
Ar ôl y rhifyn hwn o AGORA byddwn yn newid gêr. Fydd dim rhifyn ym mis Gorffennaf, ond o fis Awst ymlaen gobeithiwn fedru manteisio ar ystwythder digidol gwefan Cristnogaeth21 er mwyn ychwanegu cynnwys newydd yn gyson o wythnos i wythnos. Anelwn at gael yr un amrywiaeth o ddeunydd, yn erthyglau golygyddol, holi unigolion, tynnu sylw at lyfrau perthnasol, defnydd defosiynol,  dyfyniadau diddorol, newyddion ac yn y blaen. Mawr obeithiwn y byddwch yn mwynhau’r datblygiad newydd.
Cynnwys Agora mis Mehefin 2017
(Cliciwch ar y teitl i ddewis erthygl neu sgrolio i lawr nes dewch ati)
Golygyddol Enid Morgan
Diffyg Crebwyll y Cyfryngau Gethin Rhys
Holi Derec Llwyd Morgan Pryderi Llwyd Jones
Cam 8 yr A.A. Wynford Ellis Owen
Teulu’r Byd Ann Davies
Sul y Drindod Dawn Hutchinson ac Enid Morgan
- Golygyddol mis MehefinRhagor- Golygyddol- Oes unrhyw un yn newynu am wybod barn olygyddol Agora ar sut i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 9ed o’r mis? Nac oes, siŵr iawn! Ac felly, taw piau hi ar y pwnc – ac efallai y bydd yr erthygl hon yn dal yn werth ei darllen ar ôl yr etholiad. Dyma addo peidio ag ychwanegu at y rhagfarn, y sŵn, y celwydd, y camarwain, a’r casineb. Yn yr hen uniongrededd yr oedd gobaith yn rhinwedd ddiwinyddol – rhinwedd, nid teimlad.  Mae ceisio deall sut y ... Mae ceisio deall sut y ...
- Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru- Mae’r erthygl hon yn cynnwys nifer o ddolenni rhyngweithiol, sy’n golygu bod modd dilyn unrhyw ddolen (mewn glas) drwy glicio arni i ymweld â’r ffeil y cyfeirir ati.- Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru- gan
 Gethin Rhys- Ar 20 Mai fe ddanfonodd papur newydd y Times ei ohebydd Janice Turner i ‘gymoedd de Cymru’ (yn ôl y pennawd) i fesur tymheredd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yno. - Rhagor - Diwrnod gyda James AlisonRhagor- Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017
 10.30–4.30
 Llyfrgell Gladstone, Penarlâg- DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON- Rhaglen y Dydd: - 10.30 am: Croeso, coffi a chofrestru
 11 am: Sesiwn 1
 What does it mean to be taught by Jesus
 in the midst of a world in meltdown?- Cylchoedd Trafod - 12.30 pm: Cinio - 1.30 pm: Sesiwn 2 
 The sceptical mind and Church tradition
 – a personal ...- Cam Wyth yr AARhagor- Parhad gyda’r- Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA - Wynford Ellis Owen,
 Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd- Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw ... - Llyfrau o DdiddordebRhagor- Llyfrau o Ddiddordeb - (Mae croeso calon i’r darllenwyr dynnu sylw – mewn llai na 100 o eiriau, os gwelwch yn dda – at lyfrau sydd wedi’u procio, eu diddanu, neu eu bywiogi, ac a fyddai o ddiddordeb i ddilynwyr Agora. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn llyfrau newydd sbon.) - Y Traethodydd (Rhifyn Tachwedd 2016)
 Gwasg Pantycelyn; £4.00 y rhifyn- Y Golygydd, Dr Densil Morgan, yn trafod gwaith Donald Allchin; Elfed ap ... - Newyddion mis Mehefin 2017Rhagor- Newyddion mis Mehefin - Cyflafan Manceinion a Minya - Ddydd Gwener Mai 26ain daeth y newyddion am ladd grŵp o Gristnogion Coptaidd o Minya yn yr Aifft oedd ar eu ffordd mewn bws i Fynachlog Sant Samiwel, un o’u mannau cysegredig, fel Tŷ Ddewi neu Bantycelyn i ni. - Lladdwyd 29 ac anafwyd 24, gan gynnwys nifer o blant , un yn dair ac un yn bedair oed. Mae’r ffaith i hunan fomwyr ladd dros 50 mewn dwy eglwys yn Alexandria yn yr Aifft ar ... - Holi Derec Llwyd MorganRhagor- Pryderi Llwyd Jones yn sgwrsio gyda - Derec Llwyd Morgan- Llawer o ddiolch am roi amser i sgwrsio â ni, a hynny o fewn ychydig wythnosau erbyn hyn i Steddfod Môn. Er dy fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, nid yw’n syndod deall y byddi hefyd yn traddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru (bnawn Sul, 6 Awst, gyda chymorth côr) – ar Bantycelyn, wrth gwrs. Er mai yn 1981 y cyhoeddwyd dy glasur, Y Diwygiad Mawr, yr wyt wedi bod yn trwytho dy hun yn llenyddiaeth y Methodistiaid ers diwedd y 60au ac wedi cyhoeddi nifer o ... - Pwy yw James Alison?Rhagor- Pwy yw James Alison?- Ganed James Alison yn 1959 i deulu Efengylaidd yn Lloegr. Troes at Eglwys Rufain ym 1977 ac ymunodd ag Urdd Sant Dominic, urdd y pregethwyr, yn 22 oed. Bu’n astudio yn Ne America a’r Unol Daleithiau, ac er 1995 bu’n rhydd o ymrwymiadau academaidd ac eglwysig gan fod yn ddarlithydd rhydd ei hynt. Fe’i hyfforddwyd yn ddiwinydd cyfundrefnol a cheir ei gyfraniad mwyaf sylweddol dan y teitl gogleisiol: The Joy of Being Wrong: Original Sin through Easter Eyes. - Arbenigodd ar ddefnyddio anthrolopeg Rene Girard mewn diwinyddiaeth Gristnogol, a lluniodd yr ... - Teulu’r BydRhagor- Tra roeddem ar ymweliad â’r Tabernacl, Efail Isaf ar gyfer darlithoedd Val Webb, fe sylwodd rhai o garedigion Cristnogaeth 21 ar faner yn rhestru’r elusennau sydd yn cael cefnogaeth yr eglwys, ac yn eu plith y mudiad rhyngwladol SVP (St Vincent de Paul). Holwyd am y cysylltiad, ac am yr ymgyrch i anfon nwyddau hylendid babanod i Irac. Gwahoddwyd un o’r trefnwyr i adrodd yr hanes. - TEULU’R BYD- gan
 Ann Davies- Ymhlith elusennau’r Tabernacl, Efail Isaf eleni mae helpu’r bobl sydd ... - Sul y DrindodRhagor- SUL Y DRINDOD 
 – achos penbleth neu ryfeddod?- gan 
 Enid Morgan- Ar 10 Mehefin, y Sul cyntaf ar ôl y Pentecost (ac eleni’r Sul sy’n dilyn yr Etholiad Cyffredinol ar ddydd Iau, 8fed), y mae, yn ôl traddodiad y flwyddyn eglwysig, yn binacl y flwyddyn. O’r Adfent tan y Sul y Drindod y mae’r darlleniadau yn seiliedig ar hanes bywyd Iesu. Mae’r Suliau ar ... 
