Llwyd yw Lliw Gobaith

Llwyd yw lliw gobaith

Llwyd yw lliw gobaith

Trist oedd clywed am farwolaeth Irina Ratushinskaya, 63 oed, yn Mocso, ar Orffennaf 5ed. Yn 28ain oed cafodd ei dedfrydu i saith mlynedd mewn gwersyll llafur yn Moldofia a phum mlynedd o alltudiaeth fewnol. Bu’n ddifrifol wael ac nid yw hynny’n syndod o gofio amgylchiadau a chreulondeb corfforol a meddyliol y gyfundrefn Sofietaidd yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, roedd hi a nifer o ferched eraill wedi eu caethiwo mewn ‘carchar o fewn carchar’ ac yn cael eu hystyried yn ‘ fygythiad gwleidyddol i’r gyfundrefn’. Mae wedi cofnodi ei phrofiadau yn y gyfrol Grey is the colour of hope, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1988. Mae’n disgrifio profiad bardd ifanc a welodd obaith yn ei chyd-garcharorion, yn y pethau syml bob dydd, yn y weithred o greu ac o droi pethau cyffredin yn gelfyddyd, yn ei chred fod Duw yn gweu o fywyd y distadlaf batrwm o harddwch ac o gariad … ac o obaith. O’r caethiwed erchyll hwnnw hefyd daeth dros 200 o gerddi â ysgrifennodd yn gyntaf ar ddarnau o sebon, cyn eu cadw ar ei chof, ac yna ar unrhyw ddarnau o bapur gan gynnwys pacedi sigaréts. Arwydd gobaith oedd y peth cyntaf a welodd yn oerfel dychrynllyd y carchar:

Dywedaf wrthyt

am yr harddwch cyntaf mewn caethiwed –

ffenestr dan drwch o farrug,

glas disglair mewn ffram gyfyng –

enfys rhew!

Clawr ‘The Odessans’ gan Irina Ratushinskaya

Yn ddiweddarach cyhoeddodd nofel (cyfieithiad Saesneg, The Odessans) yn 1996 a dwy gyfrol o farddoniaeth ‘Na, does arna i ddim ofn’ ac ‘Yn y dechreuad’.

Yn wreiddiol o Odessa yn yr Ukraine, graddiodd Irina mewn Ffiseg ond penderfynodd fynd yn athrawes gynradd. O fewn cyfundrefn addysg oedd yn hyrwyddo anffyddiaeth, gwelodd Irina yn fuan fod yn rhaid meithrin plant i ymdeimlo â’r ysbrydol mewn bywyd. Cafodd ei hadnabod fel bardd Cristnogol a phan drefnodd hi a’i phriod, Igor, brotest yn gofyn am i’r gwyddonydd Sakharov a oedd wedi ei alltudio gael dod yn ôl i Rwsia, cafodd Irina ei chyhuddo o fod yn ‘wleidyddol beryglus’. Dyna pryd y cafodd ei charcharu. Ond gweithred wleidyddol oedd ei rhyddhau, ar ôl pedair blynddoedd o’i dedfryd, oherwydd digwyddodd hynny pan oedd Korbachev, fel rhan o’i bolisi perestroika, o fewn oriau yn unig i gyfarfod Ronald Reagan yn Reykjavik. Yn nes ymlaen treuliodd Irina gyfnod fel bardd preswyl mewn prifysgol yn Illinois. Erbyn hyn yr oedd yn adnabyddus drwy’r byd oherwydd yr ymgyrchu a fu i’w rhyddhau. Dan nawdd PEN fe fu hefyd am gyfnod yn Llundain.

Yn Aberystwyth

Rhan o’n paratoadau i sefydlu Canolfan Morlan oedd ei gwahodd i Aberystwyth ac fe gawsom y fraint o’i chwmni a’i chlywed yn siarad ac yn darllen rhai o’i cherddi nos Sul, 15 Tachwedd 1998. Er nad oedd ymysg y Cristnogion oedd yn cael eu herlid am nad oeddynt yn barod i dderbyn gwaharddiad ar bregethu, efengylu a dysgu – Bedyddwyr, Pentecostaliaid, Efengylwyr – tawelach, ond yr un mor gadarn a disglair, oedd ffydd Irina yn etifeddiaeth gyfoethog Eglwys Uniongred Rwsia. Yn wir, mae’n dathlu amrywiaeth a lliw’r ffydd Gristnogol yn Llwyd yw lliw gobaith. Yr oedd yn gwbwl gartrefol yn addoli yng Nghapel y Morfa.

Fel eraill, yr oedd yn gweld amrywiaeth ac ehangder Cristnogaeth yn gwbwl allweddol i’w lle a’i chyfraniad yn y byd.

I’w chroesawu i Gymru ac i Gapel y Morfa, cyfieithodd Mona Morris rai o gerddi Irina i’r Gymraeg a darllenwyd rhai ohonynt wedi iddi hi ddarllen y cerddi yn ei hiaith ei hun. Cawsom ein hysbrydoli gan ei hysbrydolrwydd dwfn a’i ffydd siriol, gan ei dynoliaeth a’i chydymdeimlad ac yn arbennig, efallai, o gofio iddi gael y fath driniaeth, am ei haddfwynder, ei goddefgarwch a’r weledigaeth o gymod oedd yn cydio’i chariad at ei gwlad gyda phob cenedl.

Wedi ei gwaeledd yng ngharchar dywedwyd wrthi na fyddai’n cael plant. Ond braf a bendith yw cael dweud iddi hi ac Igor gael efeilliaid, Sergei ac Oleg, sydd heddiw’n 24ain oed. Bu farw yng nghwmni ei theulu a’i hoffeiriad yn cadw gwylnos wrth erchwyn y gwely.

Mewn neges atom, ar drothwy’r mileniwm, meddai, ‘Diolch i Dduw, yr ydym fel teulu yn ôl yn byw ar gyrion Mosco … yr wyf yn gobeithio y caf ymweld â chi eto … mae’r byd bellach mor fach ac mor gyflym a’r e-bost fydd yn cario fy neges. 2000 o fendithion i chi – a mwy yn enw ein Gwaredwr. Irina.’

Pryderi Llwyd Jones