GOLYGYDDOL
Y Dirywiad, eto fyth
Fe ddywedodd Geraint Tudur, ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, ar y radio yn ddiweddar ei bod hi’n ‘unfed awr ar ddeg ar Ymneilltuaeth’. Jogn Gwilym Jones, y cyn-gadeiryddDyna pam mai Eisiau Tyfu – Ofni Newid oedd thema cynhadledd flynyddol C21 yn y Morlan yn Aberystwyth ar 24 Medi.
Nid rhywbeth cyfyngedig i Gymru yw’r dirywiad; mae i’w weld ar draws gorllewin Ewrop, ac mae dyddiau goruchafiaeth ‘Byd Cred’ wedi hen ddarfod.

Andrew Brown (Llun: Linda Nylind)
“That was the Church that was” yw teitl llyfr newydd gan Andrew Brown, colofnydd crefyddol y Guardian, cyfrol sy’n dra llawdrwm ar Eglwys Loegr. Dwn i ddim faint o ymneilltuwyr fyddai’n ymddiddori mewn cyfrol am Eglwys Loegr, ond mae llawer sydd ynddi’n berthnasol i gyfundrefnau ymneilltuaeth ac i sefyllfa reit wahanol yr Eglwys yng Nghymru. Methiant i addasu yw’r broblem, medd Brown, methiant i wynebu’r bwlch cynyddol rhwng meddylfryd y gymdeithas o’n cwmpas a meddylfryd y ceidwadol yn ein cyfundrefn. ‘Mind the gap’ yw’r ymadrodd sy’n seinio yn y cof. Mae yn y gyfrol hefyd ddisgrifiad o’r ffordd y mae cyfalaf Americanaidd yn cefnogi mudiadau ceidwadol, crefyddol er mwyn cynnal yr adain dde wleidyddol. Mae’n cyfeirio’n benodol at Sandy Millar, gynt o Holy Trinity Brompton, lle y datblygwyd y cwrs Alffa.

John Shelby Spong
Mae’r dirywiad yn pwyso ar galonnau pobl C21 fel ar Geraint Tudur. Ond byddai dadansoddiad Geraint Tudur ac arweinwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru o’r rhesymau am y dirywiad a’r llwybr y dylai Cristnogion Cymraeg ei ddilyn yn bur wahanol i ddealltwriaeth pobl C21. Buasai llawer o bobl C21 yn cynhesu at gyfrol yr Esgob Jack Spong yn ei lyfr diweddaraf bywiog a chadarnhaol, Literalism: a Gentile Heresy. Mae hi’n dristwch ac yn siom na fydd Jack Spong yn siarad yng Nghymru, ac yntau wedi ei daro’n wael yn ddiweddar. (Ac mae’n dda clywed ei fod ar wellhad.) Does dim rhaid derbyn holl syniadau Spong ac yr oedd rhai ohonom wedi bwriadu mynd i gael mwy nag un ddarlith ganddo mewn ysgol dri diwrnod ym Mhenarlâg. Mae’n dweud yn ddiflewyn-ar-dafod fod llythrenoldeb (sy’n llawer iawn gwaeth yn America nag yw yn Ewrop) yn ddeallusol ac ysbrydol beryglus, yn gwneud cam â’r efengyl ac yn ei gwneud yn anos cyhoeddi hanfod y newyddion da a gyhoeddodd Iesu. Mae’r gyfrol yn seiliedig ar waith Michael Douglas Goulder ar Efengyl Mathew, ac mae Spong yn talu teyrnged iddo gan dangos yn eglur sut y mae efengyl Mathew wedi ei gogoneddus lunio i gyfateb i wirioneddau mawr y flwyddyn litwrgaidd Iddewig. Does dim angen bod â doethuriaeth mewn diwinyddiaeth i wybod mai Mathew yw’r ‘mwyaf Iddewig’ o’r Efengylau a bod Mathew yn dehongli Iesu fel Moses newydd. Prin ei bod yn ddychryn i neb ystyried bod yr hyn a elwir yn Bregeth ar y Mynydd yn gasgliad o ddywediadau Iesu sy’n cyfateb i ddysgeidiaeth Moses. Ond ymddengys bod cydnabod peth mor syml â hynny yn anodd i lythrenolwyr yn America. Iddyn nhw, rhaid i’r cyd-destun a roddir i’r ddysgeidiaeth fod yn ddigwyddiad hanesyddol. Mae’r gyfrol yn rhodd odidog i unrhyw un sy’n pregethu neu’n dysgu’r ffydd, ac yn agoriad llygad i rai sy ddim wedi astudio’r ysgrythur yn systematig. Eglur, darllenadwy, llawn argyhoeddiad am graidd yr efengyl a’i gallu i drawsnewid bywydau. Nid yn unig mae efengyl Mathew wedi ei llunio i gyfateb i flwyddyn litwrgaidd yr Iddewon wrth fynd o ŵyl i ŵyl, ond dadleuir er enghraifft fod y Bregeth ar y Mynydd wedi ei llunio ar strwythur Salm 119, y salm fawr a ddefnyddid mewn gwylnos o 24 awr ar ŵyl Shavuot, gwyl dathlu’r Torah, y Gyfraith.
Beth sy’n ein cyffroi ni? Mynnu bod y Bregeth ar y Mynydd wedi ei thraddodi ar un achlysur ar fynydd, neu bod yr eglwys fore, drwy grebwyll a chelfyddyd Mathew a’i gymdeithas ffydd, yn gweu cyfoeth o ddysgeidiaeth Iesu sy’n dwyn y gyfraith i’w chyflawniad cyflawn. Mae dehongliadau llythrennol yn godro ystyr o’r testun yn hytrach na chloddio am gyfoeth. Mae’n wastraff amser amddiffyn pethau dibwys.
Bôn-docio
Pan soniodd Bethan Wyn Jones am fynd ar ôl y delwedd o fôn-docio, fe apeliodd yn syth at y rhwystredigaeth sydd yng nghalonnau cymaint ohonom wrth orfod gofalu am adeiladau a rhaglenni enwadol. Dyna braf fyddai cael dechrau eto, mynd ’nôl i’r gwraidd! A dyna a wnaeth hi drwy restru gorchmynion Iesu fel hanfod unrhyw ail ddarganfod byw yn ôl amcanion y Deyrnas. Roedd awgrym Judith Morris o’r her o anghofio’r hiraeth am ddylanwad a dysgu sut i fyw fel lleiafrif yn ein cymdeithas gyfoes yn taro’r un tant.
Aeth Owain Llŷr Evans â ni drwy gyfres o straeon clasurol i’n rhybuddio rhag peryglon crefydda a defnyddio’r ffydd i docio pobl i siâp dderbyniol, eu colbio, eu rhwygo, eu cicio allan ac ymladd gyda nhw.

Bethan Wyn Jones, Owain Llŷr Evans a Judith Morris
Bydd y cyfoeth sylwadau a’r ymatebion gan y tri grŵp yn destun ystyriaeth gan Bwyllgor C21 yn y flwyddyn nesaf. Byddwn yn ystyried y cwbl yn nhermau beth allwn ni ei gyfrannu i fywyd Cristnogion Cymraeg eu hiaith yng Nghymru heddiw; sut y gallwn ganolbwyntio ar ufuddhau i orchmynion Iesu, sut i fod gyda’n gilydd mewn ffordd sy’n deilwng o’r Deyrnas y cyhoeddodd Iesu ei bod yn dod, ynom a rhyngom.
Dr Barry Morgan
Bu araith olaf y Dr Barry Morgan i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn gryf a phwrpasol, gan bwysleisio’r un angen i astudio ac ymgodymu â’r testunau yn y Beibl. Bu pob diwygiad a thwf yn yr Eglwys â’i wraidd mewn ysbrydoliaeth o’r ysgrythurau – weithiau’n ddoeth, weithiau’n gam ac weithiau’n ddwl.
Mae cyfrol Wil Aaron, Poeri i Lygad yr Eliffant, sef hanes y Cymry a droes at Formoniaeth ac a aeth ar anturiaeth o obaith am fywyd helaethach i’r Amerig yn ddifyr, yn ddoniol ac yn ddwys.
Mae’n dangos mor ddwl yw dewis patrymau Beiblaidd fel pe baent i gyd yn berthnasol i ni. Ac nid yw’r Cristnogion ‘uniongred’ yn dod allan o’r stori’n hyfryd iawn chwaith – mae iaith y feirniadaeth arnynt yn gas, yn frwnt a thra ymosodol.
Yr Eliffant oedd delwedd y Mormoniaid am berygl ac ofn a dychryn. Rhaid oedd poeri yn ei lygad i’w orchfygu. Does yna ddim rheswm pam na allwn fenthyca’r ddelwedd i’n sefyllfa ninnau wrth wynebu ofn difodiant y ffydd yn y Gymru Gymraeg. A does dim pwynt mewn beio pobl eraill, ond byw ein galwedigaeth mewn gwyleidd-dra a chariad. Poerwn ninnau hefyd i lygad yr Eliffant!



Mae’r prosiect dadleuol ‘Rethinking hell’ yn adlewyrchu’r ffaith fod nifer o efengylwyr yn holi a yw’r darlun y maent hwy wedi ei roi o uffern fel lle o ‘gosb dragwyddol’, yn adlewyrchu yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am Dduw. Yn ogystal â hynny y mae’r prosiect yn holi a yw bygwth uffern yn nhermau cenhadaeth yn pellhau pobl yn hytrach na’u denu at yr Efengyl. “When Scripture is clear, we can celebrate it. When it is ambiguous, we can explore and debate about it, not dogmatise


Fe lansiwyd papur newydd wythnosol The New European, sy’n llawn o ddarogan gwae a gofid bob wythnos – er ei fod hefyd yn ffynhonnell ddiddorol iawn o newyddion am Ewrop nad oes modd eu cael yn Saesneg mewn unrhyw bapur arall.
Mewn trafodaeth hynod ddiddorol ym Mhwyllgor Ewrop a Materion Allanol Senedd yr Alban ddiwedd Gorffennaf fe dynnodd llefarydd diwydiant pysgota’r Alban sylw at y ffaith fod ei aelodau ef yn edrych ymlaen yn fawr at weld rheoli meysydd pysgota’r Alban er lles y diwydiant pysgota cynhenid, a ddioddefodd yn ofnadwy yn sgil hawl gwledydd eraill Ewrop i or-bysgota’r dyfroedd. Roedd yn eistedd yng nghwmni cynrychiolwyr diwydiannau eraill oedd o hyd yn bryderus iawn am y dyfodol, a bu’r llefarydd yn reit betrus wrth gyflwyno’i safbwynt. Nid yw’r sawl sy’n dweud mewn angladd “Efallai fod hyn yn beth da” yn dueddol o fod yn boblogaidd!
Elfen arall o’r gofid sy’n llethu rhai yw’r gred y bydd y broses o ddatgysylltu cyfraith Cymru a Phrydain oddi wrth gyfraith Ewrop yn rhy gymhleth. Yn rhyfedd iawn, fe ddefnyddiwyd yr un ddadl gan rai o wrthwynebwyr y Gymuned Ewropeaidd (fel yr oedd hi) cyn i ni ymuno. Roedd y Blaid Lafur ar y pryd yn wrthwynebus i ymuno â’r sefydliadau Ewropeaidd, ac fe ddywedodd Michael Foot wrth Gynhadledd y Blaid ym 1972 y byddai cymhlethdod cymathu cyfraith Prydain â chyfraith Ewrop mor fawr fel y byddai modd iddynt herio a gohirio’r broses am flynyddoedd maith. Yn y diwedd, lluniodd Llywodraeth Edward Heath 

Roedd yn amlwg iddyn nhw nad oedd darnau o’r llyfrau hyn yn ‘Air Duw’ ac felly fe’u neilltuwyd gan gau allan ddarnau eraill sy’n allweddol i fedru deall Paul. Cryfhaodd hyn y duedd i feddwl am weddill yr Ysgrythur fel rhywbeth ‘anffaeledig’. Mynnwch gopi o’r Beibl cyfan!)
Ond dyma bechodau y mae’r Iddewon yn eitha cyfarwydd â nhw! Dyma bechodau y gall Iddewon gonest eu hadnabod yn eu cylchoedd. Dyma nhw felly dan farn Duw! Yn adnod 32 mae’n eglur fod pawb dan gondemniad. Gyda’r Iddewon a’r Groegiaid, y naill ochr a’r llall, erbyn hyn yn gwrido, dywed Paul yn Rhufeiniaid 2:1:


Y rhwystr pennaf rhag i hyn ddigwydd yw’r ffaith fod dibyniaeth (addiction) yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthym nad oes dim byd yn bod arnon ni. Mae pawb arall yn gallu gweld fod gennym broblem – pawb ond ni’n hunain. Math ar wallgofrwydd yw hyn: yr anallu i lawn amgyffred ein gwir gyflwr. (Sgitsoffrenia yw’r cyflwr arall sy’n celu’r gwir amdano’i hun oddi wrth y dioddefwr.) Yn Cam 1 felly, ein gwaith yw datgelu i’r dioddefwr, yn raddol, y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, ac yna ei adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiad niweidiol arall) wedi achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.
Mae grym anghyffredin mewn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth. Cyfaddefwn na fedrwn roi’r gorau i yfed ein hunain a’n bod yn fodlon derbyn help o ba gyfeiriad bynnag y daw. Dyna pryd mae gras Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef yn cael gofod i ddechrau gweithredu’n drawsnewidiol arnom. Pan ydym ar ein gwannaf, felly, ac yn fodlon derbyn yr annerbyniol – yn baradocsaidd – rydym ar ein cryfaf.
Dewch gyda mi felly ar y daith fwyaf anturus, ddadlennol a chynhyrfus sy’n bod – y daith tuag at hunanadnabyddiaeth lawn, tuag at gyflawnder, a thuag at undod gwynfydedig â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef. Taith sy’n dechrau drwy dderbyn fod ‘crac’ ynom i gyd – ein bod ni i gyd, yn ddiwahân, yn berffaith amherffaith, a bod Duw yn ein caru ni er gwaethaf ond oherwydd hynny.


Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf




Mae ’na broses arall mae dyn wedi ei defnyddio, sef y broses o brysgoedio neu fôn–dorri coed. Er mwyn cael digon o bren at eu defnydd, roedden nhw’n arfer bôn-dorri coeden ac roedd hyn yn digwydd fel arfer hefo coed gwern a choed cyll. Y dull oedd fod ’na griw o ddynion oedd yn symud o goedlan i goedlan mewn cylch o ryw 10 i 12 mlynedd yn torri’r coed yn y bôn er mwyn annog tyfiant newydd.