E-fwletin 7 Mawrth, 2021

Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am yr ymateb gwahanol i gau ysgol a chau capel. Pan fydd sôn am gau ysgol, mae’r ymateb yn chwyrn – a chwbl ddealladwy – a’r rhesymeg fel arfer yw fod yr ysgol yn “galon y gymuned”. Nawr gellir dadlau i ba raddau y mae ysgol gynradd yn galon i’r gymuned, ond yn sicr i rieni’r plant, dros y cyfnod y mae eu plant yn mynychu’r ysgol, y mae’r ysgol yn ganolbwynt pwysig, ac yn lle sy’n tynnu teuluoedd y plant at ei gilydd. Ar y llaw arall, gwelwn gapeli yn cau un ar ôl y llall heb i fawr neb godi llais mewn protest o fath yn y byd, ar waethaf y ffaith ein bod i gyd (wel y rheini ohonom sydd dros hanner cant oed) yn cofio amser lle mai’r capel mewn gwirionedd oedd “calon y gymuned”. Y capel oedd canolbwynt ein gweithgaredd cymdeithasol – yno y clywsom straeon mawr y Beibl, yno y cawsom flas ar ganu a chyd-adrodd, ar ddarllen a pherfformio yn Gymraeg, a’r capel oedd yn trefnu ein trip blynyddol i lan y môr a chanolbwynt ein Nadolig, a llawer mwy.

Pam, felly, y difaterwch pan fydd capel yn cau? Beth ddigwyddodd i’n diwylliant i achosi’r fath ddifrawder? Neu efallai mai’r cwestiwn ddylen ni ofyn yw, beth ddigwyddodd i’n crefydd ni? Tybed oedd ein Cristnogaeth wedi tyfu’n ddiwylliant seciwlar heb i ni sylweddoli, ac fel y daeth ffurfiau newydd ar ddiwylliant ac adloniant a chreadigrwydd i ddisodli rôl y capeli, fe sylweddolwyd, yn rhy hwyr, mai cragen wag oedd ein crefydd mewn gwirionedd? Ac wrth i’r cynulleidfaoedd gilio, ac wrth i’r gweddill ffyddlon prin heneiddio, mae peryg fod y strwythur enwadol – y strwythur hwnnw na fynnwn ymryddhau o’i grafangau – yn ymdebygu fwyfwy i law farw.

Ond rhy hawdd yw taflu bai ar yr enwadau a’r awdurdodau enwadol. Un peth sylfaenol sy’n wir amdanom ni’r Cymry yw mai ymlyniad at y lleol a’r cyfarwydd sy’n ein cynnal drwy bob tro ar fyd. Roedd Gwynfor Evans yn hoff o ddweud mai “Cymuned o gymunedau” yw Cymru, ac rwy’n eitha siŵr erbyn hyn ei fod yn ymwybodol iawn mai gwirionedd deufin oedd hwnnw, yn yr un modd ag y gall brogarwch droi’n blwyfoldeb. Nid gormodiaith yw honni mai un o lwyddiannau mawr y diwylliant Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf yw’r rhwydwaith rhyfeddol o Bapurau Bro sy’n dal i ffynnu ar draws y wlad, a hanfod y llwyddiant hwnnw yw ymlyniad ein pobl at eu bro eu hunain, – ymlyniad at y lleol, y plwyfol, a’r cyfarwydd.

A dyna’r union ymlyniad sy’n cadw ein rhwydwaith bregus o gapeli i fynd, ac y mae’n rhaid inni ddeall hynny wrth gynnig y ffordd ymlaen. Ond ar yr un pryd, rhaid canfod y rhywbeth newydd hwnnw a all gydlynu’r capeli sydd ar ôl – y rhai fydd yn goroesi’r cyfnod clo – i greu deinameg Cristnogol newydd yn ein gwlad. A dyna lle dwi’n gweld gwaith Cristnogaeth 21yn gorwedd. Canfod y llinyn cyswllt hwnnw sydd wedi ei chwalu gan gulni enwadol a phlwyfoldeb gweledigaeth, ond sy’n bodoli yn arweiniad Crist ei hun.

Be garwn i weld yw creu maniffesto y gall unrhyw gapel neu eglwys – o ba enwad bynnag – ymrwymo iddo, maniffesto o Gristnogaeth ymarferol sy’n ysgafn ar ddogma a diwinyddiaeth, ond yn drwm ar weithredu cariad yn ein cymdeithas. Rhaid dangos fod eglwys Crist yn rym yn ein cymunedau, dros barch a chyfartaledd, dros ryddid eangfrydig, ac o blaid y tlawd, y gwan, y diymgeledd a’r di-gartref. Anghofiwn y pethau sy’n ein gwahanu, a chanolbwyntiwn ar yr hyn, yng Nghrist, sy’n ein clymu gyda’n gilydd. Dyma hyd y gwelaf fi yw’r ffordd i roi bywyd newydd i’n capeli, rhoi dimensiwn cenedlaethol (a chydwladol) i’n bywydau fel Cristnogion, a denu’r ifanc yn ôl at y ffydd.

Gall y pandemig dieflig hwn sydd wedi achosi cymaint o boen a diflastod, fod yn achubiaeth i Gristnogaeth yng Nghymru, dim ond inni gydio yn y cyfle.