E-fwletin cyntaf 2019 : 6ed Ionawr.

Mae’r neges hon yn cael ei hysgrifennu ar noswyl Ystwyll sy’n ddiwedd Tymor y Nadolig, y deuddeg diwrnod o Ragfyr 25 i Ionawr 6. Mae’r Ystwyll yn dathlu dyfodiad y Doethion, wedi’r hirdaith, i ddod â’r goleuni i’r cenhedloedd. Yfory, fe fydd llawer o eglwysi Uniongred y Dwyrain yn dathlu eu Nadolig fel eglwysi Uniongred yn Syria, Irac, Groeg, Palesteina a Rwsia. Ar un cyfnod fe fûm yn darllen darn o’r nofel ‘Helena’ gan Evelyn Waugh (1950) pob Ystwyl,l a dyma ddychwelyd at y nofel eleni gan ryfeddu at ei neges dreiddgar a chyfoes i Ystwyll 2019.

Mam yr Ymherawdr Cystennin oedd Helena a ddaeth, fel ei mab, yn ddiweddar i’r Ffydd Gristnogol. Bu ei dylanwad yn drwm ar Gystennin a fu’n gyfrifol am wneud Cristnogaeth yn grefydd yr Ymerodraeth gan greu y crac meidrol yn hanes yr eglwys. Mae Helena, yn Jerwsalem, yn myfyrio ar ddarn o bren a honnir, gan un o’r doethion, a ddaeth o Groes Crist. Mae hynny yn ei harwain i fyfyrio am y doethion. Dyma rydd-gyfieithiad o’i geiriau.

‘Fel minnau, yr oeddech chwithau yn hwyr yn cyrraedd. Roedd y bugeiliaid wedi cyrraedd ymhell o’ch blaen, a’r gwartheg hefyd, ac wedi ymuno â’r côr angylion cyn i chi gychwyn hyd yn oed. Mor araf a beichus oedd eich taith, yn syllu’n hir, gwneud nodiadau, mesuriadau, lleoliadau’r sêr a damcaniaethu. Roeddech yn edrych yn od yn cario’ch holl offer a’ch dogfennau ymchwil a’ch cofnodion manwl …. yn ogystal â chario’r anrhegion drudfawr a’ch dilladau moethus. Ond, ar ôl dod mor agos, be wnaethoch chi ? Aros efo Herod, o bawb! Moesymgrymu, a chreu perthynas amheus a pheryglus rhwng y grymus a dioddefaint y diniwed.

Ond fe gyrhaeddoch ac ni chawsoch eich gwrthod. Hwyr neu beidio, roedd lle i chwithau wrth y preseb. Doedd dim angen eich rhoddion drud chwaith  ond fe’u derbyniwyd yn ddiolchgar oherwydd iddynt gael eu cario yr holl ffordd a’u cyflwyno fel arwydd o ewyllys da a chariad – a’r gostyngeiddrwydd sydd mewn plygu ac addoli.

Chwi yw fy nawddsaint i. Nawddsaint yr hwyr-ddyfodiaid, sydd â thaith faith i’r gwirionedd ac i’r goleuni, y rhai sy’n cael eu drysu gan wybodaeth a llwyddiant, statws a gallu, uchelgais a phrysurdeb. Ni, y rhai sy’n cael ein hunain yn rhan, heb i ni sylweddoli  hynny, o euogrwydd a methiannau ein hoes a thywyllwch ein cyfnod. Ddoethion, gweddiwch drosof a thros fy mab sy’n cario beichiau a chyfrifoldebau mawr. Gobeithio y caiff le i benlinio wrth y preseb. Gweddïwch dros y mawr, dros y dysgedig a’r llwyddiannus a’r rhai sy’n cario awdurdod a dylanwad. Na fyddent iddynt gael eu anghofio pan ddaw y syml, y diniwed, y tawel, y pur o galon, yr addfwyn, y plant, i gael eu derbyn yn Nheyrnas Dduw.’