NEWYDDION AGORA

Newyddion Agora

Pwyllgor Gwaith Cristnogaeth 21

O ganlyniad i’r cyfarfod busnes  a gynhaliwyd ar ddiwedd y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth eleni, bu rhai newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgor Gwaith.

Tecs

Tecwyn Ifan, Cadeirydd C21

Wrth i’w dymor fel cadeirydd ddirwyn i ben, diolchwyd i John Gwilym am ei gadeiryddiaeth sydd wedi bod yn llawn hiwmor a  doethineb.

Croesawyd Tecwyn Ifan fel cadeirydd newydd, a derbyniwyd nifer o aelodau ychwanegol i’r pwyllgor.

 Dyma ffurf y pwyllgor newydd:

 
Aelodau Pwyllgor Cristnogaeth 21:
Llywydd Anrhydeddus: Vivian Jones
 Cadeirydd: Tecwyn Ifan
 Is-gadeirydd: Enid Morgan
 Ysgrifennydd: Pryderi Llwyd Jones (dros dro)
 Trysorydd: Allan Pickard
Trefnydd Facebook: Geraint Rees
 Golygydd Cynnwys y Wefan: Emlyn Davies
 Aelodau Eraill: John Gwilym Jones, D. Eirian Rees, Marian Beech-Hughes, Dyfrig Rees,
Anna Jane Evans, Geraint Huws, Gareth Ioan, Cen Llwyd.
Golygydd Agora: Enid Morgan a'r Bwrdd Golygyddol

Amen.

Daeth wyth o arweinwyr crefyddol – Cristnogol, Iddewig a Mwslemaidd – at ei gilydd i un ystafell am saith diwrnod yn Jeriwsalem ddiwedd Medi, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth Shimon Peres.  “Heddiw,” meddai Raba Tamar Elad-Abblebaum,  “yr ydym yn gwneud rhywbeth dewr iawn nad yw wedi digwydd erioed o’r blaen.” Nid yn unig yr oedd yno wyth arweinydd (o wahanol draddodiadau o fewn eu crefydd) ond yr oedd nifer o aelodau o’u cynulleidfaoedd hefyd.

amen

Yr oedd y pwyslais yn gyfangwbwl ar fyfyrio a gweddïo, gyda’r arweinwyr yn cyflwyno amser o weddi yn eu tro ac yn eu traddodiad eu hunain a phawb yn ymuno. Yr oeddynt yn cyfarfod mewn ystafell yn yr Ysgol Gerdd, oedd yn wynebu Silwan, cymdogaeth dlawd iawn o Balestiniaid. “Mae hyn yn risg fawr ac yn gam mawr,”  meddai datganaid, “nid gweithred wleidyddol yw hon, oherwydd mae crefydd yn fwy nag ideoleg. Yr ydym yn ail-gynllunio realiti ac yn ei wneud drwy weddi.” Galwyd y digwyddiad hanesyddol yn ‘Amen’.

Amen Corbyn.

Gwahoddwyd Jeremy Corbyn, sydd yn anffyddiwr, ond yn gefnogol iawn i waith yr eglwysi, i wasanaeth yn Eglwys St. James, y Sul yr oedd Cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl. Yr oedd yn dyheu, meddai,  am weld ei blaid yn dangos yr un parodrwydd i gyd weithio, beth bynnag y gwahaniaethau, fel y mae crefyddwyr yn barod i wneud. Cyfeirio yr oedd at y ffaith fod arweinwyr crefyddol aml-ffydd yn barod i gyfarfod a thrafod y problemau sy’n wynebu cymaint o gymunedau, yn arbennig yn y dinasoedd. Y mae hynny wedi digwydd yn Islington, etholaeth Corbyn. Fel yr ‘Amen’ yn Jeriwsalem.

Adroddiad arall!

Ond y tro hwn (gan Public Religion Research Institute America, Medi 2016 ) yn arbennig ym mysg y rhai sydd wedi troi cefn ar grefydd eglwysig – y rhai sydd bellach yn cael eu categoreiddio fel ‘dim crefydd’. Mae’r ‘dim crefydd’ erbyn hyn yn 25% o boblogaeth America. Yn ôl yr adroddiad nid ydynt yn ddi-grefydd am iddynt gael profiad negyddol o grefydd (fel llawer yn y gorffennol) ond oherwydd, yn syml, y maent wedi ‘peidio neu stopio credu’  Mwy arwyddocaol fyth (yn arbennig oherwydd ein darlun o America fel gwlad grefyddol) yw’r ffaith  mai’r 25% di-grefydd (y ‘nones’ yn yr adroddiad) yw’r mwyafrif, oherwydd 21% o boblogaeth UDA sy’n Gatholigion ac 16% yn Efengylwyr gwyn. Teitl yr adroddiad ywExodus: Why Americans are Leaving Religion — and Why They Are Unlikely to Come Back.Cwestiwn nad yw’n cael ei drafod yn yr adroddiad yw : Peidio credu – ond credu mewn beth?‘.

Nid ‘Amen’ ond Ail feddwl Uffern’!

Mae rhai diwinyddion ac arweinwyr Efengylaidd yn cynnal y drydedd Gynhadledd ar Ail feddwl Uffern yn Eglwys Rhyngwladol Highgate, Llundain y penwythnos nesaf Hydref 7-9 . Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Anfarwoldeb amodol’ (Conditional Immortality)  gyda chyfraniadau gan rhai fel Roger Forster a David Instone-Brewer. rething-hellMae’r prosiect dadleuol ‘Rethinking hell’ yn adlewyrchu’r ffaith fod nifer o efengylwyr yn holi a yw’r darlun y maent hwy wedi ei roi o uffern fel lle o ‘gosb dragwyddol’, yn adlewyrchu yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am Dduw. Yn ogystal â hynny y mae’r prosiect yn holi a yw bygwth uffern yn nhermau cenhadaeth yn pellhau pobl yn hytrach na’u denu at yr Efengyl. “When Scripture is clear, we can celebrate it. When it is ambiguous, we can explore and debate about it, not dogmatise and divide over it . (David Instone-Brewer)

 Cynhadledd Cynnal

Cynhelir cynhadledd arloesol i weinidogion ac aelodau o’r holl enwadau yng Nghymru ar ddydd Mercher 26ain HYDREF 2016 yn YSTAFELL COTHI yng Ngholeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.  Bydd y gynhadledd, Yr angen i ddianc rhag yr hunan, yn rhad ac am ddim a sicrhawyd siaradwyr hynod ac amrywiol o wahanol enwadau Cristnogol yng Nghymru gan gynnwys Elfed Ap Nefydd Roberts, John Stevenson, Wyn Evans, Denzil I John, Aled Jones Williams, Karen Owen, Sean Loughlin, Catrin Williams, Aled Edwards ac R Alun Evans.

Y materion dan sylw fydd yr elfennau hynny sy’n adlewyrchu ochr ddu’r enaid:

  • UNIGRWYDD LLETHOL
  • ANOBAITH
  • GWACTER YSTYR
  • AC YMDDYGIAD MEGIS RHAGFARNAU HILIOL, CASINEB A DIFFYG GODDEFGARWCH

 Bydd y Gynhadledd yn ystyried Y SIALENS I’R EGLWYSI gyda chwestiynau megis:

  • Ai bendith yw hyn a chyfle i’r eglwysi gynnig cariad, cymod a maddeuant i oes sydd wedi troi cefn ar grefydd?
  • A yw’n gyfle i’r eglwysi ymateb i rai sy’n chwilio am ateb i broblem ysbrydol?
  • Sut all yr eglwysi gyflawni hyn yn ymarferol?

cynnalDywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd a threfnydd y gynhadledd, “Mae rhain yn nodweddion o dlodi ysbrydol a bydd y Gynhadledd yn codi’r cwestiwn a oes angen i’r eglwys ystyried sut mae cynnig gwellhad i’r cyflyrau hyn a rhoi arweiniad. Mae dibyniaeth, yn ei amryfal ffyrdd, yn ateb rhy barod a thwyllodrus i’r tlodi ysbrydol hwn.

“Rwy’n credu mai dyma un o wersi mawr bywyd ‘rydym eto i’w dysgu. Drwy beidio â chofleidio a derbyn ochr ddu ein heneidiau – ‘rydym yn barnu rhai agweddau o’n hunain i fod yn ddrwg ac yn bechadurus, yn hytrach na’u derbyn fel rhan o’r natur ddynol a’u cymodi â ni ein hunain – arfogwn hwynt â grym negyddol sydd yn cryfhau eu pŵer drosom.”’

Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, “Mae’n llawer rhy hawdd yn ein byd prysur ni heddiw i ddianc rhag yr hunan. Symudwn o dasg i dasg, o weithgarwch i weithgarwch, ar awto beilot ac rydym mewn peryg o gysgu-cerdded ein ffordd i’r bedd. Rhybuddiodd Crist y byddwn yn byw mewn tlodi os nad ydym yn adnabod ein hunain. Mae’r gynhadledd yn trafod y tlodi hwn ac yn ein herio bob un i eistedd gyda’r hunan.”

Bydd y Gynhadledd yn rhoi cyfle i wrando, trafod, cwestiynu ac anghydweld am yr angen  i ddianc rhag yr hunan

Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynychu gysylltu â Stafell Fyw Caerdydd ar 029 2049 3895 i gofrestru neu e bostiwch carol.hardy@cais.org.uk     Darperir bwffe. 

Cristnogaeth21
Cylch y Morlan, Aberystwyth

Tymor Hydref 2016
Bob nos Fercher, 2 Tachwedd – 7 Rhagfyr,
7.30 pm

ADDOLI – PAM A SUT?

Beth ydyn ni’n chwilio amdano mewn gwasanaeth cyhoeddus?
Beth yw ystyr ‘cael bendith’? Ydyn ni’n disgwyl ei gael?

Yng ngoleuni ein profiadau personol fe fyddwn, dros gyfnod o 6 wythnos, yn ystyried yr angen am drefn a phatrwm: am ystwythder a defod: dysgu a rhyfeddu; gweddi a meddwl: cerdd a llygad; gair a llun: Beibl ac emyn: rhydd a chaeth: defodol – arweiniad yr ysbryd: pregeth – trafod: beiblaidd-athronyddol.

Fe ystyriwn ein gwahanol draddodiadau, y gwahaniaeth rhwng defosiwn personol, cylch gweddi bychan preifat, addoli mewn lle cyhoeddus, a’r peth prin hwnnw, y gynulleidfa fawr!

Awn ati i arbrofi a llunio patrymau a sgriptiau ar gyfer gwahanol wasanaethau ac, ar ddiwedd y cwrs, eu defnyddio.

YMUNWCH Â NI I DORRI TIR NEWYDD

Tymor y Gwanwyn 2017

Bob nos Fercher, 18 Ionawr – 22 Chwefror

                   BYW I BWRPAS – Pynciau ein Cyfnod                             
Pontio Llais yr Oes a Llais y Beibl
Chwe chyfarfod yn edrych ar:
Tlodi a Chyfoeth
Rhywioldeb – o’r macho i’r mamol
Teuluoedd – partneriaid a phriodas
Beth yw cynhwysol?
Democratiaeth: rhydd i bob barn ei llafar?
Gwirionedd a Chelwydd: oes gwerth i ufudd-dod heddi?

DEWCH I RANNU AC YSTWYTHO’R MEDDWL