Eugene Peterson a Bono

Eugene Peterson a Bono

Bu farw Eugene Peterson, awdur The Message a chyfrolau eraill, ar Hydref 23ain yn 85 oed.  The Message yw cyfieithiad/aralleiriad o’r Beibl cyfan ac y mae o leiaf 17 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu erbyn hyn.

Pan gysylltodd Bono (prif leisydd y band U2) ag Eugene Peterson i ddiolch iddo am ei aralleiriad o‘r Salmau – oedd i ymddangos yn nes ymlaen yn y Beibl cyfan (The Message) – doedd Peterson erioed wedi clywed amdano. Wedi gwrthryfela yn erbyn crefydda cul-ranedig Gogledd Iwerddon (ei dad yn Gatholig, ei fam yn Brotestant), bu darllen The Message yn garreg filltir ym mywyd Bono.

Ar ôl diolch iddo, yr oedd Bono yn awyddus i’w gyfarfod ac fe gysylltodd eto yn ei wahodd i ginio. Gwrthod wnaeth Peterson oherwydd bod ganddo ddedlein cyhoeddi a phan wfftiodd rhai o’i fyfyrwyr iddo wrthod cyfarfod Bono, o bawb, ateb Peterson oedd, ‘Ond roeddwn efo Eseia ar y pryd.’ Ond yn nes ymlaen fe gawsant ginio gyda’i gilydd ac fe fu’n ‘ginio tair awr’- a dechrau cyfeillgarwch.

Bu Peterson yng ngafael dementia yn ystod y blynyddoedd olaf, ond yn 2015, cyn i’r clefyd ei gaethiwo yn llwyr, trefnodd Coleg Diwinyddol Fuller yng Nghaliffornia i ffilmio sgwrs fer rhwng Peterson a Bono yng nghartref Peterson ar lan Llyn Flathead yn Montana.

Mae’n berl o sgwrs (fe’i gwelwch ar YouTube) rhwng dau adnabyddus a llwyddiannus, â’r gwrando gostyngedig rhyngddynt yn allweddol. Mae’n seiat fugeiliol a diwinyddol (a Jan, priod Peterson, yn y cefndir yn gofalu amdano). Y Salmau yw’r prif bwnc ac yr oedd Peterson yn gwybod erbyn hynny fod U2 yn gorffen llawer o’u cyngherddau i’r miloedd gyda Salm 40 a’r cwestiwn o Salm 6, ‘Pa hyd, Arglwydd, pa hyd?’ Mae Peterson yn gweld y ddau fel ‘cyd-deithwyr ffydd’ ac yn cytuno nad oes digon o onestrwydd yn ein Cristnogaeth. Dyna gyfoeth fersiwn Peterson o’r Salmau a gydiodd yn Bono – y ‘brutal honesty’, ‘deep sorrow and confusion’, ‘explosive joy’ – y gân gignoeth, y brotest rymus, yr herio a’r cwestiynu. Mae’r ddau yn rhannu yr un cariad at farddoniaeth fel iaith ffydd, iaith metaffor a symbol. Mae’r ddau hefyd yn cytuno bod llawer o drais yn y salmau a’r Beibl, ond mae hynny yn adlewyrchu’r trais sydd yn ein byd. Yn ôl Peterson, ymateb Duw i’r trais hwn yw croeshoeliad Crist.

Eiliadau cysegredig yw gweld Bono yn canu’r pennill cyntaf o ‘The Lord’s my shepherd’ a Peterson yn gwrando gyda gwên dawel ac yn gwybod yn iawn fod Bono, wrth ganu, yn bugeilio hen ŵr gyda dementia. Er na ddaeth hyn i’r golwg yn y seiat, bod yn ‘fugail’ oedd galwad fawr Peterson a chafodd ei adnabod fel ‘bugail i’r bugeiliaid‘. Gadawodd swydd academaidd er mwyn rhoi mwy o’i amser yn Fugail. Bu’n weinidog ar yr un eglwys (Bresbyteraidd) am dros 30ain o flynyddoedd, heb droi cefn ar ei waith fel ysgolhaig ac awdur yn ogystal â chyfrannu i addysg darpar weinidogion. Mae’r ‘uniongrededd hael’ a welwyd ynddo yn tarddu, yn ôl un deyrnged iddo, o Peterson y Bugail.

Daw’r ffilm i ben gyda gweddi gan Eugene Peterson, ‘Bydd gyda ni wrth i ni barhau i’th wasanaethu Di trwy gelfyddyd, barddoniaeth a chân, gan ddarganfod ffyrdd newydd o ddeall beth yr wyt Ti yn ei wneud yn ein byd a’n bywyd. Diolch am heddiw, rho dy fendith i ni.’

Ar ddechrau’r ffilm mae Bono yn dweud yn dyner wrth Peterson, gan gofio ei lafur maith, ‘Take a rest now, won’t you?’

Geiriau mwy nag addas wrth i ni gofio ffydd a chyfraniad Eugene Peterson, fu farw ar Hydref 23ain.

Pryderi Llwyd Jones