Cam Wyth yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA

Wynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

YR WYTHFED CAM

Paratoi i wneud iawn â’r bobl a niweidiwyd gennym

Mae’r syniad o ‘wneud iawn’ yn beth poblogaidd gan bawb sydd newydd roi heibio’r ddiod (neu beth bynnag fo’r ddibyniaeth) – ond mae’n rhaid paratoi’r ffordd cyn gweithredu. Fel rheol, ‘gwneud iawn’ cyn gynted â phosib yw un o flaenoriaethau pennaf yr adict ar y cychwyn oherwydd ei fod angen ‘tawelu’r dyfroedd’ wedi’i orffennol cythryblus. Ond quick fix fyddai hynny, wrth gwrs, gan wneud iawn am y rhesymau anghywir, sef i leddfu’i deimladau anghyfforddus ef ei hun. Dyna pam bod Cam 8 (y paratoi) a Cham 9 (y gweithredu) mor bell i lawr y rhestr – oherwydd, erbyn hyn, mae ein rhesymau dros ‘wneud iawn’ wedi newid yn gyfan gwbl.

Hyd yn hyn, mae’r Camau wedi canolbwyntio gan fwyaf ar ein hadferiad personol ni ein hunain ac ar adfer ein perthynas â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi. Nawr, gyda Cham 8, down â phobl eraill i mewn i’r broses – pobl y gwnaethom eu niweidio yn ystod ein dibyniaeth, neu yn ystod ein hadferiad, pobl yr oeddem wedi bwriadu eu niweidio a phobl a niweidiwyd gennym drwy ddamwain. Bydd y rhain yn cynnwys pobl nad ydynt bellach, o bosib, yn rhan o’n bywydau, ond hefyd pobl y disgwyliwn fod yn agos atynt am weddill ein hoes.

Yng Ngham 8 y dasg gyntaf yw gwneud rhestr gyflawn o’r holl bobl hyn, gan nodi’n fanwl pa niwed a wnaed i bob un. (Os awn yn ôl at yr hyn a wnaethom yng Ngham 4, fe welwn fod y rhan fwyaf o’r enwau eisoes wedi’u cofnodi; dyna ffynhonnell ein deunydd crai ar gyfer Cam 8.)

Wrth gwrs, mewn rhai achosion ni fedrir dad-wneud y niwed a wnaethom – fe all fod y person wedi marw. Mewn achosion eraill, efallai y byddai ceisio dad-wneud y niwed yn gwneud y sefyllfa’n waeth – er enghraifft, gallai ddifetha priodas os bu anffyddlondeb; gwell cadw draw. Ar y llaw arall, mae’n bosibl nad ni fu’n gyfrifol am y niwed i’r bobl ar ein rhestr; weithiau rydym yn rhy barod i gymryd y bai. Felly, doeth fyddai i ni drafod pwy ddylid ei gynnwys ar y rhestr gyda’n noddwr neu gwnselwr, neu rywun arall profiadol ym maes adferiad.

gonestrwydd, dewrder, a thosturi.

 

 

Er mwyn cyflawni Cam 8 yn effeithiol, bydd angen gonestrwydd, dewrder, a thosturi.

Ar y daith hyd yn hyn rydym eisoes wedi cael peth profiad o’r egwyddor o onestrwydd. Rydym wedi cyfaddef natur ein problem – dibyniaeth – a chadarnhau’r datrysiad i’r broblem honno. Gweithred o onestrwydd oedd honno. Gwnaethom restr drylwyr o’n gwendidau ein hunain; roedd gwneud hynny’n ymestyn y gonestrwydd newydd hwn. Ac roedd darganfod union natur ein camweddau yng nghlytwaith ein personoliaeth gymhleth yn mynd â’n gonestrwydd i lefel ddyfnach fyth. Mae peth profiad gennym, felly, mewn gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gyfrifoldeb i ni a’r hyn y mae eraill o bosib wedi’i wneud. Dyna’r lefel o onestrwydd y mae’n rhaid i ni ei mabwysiadu yng Ngham 8. Rhaid rhoi heibio bob teimlad o ddicter, beio eraill, ymddwyn fel dioddefwyr diniwed, ac unrhyw gyfiawnhad arall am y niwed yr ydym wedi’i achosi i eraill. Yn syml, cynhwyswn eu henwau ar y rhestr – ac yna ymgynghori â’n noddwr neu gwnselwr.

Er mwyn ymarfer yr egwyddor o ddewrder yng Ngham 8, mae’n rhaid i ni roi ein hunain yng ngofal Duw. Fedrwn ni ddim cyfyngu ein rhestr i’r rhai hynny y tybiwn fydd yn ymateb yn gadarnhaol i’n hedifeirwch. Rhaid i ni ymddiried y bydd y Pŵer mwy na ni ein hunain yn ein harfogi gyda’r gwroldeb, y gwyleidd-dra, y cryfder mewnol, neu beth bynnag arall fydd ei angen arnom i dalu’r iawn yn llawn. Hyd yn oed os bydd raid i ni wynebu rhywun yr ydym yn ofnus o’r modd y byddant yn ymateb, neu fod angen i ni dderbyn canlyniadau trosedd yr ydym yn gyfrifol amdani – gyda help y Pŵer hwn, gallwn wynebu’r cyfan.

Erbyn i ni gyrraedd y stad hon yn ein hadferiad mae’r gallu i ddangos tosturi tuag at eraill wedi dod yn bosibilrwydd.

Cyn inni wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â’r Camau blaenorol, yn union fel y gŵr hwnnw sy’n dioddef yn barhaus o’r ddannodd, doeddem ni ddim yn gallu meddwl am neb na dim arall ond am leddfu ein poen ein hunain. Yn waeth fyth, yn llawn hunandosturi, beiem eraill am y boen honno a dal dig yn eu herbyn, weithiau am flynyddoedd. Erbyn hyn, sut bynnag, yn ogystal â’n gweld ein hunain fel bodau dynol cyffredin, dechreuwn weld mai dim ond trio gwneud y gorau y gallant gyda’u dynoldeb y mae pobl eraill hefyd. Gwyddom ein bod yn dioddef weithiau o amheuon ac ansicrwydd ohonom ein hunain, ond felly mae eraill hefyd. Gwyddom fod tuedd ynom i agor ein cegau cyn meddwl, ond felly mae eraill hefyd. Sylweddolwn eu bod yn difaru gwneud hynny lawn cymaint â ni. Gwyddom hefyd ein bod yn dueddol o gamddehongli sefyllfaoedd a gorymateb neu danymateb iddynt. O ganlyniad, pan welwn bobl eraill yn gwneud yr un math o gamgymeriadau, rydym yn deall pam, a theimlwn gydymdeimlad tuag atynt yn hytrach nag anniddigrwydd. Mae ein calonnau yn llenwi wrth i ni sylweddoli ein bod yn rhannu’r un breuddwydion, yr un ofnau, yr un angerdd, a’r un gwendidau â phawb arall.

Ond beth yw ystyr ‘niweidio’ yn y Cam hwn?

Er mwyn i’n rhestr fod yn gyflawn a thrylwyr, mae’n bwysig ein bod yn deall yr amryfal ffyrdd y mae’n bosib niweidio pobl eraill. Mae rhai mathau o niweidio yn amlwg. Mae dwyn arian neu eiddo oddi wrth rywun yn ffordd amlwg o niweidio, fel mae unrhyw gam-drin corfforol neu rywiol.

Yna, mae sefyllfaoedd pan wyddom yn iawn am y niwed a wnaethom ond ein bod yn ansicr ynglŷn â phwy yn union a niweidiwyd. Er enghraifft, fe dwyllon ni yn ystod arholiad yn yr ysgol. Holwn ein hunain, “Pwy gafodd ei niweidio?” – ai’r athro; ein cyd-ddisgyblion; ni ein hunain; y disgyblion a ddaeth ar ein holau ac a orfodwyd i dalu’r pris o ddiffyg ymddiriedaeth yr athro ynddynt oherwydd ein hanonestrwydd ni? Yr ateb, wrth gwrs, yw bod pob un wedi’i niweidio, er yn anuniongyrchol. Dylid eu cynnwys i gyd, felly, yn ein rhestr yng Ngham 8.

Yna, mae’r mathau dyfnach o niwed. Dyma’r rhai mwyaf niweidiol, oherwydd maent yn amharu ar y llefydd mwyaf bregus yn y galon ddynol. Er enghraifft, roedd gennym ffrind unwaith. Roedd y cyfeillgarwch yn un arbennig, yn hen gyfeillgarwch dros flynyddoedd lawer ac yn cwmpasu emosiynau, ymddiriedaeth, a hyd yn oed hunaniaeth bersonol. Roedd y cyfeillgarwch yn golygu llawer i’r ddau ohonom. Yna, heb eglurhad, oherwydd rhyw godi gwrychyn am y peth lleiaf, fe bwdon ni a dod â’r cyfeillgarwch i ben heb unwaith wneud ymdrech i’w adnewyddu. Mae colli ffrind fel hyn yn ddigon poenus ar y gorau, heb y baich ychwanegol o fethu deall pam, ond mae’n niwed y mae llawer ohonom wedi’i achosi i eraill yn ystod ein bywydau. Ffurf arall ar y niwed hwn yw i ni, efallai, adael i rywun arall gymryd y bai dros berthynas yn dod i ben, gan wneud i’r person arall deimlo nad yw’n cael ei garu – ond, mewn gwirionedd, dim ond wedi blino ar y berthynas yr oeddem ac yn rhy ddiog i’w chynnal.

Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwn achosi poen emosiynol dwys i eraill: anwybyddu, diystyru, cymryd mantais, bychanu, ac enwi ychydig yn unig. Efallai i ni ein gosod ein hunain yn well na phobl eraill, yn foesol ac yn ddeallusol; neu efallai i ni wrthod cynigion gan eraill i’n helpu a’n cefnogi.

Mae tuedd ynom hefyd i ganolbwyntio ar y niwed a achoswyd cyn rhoi’r gorau i’n dibyniaeth. Mae’n haws canolbwyntio ar y rheiny; wedi’r cyfan, roeddem dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu beth bynnag oedd yn ein hurtio – roeddem yn bobl wahanol bryd hynny. Ond rydym wedi achosi niwed i eraill yn ystod ein hadferiad hefyd – pa un ai’n fwriadol neu beidio. Mae’r syniad o gynnwys y bobl hyn ar ein rhestr a gorfod gwneud iawn iddynt wyneb yn wyneb maes o law yn achosi peth anesmwythyd i ni, ond eu cynnwys sydd raid. Dyma lle mae dewrder yn dod i mewn – mae’n cymryd gyts i adfer, nid rhywbeth ar gyfer y gwangalon ydyw.

Efallai i chi glywed pobl yn pwysleisio bod gwneud iawn yn golygu mwy na dim ond dweud “Mae’n ddrwg gen i”. Mae’n golygu newid hefyd – newid yn y ffordd y byddwn yn ymddwyn o hyn ymlaen, a newid yn y ffordd y byddwn yn trin y bobl sydd ar ein rhestr o hyn ymlaen.

Ond mae cyrraedd y pwynt o fod yn barod i ‘wneud iawn’ yn gallu bod yn broblem i rai – yn enwedig os ydym yn dal dig dwfn neu, yn waeth, yn casáu’r person arall, fel roeddwn i, er enghraifft, yn casáu fy nghyn-brifathro. Awn ni ddim ar ôl y rhesymau; digon yw dweud na fyddai fy adferiad yn rhoi dim boddhad i mi os na fedrwn faddau iddo mewn rhyw ffordd. Ffon ddeublyg yw casineb – mae’n lladd pob ysbrydolrwydd ac yn sicrhau, yr un pryd, ein bod yn rhoi’r pŵer i benderfynu sut yr ydym yn teimlo a sut yr ydym yn meddwl, yn nwylo person arall, a’r person arall hwnnw, o bosib, yn un y byddwn yn ei gasáu.

Felly, sut fedrwn ni gyrraedd y stad honno lle byddwn yn barod i ystyried maddau? Y cam cyntaf yw newid y teimladau hyn.

Sylwer, gyda llaw, mai rhywbeth yr ydym yn ei roi yw maddeuant, nid rhywbeth i ofyn amdano – ‘for-giving’ yw’r weithred. Ond er hyn, gweithred ‘hunanol’ yn y bôn yw maddeuant. Dyw e ddim yn golygu rhoi gollyngdod (absolution) i’r person arall, ac ni ddylem, chwaith, anghofio am y cam a wnaethpwyd yn ein herbyn. Mae’r dywediad Saesneg ‘forgive and forget’ yn rhywbeth na ddylem ei wneud – efallai fod y person arall yn dal yn fygythiad neu’n wenwyn i ni a dylid gochel rhag iddo ef neu hi wneud cam â ni eilwaith. Ni ddylid anghofio, felly, am y cam a wnaethpwyd yn ein herbyn. Yr hyn mae maddeuant yn ei wneud, sut bynnag, yw ein rhyddhau rhag gadael i rywun arall benderfynu sut y byddwn ni’n teimlo a sut y byddwn ni’n meddwl ac yn ymddwyn.

Dyna ryfeddod mwyaf gweddi; mae weithiau’n gweithio er nad ydych yn credu mewn gweddi ac er nad ydych yn golygu’r un gair o’r hyn yr ydych yn ei weddïo!

Yn fy achos i, gweddi a’m hachubodd, a’m cael i stad o feddwl lle roeddwn yn barod i ystyried maddau i’m cyn-brifathro. Gweddïais y byddai’r prifathro ‘yn derbyn yr un bendithion ag y byddwn i’n eu deisyfu i mi fy hun’ – a dymunais iddo’r gorau ym mhob peth roedd yn ei wneud, ac ym mhle bynnag yr oedd. Gweddïais y weddi hon gan ysgyrnygu am rai nosweithiau. Dyna ryfeddod mwyaf gweddi; mae weithiau’n gweithio er nad ydych yn credu mewn gweddi ac er nad ydych yn golygu’r un gair o’r hyn yr ydych yn ei weddïo!

Ond o dipyn i beth fe wellodd pethau ac, ymhen mis, roedd fy nheimladau tuag ato wedi newid yn gyfan gwbl. Gwelwn ein perthynas mewn goleuni gwahanol, yn un o gamddeall ac yn un o gamddehongli bwriadau ein gilydd. Maddeuais iddo ac yntau i minnau. Dim ond wedi hynny y gallwn i wneud iawn i’r prifathro – fel y byddwn yn gweithredu yng Ngham 9. Er ei fod wedi marw erbyn hynny, mi sgwennais lythyr ato yn ymddiheuro am fy ymddygiad tra oeddwn i yn yr ysgol, ac am fy agwedd tuag ato. Gwnes seremoni fer o losgi’r llythyr yn yr ardd gefn; gweddïais weddi fer – ac roedd y cyfan drosodd a phob malais tuag ato wedi’i ddileu. Rwy’n ei garu heddiw.

Cyn gorffen, carwn bwysleisio mor bwysig yw ein bod yn trafod pob un o’r personau y bwriadwn wneud iawn iddynt gyda’n noddwr neu gwnselwr. Os gweithredwn ar ein pen ein hunain, mae peryg inni gamddehongli sefyllfa. Mae angen i ni weld y sefyllfa yn gliriach ac o safbwynt rhywun arall profiadol. Rydym angen gweledigaeth a chefnogaeth a gobaith rhywun profiadol. Mae’n rhyfeddol sut y gall sgwrs syml gyda rhywun profiadol agor y drws i’r nerth tawel hwnnw sy’n trigo’r tu mewn i bob un ohonom. Pan dynnwn ymaith bob ymyrraeth allanol a datgelu’r craidd solat hwnnw o dangnefedd, gwyleidd-dra, a maddeuant o’n mewn, rydym yn barod ar gyfer Cam 9.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.