Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

Mae’r erthygl hon yn cynnwys nifer o ddolenni rhyngweithiol, sy’n golygu bod modd dilyn unrhyw ddolen (mewn glas) drwy glicio arni i ymweld â’r ffeil y cyfeirir ati. 

Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

gan
Gethin Rhys

Ar 20 Mai fe ddanfonodd papur newydd y Times ei ohebydd Janice Turner i ‘gymoedd de Cymru’ (yn ôl y pennawd) i fesur tymheredd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yno.

Janice Turner, gohebydd y Times

Tipyn o syndod, wrth ddarllen yr erthygl, oedd deall fod y ‘cymoedd’ yn cynnwys Gorllewin Casnewydd a Gorllewin Caerdydd, yn ogystal â’r Rhondda – a’r cyfan wedi’i ddarlunio gan lun o Ganolfan y Mileniwm!

 

Wrth sôn am ei phrofiadau yn y Rhondda, mae Ms Turner yn adrodd hanes trist gŵr ar ôl i’w wraig gerdded allan arno a mynd â’r car gyda hi. Heb y car fedrai fe ddim cyrraedd ei waith yng Nghaerdydd. Casgliad Ms Turner, felly, yw fod cyhoeddiad Theresa May y byddai tollau Pont Hafren yn cael eu dileu yn sicr o fod yn boblogaidd yn y Rhondda. Mae’n rhaid fod Ms Turner wedi drysu’n llwyr erbyn diwedd ei diwrnod prysur, gan feddwl fod Pont Hafren rhwng y Rhondda a Chaerdydd! Gobeithio iddi ddod o hyd i’w ffordd adref.

Mae’r diffyg crebwyll hwn yn adlewyrchu gwendid affwysol y cyfryngau yng Nghymru.

Trevor Fishlock

Pan oeddwn yn grwt, roedd Trevor Fishlock yn ohebydd llawn amser gyda’r Times yng Nghymru, a byddai wedi cyflwyno i’r papur ddadansoddiadau dyddiol am yr ymgyrch. Erbyn hyn, er bod gennym ein Senedd ein hunain, rhaid i weddill Prydain fodloni ar ddysgu am Gymru trwy gyfrwng anllythrenogrwydd daearyddol pa ohebydd bynnag sy’n digwydd bod ar gael. Un gohebydd llawn amser yn unig sydd yn Senedd Cymru (gyda Golwg). Go brin fod unrhyw Senedd arall yn y byd mor brin o gyfryngau i adrodd amdani.

Gwelwyd hyn gyda marwolaeth drist Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.

Y diweddar Rhodri Morgan

Bu’r cyfryngau sy’n seiliedig yng Nghymru yn sôn am ei hanes, wrth gwrs, ond prin iawn oedd y cyfeiriadau ar y cyfryngau Prydeinig – gwahanol iawn i pan fu farw Martin McGuinness, cyn Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn gynt eleni. Dim ond 0.5% o boblogaeth Cymru sy’n prynu’r Western Mail. Mae ychydig mwy yn darllen y Daily Post – ond nid oes ganddi hithau ohebydd Seneddol bellach, gan gynyddu ymhellach y gagendor rhwng y Senedd a gogledd Cymru.

Nid dim ond Cymru sy’n colli allan oherwydd hyn. Mae Prydain gyfan ar ei cholled. Rwy newydd ymateb ar ran yr eglwysi i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru am ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn, teithwyr a siewmyn. Mae’n fater all fod yn ddadleuol mewn sawl cylch. Edrychwyd dros y ddogfen i mi gan rai sy’n gweithio gyda sipsiwn a theithwyr eraill ar ran eglwysi yng Nghymru a Lloegr, megis Byddin yr Iachawdwriaeth. Eu hymateb oedd mynegi siom o’r ochr orau.

“Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”.

Tra bod y llywodraeth yn Lloegr yn cyfyngu ar hawliau teithwyr i fynnu bod safleoedd ar eu cyfer – er enghraifft, pan yw rhywun yn rhoi’r gorau i deithio oherwydd henaint neu salwch, yn Lloegr maent yn colli’r hawl i ofyn am gael safle o’r fath – mae Senedd Cymru trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Llywodraeth Cymru trwy’r ymgynghoriad newydd hwn yn ehangu eu hawliau, ac yn mynnu yn benodol bod sipsiwn sydd wedi rhoi’r gorau i deithio yn gallu hawlio lle cyfreithlon i osod eu carafán. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gyfyngu ar ymdrechion rhai awdurdodau lleol i’w gwneud hi bron yn amhosibl i sipsiwn dderbyn caniatâd cynllunio am safleoedd newydd. Ys dywedodd un o’m cyd-weithwyr: “Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”. Onid oes gan wledydd eraill Prydain rywbeth i’w ddysgu gan agwedd eangfrydig ein Senedd a’n Llywodraeth ni? Oni fyddai’n beth da i’r cyfryngau sôn am sut mae Cymru yn ceisio cwrdd ag anghenion pobl deithiol yn hytrach na cheisio’u hesgymuno? A glywsoch chi unrhyw beth am hyn cyn heddiw?

Mae yna ddigon o enghreifftiau eraill. Codais gopi o bapur newydd y Blaid Sosialaidd (plaid fechan – yr hen Militant) ar strydoedd Caerdydd. Roedd yn ymgyrchu am adfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA), a ddilëwyd yn Lloegr gan Lywodraeth y Glymblaid. Nid oedd sôn fod y Lwfans yn bodoli o hyd yng Nghymru! Yn yr un modd, yng nghwrs Cytûn, Croeso i Gymru, cawn fod rhai gweinidogion sy’n derbyn galwad i Gymru o dros y ffin yn rhyfeddu o ddarganfod fod cwricwlwm ysgolion eu plant yn wahanol i’r hyn ydyw yn Lloegr, nad oes angen iddynt dalu am bresgripsiwn, a bod pobl o’u cwmpas yn siarad Cymraeg. Nid yw’r cyfryngau yn Lloegr wedi dweud dim am y pethau hyn wrthynt – ac nid yw eu henwadau wedi meddwl gwneud hynny chwaith.

Mae hyn oll yn golygu fod y BBC yn sefydliad eithriadol o bwysig i ni yng Nghymru. Dim ond hwnnw sydd â’r adnoddau o fewn Cymru i gynnig unrhyw fath o wasanaeth cynhwysfawr o ran newyddion a materion cyfoes.

Gan sylweddoli hyn, mae’r eglwysi, trwy Cytûn, wedi bod yn cymryd rhan weithgar yn y broses gyfredol o ailwampio blaenoriaethau’r BBC. Ar ein hawgrym ni, fe ychwanegwyd y gair ‘gwasanaethu’ at ‘ddibenion cyhoeddus’ y BBC – sy’n greiddiol i’w gwaith – i sôn am ‘adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl ranbarthau a gwledydd y DU’. Mae’r BBC yn swyddogol nawr yn gorfod gwasanaethu Cymru.

Rydw i felly wrthi ar hyn o bryd yn llunio ymateb i ddogfen ymgynghori OFCOM ar sut y byddant yn dal y BBC i gyfrif am eu perfformiad yn y maes hwn ac ymhob maes arall. Fy nheimlad yw nad yw’r safonau y mae OFCOM am eu gosod yn gwneud hanner digon.

Er enghraifft, ni fydd raid i BBC Parliament ddangos mwy na 300 awr y flwyddyn o raglenni o Seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd. Hyn o’i gymharu â’r miloedd o oriau yn darlledu trafodaethau di-fflach San Steffan. Bydd raid i deledu BBC1 a BBC2 yn yr Alban ddangos 450 o oriau o raglenni o’r Alban yn flynyddol; 400 awr yng Ngogledd Iwerddon; a dim ond 350 yng Nghymru. Mae’r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd trwy gydol y ddogfen – llai o wasanaeth i Gymru nag i’r cenhedloedd bychain eraill, a llawer iawn llai nag i Loegr. Gwaeth fyth yw mai prin yw’r cyfrifoldeb ar y BBC i wasanaethu Cymru yn ystod darlledu traws-Brydeinig – sef mwyafrif llethol y rhaglenni.

A’r canlyniad? Yn y ddau Etholiad Cyffredinol diwethaf rydym wedi gweld y pleidiau Prydeinig yn manteisio ar anwybodaeth y pleidleiswyr am ba Senedd sy’n gyfrifol am beth. Yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015 fe gipiodd y Ceidwadwyr ambell sedd gydag ymgyrch am ddiffygion y Gwasanaeth Iechyd dan Lywodraeth Cymru, er na allai’r ASau newydd wneud dim am y peth. Yn etholiad eleni, mae Plaid Lafur Cymru yn sôn llawer am lwyddiannau Llywodraeth Cymru – materion na fydd yn cael eu heffeithio gan y bleidlais. Pe bai cyfryngau Prydain yn esbonio natur cyfrifoldebau Cynulliad Cymru, ni fyddai ymgyrchu fel hyn yn bosibl.

Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru.

Nid ar y BBC yn unig mae’r cyfrifoldeb, wrth gwrs. Mae yna ddarlledwyr masnachol, papurau newydd a gwefannau newyddion grymus gan wahanol gyrff newyddion. Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru. Mae ambell un wedi ceisio unioni hyn gyda chyfrifon newyddion ar Twitter (gweler @SeneddTweets, @newsdirectwales, @newyddcymraeg, @YNewyddion ac @AwrWleidyddol) a thudalennau trafod ar Facebook (megis The Welsh Political Discussion Group). Mae i’r rhain eu lle, ond hefyd eu peryglon; gwyddom oll erbyn hyn mai anodd yw gwahaniaethu rhwng newyddion go iawn a newyddion ffug yn y byd rhithiol hwn (er fy mod yn argymell yn ddiffuant y cyfrifon yr wyf wedi cyfeirio atynt fan hyn). Yn bwysicach, efallai, prin fydd y darllenwyr arnynt nad ydynt eisoes yn deall cryn dipyn am wleidyddiaeth Cymru – nid yw pobl yn dilyn cyfrifon am bynciau nad ydynt eisoes yn ymddiddori ynddynt.

Llun:BBC

A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Nid ar adeg etholiad yn unig y mae hyn yn bwysig. Dros y pum mlynedd nesaf fe fydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn brysur yn ein hymddatod oddi wrth gymhlethdodau’r Undeb Ewropeaidd. Er i bleidleiswyr Cymru bleidleisio mewn ffordd debyg i bleidleiswyr Lloegr yn y mater hwn, mae buddiannau Cymru yn wahanol mewn sawl ffordd.

Rydym yn fwy dibynnol ar amaethyddiaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac mae ein ffermwyr ni yn fwy dibynnol ar daliadau Ewropeaidd na ffermwyr unrhyw ranbarth arall. Mae llawer iawn o’n hisadeiledd cludiant ac addysg wedi ei ariannu yn rhannol o Ewrop. Mae’r iaith Gymraeg yn iaith ‘gyd-swyddogol’ yn yr Undeb Ewropeaidd – statws a gollir yn 2019. A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Does dim rhaid bod yn anorac gwleidyddol fel awdur yr erthygl hon i gredu fod y pethau hyn yn bwysig. Ynghanol holl ferw’r blynyddoedd nesaf, pa ddisgwyl i wleidyddion yn Llundain ymboeni am Gymru os nad yw lleisiau o Gymru i’w clywed ar y cyfryngau torfol sy’n eu cyrraedd nhw a’u pleidleiswyr? Fuodd hi erioed mor bwysig i gefnogi’r cyfryngau Cymreig a Chymraeg sydd ar gael, a cheisio ffyrdd o’u hehangu a’u lluosogi. Neu fel arall fe fydd llais Cymru yn parhau yn dawel a’n hunaniaeth yn gwegian.

Mae’r Parchg. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi gyda Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 20 Mai 2017.

YMATEB:

Neges gan Robert Powell:

Erthygl wych a phwysig gan Gethin yn datgelu’r cam gaiff Gymru yn y cyfryngau Prydeinig. Mae’n bryder dwys bod cylchrediad y Western Mail yn crebachu cymaint hefyd.

Ochr-yn-ochr â’r nifer fach o bobl Cymru sy’n darllen y Wasg Gymreig mae’r ffaith bod y mwyafrif ohonynt yn darllen papurach fel y Mail, y Sun a’r Express sy’n bloeddio eu rhagfarnau bob dydd yn erbyn gweithwyr tramor a ffoaduriaid, heb sôn am eilun-addoli Theresa May.

Bu’r tri phapur hyn yn ddylanwadol iawn adeg y refferendwm ar yr UE, a maint y dylanwad hwn heb ei sylweddoli gan lawer.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.