
Agora rhif 37 mis Ionawr – Chwefror 2020
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Cofiwch ailymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Blwyddyn Newydd a Dechrau o’r Newydd
Enid Morgan
Eli ar glwyfau ddoe
Emlyn Davies
- Eli ar glwyfau ddoeRhagor- ELI AR GLWYFAU DDOE
 Cofio Dresden wedi 75 mlynedd- Gŵr ifanc 25 oed oedd Victor Gregg pan ddigwyddodd cyflafan Dresden. Flwyddyn yn gynharach, roedd newydd ymuno â 10fed Gatrawd y Parasiwtwyr pan gafodd ei ddal yn garcharor yn Arnhem yn 1944, a rhoddwyd dewis iddo: naill ai gwirfoddoli i fynd i wersyll gwaith neu gael ei gludo i un o’r gwersylloedd i garcharorion rhyfel. Penderfynodd yntau wirfoddoli, a chafodd ei gludo i gyrion Dresden lle bu’n ddiwyd yn ei ymdrechion i geisio dianc. Ond llawer mwy difrifol yn llygad yr awdurdodau oedd ei weithred yn cynnau tân mewn ffatri sebon lle roedd yn gweithio, ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth, ... 
- Blwyddyn Newydd a Dechrau o’r NewyddRhagor- BLWYDDYN NEWYDD A DECHRAU O’R NEWYDD
 Enid R. Morgan- Yn y ffilm Clock yr oedd yr actor John Cleese yn gwneud ei orau i gyrraedd rhyw gyfarfod pwysig a phob math o ddamweiniau’n ei rwystro. Mewn un man mae e’n gorwedd mewn ffos ac yn ebychu, “Gallaf ddod i ben ag anobaith. Gobaith sy’n annioddefol.” Mae’n ein hatgoffa’n fachog nad teimlad ydi gobaith ond rhinwedd. Mae’r ymadrodd wedi bod yn help i mi chwerthin mewn gwahanol sefyllfaoedd dros y blynyddoedd, ac mae’n hynod berthnasol i’r rheini sydd wedi parhau i feddwl y bydd Brexit yn gyflafan. Ond bydd yn digwydd am fod cyflafan y banciau yn 2008 wedi cael ... 
