Agora rhif 35 mis Medi – Hydref 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Sesiwn Sioned Webb i Encil Undydd C21, 2019
Gweddi ar gyfer Gwasanaeth Boreol
(Cymuned Iona – addasiad)
Efengyliaeth o’r newydd?
Cynog Dafis
Cread a chymod
Gareth Lloyd Jones
Englyn i Greta Thunberg
Annes Glynn
Beth yw Encil Undydd?
Pryderi Llwyd Jones
Satish Kumar
Pryderi Llwyd Jones
Gweddi amserol 
Addasiad Ann D. Davies
Gweddi mewn ymateb i argyfwng Brexit
Rhannwyd gan Undeb yr Annibynwyr
Mamiaith
Enid Morgan
- Sesiwn Sioned Webb i Encil 2019Rhagor- Sesiwn Sioned Webb yn Encil Undydd C21, 2019 - Cyfraniad cerddoriaeth i’n hymwneud ni â’r ‘Cread a’r Cymod’ oedd gan Sioned Webb yn ei sesiwn yn Encil 21. Dyma’r darnau o gerddoriaeth y gwrandawyd arnynt: - (Mae’n bosib gwrando arnynt i gyd ar y we) - Alaw a cherdd a chân, y rhodd o gelfyddyd a’r rhodd o addoli sy’n ein gwneud yn warchodwyr y cread a’r cymod, yn ôl Sioned Webb. Mewn sesiwn arbennig iawn o wrando ar gerddoriaeth fel cyfrwng cawsom glywed cerddoriaeth oedd yn ein cydio â’r nef ac â’n gilydd; weithiau yn ein harwain i ddawns, weithiau i alar ond pob amser i obaith. Roedd y darn Ami ... 
- Efengyliaeth o’r newyddRhagor- Efengyliaeth o’r Newydd?- Cafwyd cryn sylw rai misoedd yn ôl i ganlyniadau ymchwil am agweddau at grefydd. Yn fras, y casgliad oedd bod dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydyn nhw’n arddel unrhyw grefydd a bod mwy o bobl yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion nag arweinwyr crefydd. - Sut ddylai cefnogwyr Cristnogaeth 21, crefyddwyr rhesymol a goleuedig un ac oll, ymateb i beth fel hyn, heblaw ochneidio a nodi nad oedd y casgliadau yn eu synnu o gwbl? - Man cychwyn hyn o sylwadau yw ail gymal y casgliadau: bod mwyafrif y boblogaeth yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion yn hytrach nag arweinwyr crefydd. - ‘Ffydd’ ynghylch beth yw’r cwestiwn. Os ... 
- Englyn i Greta ThunbergRhagor- Englyn i Greta Thunberg yn dilyn ei hymddangosiad gerbron y Cenhedloedd Unedig. - Un llais bach, ond lles y byd ynddi’n dân, 
 a’r ddawn dweud fel ergyd;
 heddiw, drwy’i phrocio diwyd,
 clywn floedd gan filoedd fu’n fud.- Annes Glynn 
- MamiaithRhagor- Mamiaith- Arfer y Cylch Catholig bob haf yw cynnal offeren Gymraeg yn yr eglwys blwyf leol. Yn y Fenni daeth criw o bobl y plwyf i gefnogi, er eu bod, y mwyafrif llethol ohonynt, yn ddi-Gymraeg. Wrth ddiolch iddynt, meddai’r Esgob Edwin Reagan: “Remember that the language of the Mass is Love”. - Cofiais yr ymadrodd yn ddiweddar wrth ddarllen un o gyfrolau gweddïau Walter Brueggeman. Dyma fersiwn Cymraeg wedi ei seilio arni. - Fe ddysgon ni siarad bron pob iaith ond ein hiaith ein hunain. 
 Fe’n disgyblwyd yn iaith casineb ac ofn, iaith trachwant a phryder.- Rydym yn hen gyfarwydd ag iaith gormes a chynffonna. 
 Deallwn yn llwyr ramadeg rhyddfrydiaeth a cheidwadaeth,
 Y ...
- Gweddi amserol 1Rhagor- GWEDDI - Gweddi gan yr Americanwr, y Parchedig Mark Sandlin, yn gofyn am ollwng gafael ar ein hunan-bwysigrwydd: - Dduw da a graslon, - Weithiau 
 er mwyn bod yr hyn
 ddylem fod
 mae’n rhaid i ni wneud pethau
 sy’n gallu teimlo’n
 amhosib.- Mae gan y rhan fwyaf ohonom amheuon 
 a chwestiynau
 a meddyliau negyddol
 amdanom ein hunain
 ar adegau.- Weithiau ymddengys 
 yn rhan annatod
 o’r natur ddynol.- Mae balchder a theimlo’n bwysig 
 yn gallu bod yn angenrheidiol
 er mwyn gwrthbwyso
 sut y gwelwn ein hunain
 weithiau.- Eto, gofynnodd Iesu i ni 
 fod yn ostyngedig,
 y lleiaf o’r rhai hyn,
 yn olaf –
 i roi eraill yn gyntaf,
 i ollwng gafael ar ein hangen i fod yn bwysig …- i ollwng ... 
- Gweddi boreuolRhagor- Gweddi ar gyfer Gwasanaeth Boreol 
 (Cymuned Iona – addasiad)- Mae’r byd yn eiddo Duw, 
 y ddaear a’r holl bobl;
 mor dda yw byw ynghyd
 gyda’n gilydd;
 daw ffydd a chariad at ei gilydd,
 cyfiawnder a heddwch yn cydio dwylo;
 os yw disgblion Crist yn cadw’n dawel
 bydd y cerrig hyn yn gweiddi’n uchel.
 Agor ein gwefusau, O Dduw,
 a bydd ein genau yn cyhoeddi dy glod.- Distawrwydd - Dduw, bydd yn ein plith, rho i ni fywyd, 
 gad i’th bobl lawenhau ynot ti;
 rho i ni eto hyfrydwch dy gymorth,
 yn rhyddid dy ysbryd cynnal ni;
 rho i ni galonnau glân
 ac adnewydda ni – gorff, meddwl ac ysbryd.- Distawrwydd - Gan ... 
- Cread a ChymodRhagor- CREAD A CHYMOD
 Yr Hen Destament a’r Amgylchfyd- I. Rhagarweiniad Am sawl rheswm, buddiol yw dechrau unrhyw astudiaeth drwy amlinellu’r cefndir i’n defnydd o’r Hen Destament fel canllaw awdurdodol i’n hagwedd at yr amgylchfyd. Nid mater syml ydi darganfod arweiniad ar bynciau moesol, pa bwnc bynnag y bo, yn y Beibl. Nid yw dyfyniad moel, o angenrheidrwydd, yn rhoi ateb digonol i unrhyw gwestiwn. Rhaid derbyn hefyd nad oedd gan yr awduron farn ar bynciau sydd o bwys i ni, am y rheswm syml nad oeddent o bwys iddynt hwy. Gochelwn rhag symud yn rhy sydyn o fyd y Beibl i’r byd modern, ac anwybyddu’r ... 
- Beth yw Encil UndyddRhagor- Beth yw encil undydd? - Mae’n gwestiwn ddigon teg sydd wedi ei godi gan rhai sy’n ystyried dod i Encil Cristnogaeth 21 ym Mangor ar Fedi 21ain. (Mwy o wybodaeth ar ein tudalen ‘Hafan’.) - Wrth feddwl am encil draddodiadol, y darlun a ddaw i’r meddwl yw hyd at dridiau i wythnos o  amser wedi’i neilltuo mewn awyrgylch dawel, mewn lleoliad tawel, gwahanol i amgylchiadau ac awyrgylch llawn a phrysur ein bywyd bob dydd. Fe fydd digon o amser tawel i addoli, gweddïo ac i adnewyddu ysbryd a chorff. amser wedi’i neilltuo mewn awyrgylch dawel, mewn lleoliad tawel, gwahanol i amgylchiadau ac awyrgylch llawn a phrysur ein bywyd bob dydd. Fe fydd digon o amser tawel i addoli, gweddïo ac i adnewyddu ysbryd a chorff.- Rydym ... 
- Gweddi amserol 2Rhagor- Gweddi a rannwyd gan Undeb yr Annibynwyr mewn ymateb i argyfwng Brexit - Ein Tad cariadus, trown atat mewn cyfnod o ansicrwydd brawychus yn hanes ein gwlad, ein cyfandir a’n byd. 
 Mae’n ddyddiau dieithr â datblygiadau’r naill ddiwrnod ar ôl y llall yn achosi penbleth a dryswch cynyddol inni a hynny’n troi’n rhwystredigaeth ddig ac ymosodol mor fynych.
 Yn ein gofid gofynnwn i Ti blannu ynom ddoethineb a phwyll ynghyd â chariad.
 Deisyfwn y bendithion hyn yn helaeth ar ein harweinwyr, etholedig a gwirfoddol ac ar eu tîmoedd gwaith.- Llanw ni ag ewyllys dda a helpa ni i ymarfer goddefgarwch ac i roddi i eraill, ... 
- Satish KumarRhagor Satish Kumar Satish Kumar- Mae Satish Kumar yn ŵr unigryw sydd wed bod yn ymgyrchu dros Blaned Werdd ers blynyddoedd maith, cyn bod sôn am lawer o’r mudiadau amgylcheddol sydd mor weithgar erbyn hyn. Tawel, ond cwbwl allweddol, fu ymgyrchu Kumar. Cafodd ei eni yn India yn 1936, ac aeth yn fynach Jainaidd yn 1945 ar ôl darllen llyfr gan Gandhi ar fyw’n ddi-drais. Ond gadawodd y fynachlog er mwyn mynd ar bererindod heddwch o India yn 1962, a cherdded 8,000 o filltiroedd i ymweld â phedair prifddinas ... 

