
Agora rhif 27 mis Awst/Medi 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys
Ymateb i eithafiaeth etholedig Gethin Rhys
Blwyddyn Madagasgar Pryderi Llwyd Jones
- Blwyddyn MadagasgarRhagor- Blwyddyn Madagasgar 1818/1968 - Bu’r dathliadau 200 mlynedd ers i’r cenhadon o Gymru gyrraedd Madagasgar yn ysbrydoliaeth i bawb ac yn deilwng iawn o’r hanes. Diolch i’r Annibynwyr am bob agwedd o’r dathlu: o gyhoeddi dyddiadur David Griffiths yn dairieithog i’r apêl arbennig i gyrraedd yr 80% o boblogaeth Madagasgar sydd yn ei gwneud yn ddegfed wlad tlotaf y byd; o’r deunydd sydd wedi ei baratoi ar gyfer y dathlu i’r cyflwyniad/pasiant a gyflwynwyd gan eglwysi Ceredigon yn Theatr Felin-fach pan oedd yr Undeb yr Annibynwyr yn Aberaeron ym mis Mehefin; o’r cyfan sydd wedi ymddangos yn y wasg brint ac ar wefannau – crefyddol a seciwlar – i ... 
- Encil Blynyddol C21Rhagor - Encil Blynyddol C21 
 Sadwrn Medi 22ain 10.00 – 3.30- Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon. - Duw’r Creawdwr 
 yng nghwmni
 Dr Hefin Jones, Y Tad Deiniol,
 Parch Mererid Mair, Lloyd Jones a Gwawr Maelor.- Cost £25.00 (i gynnwys cinio) - I gofrestu cysylltwch â Catrin Evans 
 cyn Medi 12ed.
 catrin.evans@phonecoop.coop- 01248 680858 
- Ymateb i eithafiaeth etholedigRhagor- Ymateb i eithafiaeth etholedig - Gethin Rhys - Yn draddodiadol, “silly season” yw mis Awst – y gwleidyddion, y gweision sifil a’r gohebwyr gwleidyddol ar y traeth, fawr ddim yn digwydd ac felly manion yn denu’r sylw. Mae enwogion sy’n digwydd marw yn ystod mis Awst (megis Aretha Franklin a Kofi Annan eleni) yn cael llawer mwy o sylw na phe baent wedi marw yn ystod prysurdeb y gwanwyn neu’r hydref. - Ond mae 2018 braidd yn wahanol. Nid yn unig mae helbul Brexit (neu Prymadael, fel mae’r Eisteddfod wedi ein dysgu i gyfeirio ato) fel rhyw gleddyf Damocles uwch ein pennau, ond mae gennym ornestau ... 
