E-fwletin 14 Mawrth, 2021

                                                Diwedd neu ddechrau ?

Yn ddiweddar mae llawer o drafod wedi bod ar yr angen i’r Cymry wybod eu hanes eu hunain. Ond fe ddylem fel Cymry Cristnogol edrych hefyd ar ein hanes i roi hyder ac ysbrydoliaeth i ni wrth fentro i’r dyfodol.

Mae rhan o’n hanes sydd yn cael ei anwybyddu bron yn llwyr, sef hanes Cristnogaeth yn y cyfnod ar ôl i’r Rhufeiniaid adael Prydain. Ym mhob man arall,  diflannodd y ffydd Gristnogol gyda’r Rhufeiniaid, ond yn ne-ddwyrain Cymru datblygodd ffurf newydd o Gristnogaeth, a fu, yn ôl John Davies, yn “feithrinfa yr eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop.”

Prin yw’r Cymry sydd yn ymwybodol o’n cyfraniad i ddatblygiad yr eglwysi Celtaidd ac adfywiad ffydd y bumed ganrif. Tybiaf mai’r rheswm pennaf ein bod yn anwybyddu’r hanes yw bod mwyafrif yr arweinyddion cynnar yn fenywod. Pwy oedd Arianwen, Belyau, Ceinwen, Cain(drych), Clydai, Cynheiddon, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwawr, Gwen, Gwladys, Gwrgon, Illud, Lluan, Marchell, Meleri, Nefydd, Nefyn, Rhiangar, Tangwystl, Tudful, Tutglud, Tybie?  (Rhain oedd merched Brychan Brycheiniog o’r Cognatio de Brychan, C10. Gweler hanes y Santesau Celtaidd 388-680 yn y Wicipedia Cymraeg.)

Cydweithiodd y rhain gydag Elen, gweddw Macsen Wledig a’i theulu, oedd â chysylltiad â Martin o Tours. Fe wyddai hi felly  am y datblygiadau yn ne-ddwyrain Ewrop, lle symudodd y Cristnogion o argyhoeddiad  o’r trefi Rhufeinig, a lle y gwanychodd sylfeini’r ffydd  pan ddaeth Cristnogaeth yn ‘grefydd swyddogol’.

Ni threuliodd y menywod hyn amser yn hiraethu am yr hyn a fu neu yn poeni am gadw adeiladau eglwysig trefol ar agor. Sefydlwyd cymunedau Cristnogol newydd dan yr enw ‘llannau’ ar gyfer Cristnogion o’r ddau ryw, a chafwyd cefnogaeth ambell frawd neu fab i wneud hynny. Gwyddom amdanynt oherwydd eu bod yn perthyn i lwyth lle’r oedd menywod yn etifeddu tir ac felly yn rhoi eu henwau i’r llannau. Llwyddasant i ddod â Christnogion at ei gilydd. Buont yn addysgu a chryfhau ffydd Cristnogion eraill gan ddangos eu argyhoeddiad drwy eu gweithredoedd, drwy garedigrwydd a thrwy  gymwynasgarwch a haelioni.

Digwyddodd rhywbeth “unigryw” yn ne-ddwyrain Cymru ar ddiwedd y bedwaredd a dechrau’r bumed ganrif a welodd Gristnogaeth yn dod yn brif ffydd Cymru am y tro cyntaf. Datblygodd “gwraidd pwysigrwydd allweddol y fro honno fel meithrinfa’r Eglwys Geltaidd.”  Pan sonnir am saint enwocaf y chweched ganrif dywedir eu bod yn dod o deuluoedd Cristnogol a’u bod bron i gyd yn wyrion neu orwyrion i’r menywod hyn!

Hen hanes! Ond heddiw mae sefyllfa debyg yng Nghymru. Mae’r ffydd Gristnogol yn diflannu’n  gyflym. Trown yn ôl at ein hanes, nid er mwyn ail-fyw’r gorffennol ond i fagu hyder. Trwy weld beth yr ydym wedi ei gyflawni, gallem adeiladu  yn gadarnhaol gan oresgyn yr heriau wrth weithio tuag at ddyfodol gwell. Ni ddylem geisio cadw ein haddoliad a’n cymunedau Cristnogol fel y buont, ond addasu ar gyfer y dyfodol. Ond mae’n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd. Dylid pwysleisio addysg, caredigrwydd a haelioni ac, yn bwysicaf, datblygu trefn ac arferion Cristnogol priodol i’r sefyllfa wrth wynebu heddiw ac yfory. Os gwnawn hynny, fyddwn ni ddim yn wynebu’r diwedd –  ond yn hytrach fe welwn ddechreuad newydd.