E-fwletin 23 Rhagfyr, 2018

Gratitude, being nearly the greatest of human duties, is also nearly the most difficult.” Gilbert Keith Chesterton sydd a’r geiriau – a hynny yn ei draethawd, a gyhoeddodd nôl yn Nadolig 1935 o dan y teitl ‘Christmas and Salesmanship’. Rwy’n dipyn o edmygwr o’r hen Chesterton – y bardd, y llenor, yr athronydd, y dramodydd, y newyddiadurwr oedd hefyd yn ddiwinydd lleyg … ‘Tywysog Paradocs’, ac mae cael cyfle i ddarllen – ac ail-ddarllen – ei waith yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn bob tro yn rhoi tipyn o wefr a boddhad i mi. Eleni, mae’r fendith wedi profi’n gymaint fwy; hynny, rwy’n tybio, wrth fod cymylau trychinebus Brexitaidd yn cydgrynhoi yn orchudd du a pheryglus uwch ein pennau. 

Beth yw diolchgarwch, neu ‘gratitude’ Chesterton? O siarad gyda’m ffrindiau ym myd seicoleg, rwy’n deall erbyn hyn bod yna wyddor benodol wedi datblygu ar gyfer dehongli a diffinio’r term … ‘cydnabyddiaeth o fod wedi derbyn rhywbeth o werth oddi wrth eraill’; ‘cyfansawdd o edmygedd a llawenydd’; ac ‘ymdeimlad o ryfeddod, diolch a gwerthfawrogiad o fywyd’. O ran etymoleg, yn Saesneg rhanna ‘gratitude’ yr un gwreiddyn Lladin – gratus – â ‘grace’ … y synhwyriad hwnnw o gefnogaeth anhaeddiannol a roddir yn fwriadol.

Ni wn faint o ddilynwyr ‘Cristnogion21’ sy’n gwrando ar gyflwyniadau TED (‘technology, entertainment, design’); y cysyniad o gyflwyno syniadau mewn sgyrsiau byr, pwerus, apelgar. Nôl yn 2013 rhannodd y Brawd David Steindl-Rast, mynach Benedictaidd, sgwrs TED hynod afaelgar ar ‘ddiolchgarwch’: <https://www.ted.com/talks/david_steindl_rast_want_to_be_happy_be_grateful?language=en> – mae’n werth gwrando arni. Mae Steindl-Rast hefyd yn awdur nifer o lyfrau; yn eu plith ‘Deeper than Words’, ‘The Ground we Share (sy’n ddeialog hynod ddiddorol rhwng yr Eglwys Gatholig a’r Ffydd Fwdhaidd). ’99 Blessings’ a  ‘Gratefulness, the Heart of Prayer’. Yn y llyfr olaf hwn, daw’r awdur i’r canlyniad bod diolchgarwch, nid yn unig o fudd i ni fel dynoliaeth, ond hefyd mai diolchgarwch yw’r unig ymateb rhesymegol i ras Duw.

Meddai’r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.  Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dy Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”’ (Luc 1: 30-33)  Yn ‘Gratefulness, the Heart of Prayer’, cynnig y Brawd David bod ymdeimlad o ddiolchgarwch yn gwneud y galon yn barotach i dderbyn mwy, i werthfawrogi mwy, ac i garu mwy. Mor hollol berthnasol yw hyn i dymor yr Adfent – sydd heddiw, a hithau’n Bedwerydd Sul, yn gyflym ddirwyn i’w derfyn. Gall ailgynnau a chynyddu ein diolchgarwch fod yn gymorth i ni baratoi ein calonnau i dderbyn Crist, y Nadolig, a’n gilydd yn well ac yn llawnach.  Ymorol y broses o ddiolchgarwch am y gorffennol (cofio) a’r cyfredol (ystyried) er mwyn bendithio’n dyfodol; meithrinfa ymddiriedaeth ynghyd a llawenydd. Gallwn, bob yr un ohonom, ymarfer diolchgarwch … ond weithiau, trwy ras Duw, gall diolchgarwch ddod ar ein traws, yn gwbl ddiarwybod. Fe ddaw, yn rhad ac am ddim, fel rhodd. Cofiwn hynny eleni.