E-fwletin 21 Mawrth, 2021

Amser Newid

Yn ddyn ifanc daeth fy nhad o hyd i fwyell o Oes y Cerrig mewn cae o’r enw Cae Ffynnon.

Amaethwr yng nghanol yr ugeinfed ganrif yn dal bwyell yn ei law oedd, yn ei thro, wedi bod yn llaw amaethwr arall, oedd yn trin yr un tir, yn gweld pwysigrwydd yr un ffynnon, o leiaf bum mil o flynyddoedd ynghynt. Dwy law, un garreg a miloedd ar filoedd o flynyddoedd.

Plentyn y 20au wedi byw trwy galedi’r 30au ac erchyllterau’r Rhyfel oedd fy nhad. Wn i ddim beth fyddai dirnadaeth fy nghyndeidiau neolithig o dduw, o ddyddiau’r wythnos nac o’r drefn newydd o amaethu ond wnai fy nhad ddim ond yr hyn oedd yn angenrheidiol ar y Sul a gweddïo o’r frest ar ei liniau yn y sêt fawr fyddai ei arfer.

Gallai fy nhad glymu sach am ei ganol a’i lenwi â had pan oedd angen hadu rhyw batsh o dir coch nad oedd werth deffro’r tractor ar ei gyfer. Gallwn ddychmygu llinyn di-dor rhwng fy nhad a ‘Dameg yr Heuwr’. Llinyn yr oedd datblygiadau technolegol, a brysurwyd gan ddau ryfel byd, wedi ei dorri, ac nad oedd yn perthyn i fyd y rhan fwyaf o’i gymdogion.

Collais fy nhad yn fy ugeiniau cynnar. Un o’r pethau yr hoffwn i fwyaf fyddai fod wedi cael ei adnabod pan oeddwn wedi aeddfedu digon i’w holi’n iawn a thrafod gydag o.

Tybed sut bydda fo wedi ymateb i’r datblygiadau ers y 1990au? Tybed beth fyddai ganddo i’w ddweud am fy agweddau llai uniongred i?

Fuodd o byw i brynu fy mhrosesydd geiriau cyntaf i mi. Welodd o erioed gyfrifiadur fel y cyfryw.

Am ran helaeth o’i fywyd roedd newid wedi digwydd ar y gorau ac yn llythrennol ar garlam, ond gan amlaf ar gefn ceffyl a throl. Tua’r diwedd aeth pobl ar ras i’r lleuad, a newid yn cythru mewn ceir cyflym, ac ar concord ac yn cael ei weiddi i lawr y ffôn. Ond nid ffôn symudol.

Be fydda fo’n wneud o newid sy’n digwydd wrth yr eiliad ac yn cael ei brysuro gan ddau ryfel y pandemig a’r cyfryngau cymdeithasol? Y ddau yma fel y ddau ryfel byd yn dod â dinistr, a chyfleoedd, ac yn prysuro newid oedd eisoes ar y gweill nes bod rhywun prin yn ei weld yn digwydd.

Roedd y fwyell wedi dod o’r hyn a ddisgrifir fel ffatri fwyeill ym Mhenmaenmawr. Felly roedd llwybrau masnach yn estyn i’r byd hyd yn oed i denant cyntaf Cae Ffynnon ond dim ond ambell i ddyn ifanc fyddi’n ei mentro hi maen siŵr. Er ei fod yn gwybod am eangderau’r byd, yn ddyn ifanc gallai nhad roi tro ym mhen y ceffyl a chymryd amser i bwyso a mesur lle roedd y llwybr yn mynd a fo. I mi, yn ifanc a gwyllt, roedd rhaid bod yn ofalus gyda’r llyw â’r brêc os am gadw’r car ar y draffordd. Bellach mae hi fel petai’r ffordd ei hun yn newid bob eiliad.

Yr eironi yw fod newid yn barhaus, byth yn peidio, byth yn newid. Ond anaml allwn ni ei weld o’n digwydd.

Efallai mai dyna sy’n gwneud ein cyfnod ni yn un anghyffredin. Gallwn deimlo a gweld y newid. Mae’n ddaeargryn.

Am ryw reswm gadawodd y ffermwr cyntaf hwnnw y fwyell ar ôl. Roedd o ar frys neu roedd hi wedi mynd yn hen ffasiwn. Yr her i ni yn y daeargryn yw troi pen y ceffyl yn ddigon sydyn a phenderfynu be i roi yn y drol a be i adael ar ôl.