Cread a Chymod

CREAD A CHYMOD
Yr Hen Destament a’r Amgylchfyd

I.  Rhagarweiniad Am sawl rheswm, buddiol yw dechrau unrhyw astudiaeth drwy amlinellu’r cefndir i’n defnydd o’r Hen Destament fel canllaw awdurdodol i’n hagwedd at yr amgylchfyd. Nid mater syml ydi darganfod arweiniad ar bynciau moesol, pa bwnc bynnag y bo, yn y Beibl. Nid yw dyfyniad moel, o angenrheidrwydd, yn rhoi ateb digonol i unrhyw gwestiwn. Rhaid derbyn hefyd nad oedd gan yr awduron farn ar bynciau sydd o bwys i ni, am y rheswm syml nad oeddent o bwys iddynt hwy. Gochelwn rhag symud yn rhy sydyn o fyd y Beibl i’r byd modern, ac anwybyddu’r bwlch rhyngddynt. Cwestiwn teg yw: ydi’r Hen Destament yn dangos, yn hybu ac yn gorchymyn parch at fyd natur? Os ydyw, i ba raddau? I ateb y cwestiwn, taler sylw i’r cefndir cyn ystyried y testun.

II. Pynciau Perthnasol Mae cefndir a chyfnod yr awduron, yn ogystal â natur yr ysgrythur, yn bynciau o bwys.

  1. Daearyddiaeth Daeth Israel i fodolaeth mewn rhan o’r byd a oedd yn ddidostur a garw, yn elyniaethus i ddyn ac anifail. I ymdopi, rhaid oedd ymdrechu’n ddiderfyn i feistroli’r amgylchfyd. Felly, cwestiwn perthnasol ydi: pa agwedd tuag at yr amgylchfyd sydd yn fwyaf tebygol yn yr Hen Destament o safbwynt daearyddol, un cadarnhaol ynteu un negyddol? Beth mae cymdeithas amaethyddol yn debygol o’i wneud yn wyneb caledi cyson: parchu byd natur ynteu ymdrechu’n gyson i’w ddofi?
  2. Hanes Yn ôl y Beibl, mae dwy elfen unigryw yn hanes Israel yn berthnasol i ddatblygiad y genedl.

    a. Crefydd Canaan Ym meddwl y Canaaneaid, roedd y duwdod yn datguddio’i hun ym myd natur, yn enwedig yn ffrwythlondeb y tir a’r ddiadell. Ffynhonnell y ffrwythlondeb oedd cyfathrach rhywiol rhwng y duwiau. I sicrhau cynhaeaf cynhyrchiol, roedd yn ofynnol i’r amaethwr uniaethu ei hun â’r ffrwythlondeb dwyfol trwy ddefnyddio puteiniaid cysegredig a oedd i’w cael ym mhob teml a chysegr-le. Am ei bod hithau’n awyddus i ffynnu, cafodd Israel ei hudo i dderbyn syniadau a dilyn arferion ei chymdogion – anathema i’r proffwydi (Jeremeia 3:6–9). Eu neges gyson hwy oedd mai oherwydd ei hanffyddlondeb yn dilyn arferion crefydd Canaan yr anfonwyd y genedl i’r gaethglud ym Mabilon.

    b. Sôn am Achub Digwyddiadau penodol yn hanes Israel, megis yr ymwared o’r Aifft, sy’n gwneud Duw yn realiti i awduron yr Hen Destament. Ar Dduw yr achubwr y mae’r pwyslais. Mae ei berthynas â dynoliaeth, a seliwyd trwy gyfamod Sinai, yn ddatblygiad o bwys yn nhreftadaeth grefyddol Iddew a Christion. Ond wrth sôn am achub a chyfamodi, dynoliaeth, nid yr amgylchfyd, sydd gan y Beibl dan sylw. Hyn sydd i gyfrif am y disgrifiad cyson o ddiwinyddiaeth Gristnogol fel un dyn-ganolog (anthropocentric). Hynny yw, hynt a helynt y ddynoliaeth yn unig sydd o bwys. Os felly, onid ofer yw disgwyl gweld yn yr ysgrythur agwedd gyfrifol at yr amgylchfyd?

  3. Anghysondebau Mae’r rhain yn britho’r testun, ac yn peri anhawster i’r sawl sy’n ystyried yr ysgrythur fel gair awdurdodol, anffaeledig a digyfnewid Duw. I ymdopi, mae pawb, pa liw bynnag fo’u diwinyddiaeth, yn dewis a dethol testunau, ac yn eu dehongli i gyd-fynd â’u safbwynt. A dyna sy’n digwydd gyda thestunau’r amgylchfyd, am eu bod hwythau’n gwrth-ddweud ei gilydd.

III. Stori’r Creu Mae gwreiddiau’r mudiad i warchod yr amgylchfyd yn ymestyn i flynyddoedd cynnar chwedegau’r ganrif ddiwethaf (e.e. llyfr Rachel Carson, Silent Spring). Pan ddaeth arweiniad ar y pwnc gan yr eglwysi, wedi hir ymaros, y testun sylfaenol oedd Genesis 1–3, lle mae dau fersiwn gwahanol o hanes y creu: Genesis 1:1–2:4a Hon yw’r stori ieuengaf. Fe’i priodolir i’r gainc P (priest), y garfan offeiriadol. Creu’r ddynoliaeth allan o ddim ar ôl creu popeth arall yw’r uchafbwynt. Genesis 2:4b–3:24 – Adroddiad cynharach yw hwn yn perthyn i’r gainc J (Jehofa). Llunnir dyn ac anifail, nid allan o ddim, ond o lwch y ddaear, a’r tro hwn, dyn sy’n cael ei greu gyntaf. Ar sail y testunau hyn, ceir dwy ddamcaniaeth ynglŷn â lle a diben dyn yn y greadigaeth: gormeswr a goruchwyliwr.

1. Gormeswr Yr adroddiad perthnasol yw P, yn enwedig 1:26–8. Dehongliad posibl yw fod gan ddyn hawl i ddefnyddio’r amgylchfyd i’w dibenion ei hun am ei fod ar lun a delw Duw. Un esboniad o’r ddelw yw mai yn awdurdod dyn dros ei amgylchfyd y mae i’w ganfod. Fel y mae Duw yn arglwyddiaethu ar y byd cyfan, mae’r un a greodd ar ei lun yn arglwyddiaethu ar fyd natur. Os felly, unig bwrpas natur yw gwasanaethu dynolryw. Dyfynnir testunau eraill i’r un perwyl (Genesis 9:1–3 a Salm 8). Mae’r syniad o arglwyddiaethu a darostwng yn cyd-fynd â’r ddiwinyddiaeth anthroposentrig sy’n ystyried y ddynolryw fel pinacl y greadigaeth. Rhoddwyd lle amlwg iddi mewn Cristnogaeth gan ein cyndadau Protestannaidd. Ond mae rhai ecolegwyr cyfoes yn beio’r Eglwys am ein hargyfwng oherwydd iddi lynu wth ddiwinyddiaeth ddyn-ganolog, a bod mor di-hid ynglŷn â’r amgylchfyd. Er enghraifft, mae Lynn White, yn ‘The Historical Roots of our Ecological Crisis’ (Science 1966), yn cyfeirio at ‘the orthodox Christian arrogance towards nature’. Mae crefydd, meddai, wedi tanseilio gwarchodaeth byd natur trwy ganiatáu i ddynolryw wneud fel y myn. Felly, cyhuddir dyn o fod yn ormeswr ar sail testunau dewisol a dehongliad poblogaidd a thraddodiadol o’r ysgrythur, un na ellir ei wadu.

2. Goruchwyliwr Mae esbonwyr Cristnogol wedi herio’r cyhuddiad yn erbyn y Beibl (e.e. Andrew Linzey, Animal Theology). Maent yn ei amddiffyn: a. Trwy ddangos nad Cristnogion yn unig sy’n euog. Llwyddodd sawl diwylliant i lygru’r amgylchfyd heb help Cristnogaeth. b. Trwy ddangos fod y Beibl yn anghyson, sy’n gwneud dewis a dethol testunau addas yn bosibl. c. Trwy gywiro’r dehongliad traddodiadol, dyn-ganolog, o Genesis a phwysleisio dyletswydd a chyfrifoldeb, yn hytrach na darostwng a llywodraethu. Dyma’r ‘Stewardship Interpretation’. Caiff ei hategu gan ddau destun: Genesis 1:1–25 lle mae’r greadigaeth gyfan yn dda yng ngolwg Duw, a Genesis 2:4b–3:24 sy’n rhoi swydd gyfrifol i Adda yn Eden. Mae’r Ardd yn gyfystyr â’r byd cyfan. Disgwylir iddo ofalu am y greadigaeth fel y mae brenin yn gofalu am ei ddeiliaid. Hefyd, yn ôl yr adroddiad yma, o lwch y ddaear, nid o ddim, y lluniwyd dyn ac anifail. Crëwyd y ddau o’r un stwff. Ymgais, efallai, i bwysleisio’r cysylltiad agos rhwng dynoliaeth a byd natur.

IV. Y Gyfraith a’r Proffwydi

  1. Anifeiliaid Pwyslais y Deg Gorchymyn ar y berthynas rhwng Duw a dynoliaeth, a rhwng unigolion a’i gilydd, yw un o seiliau diwinyddiaeth anthroposentrig. Hyn sy’n arwain un ysgolhaig Iddewig i honni nad oes gan Iddewiaeth unrhyw ofal am anifeiliaid.

    a. Agwedd negyddol Dyfynnir rhai testunau i ddangos nad oedd gan Israel reswm dros ddiogelu bywyd gwyllt. Y nod oedd ei feistroli, nid hyrwyddo’i barhad.

    i. Ci (Diarhebion 26:11; Salm 59:14–15) Prin bod ystyried y ci fel metaffor delfrydol am y ffŵl a’r gelyn yn arwydd o barch tuag ato. Dwy enghraifft o gi anwes sydd yn y Beibl, hyd y gwn i: Tobit 6:1; 11:4; Mathew 15:27.

    ii. Bugail a’i braidd Yn ogystal â gofalu am ei braidd, roedd yn rhaid i’r bugail eu hamddiffyn rhag anifeiliaid rheibus. Treuliodd Dafydd lawer o’i amser yn gwneud hyn cyn cael ei wneud yn frenin. Mae’r un peth yn wir mewn rhannau helaeth o’r byd heddiw.

iii. Arf Duw Un o ddulliau Duw o gosbi Israel oedd defnyddio byd natur i greu hafog (Eseia 13:12; Eseciel 34:25). Gwneir defnydd helaeth gan y proffwydi o fygythiad cyson yr amgylchfyd wrth geisio dod â’r genedl at ei choed.

b. Agwedd gadarnhaol Sylwn ar rai cyfreithiau a ddyfynnir i amddiffyn yr Hen Destament trwy weld agwedd gadarnhaol ynddo at anifeiliaid: Exodus 23:5,12; Deuteronomium 22:6. Ond beth mae ystyried yr adnodau yn eu cyd-destun yn ei awgrymu am eu diben gwreiddiol?

  2. Y Tir Mae cefnogaeth i faterion amgylcheddol yn fwy amlwg mewn testunau am y tir: Deuteronomium 20:19–20. Dangos parch at fyd natur trwy ffrwyno fandaliaeth rhyfel, ynteu sicrhau bwyd i’r fyddin fuddugol? Exodus 23:10. Diben cymdeithasol (helpu’r tlawd), diwinyddol (Israel fel tenant yn cydnabod mai eiddo Duw oedd y tir), ynteu amgylcheddol (rhoi cyfle i’r tir adennill ei nerth)?

V. I Gloi I ba raddau mae’r Hen Destament yn dangos, yn hybu ac yn gorchymyn parch at fyd natur? Mae dau ateb, cadarnhaol a negyddol. Mae llenyddiaeth sylweddol gan ddiwinyddion o fri ar gael yn cefnogi’r ddwy ochr. Barn rhai yw nad hybu gofal oedd bwriad yr awduron am nad oedd yr argyfwng presennol yn bod yn eu hamser hwy: ‘The biblical writers did not envision our current environmental crisis, nor should we expect them to have addressed it’ (R. Simkins, Creator and Creation, 263). Cred eraill y gellir canfod sylfaen grefyddol i arbed yr amgylchfyd yn yr Hen Destament. Dyn fel goruchwyliwr yw’r darlun llywodraethol. Gwyddai’r Israeliaid y byddai’r hyn oedd yn digwydd i fyd natur yn digwydd ymhen hir a hwyr iddynt hwythau. Gwyddent nad oeddent yn bodoli ar wahân i’r greadigaeth, ond fel rhan ohoni, ac o bosibl, y rhan fwyaf bregus: ‘The idea of a radical separation between human beings and the world of nature was totally foreign to Hebrew thought’ (I. Bradley, God is Green, 31). Mae ein dealltwriaeth o agwedd yr Hen Destament at fyd natur yn dibynnu ar yr adnodau y dewiswn eu dyfynnu, a’r dehongliad y dewiswn ei dderbyn. Yn y pen draw, yn yr achos hwn, fel mewn llawer un arall, y darllenwyr sy’n penderfynu pa destunau yn y Beibl sy’n awdurdodol, a pha rai sy ddim.

Yr Athro Gareth Lloyd Jones