Archifau Categori: Agora 6

Peidiwch Gorwedd i Lawr

EISIAU TYFU – OFNI NEWID

Cyflwyniad Owain Llŷr Evans

 I fynd i’r afael â’r thema, mae gen i bum person yn gwmni i mi.

owain-llyr

Owain Llŷr Evans

 

Nid y cwmni delfrydol, gan mai llofruddion ydynt. Felly, er mwyn ysgogi trafodaeth, byddwn yng nghwmni Procrustes, Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Perthyn y pump i fyd mytholeg Roegaidd; a Theseus fu’n ddiwedd i’r pump. Felly – ymddiheuriadau – nid pump ond chwe llofrudd!

 

Hoffwn ddechrau gyda’r mwyaf dyfeisgar o’r pump: Procrustes. Cadw ‘Gwely a Brecwast’ ydoedd yn Corydalus, Attica, ond roedd y pwyslais ganddo ar y ‘Gwely’ nid y ‘Brecwast’.

Roedd gan Procrustes wely arbennig iawn. Mynnai fod ei wely’n gwbl berffaith i bawb. I wneud yn siŵr o hynny, pe baech chi’n fyr, buasai Procrustes, yn llythrennol i chi cael deall (rhaffau ac eingionau! Dychmyged pawb drosto’i hun!), yn eich tynnu chi nes bod y gwely perffaith yn berffaith i chi. Pe baech chi’n dal, buasai Procrustes yn torri darnau ohonoch i ffwrdd, er mwyn i chi ffitio’r gwely perffaith yn berffaith. Dyna pam doedd dim llawer o fynd ar y brecwast – doedd neb yn mynd i’r un man wedi gorwedd yng ngwely Procrustes!

TYFU? NEWID? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag troi ein crefydd yn wely Procrustes; temtasiwn parod y crefyddol ohonom, ym mhob oes a diwylliant, yw tocio cariad Duw hyd nes i’r cariad anferthol hwnnw ffitio i wely bychan ein crefydda. Gan i ni ildio mor fodlon a chyson i’r demtasiwn honno, mae llawer gormod o bobl, plant Duw bob un, nad ydyn nhw’n ffitio, am ba reswm bynnag, yn cael eu tynnu neu eu torri’n ddarnau.

Lladdwyd Procrustes gan Theseus: ac yntau heb ben bellach ar ei ysgwyddau, roedd Procrustes yn ffitio’i wely perffaith yn berffaith.

prosec

Periphetes

Ymlaen at Periphetes. Cwlffyn mawr o ddyn a chanddo bastwn efydd. Nid soffistigedig mo Periphetes: buasai hwn yn dod i gwrdd â chi ar y ffordd, a’ch colbio chi â’i bastwn!

NEWID a THYFU? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag troi ein crefydd yn bastwn Periphetes. Nid pastwn mo ffydd.

Nid oes synnwyr mewn colbio pobl â’n hargyhoeddiad fod Duw yn eu caru! Llafn bychan yw ffydd. Fe dyr yn lân a manwl. Pan fydd clais y pastwn wedi diflannu, erys craith y llafn awchlym.

Lladdwyd Periphetes gan Theseus. Colbiwyd y colbiwr â’i bastwn ei hun! … Bydd pawb sy’n cymryd y pastwn yn marw trwy’r pastwn (Mathew 26:52, addasiad).

Sinis. Buasai Sinis yn plygu – ac wedyn yn cydio – dwy goeden ifanc gyfagos i’r llawr; at y naill goeden buasai’n clymu eich braich a’ch coes chwith, ac at y llall, eich braich a’ch coes dde. Wedyn … gollwng y coed, ac wrth iddynt chwipio ’ nôl i’w lle, buasai hanner ohonoch yn mynd gyda’r naill goeden, a’r hanner arall gyda’r llall.

TYFU? NEWID? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag cael ein hollti’n ddau. Mae ein crefydda’n methu am ein bod ni’n mynnu rhannu bywyd yn barhaus yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin. Nid cylch ar wahân ym mywyd person yw crefydd, ond yn hytrach cylch sy’n cynnwys y cyfan o fywyd person. Gweddïwn bob dydd am ein bara beunyddiol (Mathew 6:11). Wrth ystyried bara, sylweddolwn mai cwbl amhosibl yw tynnu llinell bendant rhwng y cysegredig a’r cyffredin, corff ac enaid, materol ac ysbrydol: bara i mi fy hun – problem faterol; bara i eraill – problem ysbrydol.

Lladdwyd Sinis gan Theseus. Holltwyd yr holltwr rhwng dwy goeden! Â’n ffydd wedi’i hollti, fe â ein crefydda rhwng y cŵn a’r brain!

Sciron. Buasai Sciron yn falch o’ch derbyn i’w aelwyd foethus ar ymyl clogwyn, gan estyn croeso i chi aros a mwynhau’r golygfeydd hyfryd o’r môr, a hynny heb ofyn unrhyw dâl, ond … buasai’n falch iawn baech chi’n fodlon golchi ei draed. Wrth i chi wneud hynny, buasai Sciron yn eich cicio chi dros ymyl y clogwyn, a chithau’n syrthio i’r dŵr i gael eich llarpio gan grwban anferthol.

NEWID a THYFU? Gwyliwn felly rhag y demtasiwn barod i gicio rhyw bethau dros y clogwyn i’r dyfnder. Cymaint haws fuasai credu heb y cwestiynau lletchwith hynny sydd wedi blino pobl ffydd o’r dechrau’n deg. Ciciwch nhw dros yr ymyl. Boed i’r crwban eu treulio. Cymaint haws fuasai credu pe bai pawb yn credu fel ni. Ciciwch y bobl nad ydynt yn credu fel chithau dros yr ymyl. Gwych! Ai haws credu felly? Ai ffydd yw’r ffydd honno nad oes iddi gwestiynau, amheuon a thrafferthion i fynd i’r afael â hwy? Onid ofergoel yw peth felly? Ai ffydd yw’r ffydd fonocrom honno nad yw’n derbyn fod gwerth o gwbl i argyhoeddiadau nad ydynt yn cyfateb i’n hargyhoeddiadau ni. Onid heresi mo peth felly?

Lladdwyd Sciron gan Theseus, ac wedyn daeth Cercyon. Ymgodymodd Cercyon â Theseus, a Theseus a orfu.

Cercyon yw’r peryglaf ohonynt i gyd, gan mai nyni ein hunain yw Cercyon. Nyni ein hunain yw’r drafferth fwyaf i ni ein hunain.

TESEO lucha con CERCIÓN. Detalle de la parte inferior de un KÍLIX firmado por el pintor Aisón, fechado entre 520 y 420 a.C., en el Museo Arqueológico Nacional de España, en Madrid. ----- THESEUS fights CERCYON. Detail of the lower part of a KYLIX signed by painter Aison, dated between 520 and 420 BC, at the National Archaeological Museum of Spain, in Madrid.

Theseus yn lladd Cercyon gan Luis García, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org

Ffordd o drio osgoi cydnabod hynny yw ein parodrwydd i roi’r bai ar bawb a phopeth arall. Un yn unig  a fedr oresgyn Cercyon yr hunan, dim ond Un – Iesu. Pan sonia hwnnw am hunanymwadiad (Mathew 16:24), sôn y mae am ymrafael, ymgodymu’n gyson â Cercyon, ymgodymu hyd nes i hwnnw orfod ildio i ewyllys cariadlawn y Crist byw.

Felly, NEWID a THYFU. Dychmygwch mai nyni yw Theseus, yn dilyn, yn ffeindio, yn torri llwybr drwy ddryswch crefydd a chymhlethdod ffydd. Rydym wedi goresgyn – gyda llawer iawn llai o dywallt gwaed, gobeithio – Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Rhaid ein bod ni wedi llwyr ymlâdd! Beth fuasai’n brafiach na gwely glân, cyffyrddus … perffaith?

NEWID a THYFU? Da chi, peidiwch gorwedd lawr!

Tri Phen

EISIAU TYFU, OFNI NEWID

Tri Phen

Yn dilyn sgwrs gyda’r Golygydd, lluniodd Judith Morris ei sylwadau ar gyfer y Gynhadledd ar yr is-benawdau canlynol: rhywbeth i’w ollwng; rhywbeth sy’n broblem; rhywbeth sydd â photensial.

Rhywbeth i’w Ollwng: Delwedd

judith-morris-maint-600-3044

Judith Morris

Yn gyffredinol, rydym yn bobl gadarnhaol. Er enghraifft, cynhaliwyd cyfarfodydd Mudiad y Chwiorydd, Undeb Bedyddwyr Cymru, yn Rhuthun ddydd Mercher diwethaf. Roedd yna awyrgylch hyfryd yn y ddau gyfarfod a’r mwyafrif helaeth wedi profi mwynhad a bendith. Yn ystod oedfa’r hwyr daeth yr Athro Mari Lloyd Williams i sôn am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn nghapel Waungoleugoed wrth i griw o wirfoddolwyr gynnig gofal dydd i’r henoed yn y capel. Amhosib oedd peidio â chael eich ysbrydoli a’ch cyffroi gan y gwaith a gyflawnir yn y gymuned leol. Delwedd ardderchog o fywyd capel neu eglwys!

Ond beth yw’r ddelwedd sy gan bobl o gapel a chapelwyr yn gyffredinol yng Nghymru?   I gymaint o bobl heddiw, nid yw’r ddelwedd ond yr hyn a welwyd yn y ffilm a wnaed gan Gwenllian Llwyd o Dalgarreg ac a ddangoswyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. ffilmm-gwenllian-llwyd-2Enw’r ffilm oedd Dirywiad a Dadfeiliaid, a’i bwriad oedd ceisio cyfleu nid yn unig gyflwr torcalonnus rhai o’n capeli ond hefyd y golled a brofir yn ein diwylliant wrth i’r gymdeithas arbennig hon fynd ar chwâl. Rydym yn ddyledus i Gwenllian, (sydd yn ferch i’r Parchedig Cen Llwyd) am geisio dwyn ein gofid a’n consýrn i gynulleidfa ehangach a chyflawni hynny mewn ffordd newydd a chreadigol, gan ein hatgoffa am brofiadau a gwirioneddau a fu ar un adeg yn hollbwysig ac yn ffurfiannol yn hanes ein cenedl.

Roedd y ffilm yn y Lle Celf yn bortread gonest iawn: llond dwrn o bobl yn addoli mewn capel digon di-raen; ôl llwch ar y seddau a’r llyfrau emynau; dim byd modern na chyfredol; dim arlliw o lawenydd nac ychwaith unrhyw obaith ar wynebau’r gynulleidfa fechan, a’r cyfan yn dywyll ac anysbrydoledig. Nid oedd dim yn apelgar na chwaith yn ddeniadol yn y portread. Yn ogystal, roedd y ffilm mewn cyferbyniad trawiadol â’r lluniau o’r adeiladau hynny oedd wedi derbyn gwobrau pensaernïol yn y Lle Celf, sef yr ysgol a’r ganolfan awyr agored. Hynny yw, nid oedd unrhyw lun o eglwys neu gapel modern ymhlith yr adeiladau cyfredol a modern oedd wedi derbyn gwobrau.

A dyna’n union a gysylltir â’n cyfundrefnau enwadol: anobaith, digalondid, diflastod a chymdeithas a fu ar un adeg yn llewyrchus ond sy bellach yn prysur ddadfeilio o flaen ein llygaid. Wrth gwrs, gwyddom nad dyna’r stori yn gyflawn oherwydd y mae yna o hyd brofiadau o obaith, llecynnau o lewyrch ac o weithgaredd yn enw’r efengyl sydd yn ysbrydoli ac yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymdeithas, fel yn Waugoleugoed. Ond yn gyffredinol dyna yw’r ddelwedd sy gan ein cymdeithas ohonom ni: llwch ac anobaith. Rydym yn byw mewn oes lle mae delwedd yn cyfrif llawer ac yn anffodus, nid yw’r ddelwedd o’r hen gapel llychlyd fawr o gymorth i ni.

Onid oes angen inni ollwng y ddelwedd hon?

Rhywbeth sy’n Broblem: Cyfundrefnau

Anodd gwybod ble i ddechrau wrth restru’n problemau gan fod yna gymaint ohonynt. Er enghraifft, y cyfundrefnau, tri phapur enwadol, tair cynhadledd flynyddol, hyfforddiant a datblygiad gweinidogaethol, cenhadaeth, a diffyg strategaeth glir o ran dyfodol ein haddoldai.

enwadauFel y gwyddom, mae modd datrys rhai problemau gydag ewyllys da, ond ar y llaw arall rhaid dysgu byw gyda llawer ohonynt. Un o’r rhain yw’r cyfundrefnau. Caed mwy nag un cyfle yn y gorffennol i drawsffurfio’r berthynas rhyngddynt ond ni fanteisiwyd ar y cyfleoedd hynny. Felly sut allwn fyw gyda’n cyfundrefnau?

Mae sôn byth a beunydd am fwy o gydweithio rhwng yr enwadau. Gwyddom am drefniadau sydd yn gweithio’n hwylus ac yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol. Ond i ba raddau y mae’r cyfundrefnau yn cael eu dal i gyfri? Faint o bwysau sy’n cael ei roi ar swyddogion ein cyfundrefnau i ddatblygu ffyrdd o gydweithio a rhannu adnoddau? Pwy sy’n dwyn pwysau ar gadeirydd pwyllgor neu lywydd Undeb neu Gymanfa am gynlluniau cydweithio a rhannu adnoddau? Pwy sy’n herio swyddogion ein cyfundrefnau am gynlluniau cydenwadol?

Rhywbeth sydd â photensial: Lleiafrif

Heddiw, fel Cristnogion, rydym yn y lleiafrif yn ein cymdeithas. Dyna’r realiti. Nid ydym yn medru hawlio unrhyw statws mwyafrifol arbennig. Y cwestiwn felly sy’n dilyn yw hwn: pa fath o leiafrif ydyn ni am fod? A ydym am fod yn lleiafrif crintachlyd, digalon, heb unrhyw fath o weledigaeth? Neu a ydym yn dymuno bod yn lleiafrif gonest, didwyll a bywiog? Yn fwy na hynny, onid oes angen inni fod yn lleiafrif creadigol, gobeithiol, proffwydol a hyderus ac ailafael yn yr hyder gostyngedig a welwyd ym mywyd ein Harglwydd Iesu Grist?

 

 

Defosiwn ar Ddechrau Dydd

            DEFOSIWN

          Ar Ddechrau’r Dydd

sunrise

Llun: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dduw’r diwrnod newydd yma,
derbyn ein diolch ar ddechrau’r dydd,
am ddaioni a chariad,
a phopeth sy’n cynnal a gwneud bywyd yn bosib.

Boed i’n llygaid weld y prydferthwch sydd o’n cwmpas.
Boed i’n meddyliau ddirnad cyfleoedd a sialensau diwrnod newydd arall.
Boed i’n calonnau ymdeimlo â’r cariad
sydd i’w roi a’i dderbyn yn ein hymwneud â’n gilydd.
Arwain ni – cymell ni, bobl Iesu,
i fod yr hyn y dylem ac y gallwn fod.
Trig ynom, a gad i ni’th weld yn ein gilydd
a phawb sy’n ceisio dy deyrnas.

Cymer fi, Iôr, fel yr wyf,
Dangos im beth ddylwn fod,
Ar fy nghalon rho dy sêl,
Trig ynof fi.

(O encil Trefeca 2013; y pennill yn seiliedig ar ‘Take, O take me as I am’ gan John Bell)

Yr Eglwysi, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Yr Eglwysi, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Aled Edwards
Prif Weithredwr Cytûn

Fe newidiodd Brexit yr hinsawdd ar gyfer trafod sut i drin tramorwyr. Ceir tystiolaeth eang erbyn hyn ein bod yn byw mewn diwylliant sy’n llai goddefgar ynghylch tramorwyr ac sydd weithiau yn gynyddol atgas.

aled

Aled Edwards, Pruf weithredwr Cytûn

Mae’r cynydd cyson mewn troseddau casineb ers Brexit yn dangos hynny. Yn gyffredinol, mae tramorwyr yn teimlo’n fwy bregus ac yn bryderus ynghylch eu statws a’u lle.

 

 

Mae’r ceiswyr lloches sy’n parhau i gael eu dosbarthu i Gymru hefyd yn fregus a’r ffoaduriaid hynny a ddaeth o Syria yr un modd. Nid ydym mewn dyddiau da.

ceiswyr-lloches

Yn gyson dros y blynyddoedd helbulus diwethaf hyn ynghylch ceiswyr lloches a ffoaduriaid bu cefnogaeth yr eglwysi yn amhrisiadwy. Yma, yng Nghymru, fe ofynnodd yr eglwysi ar i Cytûn fod yn weithgar yn y maes hwn. Ers pum mlynedd o’r bron, ar ran Cytûn, cefais y fraint o wasanaethu fel Cadeirydd Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru. Fe noddir y gwaith gan y Swyddfa Gartref mewn partneraieth â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llu o gyrff gwirfoddol. Rhoddwyd sedd i’r eglwysi o gwmpas y byrddau strategol allweddol.

Bu’r eglwysi yn hynod o weithgar yn y cylchoedd dosbarthu ar gyfer ceiswyr lloches: Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, cafwyd canolfannau Oasis a’r Drindod sy’n darparu’n helaeth ar gyfer ceiswyr lloches.

cytun-logoBu Cristnogion hefyd yn hynod weithgar yn gwirfoddoli gydag elusennau blaengar fel Alltudion ar Waith (DPIA), Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn allweddol bwysig ar hyn o bryd Cyfiawnder Lloches (Asylum Justice). Rhoddwyd llawer o sylw i’r ffoaduriaid a ddaw o Syria yng ngolwg y cyhoedd ac arweinyddion eglwysig. Ond nid yn eu plith nhw y mae’r angen pennaf. Ar unrhyw bryd fe geir oddeutu 2,500 i 3,000 o geiswyr lloches yn y system yma yng Nghymru.

Da gwybod bod pob awdurdod lleol yng Nghymru am dderbyn ffoaduriaid o Syria o dan gynllun llywodraeth San Steffan. Bu peth beirniadu na chymerodd Cymru ddigon hyd yma. Wedi dweud hyn, gellir dadlau i Gymru lwyddo i roi croeso cymwys i’r rhai a ddaeth yma a’n bod ni’n parhau i dderbyn mwy na’n canran o geiswyr lloches. Ymddengys i Gymru lywio ymarfer da hefyd mewn llefydd fel Ceredigion. Bydded i hynny barhau.

Ymdrechir i gadw golwg ar fewnfudo yn gyffredinol. Efallai taw prif drychineb y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd oedd y modd y codwyd ofn cwbl ddianghenraid ynghylch mewnfudo i Gymru. Fe wnaed hynny’n fwriadol. Yn nhermau’r economi, gwasanaethau cyhoeddus a cholegau yn fwyaf arbennig, mae Cymru yn elwa’n aruthrol yn sgil mewnfudo rhyngwladol. Cawn weld beth ddaw yn sgil Brexit. Hyd yma, y ddoethineb yw y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Gyfunol dderbyn ymsymud rhydd rhwng pobloedd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd os ydym am barhau yn y farchnad sengl. Os felly, oferedd fu’r holl firi ynghylch mewnfudo a’r refferendwm. Cawn weld beth ddaw!

120302-asylum-seekers

Ble felly mae’r angen ar hyn o bryd? Yn sicr ddigon mae angen cefnogaeth ar frys ar gyfer Cyfiawnder Lloches fel corff gwirfoddol sy’n ceisio cynnig eiriolaeth effeithiol i geiswyr lloches hynod o fregus ynghyd â’u teuluoedd.

Efallai taw galwedigaeth bennaf y gymuned Gristnogol yw parhau i ddweud stori’r estroniaid sydd yn ein plith a herio’r anwireddau sy’n cael eu dweud amdanyn nhw yn ddyddiol yn ein papurau newyddion. Fe fydd hyn yn her, yn arbennig yn wyneb y cynnydd a gafwyd mewn cenedlaetholdeb Brydeinig ffiaidd ac eithafol.