Nghapel y Morfa.

Fel eraill, yr oedd yn gweld amrywiaeth ac ehangder Cristnogaeth yn gwbwl allweddol i’w lle a’i chyfraniad yn y byd.

I’w chroesawu i Gymru ac i Gapel y Morfa, cyfieithodd Mona Morris rai o gerddi Irina i’r Gymraeg a darllenwyd rhai ohonynt wedi iddi hi ddarllen y cerddi yn ei hiaith ei hun. Cawsom ein hysbrydoli gan ei hysbrydolrwydd dwfn a’i ffydd siriol, gan ei dynoliaeth a’i chydymdeimlad ac yn arbennig, efallai, o gofio iddi gael y fath driniaeth, am ei haddfwynder, ei goddefgarwch a’r weledigaeth o gymod oedd yn cydio’i chariad at ei gwlad gyda phob cenedl.

Wedi ei gwaeledd yng ngharchar dywedwyd wrthi na fyddai’n cael plant. Ond braf a bendith yw cael dweud iddi hi ac Igor gael efeilliaid, Sergei ac Oleg, sydd heddiw’n 24ain oed. Bu farw yng nghwmni ei theulu a’i hoffeiriad yn cadw gwylnos wrth erchwyn y gwely.

Mewn neges atom, ar drothwy’r mileniwm, meddai, ‘Diolch i Dduw, yr ydym fel teulu yn ôl yn byw ar gyrion Mosco … yr wyf yn gobeithio y caf ymweld â chi eto … mae’r byd bellach mor fach ac mor gyflym a’r e-bost fydd yn cario fy neges. 2000 o fendithion i chi – a mwy yn enw ein Gwaredwr. Irina.’

Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb ac Arfon Gwilym

Mae doniau cerddorol, ei gwaith fel cerddor, offerynwraig, fel hyfforddwraig ac fel cyn-Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias wedi gwneud Sioned Webb yn enw cyfarwydd a phoblogaidd yng Nghymru ers blynyddoedd erbyn hyn. Pan gysylltais â hi i drefnu’r sgwrs hon, yr oedd, fel tiwtor addysgol, yn ymarfer gydag Only Boys Aloud ym Mro Morgannwg. Ddechrau Mai yr oedd hi ac Arfon Gwilyn, ei gŵr, yn lansio Canu Haf (detholiad o garolau haf), a olygwyd ar y cyd ganddynt a chan Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Canu crefyddol a seciwlar yw carolau haf, wrth gwrs. Mae’r Sioned glasurol wrth ei bodd yn hyrwyddo a chanu gwerin hefyd. Yr oedd ar fin cychwyn ar daith yn Llydaw gydag Arfon ac wedi ei gwahodd, gyda’r gantores Siân James, i berfformio yn Uzbekistan ddiwedd Awst.

Wrth eich cyflwyno, Sioned – ac mae llawer mwy i’w ddweud am eich cyfraniad – mae’n siŵr ei fod yn wir dweud mai ‘cerddoriaeth yw eich bywyd’. Petaech yn dadlau fod cerddoriaeth yn rhagori ar unrhyw ffurf arall o gelfyddyd, sut fyddech yn amddiffyn honiad o’r fath?

Oherwydd bod cerddoriaeth yn ffynhonnell bywoliaeth i mi ac yn gyfrifol am dalu’r biliau, hawdd iawn yw mynd yn ddifater, yn or-bragmataidd, ac yn imiwn i brydferthwch a gogoniant y gelfyddyd. Mae ymarfer am oriau neu ddadansoddi darn o gerddoriaeth yn gallu glastwreiddio’r wefr ddisgwyliedig. Roedd adolygu’r opera Y Tŵr yn ddiweddar yn golygu na allwn ymlacio a gwrando’n gyfforddus fel lleygwraig ar y cynhyrchiad. Yn aml, mae darn o farddoniaeth neu ddarlun yn medru rhoi mwy o ysgytwad a phleser imi. Ond pan gaf i’r wefr honno sydd yn deillio o ddarn o gerddoriaeth, a hynny’n parhau i ddigwydd o bryd i’w gilydd ac yn gwbl annisgwyl, honno yw’r daranfollt sy’n fy ysgwyd i’m seiliau, sy’n profi mai cerddoriaeth, wedi’r cyfan, yw’r gelfyddyd sy’n treiddio’n ddyfnach na’r lleill.

Ar wahân i gerddoriaeth, pa ddylanwadau eraill fu ar eich bywyd? O gofio fod eich tad yn Weinidog (Y Parchedig Huw Jones, sydd bellach yn 97 oed) a’ch bod wedi eich magu yn y Bala, mae’n siŵr ei bod yn fagwrfa ddiwylliannol, gymdeithasol a chrefyddol, ac uniaith Gymraeg, wrth gwrs.

Roedd magwraeth y Bala yn gwbwl greiddiol i’r person wyf i heddiw. Dim ond plant y mans all uniaethu gyda’r arferion od a boncyrs sydd ynghlwm â thyfu i fyny yn y fath sefyllfa. Pwy ond plant y mans all ddyfeisio gêm fel ‘chwarae croeshoelio’ ar ddydd Gwener y Groglith oherwydd ein bod wedi’n siarsio i beidio â chrwydro a chadw twrw? Doedd y Parchedig ddim yn bles ein bod wedi tyllu’i lawnt nac wedi trio clymu’r gath i ddau ddarn o bren. Mae’n debyg fy mod wedi amsugno’r egwyddorion oedd yn perthyn i fy nhad – tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, gwrthwynebu’r bwli ac ymgreinio i oresgynwyr, cariad at wlad, iaith a’r diwylliant Cymreig yn ei holl agweddau. Darllenais gyfrolau William Barclay pan oedd ffrindiau yn darllen Agatha Christie. Ar y llaw arall, roedd y ffug-barchusrwydd, yr ymdrech barhaus i drio byw fel y ‘dosbarth canol’ ar gyflog pitw yn fwrn, yn rhwystredigaeth ac yn ddiflastod llwyr ar adegau. Roedd gwylio fy ffrindiau’n mynd ar wyliau gyda’r ysgol i sgio yn embaras am nad oedden ni’n medru fforddio hynny. Ac mae’n gas gen i gymanfaoedd canu hyd y dydd heddiw. Un gytunais i i’w harwain erioed – a honno’n ddigon pell yn y Wladfa. Roedd y ffaith fod fy nhad yn ffigwr cyhoeddus ar wahân i’r pulpud hefyd yn ychwanegu at y cawl ar brydiau. Roedd ’na ffigurau cenedlaethol, yn ogystal ag ambell i drempyn crwydrol, yn dod drwy’r drysau, a’r naill a’r llall yn cael yr un croeso, ar orchymyn fy nhad. Ond gyda thyfu i fyny mewn lle fel y Bala, nid fy nhad fu’r unig ddylanwad o bell ffordd.

Soniwch am un neu ddau …

Bu nifer yn ddylanwadol. Roedd fy nhad bedydd, Islwyn Ffowc Elis, yn un o’r rhai oedd bob amser yn gwneud i mi feddwl y tu hwnt i fy milltir sgwar yn ysbrydol. Roedd gen i athrawon cerdd gwirioneddol ysbrydoledig: Catherine Evans, fy athrawes biano, a Bethan Smallwood, fy athrawes gerdd yn Ysgol y Berwyn. A fedra i ddim anghofio chwaith ddylanwadau’r ddau brifathro ges i: Meirion Jones yn yr ysgol gynradd ac Iwan Bryn Williams yn yr ysgol uwchradd – y naill yn dysgu englyn newydd inni bob wythnos a’r llall yn dangos fod modd cyfuno gwyddoniaeth, crefydd a barddoniaeth. Yn wleidyddol, fe gawsom gwmni, fel Aelwyd yr Urdd, Eifion Glyn a Delwyn Siôn. Efallai mai’r profiad mwya ysgytwol gefais i oedd pasiantau Capel Tegid, wedi’u seilio ar Basiant y Dioddefaint yn Oberammergau. A’r mwyaf dylanwadol efallai oedd fy ffrind mawr, Dafydd Owen, oedd yn gaplan ieuenctid yng Ngholeg y Bala.

Fel llawer iawn o’ch cenhedlaeth, a fu gwrthryfela neu siom, yn arbennig â’r dylanwad crefyddol?

Roedd gwrthryfela yn rhan o dyfu yn y mans, fel llawer o’m cyfoedion – blant i weinidogion – oherwydd mai dyna’r plant a berthyn i’r gweinidogion yr oedd fy nhad yn ymwneud â nhw. Roedd rhoi ‘sioc i rai o’r saint’ yn bleser digamsyniol ond hefyd yn aml yn brifo fy rhieni, ac roedd y ddau beth yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol: ‘Po tynna fo’r llinyn, cynta y tyrr.’ Mi ddylen ni fod wedi siarad fel teulu am y peth. Ond doedd teuluoedd fel f’un i ddim yn siarad yn aml am deimladau cuddiedig a chymhleth, ac mae fy nhad yn berson preifat ddychrynllyd. Pendilio felly: ysu am dorri’n rhydd oherwydd rhwystredigaeth ac edifarhau ar y llaw arall am wneud hynny a dwyn anfri arnaf fi fy hun a’r rhai oedd yn annwyl imi. Roeddwn i’n fyfyriwr mewn coleg cyn i mi sylweddoli’n llawn nad oedd pob epil i weinidog yn ymddwyn fel hyn.

A oedd y ‘gwrthryfel’ yn fwy teuluol (er eich bod yn canmol a gwerthfawrogi eich magwrfa) yn hytrach na gwrthryfela yn erbyn y gyfundrefn grefyddol neu hyd yn oed y ffydd Gristnogol?

Roedd hi’n wrthryfel adref ar brydiau wrth reswm. Diolch am amynedd fy rhieni, a diolch am fy mam oedd yn arddangos caredigrwydd a thŷ agored i bwy bynnag ddeuai drwy’r drysau. Roedd hi hefyd yn gwneud yn siŵr fy mod yn trio edrych ar ôl pethau pwysig bywyd ac yn rhoi joch go dda o ddireidi a chwaeth a normalrwydd i rôl gwraig gweinidog. Dwi’n ei chofio yn rhoi pry copyn plastig yng nghwpan de ambell weinidog ddeuai draw – y rhai fyddai’n gallu ymgodymu hefo’r ffasiwn hiwmor, wrth reswm.

 Er y llwyddiant fel cerddor, a fu cyfnod(au) anodd? Os bu, mae’n amlwg eich bod wedi dod trwy gyfnod felly heb amharu ar eich gyrfa. Beth oedd yn eich cynnal?

Mae nifer o bobol sy’n perfformio’n gyhoeddus yn gwisgo mwgwd. Er mod i’n aml yn farw o nerfusrwydd y tu mewn, mae’r persona cyhoeddus yn parhau i fod yr un. Delio â’r peth yn hytrach na’i drechu sydd raid yn aml. A does neb yn licio trafod y peth. Dwi wedi gorfod darllen llyfrau hunan-gymorth a thrafod gyda ffrindiau da neu gwnselydd yn aml. Mae iselder yn medru arddangos ei hun mewn sawl ffordd. Pan oedd pethau’n drech na fi yn fy ugeiniau, roedd ffrind arbennig iawn i mi yn rhoi joban i mi ar Ynys Iona. Roedd Dafydd Owen, gweithiwr ieuenctid yng Ngholeg y Bala, yn gaplan ar Ynys Iona yn yr Alban. Cefais fy nghyflwyno i biano’r abaty ac yno yr oeddwn fel pianydd am y tymor. Yn eironig, felly, yn y tawelwch a’r caredigrwydd hwnnw, bu cerddoriaeth yn chwarae’i rhan i ddod â fi yn ôl at fy nghoed.

A’i cerddoriaeth mewn eglwys yn arbennig? Beth am awyrgylch yr addoli yn Iona, a gweledigaeth y gymuned?

Roedd bod ar Iona yn falm i’r enaid. Roedd myfyrdod aesthetig a thawel yn adnewyddu’r ysbryd. Dois i adnabod Cristnogion o bedwar ban byd a phrofi cariad rhwng cenhedloedd a dulliau addoli amrywiol. Nid pulpud a phregeth oedd yr unig ffordd i grisialu’r ffydd bob tro. Dydw i erioed wedi bod ar encil Gristnogol i fyfyrio achos fod gen i ormod o ofn colli rheolaeth. Dwi’n rhy ymwybodol o rym a phŵer yr ysbrydol a’i effaith arna i, a does gen i ddim amser ar hyn o bryd i fynd drwy drawma mawr.

Dwi’n sylwi eich bod yn cyfrannu yn weddol aml i gyfrif Facebook Cristnogaeth 21. Beth sydd yn eich denu, neu, wrth gwrs, beth sydd yn codi eich gwrychyn ynglŷn â Christnogaeth 21 ?

Mae Cristnogaeth 21 yn delio gyda’r union bynciau yr ydw i fy hun yn medru uniaethu hefo nhw. ‘Dwi’n hoffi’ch Duw chi, ond nid eich Cristnogaeth,’ meddai Gandhi. Ond mae diffyg goddefgarwch o’r naill begwn diwinyddol a’r llall weithiau yn fy mhoeni – ac mae goddefgarwch yn rhywbeth dwi wedi gorfod ei goleddu yn fy mywyd fy hun. Yng nghyfri ar-lein Cristnogaeth 21, mae’n iawn bod yn amheuwr ar brydiau, mae’n iawn herio ffwndamentaliaeth adain dde, mae’n iawn cefnogi Diwinyddiaeth Rhyddhad, mae’n ddyletswydd ar Gristion i herio’r rhai sy’n difrïo ffrindiau hoyw. Ac, wrth gwrs, mae angen joch go hegar o hiwmor. Mae’n iawn i gracio jôc. Un o hoff straeon fy nhad oedd honno am un o’i aelodau gerddodd yn ôl troed Mary Jones i nôl ei Beibl i’r Bala. Roedd y Fari gyfoes wedi ymlâdd ac yn gorwedd yn fflat yn festri Capel Tegid. ‘Wel, dyna chi wedi cwblhau taith Mary Jones,’ meddI Dad. ‘Ie, yr hen bitch,’ meddai hithau.

 Mae rhai holiaduron selébs mewn cylchgronau yn cynnig dewis y dyddiau hyn. Dyma un i chi, Sioned, gan fod llawer o sôn am WW eleni: Pantycelyn ta Carolau Haf? A pham?

Mi ddylwn i ddweud ‘Canu Haf’ wrth gwrs, ond yn rhyfedd iawn fe ddigwyddodd rhywbeth wrth i mi wrth osod cerdd dant yr wythnos hon. Defnyddiais eiriau WW fel mesur templad i fardd oedd am gadw cyfansoddi’i geiriau hyd y funud olaf fel eu bod mor ffres â phosib. Defnyddiais emynau 516 a 517 yn Caneuon Ffydd. Wrth eu canu ar alaw newydd, cefais wedd newydd, ffres ar y geiriau a than deimlad dwfn. Mae’r dwyfol a’r tragwyddol yn dod yn bersonol gan WW: ‘Dwed i mi, ai fi oedd honno?’ Moeswersi, os o gwbwl, sydd mewn carolau haf. Mae llawer o hwyl seciwlar ynddynt hefyd, rhai’n sôn am gymheiriaid yn mynd i ‘hela cnau’ pan fo’r gwanwyn yn gryf. A does dim o’i le yn hynny. Ond mae’r ysbrydol bob amser i mi yn cael y llaw uchaf ar foeswersi a WW mor berthnasol ag erioed.

Llawer iawn o ddiolch am eich amser, Sioned, a chithau wrthi’n paratoi i gyfrannu i ŵyl Lorient a Gŵyl Uzbekistan. A diolch am sgwrs ddifyr a gonest. Rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i gyfrannu i’n bywyd fel cenedl am flynyddoedd eto – ac yn parhau i gyfrannu i Cristnogaeth 21 hefyd, wrth gwrs!

 

 

 

 

 

Cynhadledd – ‘Argyfwng Hunaniaeth a Chred?’

Cynhadledd Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru

‘Argyfwng Hunaniaeth a Chred?’
15-16 Medi 2017
Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dydd Gwener 13.00 – 17.00 
Huw L Williams – ‘Yr argyfwng gwacter ystyr 2016’
Aled Jones Williams – ‘Ysbrydolrwydd’
Cynog Dafis – ‘Dyneiddiaeth Cristnogol’

Dydd Sadwrn 10.00 – 13.00
Yr Athro Steve Edwards – ‘Gwirionedd a’r ôl-ffeithiol’
Yr Athro Howard Williams – ‘Athroniaeth T H Parry Williams’
Rhianwen Daniel – ‘Iaith ac Hunaniaeth’

Cyfle i fyfyrio ar heriau’r oes a gofyn ai argyfwng o’r newydd sy’n ein hwynebu ni heddiw?