Golygyddol mis Mehefin

Golygyddol

Oes unrhyw un yn newynu am wybod barn olygyddol Agora ar sut i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 9ed o’r mis? Nac oes, siŵr iawn! Ac felly, taw piau hi ar y pwnc – ac efallai y bydd yr erthygl hon yn dal yn werth ei darllen ar ôl yr etholiad. Dyma addo peidio ag ychwanegu at y rhagfarn, y sŵn, y celwydd, y camarwain, a’r casineb. Yn yr hen uniongrededd yr oedd gobaith yn rhinwedd ddiwinyddol – rhinwedd, nid teimlad. Mae ceisio deall sut y mae hynny’n bosibl wrth i batrymau rhinweddau ‘rhyddfrydol’ ddymchwel o’n cwmpas yn siŵr o fod yn ddyletswydd arnom i gyd. Ac o’r fan honno y mae gweddill yr erthygl hon yn deillio. (Bydd hefyd yn bwnc y bydd James Alison yn talu sylw iddo yn ystod ei ymweliad â Christnogaeth21 yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, ar 1 Tachwedd.)

Jean Vanier

Faint o ddarllenwyr Agora, tybed, sy’n gwybod am Jean Vanier a’i waith yn y mudiad L’Arche? Yn fyr, Canadiad Ffrengig ydyw, bellach yn ei nawdegau, oedd â’i fryd, pan oedd yn llanc, ar ‘ddod ymlaen yn y byd’. Enillodd ddoethuriaeth am draethawd academaidd ar waith Aristotlys, a daeth yn swyddog llwyddiannus yn Llu Awyr Canada. Ond yn ddwfn ynddo’i hun yr oedd y Cristion hwn (perthynai i Eglwys Rufain) yn enaid clwyfedig, unig, yn dyheu am sicrwydd ei fod yn wrthrych cariad. Daeth ar draws offeiriad oedd yn byw heb fwlch rhwng ei argyhoeddiadau a’i weithredoedd; dechreuodd ddysgu am enbydrwydd y ffordd yr oedd pobl anabl, yn gorfforol a meddyliol, yn cael eu trin gan gymdeithas a chan drefn feddygol sy’n anelu’n bennaf at wella pobl. Does dim gwella i amryw anableddau. Arswydodd Vanier pan ddarganfu fod cloi pobl o’r golwg i’w rhwystro rhag peri anghysur i bobl ‘normal’ yn drefn gyffredin. Daeth i adnabod dau tra methedig, a dechreuodd ofalu amdanyn nhw a byw gyda nhw mewn tŷ bychan y lwyddodd i’w brynu. Yn y man, daeth eraill yn wirfoddolwyr ac ychwanegwyd hefyd fwy o bobl glwyfedig. Yn eu plith, wrth iddo dderbyn a charu ei bobl, dechreuodd y Jean Vanier clwyfedig dderbyn y cariad yr oedd arno newyn a syched amdano. (Bu i Henri Nouwen, y llenor ar faterion ysbrydol o’r Iseldiroedd, dderbyn iachâd a thrawsnewid tebyg wrth ofalu am lanc diymadferth yn L’Arche yng Nghanada.)

Dros y blynyddoedd fe dyfodd yr ‘arch’ gyntaf fechan honno yn fudiad byd-eang. O Baris i Vancouver, o Lerpwl i’r India, o Aberhonddu i Awstralia, fe dyfodd y mudiad gan ddenu gwŷr a gwragedd i rannu eu bywydau â’r rhai oedd yn amlwg anghenus, bregus a chlwyfadwy.

Rhoddir croeso i bobl o bob ffydd ac argyhoeddiad; mae’r mudiad yn sugno’i nerth o werth cariad ac ymroddiad a’r argyhoeddiad Cristnogol dwfn yng ngwerth pob unigolyn. Pan fydd Cristnogion trefnus eu hargyhoeddiadau yn holi beth y mae pobl yn ei gredu a beth am yr eglwys, dywed Vanier nad ydi’r eglwys o bwys – mae hi wedi brifo gormod o bobl wrth eu cau allan. Beth sydd yn bwysig yw tyfu mewn trugaredd a thosturi.

Mae ethos y cartrefi hyn yn cynnig lle diogel sy’n galluogi pawb i dderbyn eu bod mewn rhyw ffordd yn anghenus, yn fregus ac yn glwyfadwy. Gallant dderbyn, fel Jean Vanier ei hun, fod arnyn nhw syched am gael eu derbyn a’u caru, ac nad yw eu gwerth fel unigolion yn dibynnu ar eu doniau, na’u clyfrwch, na’u hurddas na’u hysgolheictod. Doedd e ddim chwaith yn dibynnu ar yr ‘aberth’ y tybiai rhai, ar y dechrau, oedd yn rhan o’u presenoldeb yn L’Arche. Mae unedau L’Arche wedi tyfu o wreiddyn duwioldeb Catholig dwys ac wedi ffynnu wrth i eraill weld model o gynnwys ac anwylo’r rhai sydd’n wirioneddol yn bobl yr ymylon. Ond nid yw’n bosibl i’r mudiad dderbyn pawb, wrth gwrs. Nid dyma’r ffordd i ddatrys problem. Y pwyslais yw gwneud yr hyn a ellir, a bodloni ar bod yn arwydd o deyrnas nefoedd, yn lefain yn y toes, yn halen y ddaear.

Rwyf wedi edmygu’r dystiolaeth lachar hon i werthoedd teyrnas Dduw ers blynyddoedd lawer. Yna’n ddiweddar deuthum ar draws cyfrol fechan dan y teitl, Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness.*

Stanley Hauerwas

Yn y gyfrol ceir pedair darlith – dwy gan Jean Vanier a dwy gan Stanley Hauerwas, moesegydd o America. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng symlder dwys y naill ac egni deallusol a moesol y llall.

Mae Hauerwas yn llwyr ymwybodol nad yw doniau deallusol yn rhan o dystiolaeth L’Arche, ond bod ei gyfraniad yn rhoi cefnogaeth werthfawr mewn byd sy’n gyson yn methu rhoi gwerth ar y gwan eu meddwl a’u cyrff. Gŵyr yn iawn am y bwlch hwnnw rhwng gair a gweithred, rhwng buchedd a bwriad, rhwng angen a gobaith.

‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

A ninnau mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol, mae’r gyfrol hon yn tystio i’r angen am diriondeb tuag at ein gilydd. Dywed Hauerwas, mewn geiriau plaen: ‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

Ym myd gwleidyddiaeth a’r gwyddorau cymdeithasol ychydig o le a roddir i gyfaddef bod ein bywydau yn rhodd a dderbyniwn oddi wrth ein gilydd.

Vanier yn cyfarfod â’r Pab yn 2014

Dro ar ôl tro mae Vanier yn dychwelyd at ei angen ei hun, a’r profiad o rannu sbri, a doniolwch a dynoldeb cyffredin; mewn pryd blêr o fwyd mae’n gallu mwynhau ei hun a chwerthin a chlywed bonllefau digon aflafar fel mynegiant o ddynoldeb cyffredin. Pwysleisia’r ffordd y mae’r anabl (a’r ymddangosiadol abl) yn ymollwng mewn cwmni eitha diurddas i fwynhau doniolwch ei gilydd. Trwy eu hymddygiad a’u hymarweddiad y mynegir y teimlad: ‘Rwyt ti’n berson arbennig iawn, ac rwy’n hapus iawn i dreulio amser gyda ti.’ Calon L’Arche yw dweud wrth bobl: ‘Rwy’n falch dy fod ti’n bod a’th fod ti yma.’

Mae’r gyfrol yn llawn brawddegau bachog sy’n werth eu cofio – eu rhoi ar sticeri a phosteri i atgoffa’n gilydd o bethau sy’n hawdd eu mygu mewn byd o gystadlu a mynnu ein ffordd a bod yn sicr mai ni sy’n iawn, a bod ein prysurdeb yn brawf o’n pwysigrwydd:

Nid gwneud pethau anghyffredin ac arwrol yw cariad, ond gwneud pethau cyffredin gyda thynerwch.

Dathlu yw dweud ein bod yn hapus gyda’n gilydd.

Ffydd yn Iesu yw ymddiried ein bod yn wrthrych cariad.

O’r gofal tirion y mae pobl yn ei ddangos i’w gilydd bob dydd y crëir cymdeithas.

Mae rheidrwydd arnom i ddangos bod mwy gennym nag eraill – mwy o rym, mwy o gyfoeth, mwy o ddaioni …

Doedd y dyn cyfoethog ddim eisiau cysylltiad â Lasarus oherwydd petai’n cysylltu ag ef, byddai’n rhaid iddo newid.

Rhaid wrth systemau amddiffyn rhag bod pobl yn gweld pwy ydyn ni.

 

 

 

 

 

Y pethau bychain sy’n herio ein hiraeth am fod yn bwysig a dylanwadol. Ond yn L’Arche ceir enghraifft lachar, gyfoes o wneud y pethau bychain. Pan yw Vanier yn mynegi ei safbwynt yn fwy haniaethol, mae’n tanlinellu’r peryglon sy’n llechu yn ein rhagdybiaethau a’n hargyhoeddiadau ni, Gristnogion Cymraeg:

Mae gennym ein hunaniaeth ddiwylliannol, ein hunaniaeth grefyddol – neu ein hunaniaeth anghrefyddol. Pan adawn i’n hunaniaeth genedlaethol neu ethnig ein rheoli, syrthiwn yn fuan i gystadlu/ymryson. I osgoi ymryson all dyfu’n gasineb, rhaid darganfod rhywbeth mwy sylfaenol. Dyna mae Iesu am ei roi i ni – hunaniaeth wedi ei seilio ar eirwiredd.

Y diweddar Jo Cox A.S.

Yr wythnos ar ôl yr etholiad (ar 15–16 Mehefin), bydd pobl ar draws gwledydd Prydain yn nodi blwyddyn gron ers erchylltra llofruddio’r Aelod Seneddol Jo Cox. (Os gwelwch chi rywrai’n gwisgo rhuban bach o gingham coch a gwyn, maen nhw’n tynnu sylw at weithgareddau ‘Dod at ein Gilydd’, sef ffordd y teulu ac ymddiriedolaeth Jo Cox o feithrin gweithgarwch creadigol a chadarnhaol wrth ei chofio. Nid cyfle i fwydo dicter ydyw. Bydd pobl o bob lliw gwleidyddol, o gefndiroedd diwylliannol ac ieithoedd amrywiol, yn dod ynghyd i gynhesu at ein gilydd. Mae meithrin ein dynoldeb cyffredin yn beth teilwng o oblygiadau’r ymgnawdoliad. Bydd Iesu ar yr ymylon yn gwenu. Vanier eto:

Daeth y gair yn gnawd er mwyn dwyn pobl ynghyd, i ddymchwel muriau ofn a chasineb sy’n gwahanu pobl. Dyna weledigaeth yr ymgnawdoliad – dwyn pobl ynghyd.

***************************************************************************

* Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness, Stanley Hauerwas & Jean Vanier, 2008 (ISBN 978-0-8308-3452-5), £9.99

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.