GOLYGYDDOL
Dinas Barhaus?
Yr Almaen
Yn yr Almaen mae miloedd o newydd-ddyfodiaid wedi cael croeso – a thipyn o gwyno o’r herwydd. Mae dull trefnus a phwrpasol yr Almaenwyr a doethineb Angela Merkel wedi golygu rhoi llety diogel dros dro i filoedd o bobl tra maent yn penderfynu sut i roi statws cyfreithiol iddyn nhw. Bu’n hynod ddiddorol gwrando ym mis Gorffennaf ar Almaenwyr ymroddedig a hoffus, rhai’n Gristnogion, rhai ddim, yn trafod canlyniadau’r mewnlifiad.
Roedd un Cristion yn siomedig iawn yn ymateb yr eglwysi – eu bod wedi bod yn araf a diweledigaeth. Roedd un arall wedi bod wrthi’n helpu i ddangos i griw o ferched ifanc sut i ddygymod â bod mewn gwlad newydd a pheidio â mynd yn ysglyfaeth i’r rheini a fynnai fanteisio arnyn nhw. Eglurodd fod llety eitha cyfforddus wedi’i drefnu yng nghanol y dref a’u bod wedi dechrau cyfarwyddo â sut mae pethau’n gweithio, a dechrau dysgu Almaeneg. Ond ar ôl cael papurau’n cyfreithloni eu presenoldeb yn yr Almaen yr oedd y cymorth i dalu am lety yn darfod, a byddai’n rhaid iddyn nhw fyw fel Almaenwyr di-waith sy’n byw ar fudd-daliadau. Allan nhw ddim fforddio talu rhent i gael fflat yng nghanol y dref mwyach; rhaid bodloni ar lety digon di-raen mewn rhyw bentrefi cyfagos tlodaidd. Ac maen nhw’n tybio y gall eu ffrind eu helpu. Sut mae egluro y buasai parhau i’w noddi nhw, ond heb wneud fawr ddim dros Almaenwyr ar gyflogau isel, yn peri mwy o drafferthion nag sydd eisoes wedi brigo i’r wyneb?
Mae mewnfudwyr lu yn yr Almaen eisoes, a’u plant yn yr ysgolion. Daeth llu o weithwyr-ymwelwyr yno o Dwrci ar ôl y rhyfel. Roedd rhai o’r rheini’n Gristnogion Syriaidd heb lawer o werthfawrogi arnyn nhw yn Nhwrci Foslemaidd, a thybiaeth yn yr Almaen mai Moslemiaid oedden nhw i gyd. Mae math newydd o Almaeneg yn cael ei siarad yn eu plith a rhai o gymhlethdodau’r iaith ei hun yn cael eu dileu. Mae’r gwahaniaethau der-die-das yn cael eu llyfnu, a rhai o nodweddion cain yr iaith yn siŵr o gael eu herydu. Fe gollodd y Saesneg y fath wahaniaethau ganrifoedd yn ôl, a gwelir yr un broses o newid ieithyddol naturiol yn digwydd ar garlam.
Cofiais innau am Gymraes yn cwyno am newydd-ddyfodiaid yn dod i’w phentref rywdro: ‘Pam ddylen ni newid o’u hachos nhw?’ Mae rhoi croeso i ddieithriaid yn golygu bod pawb yn gorfod newid.
Mynwy
Un o nodweddion hyfrytaf yr Eisteddfod eleni oedd clywed gwirfoddolwyr – yn y meysydd parcio, yn gyrru’r bysys, yn gwerthu bwyd – yn mentro’u Cymraeg newydd yn benderfynol a hyderus. Mae cyflwr y Gymraeg ym Mynwy yn newid er gwell o ganlyniad i waith caled a mentro a chyd-ddyheu a dadlau’r achos a chynnal dosbarthiadau drwy nosweithiau tywyll y gaeaf.
Nid yw’r iaith wedi marw; mae hi’n ymgryfhau – ac wrth gwrs nid yr hen Wenhwyseg fel y mae ar lafar cryf a swynol y Dr Elin Jones fydd hi, ond Cymraeg â thipyn o lediaith arni, iaith debycach i Gymraeg yr ysgolion Cymraeg yn ardaloedd trefol y de a Sir y Fflint. Daw cystrawennau’r Saesneg yn ogystal â’i geirfa i mewn i’r Gymraeg. Newid er gwell – ond newid anghyfforddus i bobl sydd wedi meddwl yn nhermau gwarchod a chadw yn unig.
Rwmania
Un arall o bleserau’r haf oedd cwrdd ag Emilia Ivancu, bardd ac academydd o Rwmania sydd wedi treulio tipyn o amser yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, diolch i’r Comisiwn Ewropeaidd a chynllun Erasmus. Mae iaith Rwmania yn gymysgedd gyfoethog a rhyfeddol sy’n adlewyrchu troeon hanes. Mae’n debyg i Eidaleg; gall Rwmaniad ddeall 80 y cant o’r hyn a ddywedir mewn Eidaleg. Ond nid yw’r Eidalwyr yn gallu deall Rwmaneg am fod gwreiddiau’r iaith ynghlwm wrth y Slafoneg sy’n rhan o’u hetifeddiaeth hynaf – ynghyd â geiriau o’r Roeg a Thwrceg. Mae Cristnogion Uniongred a Chatholig, ar waethaf castiau gwleidyddol, wedi gorfod dysgu byw gyda’i gilydd wrth i bobl o wahanol rannau o Rwmania ei hun, yn ogystal ag o wledydd eraill, lifo ynghyd i ardaloedd diwydiannol. Mewn llif pobloedd a’u diwylliannau, a’u cred, eu straeon, eu profiadau, eu caneuon, a’u hanes y mae ieithoedd yn datblygu, yn addasu, yn newid mewn proses fywiog a bywiol. Soniodd Emilia am lenor disglair o offeiriad a fu yng ngharchar am gyfnod hir yn amser Ceaușescu; llwyddai i ddweud ei offeren a’i rhannu â’r carcharorion eraill drwy guro llythrennau cod Morse ar y pibau cynhesu (nad oedd yn gweithio) fel bod pawb yn y carchar yn gallu clywed. Hanesion felly sy’n etifeddiaeth Cristnogion a fu tu hwnt i’r llen haearn.
’Nôl i’r Eisteddfod

Nos Iau’r Eisteddfod cynhaliodd y Cylch Catholig eu hofferen flynyddol yn eglwys y Fenni. Roedd yn ddathliad dwbl am ei bod hefyd yn nodi can mlynedd ers sefydlu talaith Cymru a Henffordd fel archesgobaeth ar wahân i esgobaeth Birmingham, fel yr oedd cynt. Cymro o Faesteg, y Tad Alan Jones, sy’n Ganon Awstinaidd yn Lloegr, oedd y pregethwr – a’i thema oedd newid. Soniodd am ddod i’r Fenni a chlywed Cymraeg ar y stryd am fod yr Eisteddfod wedi cyrraedd. Soniodd am y newid a ddaeth i’r Eglwys Gatholig Rufeinig wrth iddi gydnabod arbenigrwydd ac arwahanrwydd Cymru gan mlynedd yn ôl.

Esgob Edwin Regan
Araf y mae’r Eglwys Gatholig, a phob cyfundrefn ffurfiol, yn newid, ond aeth yr amser heibio pan na châi Catholigion ddweud Gweddi’r Arglwydd gyda Phrotestaniaid. Dim ond ychydig ddyddiau ynghynt bu i’r Pab Ffransis agor y drws ar drafodaeth ar le gwragedd yn y ddiaconiaeth yn yr eglwys fore – ac fe fydd sgrech o brotest, mae’n siŵr, o rai cyfeiriadau. Roedd amryw o gyfeillion eciwmenaidd yn yr offeren ac yn cynhesu at wyleidd-dra ac anwyldeb yr Esgob Regan wrth iddo ddatgan i’r gynulleidfa eang o’r di-Gymraeg a’r Cymry mai iaith yr offeren yw cariad.
Cynhadledd Cristnogaeth21 – Newid a Thyfu
Rhyw gymysgedd o argraffiadau, felly, yn troi ar y ffaith fod pethau’n newid, beth bynnag wnawn ni, sy’n peri bod thema cynhadledd C21 yn hynod o berthnasol i’n cyflwr fel Cristnogion ac fel Cymry Cymraeg ar hyn o bryd. Yn hytrach na gwahodd siaradwr allanol i wneud argraff arnom a newid dim, teimlad y pwyllgor lleol oedd bod angen llunio rhaglen fyddai’n tynnu pawb i mewn i drafodaeth bwrpasol ynghylch sut i groesawu a chyfeirio newid yn ein cymdeithas ac yn ein heglwysi. Y thema fydd ‘Tyfu a Newid’. Byddwn yn ymrannu’n dri grŵp a bydd tri ‘Ysgogydd’ yn cychwyn trafodaeth ar y thema ac yn procio pawb i gyfrannu eu profiad, eu dyhead, eu hofnau. Y tri fydd Owain Llŷr, Judith Morris a Bethan Wyn Jones. Bydd ymdrech i fod yn gryno ac i lunio blaenoriaethau perthnasol i C21 ac i’r meysydd gwahanol yr ydyn ni’n gweithio ynddyn nhw. Nid gwrthsefyll pob newid sydd raid, ond adnabod a chyfeirio. A’r amcan yw dod at ein gilydd, cryfhau ein hamgyffrediad o sut mae pethau arnom ni fel Cristnogion Cymraeg, i’n calonogi a’n cryfhau i ymroi i’r dyfodol lle y byddwn ni’n hunain yn newid a thyfu.
Dewch â’ch siswrn meddyliol, a mwynhewch ddiwrnod creadigol a chyffrous gyda ni yn y Morlan, Aberystwyth, ar 24 Medi. Rhagor o fanylion YMA

Datblygodd addoli Anghydffurfiol, gydag un weddi hir a phregeth hir, pan oedd gwrando ar un person yn siarad am gyfnod hir yn ddull cyffredin iawn o drosglwyddo gwybodaeth. Erbyn heddiw mae mathau eraill o gyfathrebu, gweledol yn bennaf, yn bodoli. Ond mae iaith ein haddoli wedi aros yn dafodiaith hynafol sydd yn annealladwy i fwyafrif y Cymry Gymraeg. Mae angen ystyried yn ddwys pa fath o iaith a ddefnyddiwn yn ein hoedfaon.
Diwygiedig a Beibl.net wedi unioni’r sefyllfa cystal â phosibl mewn cyfieithiad o lyfr sy’n llawn rhagfarn rywiol yn y gwreiddiol. Gwnaed yr un camgymeriad gyda Caneuon Ffydd. Aeth yr angen i ddarparu deunydd addoli ar gyfer heddiw ar goll mewn ymdrech i gadw geiriau gwreiddiol yr emynau, hyd yn oed pan oedd fersiwn amgen ar gael, neu pan nad oedd angen llawer o newid. Aeth yr awydd i gadw rhai emyn-donau yn drech na’r ystyriaeth o addasrwydd yr emynau. Mae rhai emynau wedi goroesi yn well nag eraill, ond mae delweddau rhai ohonynt wedi heneiddio i’r fath raddfa fel y buasent yn well mewn llyfr o fyfyrdodau gyda nodiadau ar waelod y dudalen.
Mae’r iaith sy’n cyfeirio at Dduw grymus yn peri dryswch. Defnyddir geirfa a oedd, ers talwm, yn dynodi unigolyn pwysig a grymus, megis arglwydd, brenin a thywysog, ond pan roddir yr Arglwydd Iesu ochr yn ochr â Thŷ’r Arglwyddi, Tywysog Tangnefedd wrth ochr Tywysog Cymru, neu Frenin Nef wrth ochr y Frenhines Elizabeth, sylweddolwn nad yw’r naill air na’r llall yn cyfleu yr un peth ag yr oeddent ganrifoedd yn ôl. Mae nifer o ddigwyddiadau’r 20fed ganrif a’r 21ain ganrif wedi peri i rai ofyn a ddylid pwysleisio’r syniad fod Duw yn hollalluog (holl-rymus yn Saesneg) a bod angen gofyn pa fath o allu, neu rym, neu nerth mae Duw yn ei ddefnyddio, neu’n dewis peidio’i ddefnyddio. Mae’r iaith sy’n cyfeirio at Dduw fel rhyw arwr mewn comig neu gartŵn sy’n anelu arf treisgar at elyn i’w orchfygu yn arwain naill ai at anghrediniaeth neu at ddryswch. Mae dysgu plant ‘Mae’n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol, does dim y tu hwnt iddo ef’ yn mynd i gael ei herio cyn gynted ag y mae’r plant yn dod ar draws sefyllfaoedd anodd pan nad yw Duw yn ymyrryd. Mae oedolion yn straffaglu gyda’r un cwestiwn. Mae geiriau sy’n awgrymu y dylai Duw ymyrryd gan orfodi datrys sefyllfa gymhleth yn creu anesmwythdra. Ni wnaeth Iesu erioed orfodi neb i’w ganlyn.


Ymbalfalu rydym am ateb i’r cwestiwn sut i ddal ein gafael ar bethau sy’n bwysig i ni heb gael ein llyncu gan eraill? Sut i ddal gafael mewn ffordd sydd ddim yn arwain at farwolaeth iaith, traddodiad, enwad, cred …
Dwi hefyd yn credu bod yna lawer o bobl wedi eu camarwain a’u twyllo gan elfennau ffasgaidd o fewn ein cymdeithas. A thra bod angen chwilio am yr ateb gwleidyddol i weithredu’r penderfyniad ar Ewrop neu hyd yn oed i’w wyrdroi o, fy mhryder i ydy y bydd pethau dyfnach o lawer yn ffynnu heb i ni sylwi bron. Mae gen i ofn y bydd hiliaeth a rhagfarn yn erbyn pob mathau o garfanau ‘ymylol’ yn mynd yn waeth ac yn waeth tra mae’r agenda wleidyddol a newyddiadurol yn cael ei dominyddu gan gystadlaethau am arweinyddiaeth gwahanol bleidiau, gan etholiadau cyffredinol, refferenda a blynyddoedd o gecru am y setliad Ewropeaidd.
Llwyddodd UKIP a’u tebyg drwy wneud y drafodaeth am bethau hiliol a rhagfarnllyd yn dderbyniol. Er enghraifft, ym mha gyd-destun arall y byddai’n dderbyniol, a hynny ddyddiau ar ôl lladd mam ifanc ac Aelod Seneddol, i awgrymu llacio’r deddfau rheoli gynnau ym Mhrydain? Ym mha hinsawdd arall y byddai pobl yn ymosod ar eu cyd-ddyn yn eiriol am fod o hil wahanol yng Ngheredigion, yn Aberystwyth?

Y broblem gyntaf, wrth gwrs, yw cael pobl i sylweddoli eu hangen am help. Oherwydd mae dibyniaeth yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthych nad oes dim byd yn bod arnoch (un arall yw sgitsoffrenia). Yn y fan yna mae’r broses o adferiad yn dechrau – a dyna pam fod dioddefaint yn rhan allweddol o’r broses. Dioddefaint, o bosib, yw un o’r grymoedd mwyaf creadigol sy’n bod ym myd natur; dioddefaint yn aml iawn yw’r unig beth wnaiff berswadio rhai pobol i newid eu ffyrdd. Ond mwy am hynny’r mis nesaf. Dyma athroniaeth ac ethos Stafell Fyw Caerdydd i ddechrau’n hastudiaeth o’r 12 Cam – camau a fydd, o’u byw i orau eich gallu, yn sicrhau i chi brofiad ysbrydol a chysylltiad ymwybodol parhaus a thrawsnewidiol â’r Dwyfol.
Mae hyn yn tarddu, fel arfer, o blentyndod yr adict gan fod plant sy’n cael eu hamddifadu o gariad, neu sy’n cael eu cosbi am ymddwyn yn ôl eu greddf, yn tyfu i fod yn oedolion ag awydd eithafol i lanw rhyw wagle emosiynol y tu fewn iddyn nhw – a’r angen hwnnw’n cael ei ateb gan gyffuriau, alcohol neu ymddygiadau niweidiol eraill.
Mae dibyniaeth yn twyllo’r adict i feddwl bod cyffuriau neu alcohol yn gymorth i ddelio â throeon bywyd. Ar ôl wythnos galed o waith bydd yn teimlo ei fod yn ‘haeddu’ diod fach er mwyn ymlacio – yn gywir fel petai hynny’n amhosib heb gymorth cemegyn! Y gwir yw bod yr adict, ar ôl straen wythnos brysur, i raddau yn trio ‘dianc’ rhag teimladau annifyr nad yw’n gallu eu rheoli. Efallai y bydd yn gofyn iddo’i hun: “Pam ydw i’n gorfod mynd drwy hyn bob wythnos?” neu “Beth ydw i’n ei wneud â ’mywyd?” Ac yn lle ceisio ateb y cwestiynau, mae’n tawelu ei feddyliau gydag alcohol neu gyffuriau.
Canlyniad hyn yw bod llawer o bobl yn treulio rhan helaeth o’u bywyd mewn ras i ddianc rhagddyn nhw eu hunain. Mae pobl yn cael eu gorfodi i actio bod yn bobl ‘neis’, anhunanol, er bod gyda ni i gyd, mewn gwirionedd, elfen ddigon hunanol yn ein natur. Bodau cymhleth ydyn ni i gyd, wastad yn trio cadw’r cydbwysedd rhwng yr awydd i fod yn garedig a chymwynasgar a’r dynfa tuag at hunan-foddhad a hunan-les. Fel y dywedwyd uchod, rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n llawn materoliaeth a thrachwant, lle mae ariangarwch yn rhinwedd. Ond yr un pryd, disgwylir i bobl esgus eu bod yn anhunanol, yn ‘bobl dda’, a chadw’r elfen dywyll dan glo er mwyn ennill parch a chariad.
Yn y Stafell Fyw mae adferiad yn cael ei weld fel rhywbeth positif. Anogwn adictiaid i wrthsefyll cywilydd ac i roi mynegiant agored i hanes eu hadferiad a’u gobaith. Mae grym cywilydd wedi cadw’r adictiaid yn gaeth i’w dibyniaeth a’u hatal rhag mynegi eu gwir hunaniaeth a’u dymuniad mewn bywyd. Trwy fod yn agored ac yn onest, gan fentro cael eu brifo, mae adictiaid yn gallu ymladd yn erbyn grym cywilydd a siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n dal i ddioddef. O allu cyfleu’r profiad gwerthfawr a sanctaidd hwn, mae’r gylchdaith o ddibyniaeth i adferiad yn dod i’w llawn dro. Mae’n rhoi i’r adictiaid sydd mewn adferiad, ac i’r rhai sy’n dal i ddioddef, y cyfle i fod yn gyflawn – a dyna’r cyflwr y maen nhw wedi bod yn dyheu amdano ar hyd eu hoes.
Mae’n help gwybod am y ffurf bwa enfys cyfan sydd i’n hoes, i ble mae’n anelu ac yn arwain. Bu i Walter Brueggemann, un o’m hoff ysgolheigion ysgrythurol, wneud cysylltiad disglair iawn rhwng datblygiad yr ysgrythurau Hebraeg a datblygiad ein hymwybyddiaeth dynol ni, fel profiad unigol.
