
Agora rhif 26 mis Gorffennaf 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled Gethin Rhys
Cyflwyno’r Tra Pharchedig Jeffrey John Enid Morgan
Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur Y Tra Pharchedig Jeffrey John
Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil C21
- Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil C21Rhagor- Cyhoeddi dyddiad a lleoliad Encil Cristnogaeth 21 - Encil Blynyddol C21 
 Sadwrn Medi 22ain 10.00 – 3.30- Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon. - Duw’r Creawdwr 
 yng nghwmni
 Dr Hefin Jones, Y Tad Deiniol,
 Parch Mererid Mair, Lloyd Jones a Gwawr Maelor- Cost £25.00 (i gynnwys cinio) - I gofrestu cysylltwch â Catrin Evans 
 cyn Medi 12ed.
 catrin.evans@phonecoop.coop- 01248 680858  
- Jeffrey Hywel Philip JohnRhagor- Y TRA PHARCHEDIG JEFFREY HYWEL PHILIP JOHN  Rhoddwyd croeso a chymeradwyaeth gynnes i Dr Jeffrey John pan ddaeth i Gapel Salem, Canton, Caerdydd, ar 30 Mehefin i ddarlithio ar y testun: “Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur”. Teg dweud bod cywreinrwydd a gwerthfawrogiad yng nghalonnau’r gynulleidfa. Wrth gyflwyno Dr John, dywedodd Enid Morgan, Cadeirydd newydd Cristnogaeth21, nad oedd wedi’i wahodd oherwydd y stormydd o gyhoeddusrwydd sydd wedi’i oddiweddyd dros y blynyddoedd, nac am iddo ddioddef cam gan Eglwys Loegr a chan yr Eglwys yng Nghymru; a cholled sylweddol fu hynny ... Rhoddwyd croeso a chymeradwyaeth gynnes i Dr Jeffrey John pan ddaeth i Gapel Salem, Canton, Caerdydd, ar 30 Mehefin i ddarlithio ar y testun: “Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur”. Teg dweud bod cywreinrwydd a gwerthfawrogiad yng nghalonnau’r gynulleidfa. Wrth gyflwyno Dr John, dywedodd Enid Morgan, Cadeirydd newydd Cristnogaeth21, nad oedd wedi’i wahodd oherwydd y stormydd o gyhoeddusrwydd sydd wedi’i oddiweddyd dros y blynyddoedd, nac am iddo ddioddef cam gan Eglwys Loegr a chan yr Eglwys yng Nghymru; a cholled sylweddol fu hynny ...
- Gwneud Synnwyr o’r YsgrythurRhagor- Gaf i ddechrau gyda gweddi? - Dyma’r Colect Anglicanaidd ar gyfer Sul y Beibl: - Gwynfydedig Arglwydd, a beraist i’r holl Ysgrythurau Glân gael eu hysgrifennu i’n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd eu gwrando, eu darllen, eu chwilio, ac ymborthi arnynt, fel, trwy ddyfalbarhad, a chymorth dy Air Sanctaidd, y cofleidiwn ac y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen. - …………………………….. - Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur - Bob dydd Sul, yn yr eglwys Anglicanaidd, o leiaf – dw i ddim yn siŵr a ydy’r un peth yn digwydd yn yr eglwysi rhydd – bob dydd Sul, rydyn ni’n eistedd ... 
- Dewisiadau anodd a gwirioneddau caledRhagor- Dewisiadau anodd a gwirioneddau caled - Wrth i mi sgrifennu (ar 17 Mehefin), mae’r trobwll gwleidyddol yng ngwledydd Prydain yn rhyfeddol o beryglus i’r sawl sydd ynddo neu ar ei ymyl. Mae’r SNP am ddyfnhau’r rhwyg cyfansoddiadol â San Steffan; mae Leanne Wood fel petai’n dod i ddiwedd ei harweinyddiaeth, yr un pryd â Carwyn Jones; mae Theresa May yn gamblo £25 biliwn o’n harian ar sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Iechyd a’i dyfodol gwleidyddol hithau. Erbyn i chi ddarllen hyn, fe all y bydd pethau a phobl gwahanol yn y penawdau wrth i ddigwyddiadau garlamu yn eu blaen. - Heb sôn am Brexit! Wrth gwrs, hwnnw sy’n gyfrifol am lawer ... 
