Satish Kumar

Satish Kumar

Mae Satish Kumar yn ŵr unigryw sydd wed bod yn ymgyrchu dros Blaned Werdd ers blynyddoedd maith, cyn bod sôn am lawer o’r mudiadau amgylcheddol sydd mor weithgar erbyn hyn. Tawel, ond cwbwl allweddol, fu ymgyrchu Kumar. Cafodd ei eni yn India yn 1936, ac aeth yn fynach Jainaidd yn 1945 ar ôl darllen llyfr gan Gandhi ar fyw’n ddi-drais. Ond gadawodd y fynachlog er mwyn mynd ar bererindod heddwch o India yn 1962, a cherdded 8,000 o filltiroedd i ymweld â phedair prifddinas y cenhedloedd niwclear, sef Mosco, Paris, Llundain a Washington. Nid oedd ganddo ef a’i gydymaith, E. P. Menon, arian yn eu poced ar ddechrau’r daith ac fe fu’n rhaid iddynt weithio ar adegau er mwyn parhau â’u taith. Ar ôl egluro i wraig oedd yn gweithio mewn mewn ffatri yn Mosco beth oedd bwriad eu pererindod, rhoddodd y wraig bedwar paced o de iddynt, ac fe gyflwynwyd paced o de i arweinwyr y wlad yn y pedair brifddinas gan eu hannog, os oedd bwriad hyd yn oed i ystyried pwyso’r botwm niwclear, i eistedd gyda phaned o de a meddwl, myfyrio, pwyllo ac ystyried y canlyniadau.

Pan oedd yn 50 oed, aeth ar bererindod arall gan gerdded 2,000 o filltiroedd y tro hwn. Taith ydoedd i ymweld â mannau cysegredig Prydain fel mannau canolog bywyd.

Yn 1973 daeth i Loegr a’i benodi’n olygydd y cylchgrawn Resurgence (yn nes ymlaen daeth yn Resurgence and Ecologist). Bu’n golygu’r cylchgrawn tan 2016 – cyfnod o 43 o flynyddoedd. Bu’n gylchgrawn dylanwadol iawn ac yn un o’r ychydig gychgronau sy’n cael ei ddarllen gan bobl o wahanol grefyddau a diwylliannau. Mae’n arwyddocaol fod y coleg a sefydlodd Kumar yn Nyfnaint yn 1991 wedi ei alw yn Goleg Schumacher (yr enw, wrth gwrs, ar ôl awdur y gyfrol enwog Small is beautiful). ‘Mae chwyldro newydd wedi dechrau,’ meddai Kumar.

Pan ofynnwyd iddo unwaith ai deffro pobl i’r ‘ysbrydol’ oedd ei fwriad, dyma ei ateb:

Ie, wrth gwrs – ac atgoffa pobl o’r hyn y maent yn ei wybod yn eu calonnau ond yn ei anghofio yng nghanol rhuthr bywyd. Trwy fy llyfrau a’m teithiau a thrwy Resurgence and Ecologist yr wyf yn ceisio annog pobl i fyw yn holistig, i feddwl yn ehangach, i feddwl yn ysbrydol, yn hytrach na meddwl, er enghraifft, mai cynhesu byd-eang neu rywbeth arall yw’r broblem. Mae ein problemau mawr yn gydgysylltiedig.

Roedd Iesu, Gandhi, Martin Luther King, y Fam Theresa, Mandela, Dalai Lama a Wangari Maathai i gyd yn ymgyrchwyr, ond roedd sylfaen eu hymgyrchu’n ysbrydol a’r sylfeini’n cyfannu’r cread a’r ddynoliaeth.

 Yn 2013 cyhoeddodd gyfrol o’r enw Soil, Soul, Society.

‘Mae “trioedd” yn bwysig ym mhob diwylliant,’ meddai, wrth gyflwyno’r gyfrol. ‘Yn y grefydd Gristnogol mae “Duw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân”. Ond fe hoffwn ofyn, Beth am y fam? Beth am y ferch? A beth am yr ysbrydol materol? Mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng y gwrywaidd a’r benywaidd, rhwng y materol a’r ysbrydol. Mae’r Drindod yn ardderchog, ond nid yw’n “holistig”. Mae’r un peth yn wir am y Chwyldro yn Ffrainc: Liberté, égalité, fraternité, sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’i gilydd ond nid am y berthynas â’r cread. Mae trindod yr Oes Newydd – body, mind and spirit – mewn gwirionedd yn golygu: fy nghorff i, fy meddwl i, fy ysbryd i. Nid oes awgrym o gysylltiad â’r cread nac â chyfiawnder cymdeithasol.’

‘Ymgais,’ meddai ymhellach, ‘at eirfa ystyrlon i fywyd holistig yw’r gyfrol a hynny mewn cyfnod sy’n dechrau deffro i bwysigrwydd ysbrydolrwydd. Roeddwn angen gair i’n cysylltu â’r cread: pridd, pridd o’r pridd, pridd i’r pridd. Rydym i gyd yn rhan o’r un ddaear; rydym i gyd yn perthyn. Gofalwch am y pridd. Hebddo ni allwn fyw.

‘Ac enaid. Mae bod yn “berson” yn golygu adnabod ein hunain ac eraill fel “eneidiau hoff, cytûn”. Mae’n golygu parch a chariad.

‘Ac yr ydym yn rhan o gymuned; tu hwnt i wahaniaethau a rhaniadau, rydym yn gymuned ein dynoliaeth gyffredin.

‘Wrth roi’r tri gair gyda’i gilydd: pridd, enaid, cymuned, rydym yn ymestyn yr ymwybod i gynnwys y cread, ac wrth wneud hynny rydym yn cyffwrdd meddwl Duw ac felly’n rhan o undod pob peth.’

Mae Satish Kumar wedi rhoi llais a chyfeiriad i nifer gynyddol o bobl sydd wedi eu dadrithio gan werthoedd a chyfeiriad ein byd.

Pryderi Llwyd Jones