Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?

                    Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?

                                (Rhan 1)

Yn wyneb y chwalfa ddifaol a achoswyd gan yr haint hwn, mae’n rheidrwydd arnom holi beth fydd hynt Cristnogaeth yn ystod y ganrif hon. Un o’r posibiliadau yw y gwelwn eglwysi yn gafael yn yr hanfodion, ac yn wynebu her Iesu i fod yn ddisgyblion a gweision Teyrnas Dduw. Bydd rhai eraill yn fuan iawn yn ystyried posibiliadau diwygiad emosiynol, sy’n medru dod fel corwynt ysbrydol. Dyna paham y gallem ystyried eto beth yw natur y math yna o brofiad. Felly, dyma fynd dros ambell hanesyn o ddwy ganrif ddiweddar ym mywyd Cymru “pan welwyd yr Ysbryd yn meddiannu eneidiau”.

Mae yna hanes yn Llyfr Cyntaf Samuel (10.5) lle mae Samuel yn dweud wrth Saul:

“Wedi iti gyrraedd y dref, byddi’n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o’r uchelfa gyda feiol a drwm a phib a thelyn o’u blaen, a hwythau’n proffwydo.”

Yn union wedi ei ordeinio’n frenin Israel fe gwrddodd Saul â’r criw hirwallt anystywallt yma, yn canu fel pethau gwyllt, ac yn dawnsio i gyfeiliant eu hofferynnau. Dod i lawr o’r uchelfa oedden nhw, yn iaith heddiw wedi bod ar high, a gitârs trydan fyddai ganddyn nhw. Ond er braw i bawb arall oedd yno fe ddechreuodd Saul ei hunan ganu a bloeddio a dawnsio gyda nhw, a phobol yn ei wfftio fe am wneud hynny.

Am ychydig fisoedd rhwng 1904 a 1905 dyna ddigwyddai yng Nghymru. Yr ifanc yn canu a bloeddio a dawnsio mewn profiadau ecstatig, gyda rhai o’r hen yn ymuno yn y canu, a rhai yn wfftio. Fel yna mae hi ym mhob oes. Y proffwydi newydd biau’r gân, a’r sefydliad parchus wedyn yw’r rhai sy’n eu hwfftio ac yn gwaredu atyn nhw. Fel y plant yn Jerwsalem yn canu “Hosanna i Fab Dafydd” yn y deml, a gweinidogion ac aelodau parchus y synagogau wedi eu harswydo.

Mae’n amhosib dadansoddi’n rhesymol beth sy’n digwydd mewn diwygiad. Bydd rhai yn ceisio dweud mai rhyw fath ar hysteria ydyw, a hwnnw’n medru cerdded yn heintus o berson i berson mewn cyfarfod, ac o le i le, ac o wlad i wlad. O blaid y syniad yma fe allech ddweud mai byr ei barhad yw gorfoledd diwygiad, a phrofiadau anfoddhaol a siomedig iawn yw’r ymdrechion wedyn i ailennyn yr un tân. Ar y llaw arall, mae’n anodd esbonio cynifer o fywydau personol a newidiwyd yn barhaol o ganlyniad i’r diwygiad. Ac fe ofynnech y cwestiwn, a allai hysteria greu newid a fyddai’n parhau ar hyd oes yn hanes llaweroedd?

Mae J J Morgan yn sôn yn ei lyfr ar Ddiwygiad 1859 am ffarmwr garw iawn ei gymeriad wedi bod yn oedfa’r hwyr yn ei gapel ac wedi teimlo rhyw effeithiau rhyfedd yn ei galon. Bore drannoeth fe ddihunodd wedi ei ddychryn oherwydd y newid yn ei bersonoliaeth: roedd e’n methu rhegi. Fe ddywedodd wrtho’i hunan, fel Samson pan gollodd hwnnw ei nerth ar ôl i Delila dorri ei wallt, “Af allan fel o’r blaen ac ymryddhau.” Ond yr oedd ei nerth drwg wedi ei adael. Fe aeth yr hen ffarmwr i edrych beth oedd hanes y gweision. “Mi af i weld y ddau was diog yna sy gen ac mae’n siwr y bydda’ i, o’u gweld nhw yn osgoi gwaith, yn cael digon o achos i ailddechrau rhegi.” Ond er pob ymdrech ni allai gael un reg allan. Fe sylweddolodd fod yn rhaid i’r cyflwr truenus yma gael meddyginiaeth eithriadol. Felly fe aeth i weld a welai rai o ddefaid ei gymydog yn tresbasu ar ei dir ef. Fe ddringodd y bryn gerllaw, ac yn wir dyna ble’r oedden nhw, ryw ddeg ohonyn nhw, yn pori ar ei dir e. Ond hyd yn oed wedyn fe fethodd regi. Fe ddechreuodd grynu drwyddo. “Beth yw hyn,” meddai, “rwy’n methu rhegi. Beth petawn i’n rhoi cynnig ar weddïo?” Fe aeth ar ei liniau yng nghanol yr eithin, ac meddai J J Morgan, fe barhaodd yn ddyn gweddi am weddill ei fywyd. Anodd esbonio rhywbeth fel’na drwy ei alw’n hysteria.

Esboniad arall arno yw ymweliad yr Ysbryd Glân a hwnnw’n gafael yng nghalonnau ac eneidiau pobol. Mae’r Ysbryd, fel y gwyddom ni, yn chwythu lle y mynno. Felly pwy ydym ni i gwyno mai ysbeidiol a lleol iawn y bydd yn ymddangos. Yr unig beth y medrwn ni ei wneud yw gwrando ar ei sŵn ef, heb wybod o ble mae’n dod nac i ble mae e’n mynd. Dim ond diolch amdano ble bynnag y daw. Ac yn sicr yng Nghymru, y sŵn a glywson nhw gan mlynedd a mwy yn ôl oedd sŵn gorfoledd, a’r gorfoledd hwnnw yn troi’n ganu. Mae gan y gân a’r emyn le canolog mewn llawer diwygiad. Yn y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr, emynau Charles Wesley. Yn y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, emynau Williams Pantycelyn.

Un o arweinwyr cynta Diwygiad 1859 oedd Humphrey Rowland Jones. Roedd newydd ddychwelyd o America, a byddai wedi gweld y modd y defnyddid emynau yn fwriadol yn y fan honno mewn cyfarfodydd efengylu. Wedi pum wythnos pur lwyddiannus yn Nhre’r-ddôl yn haf 1858 aeth i gyfarfodydd pregethu yn y Bont-goch bum milltir i ffwrdd. Llond y lle yno, a Humphrey Jones fyddai’r trydydd pregethwr yn oedfa’r hwyr. Hyd hynny, caled a thrwm oedd y gynuuleidfa yn eu hymateb. Ond cyn pregethu fe lediodd yr emyn,

Bywyd y meirw, tyrd i’n plith
a thrwy dy ysbryd arnom chwyth,
anadla’n rymus ar y glyn
nes byddo byw yr esgyrn hyn.

Fe deimlwyd rhyw ddylanwad gan bawb oedd yno, nes i’r awyrgylch newid yn llwyr. Ac yn ôl un tyst, ymhell cyn i Humphrey Jones orffen pregethu fe aeth hi’n ail Bentecost, gyda phobl yn gweddïo yn uchel nes boddi geiriau’r pregethwr. Trobwynt yr oedfa oedd yr emyn. Pan aeth i Aberystwyth yn Rhagfyr 1858 roedd am i’w gynulleidfa ddifrifoli ac fe roes waharddiad ar ganu emynau. Yn fuan gwelid ei ddylanwad ef yn y Diwygiad hwnnw yn gwanhau a marw. Yr oedd fel petai’n rhwystro’r gynulleidfa rhag cael y sbarc a daniai gyfarfod.

Mewn lle arall mae J J Morgan yn sôn am Ŵyl Ysgolion Sul ym Mronnant ganol mis Mawrth pan oedd llawer o bobol Blaenpennal yn bresennol. Wedi mynd gartre’r noson honno, er ei bod hi’n noson stormus o fellt a tharanau, fe aethon nhw i gynnal cwrdd gweddi yn y capel ym Mlaenpennal. Tra oedden nhw’n canu,

                ’R hwn sy’n gyrru’r mellt i hedeg
                    ac yn rhodio brig y don,
                 anfon saethau argoeddiadau
                     i galonnau’r oedfa hon:
                 agor ddorau hen garcharau,
                     achub bentewynion tân;
                 cod yr eiddil gwan i fyny,
                     dysg i’r mudan seinio cân,

fe aeth hi’n dymestl ysbrydol drwy’r capel i gyd. Fe aeth hi’n storom nefol, a’r gorfoleddu a’r gweiddi yn y capel yn gwbwl afreolus. Yr emyn eto. A’r fantais yn y cyfnod hwnnw: roedden nhw’n medru ledio emyn heb gymorth offeryn.

Nawr yr oedd dylanwad diwygiadau America ar rai o’r arweinwyr cynnar, fel Humphrey Jones yn niwygiad 1859. Ond fe ddaeth Ira Sankey a D L Moody eu hunain drosodd i Lerpwl yn 1875, ac i Gaerdydd ac Abertawe yn 1892. Roedd emynau a chaneuon yn cael eu defnyddio’n gyson yn eu hymgyrchoedd nhw. Roedd Sankey yn unawdydd ac arweinydd côr ac yn gyfansoddwr a oedd yn deall ei gynulleidfa i’r dim. Roedd wedi perffeithio crefft y canu teimladwy. Roedd yr emynau’n rhai syml ac uniongyrchol heb fawr o ddyfnder, yn wahanol i emynau yr hen draddodiad Cymraeg. Roedd y rheini yn gyfoethog eu crefft a’u barddoniaeth a’u diwinyddiaeth. Ond yr oedd emynau Sankey a Moody yn rhai a gyrhaeddai’r werin. A phan gafodd Ieuan Gwyllt ganiatâd Sankey i gyfieithu ei emynau i’r Gymraeg ac addasu’r tonau ar gyfer Sŵn y Jiwbili yn 1876, fe roddwyd blas i Gymry beth oedd y tonau a genid mewn cyfarfodydd diwygiadol poblogaidd mewn llawer gwlad. Doedd Ieuan Gwyllt ddim yn uchel ei glod am yr emynau: maen nhw’n rhy brin o athrawiaeth, meddai. Ac fe’u condemnir heddiw am fod yn rhy sentimental. Dyw’r cerddorion ychwaith ddim yn canmol y tonau. Rwy’n cofio Ifor Owen, Abertawe, fel y byddai hwnnw weithiau’n troi i’r Saesneg, yn achwyn mewn cymanfa yng Nghastellnewydd Emlyn fod y côr yn cael hwyl ar un o ganeuon Sankey a Moody o Sŵn y Jiwbili, “Paid â’m gadael i”, ond yn drwm a diflas wrth ganu rhai o’r hen donau Cymreig. Ac meddai, gan droi i’r Saesneg fel y gwnâi’n aml, “You sing Sankey and you feel Moody!”

Nid Sankey oedd yr unig un a gyfansoddai ddarnau fel hyn. Fe gyfansoddodd Charles Fillmore gân “Tell my mother I’ll be there”, wedi clywed am William McKinley, Arlywydd America, yn cael neges fod ei fam yn wael ar ei gwely angau yn 1897, a hwnnw’n anfon yn ôl yn dweud ei fod ar ei ffordd ati. Newidiodd Fillmore y cysylltiadau wrth gwrs i fod yn gân y mab afradlon:

When I was but a little child how well I recollect
How I would grieve my mother with my folly and neglect;
And now that she has gone to Heav’n I miss her tender care:
      O Savior, tell my mother, I’ll be there!

Dyna’r gân a genid gan Jac a Wil yn Gymraeg, a’r gytgan, “O dwed wrth mam fy mod yn ôl ei gweddi’n dod”. Fe gollfarnwyd y geiriau a’r gerddoriaeth gan feirniaid, ond roeddent wedi achub eneidiau. Un noson, wedi ei chlywed yn ymgyrch Sankey a Moody yn Lerpwl, fe ddaeth cant a thrigain ymlaen i gyffesu Crist yn Waredwr personol.

                                      (i’w barhau)

Rhan 2

Rhan 3

Rhan 4