E-fwletin 30 Rhagfyr, 2018

Rhyw loetran wrth y cownter oeddwn i yn disgwyl fy nhro. Roedd gen i lond whilber o nwyddau. Roedd y Nadolig yn nesáu. Fyddwn i ddim wedi prynu’r holl focsys siocled fel arfer na’r domen o dwmbwriach tymhorol, yn ysgewyll a chnau, a phlwm pwdin a datys.

Roedd y cwsmeriaid o’m blaen yn llenwi eu bagiau nes bod y troliau yn gwegian. Gwenai’r ddynes wrth y til a hithau’n gwisgo capan Sion Corn fel arwydd o awydd y cwmni corfforaethol i gydymffurfio â’r ddefod flynyddol a ddaw i rym ddechrau mis Rhagfyr. Trawid y garden ar draws y teclyn talu neu ei gosod yn ei grombil. Canys gwneir mwy o ddefnydd o gardiau talu na chardiau cyfarch erbyn hyn ar drothwy’r ŵyl.

Tra oeddwn yn disgwyl rhown gip o amgylch y sgubor o archfarchnad. Gwelwn wynebau. Unigolion yn bennaf a thipyn o straen a thyndra i’w weld ar eu hwynebau. Dychmygwn eu buchedd. Llawer efallai heb gâr na chydnabod i rannu’r ŵyl. Eraill eisoes mewn dyled oherwydd y wasgfa arnyn nhw i wario. Prin oedd y rhai a darai sgwrs. Doedden ni ddim yn adnabod ein gilydd.

Roedd yna fynd a dod. Teithio i fyny ac i lawr yr esgynnydd. Deuai wynebau newydd i’r golwg rhwng yr aleau. Diflannai eraill. Brasgamai gweision a morynion y cwmni o fan i fan i ddelio â mân argyfyngau. Yn sydyn fe glywais sŵn chwerthin.

Roedd e’n sŵn chwerthin afieithus ac aflywodraethus. Roeddwn i’n glustiau i gyd. O ba le y deuai? Deuai’n nes. Yn sydyn fe’u gwelais a’u clywed ar ben un o’r aleau. Tair rhoces a chrwt mewn gwisgoedd ysgol yn tynnu wrth siaced eu tad yn ei siwt a’i dei ddu yn edrych fel pe bai wedi bod mewn angladd.

Tawent am getyn cyn ail-gydio eto wrth daro yn erbyn ei gilydd a chwerthin nes eu bod yn driflo. Beth oedd wedi’u meddiannu? Doedd bod mewn man cyhoeddus ddim yn tarfu arnyn nhw. Roedden nhw’n ddall a byddar i bawb a phopeth o’u hamgylch. Caent hwyl yn eu byd bach eu hunain. Neu hwyrach eu byd mawr eu hunain.

Daeth fy nhro i ddidoli fy nwyddau. Ond cadwn lygad arnynt a mireiniwn fy nghlustiau i’w clywed. Ni fedrwn beidio â gwenu. Wel, roedd yr afiaith yn cydio. A doedden nhw ddim yn ceisio tynnu sylw eraill. Doedd yna ddim o’r ‘drychwch arnon ni’ o’u cwmpas.

Wrth i minnau daro fy ngharden i grombil y peiriant talu dychmygwn fy mod yng nghanol hysbyseb fawr. Gweddnewidiodd y sgubor fawr. Gwelwn heidiai o angylion yn hedfan o ale i ale, gwŷr yn cydio mewn ffyn ac eraill mewn gwisgoedd llaes drudfawr yn cludo anrhegion a godwyd o’r silffoedd. Yn sydyn gwelwn y rhocesi yn anwylo a chofleidio baban a godwyd o wely o wellt ac yntau hefyd yn ymuno yn y chwerthin. Roedd yno lawenydd.

Euthum allan i’r nos. Roedd y gwynt yn chwyrlio a’r glaw yn pistyllio tu fas. Ond am eiliad gwelais gip o’r gobaith tragwyddol. Roeddwn wedi fy nghynhesu trwof. Byddaf yn ail-fyw’r eiliad bob tro y bwytâf y siocledi.